Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Twm Bach ar y Mimosa
Twm Bach ar y Mimosa
Twm Bach ar y Mimosa
Ebook131 pages1 hour

Twm Bach ar y Mimosa

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A children's story about a 10 year old boy travelling from Aberdare to Patagonia. Daniel, who records events on the journey, hopes to share his experiences with his best friend Twm, one day.
LanguageCymraeg
Release dateMay 1, 2020
ISBN9781845277666
Twm Bach ar y Mimosa

Read more from Sian Lewis

Related to Twm Bach ar y Mimosa

Related ebooks

Related categories

Reviews for Twm Bach ar y Mimosa

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Twm Bach ar y Mimosa - Sian Lewis

    Twm Bach ar y Mimosa

    Siân Lewis

    Darluniau gan Chris Iliff

    Gwasg Carreg Gwalch

    Argraffiad cyntaf: 2015

    © testun: Siân Lewis 2015

    © darluniau: Chris Iliff 2015

    Cedwir pob hawl.

    Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig, tâp magnetig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr, Gwasg Carreg Gwalch, 12 Iard yr Orsaf, Llanrwst, Dyffryn Conwy, Cymru LL26 0EH.

    ISBN elyfr: 9781845277666

    ISBN clawr meddal: 978-1-84527-521-1

    Cyhoeddwyd gyda chymorth Cyngor Llyfrau Cymru

    Cynllun clawr: Eleri Owen

    Cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, 12 Iard yr Orsaf, Llanrwst, Dyffryn Conwy, Cymru LL26 0EH

    Ffôn: 01492 642031 | Ffacs: 01492 642502

    e-bost: llyfrau@carreg-gwalch.cymru

    lle ar y we: www.carreg-gwalch.cymru

    Argraffwyd a chyhoeddwyd yng Nghymru

    Nodyn

    Er bod nifer o gymeriadau a digwyddiadau’r stori hon yn rhai go iawn, dychmygol yw’r teulu Roberts, prif gymeriadau’r stori hon, felly dychmygol yw eu perthynas â Seth Jones, a gweddill teithwyr y Mimosa.

    Awst 1869

    Dyffryn Camwy, Patagonia

    ‘Daniel Roberts ydw i, a dwi’n bedair ar ddeg oed. Ces fy ngeni yn Aberdâr, de Cymru.

    Bedair blynedd yn ôl, ym mis Ebrill 1865, es i, Mam, Dad, a Leisa fy chwaer, i Lerpwl i ddal llong fyddai’n ein cludo ar daith o saith mil o filltiroedd i Batagonia, De America.

    Aeth dros gant a hanner o Gymry i Batagonia gyda ni. Roedden ni’n mynd i sefydlu Gwladfa Gymreig, sef gwlad newydd sbon lle bydden ni’r Cymry’n rheoli a phawb yn siarad Cymraeg.

    Cyn gadael Aberdâr, ces anrheg gan Twm Hopcyn, fy ffrind gorau. Allai Twm ddim dod i Batagonia gyda fi, felly fe anfonodd fachgen bach pren o’r enw ‘Twm Bach’ yn ei le. Addewais innau yrru hanes anturiaethau Twm Bach yn ôl i Gymru.

    Heddiw, o’r diwedd, dwi am gadw fy addewid. I ti mae’r hanes hwn, Twm Hopcyn. Rwyt ti wedi disgwyl yn hir amdano. Pan ddarlleni di’r stori i gyd, fe fyddi di’n deall pam.’

    Dan

    Yr Hanes

    Pennod 1

    Lerpwl

    Dwi’n mynd i ddechrau’r hanes hwn yn Lerpwl. Dinas fawr yng ngogledd-orllewin Lloegr yw Lerpwl, ac mae afon fawr yn llifo drwyddi. Merswy yw enw’r afon, ac mae ceg yr afon yn fwrlwm o longau sy’n cludo teithwyr a nwyddau yn ôl ac ymlaen ar draws y byd.

    Pan es i, Mam a Dad, Leisa fy chwaer, a chant a hanner o Gymry eraill, i Lerpwl ym mis Ebrill 1865, roedden ni’n disgwyl byrddio llong o’r enw Halton Castle a hwylio ar ein hunion i Batagonia. Ond roedd yr Halton Castle yn dal ar y môr mawr. Felly doedd gyda ni ddim dewis ond aros yn y ddinas nes bod llong arall o’r enw Mimosa yn cael ei pharatoi ar ein cyfer.

    Dair wythnos yn ddiweddarach, roedden ni’n dal i aros. Doedd gyda ni ddim arian ar ôl, felly roedd Dad wedi cael ychydig oriau o waith yn y dociau.

    Ar brynhawn dydd Llun, 15 Mai, ro’n i ar lan afon Merswy’n disgwyl am Dad ac yn gwylio dynion yn dadlwytho cliper tua chanllath i ffwrdd. Ro’n i wedi tynnu Twm Bach o ’mhoced, ac yn esgus mai’r Twm go iawn oedd e.

    ‘Edrych ar y gist fawr ’na,’ dwedais, a chodi Twm Bach i’r awyr i ddangos cist oedd yn hongian oddi ar winsh enfawr. Yr union eiliad honno sleifiodd yr haul o’r tu ôl i gwmwl a disgleirio ar y winsh. Tasgodd y pelydrau tuag ata i, ac wrth i fi gau fy llygaid, dihangodd Twm Bach o ’ngafael, a phowlio tuag at yr afon.

    Gwaeddais a neidio ar ei ôl heb edrych i’r chwith nac i’r dde. Yr eiliad nesa ro’n i’n fflat ar lawr a phoen yn gwibio drwy fy nghoes. Ond doedd dim ots. Â blaenau fy mysedd, ro’n i wedi dal Twm Bach.

    Cydiais ynddo’n dynn a rholio ar fy nghefn, a’m hanadl yn codi’n niwl uwch fy mhen. Drwy’r niwl gwibiodd dau wyneb coch. Roedd gŵr a gwraig yn plygu drosta i, yn gweiddi’n gas yn Saesneg.

    ‘Th ... thank you,’ dwedais wrthyn nhw. Wyddwn i ddim beth arall i’w ddweud.

    ‘Thank you!’ Gwylltiodd y ddau yn waeth fyth. Cydiodd y dyn yn fy mraich a’m llusgo ar fy nhraed. Pwyntiodd at gert fach oedd yn sefyll gerllaw ac ar y bocs oedd yn gorwedd yn ei hymyl. Roedd cornel y bocs wedi hollti a dŵr llwydaidd yn diferu drwy’r crac.

    ‘Wel?’ gwaeddodd y dyn, ymysg pethau eraill. ‘Wel?’

    Deallais mai’r gert oedd wedi ’nharo i’r llawr. Roedd wedi colli’i llwyth, ac arna i roedd y bai. Ond beth allwn i ei wneud? Roedd yr ychydig eiriau o Saesneg yn fy mhen wedi diflannu’n llwyr.

    ‘Dwi ddim yn gallu siarad Saesneg,’ dwedais.

    ‘Y?’ Rhythodd y dyn, a rhoi ysgytwad ffyrnig i fi.

    Edrychais mewn panig i gyfeiriad y doc. Doedd dim sôn am Dad. Welwn i ddim byd ond pobl yn gwgu arna i. Roedd llaw’r dyn yn gwasgu ’mraich yn dynnach. Beth petai’n fy llusgo i ffwrdd cyn i Dad ddod?

    ‘Father. Dad come …’ griddfanais.

    ‘Your father?’ Llaciodd ei afael ryw fymryn, a rhythu i gyfeiriad dyn ifanc oedd yn brysio tuag aton ni.

    Seth Jones oedd e! Ro’n i mor falch o’i weld. Roedd Seth yn Gymro fel fi ac yn un o’r rhai oedd yn mynd i ymfudo i Batagonia.

    Chwyddodd y certiwr ei frest a phoeri llif o Saesneg i gyfeiriad Seth. Gwibiodd llygaid Seth tuag at y bocs a’r gert, yna, gan roi winc fach gynnil i fi, atebodd yn fwyn yn yr iaith fain. Camodd gwraig y certiwr tuag ato a gweiddi mor groch â’i gŵr. Nodiodd Seth ac estyn i’w boced am ddarn o arian. Dododd yr arian yn llaw’r wraig a chau’i bysedd amdano.

    Trodd y gweiddi’n snwffian grwgnachlyd. Gollyngodd y certiwr fi’n rhydd, a chyda help Seth fe gododd y bocs i’r gert. Yna fe gydiodd ym mreichiau’r gert, a chan anelu un edrychiad surbwch ata i, symudodd i ffwrdd, a’i wraig wrth ei ochr.

    Pan oedden

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1