Cyfres Academi Archarwyr: Melltith y Cwstard Cas
()
About this ebook
Alan MacDonald
Alan MacDonald has written over 150 books, including the Devil's Trade and Axel Feinstein series for Scholastic, along with titles in the Dead Famous, Pickle Hill Primary and Double Take series. He is also a regular writer for the Oxford Reading Tree and has had picture books published by Little Tiger Press. Alan MacDonald started his working life in a travelling theatre company. In addition to writing and directing plays, Alan trained as a drama teacher. He has written stories and dramas for the BBC (both television and radio), as well as many children's books. Alan lives in Nottingham.
Read more from Alan Mac Donald
Cyfres Academi Archarwyr: Taran a Dydd y Farn Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Academi Archarwyr: 1. Dial y Gelyn Gwyrdd Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Academi Archarwyr: Dynion Gwirion o'r Gofod Rating: 0 out of 5 stars0 ratings
Related to Cyfres Academi Archarwyr
Related ebooks
Darllen yn Well: Un Mewn Can Mil Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsIesu Tirion Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsLlechi Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Mellt: Eilian a'r Eryr Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Annalisa: Annalisa Swyn yn Cael Pen-blwydd Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsFfawd, Cywilydd a Chelwyddau Rating: 5 out of 5 stars5/5Y Gwrachod Rating: 4 out of 5 stars4/5Rhyfeddod Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsSara Mai a Lleidr y Neidr Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Amdani: Cariad Pur Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsPaent! Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsSaith Oes Efa - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2014 Rating: 5 out of 5 stars5/5Paid a Gofyn i Alys Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Zoella: Merch Ar-Lein Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Annalisa: Annalisa Swyn yn Mynd i'r Ysgol Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Pen Dafad: Asiant A Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsDewch at eich Gilydd Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsY Trên Bwled Olaf o Ninefe Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Annalisa: Annalisa Swyn Seren y Sioe Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsEigra: Hogan Fach o'r Blaena Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsEira Llwyd Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Pen Dafad: Alffi Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsAlys yn y Canol Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsStori Sydyn: Y Goliau a'r Dagrau - Stori Tash Harding Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsGeiriau Bach Chwareus Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsStori Sydyn: Wil ac Aeron Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsI Botany Bay Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsDelme - Hunangofiant Delme Thomas: Hunangofiant Delme Thomas Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Zoella: Merch Ar-Lein ar Daith Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Annalisa: Annalisa Swyn Mewn Trwbwl Rating: 0 out of 5 stars0 ratings
Related categories
Reviews for Cyfres Academi Archarwyr
0 ratings0 reviews
Book preview
Cyfres Academi Archarwyr - Alan MacDonald
Alan MacDonald
Darluniau Nigel Baines
Addasiad Mari George
Academi Archarwyr 3:
Melltith y Cwstard Cas
ISBN 978-1-84967-981-7
Cyhoeddwyd gan Rily Publications Ltd
Blwch Post 257,
Caerffili CF83 9FL
Addasiad gan Mari George
Hawlfraint yr addasiad © Rily Publications Ltd 2016
Hawlfraint y testun gwrieddiol © Alan MacDonald 2015
Hawlfraint y darluniau © Nigel Baines 2015
Cyhoeddwyd gyntaf yn Saesneg ym Mhrydain yn 2014 gan
Bloomsbury Publishing Plc, 50 Bedford Square, Llundain WC1B 3DP,
o dan y teitl
Superhero School: Curse of the Evil Custard
Cedwir pob hawl. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull, na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr.
Cyhoeddwyd gyda chymorth ariannol
Cyngor Llyfrau Cymru.
Rilywww.rily.co.uk
CRWTYN CRYF (sef Siôn)
PWERAU ARBENNIG: Clustiau cryf sy’n synhwyro perygl
HOFF ARF: Tidliwincs
CRYFDERAU: Goroesi er gwaetha popeth
GWENDIDAU: Poeni o hyd
ARCH-SGÔR: 53
FFION FFRISBI (sef Ffion)
PWERAU ARBENNIG: Taro’r targed
HOFF ARF: Ffrisbi, WRTH GWRS
CRYFDERAU: Trefnus, y bòs
GWENDIDAU: Gweler uchod
ARCH-SGÔR: 56
BARI BRÊNS (sef Bari)
PWERAU ARBENNIG: Ymennydd anhygoel
HOFF ARF: Cwestiynau cwis
CRYFERDAU: Ym …
GWENDIDAU: Casáu ymladd
ARCH-SGÔR: 41.3
PWDIN, Y CI RHYFEDDOL
PWERAU ARBENNIG: Arogli pethau neis
HOFF ARF: Llyfu a glafoerio
CRYFERDAU: Ffyddlondeb
GWENDIDAU: Fel clwtyn llawr mawr
ARCH-SGÔR: 2
Pennod 1
Newyddion drwg
Roedd hi’n ddiwrnod cynta’r tymor newydd ac aeth Siôn, Bari, Ffion a Pwdin y ci rhyfeddol i mewn drwy gatiau uchel Ysgol y Nerthol. Doedd dim byd cyffrous na pheryglus wedi digwydd yn ystod y gwyliau haf hir felly roedd y Dewrion yn falch o gael bod ’nôl gyda’i gilydd. Nhw, mae’n debyg, oedd y criw gorau o archarwyr yn nosbarth Siôn.
Edrychodd Siôn o gwmpas yr iard a gweld wynebau cyfarwydd. Ar yr ochr bellaf roedd grŵp o fechgyn yn chwarae pêl-droed awyr gan daflu’r bêl mor uchel â’r cymylau bob hyn a hyn. Roedd Tanc, bwli’r ysgol, wedi cael gafael mewn plant newydd i chwarae gyda nhw ac roedd e’n difyrru ei hunan drwy eu taflu dros y wal.
Dim ond diwrnod arferol yn Ysgol y Nerthol oedd hwn … ond roedd hynny ar fin newid.
Cerddodd Miss Marblen, y brifathrawes, heibio yn edrych yn ofidus ac yn gwisgo dwy sbectol ar ei phen.
‘Bore da, miss,’ meddai Ffion yn llon.
Edrychodd Miss Marblen o’i chwmpas gan wthio llythyr i’w phoced yn gyflym.
‘Bore? Falle’i bod hi,’ meddai. ‘Helô, Ffiona.’