Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Gwenllian ferch Gruffydd, Tywysoges a Rhyfelwraig Deheubarth
Gwenllian ferch Gruffydd, Tywysoges a Rhyfelwraig Deheubarth
Gwenllian ferch Gruffydd, Tywysoges a Rhyfelwraig Deheubarth
Ebook50 pages32 minutes

Gwenllian ferch Gruffydd, Tywysoges a Rhyfelwraig Deheubarth

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Cynfam Arwrol Gymreig y Frenhines Elizabeth Tudur!

Ganwyd Gwenllian ferch Gruffydd ap Cynan yng Nghastell Aberffraw ym 1097, wedi’i thynghedu o’r cychwyn i gyflawni pethau mawr. Merch un o ryfelwyr gorau Gwynedd, tyfodd i fyny yn gryf ac angerddol — gystal onid gwell na’i brodyr hŷn.

Newidiodd bywyd Gwenllian am byth yn un ar bymtheg oed, gan iddi ddisgyn mewn cariad â’r Tywysog Gruffydd ap Rhys, etifedd gwarchaeedig Rhys ap Tewdwr o Ddeheubarth. Law yn llaw gilydd, ymladdodd ddau o blaid de Cymru a theyrnasu drosti, yn herio Concwest y Normaniaid dros Gymru ac yn profi holl bendefigaeth a dewrder pobl Cymru unwaith ac am byth, dewrder sy’n parhau dros y canrifoedd ac yn byw yng nghalon pob Cymro a Chymraes.

Mae’r llyfr yn cynnwys llinell amser estynedig sy’n cwmpasu dros 400 mlynedd o hanes canoloesol Cymru a Lloegr.

LanguageCymraeg
Release dateJul 7, 2016
ISBN9781310819964
Gwenllian ferch Gruffydd, Tywysoges a Rhyfelwraig Deheubarth
Author

Laurel A. Rockefeller

Born, raised, and educated in Lincoln, Nebraska USA Laurel A. Rockefeller’s passion for animals comes through in everything she writes. First self-published in 2012 as social science fiction author (the Peers of Beinan series), Laurel has expanded her work into the animal care/guide, history, historical fiction, and biography genres.Find Laurel’s books in digital, paperback, and hardcover in your choice of up to ten languages, including Welsh, Chinese, and Dutch. Audio editions are published in all four available languages for audible: English, French, Spanish, and German.Besides advocating for animals and related environmental causes, Laurel A. Rockefeller is a passionate educator dedicated to improving history literacy worldwide, especially as it relates to women’s accomplishments. In her spare time, Laurel enjoys spending time with her cockatiels, travelling to historic places, and watching classic motion pictures and classic television series.

Related to Gwenllian ferch Gruffydd, Tywysoges a Rhyfelwraig Deheubarth

Titles in the series (4)

View More

Related ebooks

Reviews for Gwenllian ferch Gruffydd, Tywysoges a Rhyfelwraig Deheubarth

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Gwenllian ferch Gruffydd, Tywysoges a Rhyfelwraig Deheubarth - Laurel A. Rockefeller

    Gwaeddwch yn uchel drosof i, fy mhobl.

    Lle collwyd fy ngwaed, boed i’ch lleisiau gael eu clywed hyd byth.

    Cymru yn dy holl ogoniant:

    Deheubarth, Gwynedd, Ceredigion, Powys, Dyfed

    Ynys Môn lle’m ganed!

    Peidiwch â gadael i’r concwerwyr fynd heb ddial arnynt

    Tyngwch na fyddwch chi byth yn anghofio.

    ’Cymry ydyn ni.

    A Chymry fyddwn ni am byth.

    Pennod Un

    Mae’r brenin yn croesawu’r Dywysoges Nest ferch Rhys Deheubarth, Barwnes Penfro! bloeddiodd y cyhoeddwr wrth iddi orymdeithio drwy neuadd fawr castell Gruffydd ap Cynan yn Aberffraw ar arfordir Ynys Môn yng ngogledd orllewin teyrnas Gruffydd.

    Camodd y dywysoges naw ar hugain oed yn hyderus i gyfarch y Brenin Gruffydd a phenlinio’n barchus o flaen y brenin ar ei orsedd, Bore da, f'arglwydd.

    Bore da f’arglwyddes, gwenodd Gruffydd wrth amneidio arni i godi. Sut ydych chi?

    Da iawn, diolch yn fawr. Mae fy mab Harri Fitzhenry yn anfon ei ddymuniadau gorau.

    Cododd y Brenin Gruffydd a chamu i lawr o’i orsedd. Nodiodd ei ben, gan amneidio iddi ei ddilyn, ’Dydi’ch gŵr chi ddim yn hidio bod Harri yn fab i Harri, brenin Lloegr?

    Dyn y brenin yw Gerallt Windsor. Mae o’n farwn am fod y Brenin Harri eisiau iddo wylio’r gororau a'n cadw ni’r Cymry o dan ei reolaeth dynn ef. Mae Harri Fitzhenry gyda’i lystad ar hyn o bryd yng Nghenarth gyda'n plant ni.

    Ydi o wedi tyfu ryw lawer ers i mi ei weld?

    Mae o bron yn ddeg oed bellach, atebodd Nest yn syml, dan wenu.

    Dywedwch wrthyf, f’arglwyddes, ai yma i ymweld â hen ffrindiau yn unig ydych chi, neu a oes busnes arall ar eich meddwl?

    Ai busnes y brenin neu fy musnes fy hun ydych chi’n ei olygu?

    Oes unrhyw wahaniaeth? holodd y Brenin Gruffydd yn graff.

    Yn yr achos hwn, oes; pe byddai’r Brenin Harri yn dod i wybod fy mod yn y gogledd i’r perwyl hwn, byddai’n lled anhapus gyda mi, er bod ganddo atgofion melys amdanaf i o’i ieuenctid, cyfaddefodd Nest.

    Beth allet ti ei ddweud neu ei wneud i ddigio ein dyledog arglwydd?

    Mae gen i gymwynas i ofyn i chi.

    Cymwynas? Cymwynas pa mor ddrud?

    Mae fy mrawd Hywel wedi gwella o’r anafiadau a ddioddefodd tra’r oedd yn garcharor i Arnwlff fitz Roger Montgomery. ’Rwyf wedi’i gadw gyda mi ym Mhenfro, ond mae’n mynd yn berygl i mi ei warchod. Nid oes syniad gan unrhyw un beth a ddigwyddodd i fy mrawd, Llewelyn, ac— distawodd Nest yn sydyn, gan beri peth syndod i’r Brenin Gruffydd.

    Pa dynged ydych chi’n ei gwahodd i’m teyrnas, Nest? Pa beth ydych chi’n ceisio’i gelu oddi wrthyf?

    "Mae fy mrawd, Gruffydd ap Rhys wedi dychwelyd o’i alltudiaeth yn Iwerddon. Yn yr ychydig fisoedd y bu’n aros gyda

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1