Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Cyfres Clasuron: Cerddi T. H. Parry-Williams
Cyfres Clasuron: Cerddi T. H. Parry-Williams
Cyfres Clasuron: Cerddi T. H. Parry-Williams
Ebook75 pages1 hour

Cyfres Clasuron: Cerddi T. H. Parry-Williams

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A new edition of the poems and sonnets of T. H. Parry-Williams, with an introduction by Angharad Price. Originally published in 1931. This is an iconic collection by a poetic pioneer who had far-reaching influence on other writers of his era, through the originality of his stark language and his sensitive meditations on the powers of the natural world.
LanguageCymraeg
PublisherGomer
Release dateOct 30, 2020
ISBN9781785623738
Cyfres Clasuron: Cerddi T. H. Parry-Williams

Related to Cyfres Clasuron

Related ebooks

Related categories

Reviews for Cyfres Clasuron

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Cyfres Clasuron - T. H. Parry-Williams

    llun clawr

    Cerddi

    rhigymau a sonedau

    T. H. Parry-Williams

    Gomer

    Cyhoeddwyd yn 2011 gan Wasg Gomer, Llandysul, Ceredigion SA44 4JL.

    ISBN 978-1-78562-373-8

    ⓗ Hawlfraint y cerddi: Ystad T. H. Parry-Williams, 2011

    ⓗ Hawlfraint y rhagymadrodd: Angharad Price, 2011

    Cedwir pob hawl. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn system adferadwy, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull, na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig, tâp magnetig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr.

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth Cyngor Llyfrau Cymru.

    Troswyd i e-lyfr gan Almon.

    Rhagymadrodd

    Dim ond ffŵl fyddai’n meiddio ysgrifennu rhagair i un o ‘glasuron’ barddonol yr ugeinfed ganrif. Bydd unrhyw beth a ddywedir, rywsut neu’i gilydd, yn annigonol. At hynny, mae dyrchafu cyfrol yn glasur yn cymryd yn ganiataol bod ‘pawb yn gwirioni’r un fath’, ac i mi, un o ogoniannau llenyddiaeth yw’r rhyddid y mae’n ei roi i bawb wirioni yn wahanol. Ac nid ar chwarae bach y mae cymryd chwaeth diwylliant cyfan yn ganiataol, heb sôn am ragdybio bod y chwaeth honno’n mynd i barhau’n ddigyfnewid trwy holl newidiadau’r diwylliant ei hun.

    Go anodd hefyd yw ysgrifennu rhagair i gyfrol gynnar gan fardd o bwys, am fod y cynnyrch diweddarach yn pwyso’n ôl ar y gwaith, gan roi pwys i linellau a geiriau na fodolai adeg eu cyfansoddi. Tybir, rywsut, fod bywyn gyrfa gyfan ynghudd ym mhob cerdd.

    Mae’r holl ystyriaethau hyn yn arbennig o wir am Cerddi T.H. Parry-Williams. Dyma gyfrol gyntaf un o feirdd Cymraeg mwyaf adnabyddus yr ugeinfed ganrif, ac ynddi hi hefyd y ceir y nifer mwyaf o gerddi eiconig y bardd eiconig hwn.

    Mae ymadroddion a llinellau a chwpledi llawer o’r cerddi a geir ynddi wedi dod yn rhan o wead yr iaith Gymraeg erbyn heddiw; daethant mor gyfarwydd inni ag adnodau o’r Beibl neu ddiarhebion – os nad yn wir yn fwy cyfarwydd na’r rheiny.

    Yn rhan gyntaf y gyfrol ceir casgliad o rigymau y mae rhai ohonynt yn dra adnabyddus erbyn hyn. Cynhwysa llawer o’r rhain gwpledi gwirebol tra chyfarwydd, megis cwpled agoriadol ‘Yr Esgyrn Hyn’:

    Beth ydwyt ti a minnau, frawd,

    Ond swp o esgyrn mewn gwisg o gnawd?

    Neu

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1