Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Plant Magdeburg
Plant Magdeburg
Plant Magdeburg
Ebook174 pages2 hours

Plant Magdeburg

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Maverick Welsh detective, D.I.John, is back for another adventure! This time, he travels to Germany at the start of the Second World War on a perilous mission to save ten Jewish children.
LanguageCymraeg
Release dateNov 10, 2020
ISBN9781912173563
Plant Magdeburg

Related to Plant Magdeburg

Related ebooks

Reviews for Plant Magdeburg

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Plant Magdeburg - Sion Hughes

    llun clawr

    Plant Magdeburg

    Sion Hughes

    Gwasg y Bwthyn

    ⓗ Gwasg y Bwthyn 2020 Ⓒ

    ⓗ Sion Hughes 2020 Ⓒ

    ISBN: 978-1-912173-56-3

    Cedwir pob hawl.

    Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig, tâp magnetig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr.

    Cyhoeddwyd gyda chymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru.

    Dyluniad y clawr: Dylunio GraffEG

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd gan Gwasg y Bwthyn, Caernarfon

    gwasgybwthyn@btconnect.com

    www.gwasgybwthyn.cymru

    01286 672018

    Troswyd i e-lyfr gan Almon

    I Alun ac Awen

    Diolch am y caredigrwydd

    Diolch

    Hoffwn ddiolch i Wasg y Bwthyn am fentro,

    yn enwedig i Marred.

    Diolch hefyd i bawb arall fu’n gefn i mi

    a’r teulu mewn cyfnod anodd.

    – Sion

    Rhagair

    Yn dilyn llwyddiant Y Milwr Coll ac Y Pumed Drws, dyma drydedd nofel yr awdur sy’n dilyn hynt a helynt yr heddwas maferic, D.I. John.

    Er bod elfennau o’r stori yn seiliedig ar ddigwyddiadau a phobol go iawn, ffuglen yw’r nofel – cyfuniad o ddychymyg yr awdur a ffeithiau hanesyddol.

    DINAS MAGDEBURG

    Yn ôl Cyfrifiad 1933 roedd 1,973 o Iddewon yn byw yno.

    Erbyn 1945, dim ond dyrnaid oedd ar ôl.

    Dyrnaid.

    Serch hynny, dim ond un sydd angen goroesi i rannu’r stori …

    Prolog

    Roeddynt wedi ymarfer y distawrwydd.

    ‘Pan ddown ni drwy hyn, bydd ’na fywyd gwell yn aros amdanom i gyd.’

    Dyna oedd yr addewid.

    Funud ynghynt, llithrodd car yn araf ar hyd y stryd dawel gan ddod i stop y tu allan i’r tŷ mawr. Daeth dyn allan o’r car mewn lifrai milwrol.

    Wrth weld y milwr yn nesáu at y tŷ, gweithredwyd y cynllun a gafodd ei ymarfer droeon lawer ar gyfer argyfwng fel hyn. Symudodd y deg yn gyflym a threfnus i’r ystafell fechan ym mhigyn y to. Roedd iddi un ffenest bitw fach yn sbecian i lawr ar y lôn islaw. Ar ôl rhoi un rhybudd olaf i’w siarsio i gadw’n dawel, clodd y perchennog ddrws yr ystafell fechan a gwthio’r goriad o dan y drws i law grynedig Anne – ceidwad y goriad. Hi oedd yr hynaf.

    Aeth y perchennog i lawr y grisiau. Taclusodd ei gwallt yn y drych, anadlu’n ddwfn cyn agor y drws i groesawu’r ymwelydd.

    Clustfeiniai’r plant yn nerfus yn y guddfan dywyll. Yna, gan dorri ar draws y tawelwch, clywsant lais benywaidd y perchennog yn cyfarch y dyn. Wedyn sŵn bariton trwm y dyn SS yn diasbedain drwy’r tŷ. Tynnodd un plentyn anadl sydyn o ofn wrth i’r llais sinistr rwygo drwyddi fel crafanc.

    Roedd y tawelwch wedi’i ymarfer droeon – y rhedeg i’r guddfan, yr angen am drefn ac am ddisgyblaeth – ond roedd y profiad go iawn yn un gwahanol eto. Wrth ymarfer, eisteddent am oriau heb ddweud yr un gair na gwneud yr un smic. Roedd y perchennog wedi annog y plant i edrych ar eu bywyd yn y tŷ fel antur ddiddorol, yn llawn perygl a rhamant. ‘Ni yn erbyn y byd!’ Ond doedd dim rhamant yn perthyn i’r profiad go iawn.

    Agorodd Rolf ei geg. ‘Sh!’ sibrydodd Anne a chyffwrdd ei gwefusau. Dim siarad tan ar ôl i’r perygl basio. Er y cerydd, dim ond agor ei geg i ddylyfu gên wnaeth Rolf. Gofid mwyaf Anne, wrth warchod y plant yn y tywyllwch, oedd Ruth. Roedd gan y bwten fach annwyd ac er ei bod hi wedi cael dos go dda o foddion, roedd y druan fach yn dioddef.

    Ymhen ychydig funudau, clywsant sŵn cyfarwydd y dŵr yn llifo drwy’r peipiau. Roedd y perchennog yn llenwi’r tegell i wneud te. O leiaf roedd yr ymweliad felly yn un digon cyfeillgar, meddyliodd Anne, neu a oedd yr ymwelydd wedi gadael? Pwyntiodd Anne at y ffenest fach a dringodd Rolf yn chwim ar hyd trawstiau’r to ac edrych allan. Siglodd ei ben yn siomedig ar ôl gweld fod car y milwr yn dal yno.

    Yna, clywsant gamau traed trwm ar y landin pren islaw yn cael eu dilyn gan sŵn dŵr gwahanol i’r sŵn dŵr yn y peipiau. Roedd y milwr wedi esgyn y grisiau i ddefnyddio’r tŷ bach. Tynnwyd y gadwyn a chroesodd y dyn y landin, ei esgidiau fel carnau ceffyl ar y lloriau pren. Oedodd y milwr yn union o dan y guddfan yn y to. Beth oedd o’n ei wneud, tybed? Edmygu’r llun olew ar y wal? A wyddai ei fod o’n llun gwreiddiol? A wyddai beth oedd gwerth y llun?

    Uwchben y milwr, trwy holltau ym mhlaster y nenfwd rhwng y trawstiau a redai ar hyd y to, gwyliai Anne y dyn wrth iddi gnoi ewin ei bawd i’r byw. Roedd hi’n anodd dweud, meddyliodd Anne, ai edmygu neu genfigennu wrth y llun yr oedd o.

    Profodd y tensiwn yn ormod i un o’r plant bach a gwlychodd ei hun. Llwyddodd Anne i estyn draw a’i chodi. Cofleidiodd Anne hi’n dynn a ffugio dewrder wrth iddi sibrwd geiriau o gysur yng nghlust y plentyn bach.

    Yna, digwyddodd y peth gwaethaf posib.

    Dyma Ruth yn tisian.

    Rhewodd pob cyhyr yn eu cyrff …

    Rhan 1

    Morris Wartski a’r Wy Pasg

    Pennod 1

    1885

    Roedd Morris Wartski yn gadael ac yn mynd i’r lleuad.

    I Sophia, ei chwaer fach, roedd hi’n haws meddwl felly na cheisio ei ddychmygu’n byw mewn gwlad oedd yn hollol estron iddi.

    ‘Wedyn, bob tro wela i’r lleuad, mi fydda i’n meddwl amdanoch chi!’

    Gwenodd Morris wên drist. Llifodd ei feddwl yn ôl dros ddigwyddiadau’r wythnos ddiwetha, ac ysgydwodd ei ben mewn anghrediniaeth lwyr. Un funud roedd o’n gweithio yn siop ei rieni a’r funud nesaf roedd o’n prynu tocyn ac yn gadael am wlad estron.

    Roedd hi’n wanwyn yn ninas hardd Magdeburg yn yr Almaen. Yn sŵn yr adar mân, cerddai’r ddau ar hyd y llwybr a droellai drwy’r goedwig, yn garped o glychau’r gog o dan gynfas o liwiau dail, rhai’n felyn, gwyrdd a choch a rhai’n borffor hardd.

    Heddiw oedd ei ddiwrnod olaf cyn gadael Magdeburg i wynebu ei her newydd. Stori gyfarwydd oedd hon ymysg teuluoedd Iddewig y dref. Doedd busnes brethyn y Wartskis ddim yn ddigon proffidiol i gynnal yr holl deulu, felly roedd gofyn i rai o’r plant ymadael am borfeydd newydd.

    Roedd gan Morris docyn i Lerpwl yn ei boced a chynnig gwaith ym Mangor ymysg y gymuned fach a chroesawgar o Iddewon yno.

    Nesaodd y ddau at yr orsaf lle safai trên Morris yn pwffian stêm.

    ‘Cofiwch sgwennu ar ôl i chi gyrraedd.’

    ‘Wn i ddim ydyn nhw’n casglu post ar y lleuad!’ atebodd Morris.

    Oherwydd bod ei brawd mawr yn llawer talach na hi, cododd Sophia ar flaenau ei thraed er mwyn ymestyn i sythu ei dei gan ei siarsio eto:

    ‘Wel, i le bynnag dach chi’n mynd, cofiwch sgwennu! Dwi isio gwybod bob dim.’

    ‘Wrth gwrs, Sophia fach,’ atebodd gan lacio mymryn ar y tei gan fod Sophia wedi bod ychydig yn rhy frwdfrydig efo’r cwlwm.

    Cofleidiodd Sophia ei brawd mawr. Gwyddai, wrth iddo ymadael, y byddai ganddi hiraeth mawr ar ei ôl.

    Cerddai Tsar Rwsia, Alexander III, hwnt ac yma o un ystafell i’r llall mewn dipyn o gyfyng-gyngor. Crafodd ei ben mewn penbleth. Roedd o’n arth o ddyn ac yn debycach i werinwr cyffredin na mab i un o deuluoedd cyfoethocaf Ewrop.

    Mater bach syml o gyfansoddi ychydig o eiriau cariadus i’w wraig, Maria Feodorovna, oedd y dasg ond fedrai o ddim ffeindio’r geiriau. Sut oedd dynion eraill yn mynd o’i chwmpas hi? Doedd ganddo ddim syniad lle i ddechrau.

    Fe allai’n hawdd ysgrifennu ‘Dwi’n dy garu di’ yn ôl ei arfer – ond teimlai’r awydd i ddweud cymaint mwy y tro hwn. Roedd ugain mlynedd ers iddynt gyfarfod a theimlai Alexander fel dathlu’r uniad rhyngddynt.

    Doedd ganddo ddim geirfa soffistigedig. Dim ond addysg syml milwr dderbyniodd Alexander, addysg a ganolbwyntiai ar farchogaeth a chleddyfa yn hytrach nag astudio’r clasuron.

    Gadawodd i’w lygaid grwydro ar hyd yr ystafell i chwilio am ysbrydoliaeth ond doedd dim byd yn dod. Cododd ac aeth am dro i’r gegin i arllwys diod iddo’i hun. Tybed oedd yna ffordd well o ddathlu ei gariad na cherdyn bach dinod?

    Yna, daliwyd llygad Alexander gan blât taclus ac arno hanner dwsin o wyau mawr. Yn y foment honno daeth fflach o syniad iddo. Ysbrydoliaeth!

    Pam na allai roi wy Pasg iddi? Dim un o siocled ond un o aur ac arian. Yr wy Pasg mwyaf perffaith a harddaf erioed. Dychmygai Alexander yr wy lliwgar yn agor yn ei ganol i ddatgelu anrheg arall y tu mewn iddo. Rhodd o fewn rhodd!

    Pa well ffordd oedd yna i brofi ei gariad at ei wraig brydferth?

    Pennod 2

    1900

    Ar fferm Cefn Poeth yng nghanol Ynys Môn, clywodd Arthur rywun yn galw ei enw.

    ‘Mr Jones!’ Dyna’r llais eto, yn uwch y tro hwn. Am eiliad, meddyliodd Arthur mai Sam, y gwas fferm, oedd yn galw arno ond roedd hwnnw wrthi’n brysur yn palu’r pridd gerllaw.

    Roedd awel gynnes Awst yn cario’r llais ato eto o rywle. Rhoddodd Arthur y gorau i’w waith, sychu’r chwys oddi ar ei dalcen a phwyso ar ei fforch i wrando. ‘Mr Jones!’ galwai’r llais eto. Y tro hwn synhwyrodd Arthur fod y llais yn dod o’r tu ôl iddo. Trodd i weld dyn diarth mewn siwt las yn cario bag ac yn pigo ei ffordd drwy’r cae tuag ato. Daeth Sam y gwas i sefyll wrth ochr ei feistr. Gwyliodd y ddau y dieithryn trwsiadus yn nesáu atynt.

    ‘Dach chi’n ei nabod, o Mr Jones?’ holodd Sam. Siglodd Arthur ei ben yn ddi-glem. Doedd o’n nabod dim ar y dyn ifanc. Diawliodd Arthur. Doedd o ddim yn licio pobol ddiarth yn glanio’n ddirybudd.

    ‘Ewadd, fasa hwn yn gwneud bwgan brain da yn ei siwt! Beth am ei roi o’n sownd wrth bolyn a’i adael o yma yn y cae?’ chwarddodd Sam ond doedd ei gyflogwr ddim yn rhannu’r jôc. Aeth Arthur i boeni. Tybed oedd yr ymwelydd yn gasglwr trethi?

    Llyncodd ei boer yn galed. Yn ôl yn y tŷ, cuddiai Arthur fwndel go fawr o arian parod ar dop y dreser; fflôt answyddogol i brynu gwartheg ar y slei er mwyn osgoi treth. Petai’r dyn yma’n dechrau chwilio, fyddai o fawr o dro’n ffeindio’r pres.

    ‘Pnawn da, sut ydach chi heddiw, gyfeillion? Dwi’n chwilio am Mr Jones, perchennog y fferm fendigedig yma.’ Siaradai’r dyn Gymraeg yn araf ac mewn acen ddieithr.

    ‘Fi ydy Arthur Jones, y perchennog. Sut fedra i’ch helpu chi?’

    Aeth y dyn i’w fag ac estyn sawl oriawr boced hardd o aur ac arian. Gosododd nhw ar ddarn ffelt o flaen Arthur. O weld nad casglwr trethi oedd y dyn, ymlaciodd Arthur.

    ‘Mr Jones, mae’r rhain wedi cael eu gwneud gan grefftwyr gorau’r Swistir. Maen nhw’n berffaith i addurno eich siwt orau. Mae dyn chwaethus fel chi sy’n gweithio mor galed yn haeddu

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1