Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Wythnos yng Nghymru Fydd
Wythnos yng Nghymru Fydd
Wythnos yng Nghymru Fydd
Ebook295 pages4 hours

Wythnos yng Nghymru Fydd

Rating: 2.5 out of 5 stars

2.5/5

()

Read preview

About this ebook

A new edition of Islwyn Ffowc Elis's classic Welsh novel which portrays Wales as it could be in the year 2033. Includes a new foreword by Dylan Iorwerth. Reprint. This edition was first published in 2012.
LanguageCymraeg
PublisherGomer
Release dateOct 20, 2020
ISBN9781785623523
Wythnos yng Nghymru Fydd

Related to Wythnos yng Nghymru Fydd

Related ebooks

Reviews for Wythnos yng Nghymru Fydd

Rating: 2.5 out of 5 stars
2.5/5

1 rating0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Wythnos yng Nghymru Fydd - Islwyn Ffowc Elis

    llun clawr

    Wythnos

    yng Nghymru Fydd

    Islwyn Ffowc Elis

    gyda rhagymadrodd newydd

    gan Dylan Iorwerth

    Gomer

    Cyhoeddwyd gyntaf yn 1957 gan

    Gyhoeddiadau Plaid Cymru, Caerdydd

    Cyhoeddwyd yn 2002 gan Wasg Gomer, Llandysul, Ceredigion SA44 4JL

    ISBN 978-1-78562-352-3

    ⓗ Eirlys Ffowc Elis 2007

    ⓗ y rhagymadrodd i’r rhifyn hwn Dylan Iorwerth 2007

    Mae Islwyn Ffowc Elis wedi datgan ei hawl dan Ddeddf Hawlfreintiau, Dyluniadau a Phatentau 1988 i gael ei chydnabod fel awdur y llyfr hwn.

    Cedwir pob hawl. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig, tâp magnetig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr.

    Gwasg Gomer, Llandysul, Ceredigion.

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth Cyngor Llyfrau Cymru.

    Cynllun y clawr: Mo-design – www.mo-design.com

    Delweddau’r clawr: Ray Edgar – www.rayedgar.com

    Troswyd i e-lyfr gan Almon.

    I’r

    Dr Gwynfor Evans

    â’r edmygedd mwyaf

    Rhagair i Argraffiad Newydd 1994

    Fe deimlodd fy nghyfeillion yng Ngwasg Gomer, yn gam neu’n gymwys, y dylid ailgyhoeddi’r stori hon. Gan fod Gwasg Gomer wedi bod yn cyhoeddi fy llyfrau am fwy na deugain mlynedd, nhw sy’n gwybod orau am bethau fel hyn, a fedrwn i lai na pharchu eu bwriad.

    Nid fy lle i yw adolygu fy ngwaith fy hun, ond efallai y dylwn ddweud rhywbeth am yr amser y sgrifennwyd y stori.

    Fe gyhoeddwyd Wythnos yng Nghymru Fydd gyntaf, a hynny gan Adran Gyhoeddiadau Plaid Cymru, mor bell yn ôl a 1957. Yn y flwyddyn honno fe glywyd gair newydd sbon, sef y gair Rwsieg ‘sbwtnic’, enw’r lloeren gyntaf o waith dyn a yrrwyd i’r gofod i gylchu’r ddaear. Byddai’n rhaid aros am ddeuddeng mlynedd arall cyn i ddyn roi’i droed ar y lleuad. Ond roedd yn amlwg bellach fod hynny’n bosibl. Roedd y rhagolygon yn gyffrous. Ac os gallai dyn deithio trwy’r gofod, efallai y gallai deithio hefyd trwy amser ryw ddydd.

    Ond doedd rhagolygon Cymru ddim mor gyffrous. Pan ddechreuais i sgrifennu Wythnos roedd Caerdydd yn brifddinas Cymru ers dwy flynedd, ond doedd dim Swyddfa Gymreig ynddi nac Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru. Doedd dim Cyngor Llyfrau Cymraeg, dim sôn am Academi Gymreig, dim Cymdeithas Cerdd Dafod, dim Mudiad Ysgolion Meithrin, dim Merched y Wawr, dim Cymdeithas yr Iaith. Doedd gan Gymru ddim cwmni teledu annibynnol, a byddai’n rhaid disgwyl am chwarter canrif arall am S4C. Doedd dim un aelod seneddol gan Blaid Cymru, na dim un ysgol uwchradd Gymraeg trwy Gymru gyfan. Roedd cofio Cyfrifiad 1951 yn dal i frifo, y cyfrifiad a ddangosodd nad oedd ond tri-chwarter miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru; dau gan mil yn llai nag ym 1931 pan wnaed y cyfrifiad blaenorol.

    Yn y pumdegau hynny sydd eisoes mor bell yn ôl, y ddau elyn i ddyfodol Cymru oedd anobaith yr ychydig a difaterwch y lliaws. Petai’r elfennau hynny’n ennill y dydd, byddai’r Gymru a welodd Ifan Powel ar ei ail daith i’r flwyddyn 2033 yn anochel. Am na allwn oddef meddwl mai dyna’r unig ddyfodol posibl i’m gwlad, mi adewais i’m ffydd ddall ddychmygu’r ‘Gymru Fydd’ arall.

    Yr ydym eisoes hanner ffordd i’r flwyddyn 2033. Erbyn hyn fe ddylai fod yn haws inni farnu prun ai tua’r Gymru ‘dywyll’ ai tua’r Gymru ‘olau’ yr ydym yn anfon ein plant a’n hwyrion.

    Islwyn Ffowc Elis

    Rhagfyr 1993

    Rhagymadrodd

    Heddiw, ddoe a fory

    Mae yna eironi, chwerw a melys, mai un o nofelau lleia llwyddiannus Islwyn Ffowc Elis yn ei dydd yw un o’i rai mwya diddorol heddiw. Os nad yw ansawdd llenyddol Wythnos yng Nghymru Fydd wedi newid, mae cyd-destun ei darllen wedi altro’n sylweddol, a ninnau dros hanner y ffordd at ei dyfodol dychmygol.

    Hynodrwydd arall yw mai yn y nofel hon, yr oedd yr awdur ei hun yn anfoddog i’w thrafod, y mae’r olygfa fwya cofiadwy a sgrifennodd erioed, un a dreiddiodd i feddylfryd cenhedlaeth o genedlaetholwyr ac ymgyrchwyr iaith, bum mlynedd cyn traddodi darlith fawr Saunders Lewis ar dynged yr iaith honno. Trwy gael hen wraig i gofio dim ond ychydig adnodau herciog o fersiwn William Morgan o Salm 23, roedd Islwyn Ffowc Elis wedi dangos trychineb colli’r gweddill i gyd.

    Adeg dathlu hanner canmlwyddiant cyhoeddi’r nofel, a hithau’n cael mwy o sylw hyd yn oed na champwaith yr awdur o Lyn Ceiriog, Cysgod y Cryman, roedd y trafod bron yn llwyr ynghylch elfennau arwynebol y stori: a oedd y darogan a’r darogan yn gywir, a ddaeth y ddyfais a’r ddyfais i fod? O gofio pwrpas y nofel, dyna’r pethau lleia pwysig i Islwyn Ffowc Elis ei hun; allanolion i roi cnawd ar sgerbwd ei weledigaeth a chynnal y diddordeb storïol oedd y rheiny mewn gwirionedd.

    Yn 1961, roedd y beirniad o Gymro, Raymond Williams, yn cyfeirio yn The Long Revolution at boblogrwydd math newydd o nofel gymdeithasol; nofelau realistig eu harddull oedd, er hynny, wedi’u gosod yn y dyfodol. Yn yr ystyr hwnnw, roedd Wythnos yng Nghymru Fydd yn perthyn i duedd lenyddol ac, fel hi, roedd llawer o’r nofelau hynny yn cael eu beirniadu am ddiffyg cymeriadau crwn. Yn ôl Raymond Williams, roedden nhw i gyd yn dilyn fformiwla – un dyn yn erbyn byd gwrthnysig – a doedd bywydau personol yr unigolion yn ddim ond rhan o weithio’r fformiwla honno.

    Eto, roedd Wythnos yng Nghymru Fydd hefyd yn sylfaenol wahanol – ac yn Gymreig o wahanol – i’r enghreifftiau amlyca yn Saesneg o’r math hwnnw o lyfr, Nineteen Eighty-four gan George Orwell a Brave New World gan Aldous Huxley.

    Y gwahaniaeth amlyca, wrth gwrs, yw fod Islwyn Ffowc Elis yn cynnig dwy weledigaeth hollol gyfochrog o’r un lle yn yr un amser. Mae tri chwarter y nofel yn daith trwy Gymru ddelfrydol, a’r dyn o’r tu allan yn gefnogol iawn iddi. Dim ond chwarter ola’r nofel sy’n daith trwy Gymru hunllefus. Yn y chwarter ola hwnnw y mae pŵer y nofel o ran stori ac effaith ac, yn wahanol i bwyslais y drafodaeth a gafwyd yn ddiweddar wrth ddathlu hanner canmlwyddiant cyhoeddi’r gyfrol, y rhan hwnnw a ysgogodd yr ymateb mwya.

    Ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain, y peth hawdd yw chwarae gêm gyda’r nofel a cheisio gweld ymhle yr oedd Islwyn Ffowc Elis yn gywir yn ei ddarogan. Mae llawer o’r proffwydoliaethau yn drawiadol o agos ati, er bod yr un math o ddyfalu yn yn cael ei wneud gan eraill yn yr un cyfnod â sgrifennu’r nofel. Gyda chynnydd technolegol a materol y blynyddoedd wedi’r Ail Ryfel Byd, roedd edrych tua’r dyfodol yn boblogaidd a chamau cynnar yr ymchwil yn y gofod yn ychwanegu at hynny. Wrth i ddamcaniaeth fawr Einstein, e=mc2, dreiddio i ymwybyddiaeth pobl yn gyffredinol, roedd dyfalu ynghylch natur amser hefyd yn thema amlwg, o’r clociau tawdd yn lluniau Salvador Dali i obsesiynau cynnar awdur gwyddonias fel J.G. Ballard, a oedd yn dechrau cyhoeddi ei straeon yntau adeg creu Wythnos yng Nghymru Fydd.

    Eto, er bod peth o’r dyfalu yn gymharol gyffredin ar y pryd, mae’n rhyfeddol darllen disgrifiadau dychmygol o rai o’r dyfeisiadau yr yden ni bellach yn eu cymryd yn ganiataol – mae’r dull o drosglwyddo papurau newydd yn y Gymru Fydd yn debyg iawn i beiriannau ffacs neu hyd yn oed ryngrwyd ein cyfnod ni; dim ond cam neu ddau ymhellach na sat-nav bondigrybwyll y blynyddoedd diwetha yw’r ceir sy’n cael eu llywio gan radio; mae’r ‘gweleffon’ yn bod bellach ac roedd Islwyn Ffowc Elis wedi gweld Cymro ar y lleuad ddeuddeng mlynedd cyfan cyn i’r un Americanwr gyrraedd yno.

    Y gêm o gymharu darogan a realiti sy’n golygu fod darllen tri chwarter cynta’r nofel heddiw yn brofiad difyr, os nad cyfareddol, er gwaetha’r diffygion llenyddol y mae’r beirniaid wedi cyfeirio atyn nhw. O ystyried cyflwr pethau heddiw, anwyldeb pathetig sydd yn rhai o’r golygfeydd diwylliannol neu yn nhiriondeb rhyfeddol y gêm bêl-droed. Mae difyrrwch chwithig hefyd i’w gael o weld y proffwydoliaethau anghywir ac o allu cydnabod delfrydiaeth chwilfriw rhai o’r gobeithion, yn arbennig y freuddwyd o weld rhwydwaith o gwmnïau a busnesau cydweithredol yn cynnal economi Cymru. Mae’n amlwg fod yr awdur ei hun yn credu’n gry yn y rheiny, gan fod y syniad yn amlwg hefyd yn Cysgod y Cryman ac Yn Ôl i Leifior. Wrth osgoi oblygiadau’r problemau dyrys sy’n codi i unigolion mewn trefn o’r fath, mae Islwyn Ffowc Elis yn dangos prif fwriad Wythnos yng Nghymru Fydd a’r prif wahaniaeth rhyngddi a nofelau Saesneg, tebyg.

    Lle’r oedd Orwell yn astudio’r berthynas rhwng unigolion a gwladwriaeth a grym a Huxley yn ystyried oblygiadau seicolegol ac eneidiol gwyddoniaeth a thotalitariaeth, diwylliannol yw gweledigaeth Islwyn Ffowc Elis. Yn ei Gymru ddelfrydol, cerbyd yw gwleidyddiaeth ac economi i sicrhau ffyniant y Gymraeg a’r ffordd Gymreig o fyw; yn ei Gymru uffernol, mae’r naill a’r llall yn gyfrwng i ddinistrio’r pethau hynny.

    Yr ysgogiad y tu cefn i Wythnos yng Nghymru Fydd sy’n gyfrifol am hyn. Mae wedi ei chyflwyno i dri o arwyr Plaid Cymru, Plaid Cymru wnaeth ei chyhoeddi’n wreiddiol ac i Blaid Cymru y byddai’r elw’n mynd. Dangosodd T. Robin Chapman yn ei fywgraffiad o Islwyn Ffowc Elis fod Llywydd y Blaid ar y pryd, Gwynfor Evans, wedi cael cynnig i sensro unrhyw rannau a allai niweidio’r achos.

    Propaganda, felly, oedd Wythnos yng Nghymru Fydd a dyna sydd i gyfri am rai o’i diffygion fel nofel arferol. Mae’n bur debyg mai dyna pam yr oedd Islwyn Ffowc Elis hefyd yn anhapus gyda hi, wrth edrych yn ôl. Yn ogystal â’i neges a’i farn ei hun, rhaid i unrhyw bropagandydd ystyried rhagfarnau ei gynulleidfa darged hefyd; rhaid i bropagandydd ddechrau o’r un fan â’i bobl ac mae nofel Islwyn Ffowc Elis, felly, yn dadlennu beth yr oedd cenedlaetholwyr ei gyfnod yn ymboeni fwya yn eu cylch. Mae’n rhaid i nofelau poblogaidd hefyd gyffwrdd yn nhannau emosiynol eu cyfnod ac, wrth greu darlun o Gymru wledig wedi ei dinistrio gan goed, llynnoedd a mewnlifiad estron, roedd yntau’n chwarae ar ofnau dyfna’i genhedlaeth a’i ddosbarth gwleidyddol a diwylliannol.

    O ystyried mai sgrifennu am y dyfodol yr oedd Islwyn Ffowc Elis, gweledigaeth hynod o geidwadol yw hon. Pethau wedi eu cadw o gyfnod cyhoeddi’r nofel sy’n ffynnu yn y Gymru Fydd iwtopaidd, o gerdd dant a dawnsio gwerin i fwydydd gwerinol y bwytai. Pobl yr 1950au sydd yno hefyd, wedi eu trawsblannu i gyfnod arall. Lle’r oedd Aldous Huxley yn 1932 eisoes wedi darogan effaith rhai o dueddiadau’r cyfnod ar foesoldeb rhywiol y dyfodol, moesau’r 1950au sydd gan bobl Islwyn Ffowc Elis, yn eu diweirdeb cwrtais a’u llwyrymwrthod rhag y ddiod gadarn. Delfryd o werinwyr ‘rhadlon’ yr hen ffordd Gymreig o fyw sydd i’w gweld hyd yn oed ymhlith pobl ifanc 2033. Darlun naïf yw hwn, yn yr ystyr nad oes ynddo deimlad o eironi na dim o finogrwydd dychanol y nofelau Saesneg.

    Yr un, mewn gwirionedd, yw’r patrwm cymdeithasol sylfaenol yn nwy Gymru’r dyfodol ag yr oedd adeg sgrifennu’r nofel, a hynny i’w weld ar ei gliria yn y berthynas rhwng y rhywiau. Gwragedd tŷ ufudd a gwasanaethgar yr 1950au sy’n parhau i gynnal breichiau eu gŵyr bedwar ugain mlynedd yn ddiweddarach – ac yn cwyno’n ddengar pan fydd y dynion yn trafod pethau rhy drwm.

    Felly, yr ail eironi mawr yw fod Wythnos yng Nghymru Fydd, nofel y dyfodol, bellach yn astudiaeth ddiddorol o agweddau rhai o Gymry Cymraeg yr 1950au. Yn yr ystyr hwnnw hefyd, mae’r nofel Gymraeg yn wahanol i’r ddwy Saesneg. Fel y nododd Raymond Williams, yr hyn sy’n digwydd yn y rheiny yw fod un elfen o fywyd cyfoes yn cael ei ail-greu mewn cyfnod neu le gwahanol. Gweld tueddiadau peryglus yn y byd o’u cwmpas nhw a wnaeth Huxley ac Orwell a dychmygu’r rheiny wedi eu hymestyn i’w heitha; yn nhri chwarter cynta Wythnos yng Nghymru Fydd, cymryd ffordd o fyw gyfan a wnaeth Islwyn Ffowc Elis a cheisio gosod honno mewn amgylchiadau gwahanol, gan ddychmygu’r amodau a’r math o drefn y byddai eu hangen i’w diogelu.

    Mae sawl patrwm llenyddol arall yn dod at ei gilydd yn y nofel. Un yw Gulliveriaeth – y dechneg o osod cymeriad o un byd mewn byd arall er mwyn tanlinellu ac egluro’r gwahaniaethau. Nid Jonathan Swift oedd y cynta i wneud hynny ond mae’r dechneg yn gwbl amlwg a bwriadol yn Gulliver’s Travels. Fel y mae gydag Wythnos yng Nghymru Fydd, mae’r prif gymeriad yn y teithiau hynny yn fodd i’n tywys ni i mewn i fydoedd newydd, gwahanol, yn rhoi cyfle i ryfeddu at y gwrthgyferbyniadau ac, ar yr un pryd, yn ein helpu ni i dderbyn y ffantasi. Trwy fod yn amheus o ddamcaniaethau gwyddonol Doctor Heinkel ar ddechrau’r nofel a thrwy ryfeddu at rai o’r dyfeisiadau, mae Ifan Powel yn ein cario ni gydag ef.

    Yn nhrobwynt y nofel, hefyd, y mae yna debygrwydd i waith Swift ac un cymharol anadnabyddus o’r pedwar llyfr yn y Travels. Yn hwnnw, mae Gulliver yn cyrraedd gwlad yr Houyhnhnms, y ceffylau gwâr sy’n wrthbwynt llwyr i’r Yahoos bwystfilaidd, lled-ddynol. Wedi cyrraedd yn ôl gartre oddi yno, mae Gulliver yn methu â setlo ac yn troi yn erbyn ei rywogaeth ei hun. Yn yr un ffordd i raddau, ar ôl dychwelyd y tro cynta i’w Gymru ei hun, mae Ifan Powel yn hiraethu ‘am y bywyd hamddenol, llon’ y bu yn ei fyw yn y Gymru Fydd ddelfrydol.

    Yn ôl rhai beirniaid, roedd Swift yn dangos trwy’r Houyhnhnms ei fod yn ffieiddio’r ddynoliaeth; yn ôl eraill, beth bynnag oedd barn Swift am drueni ei rywogaeth, roedd, trwy wneud i Gulliver wirioni ar y ceffylau, yn dychanu tuedd dyn i gwympo am ddelfryd yn hytrach na wynebu ei amgylchiadau fel y maen nhw. Ymhlyg yn y ddwy weledigaeth wrthgyferbyniol, dyna ran o neges nofel Islwyn Ffowc Elis hefyd.

    Chwedl Tir na n-Og yw’r patrwm arall sy’n rhan o ffrâm Wythnos yng Nghymru Fydd. Fel gydag Osian yn y chwedl, cariad at ferch sy’n tanlinellu chwithdod y prif gymeriad o fod rhwng dau fyd. Hiraeth sy’n tynnu Osian yn ôl i’w hen wlad; gorfod mynd yn ôl i’w amser ei hun y mae Powel, ond mae cyfaredd Nia Ben Aur / Mair Llywarch yn debyg iawn ac yn creu ffocws i’r anesmwythyd. Yn Nineteen Eighty-four a Brave New World fel ei gilydd, ymyrraeth emosiynau dynol a serch, sy’n creu gwrthbwynt i’r bydoedd gwrthnysig y mae’r awduron wedi eu creu. Ac yn nofel arall Islwyn Ffowc Elis am y dyfodol, blys sy’n creu anhrefn. Er mai yn 1968 yr ymddangosodd Y Blaned Dirion ar ffurf llyfr, darlledwyd hi fel cyfres radio ar ddiwedd yr 1950au ac, felly, mae’n perthyn i’r un hwrdd creadigol â Wythnos yng Nghymru Fydd. Gyda’i hastudiaeth ddyfnach o’r gwrthdaro rhwng pobl ac Iwtopia, mae’n bosib ei bod yn rhyw fath o antidot creadigol hefyd.

    Sawl tro yn Wythnos yng Nghymru Fydd, mae yna deimlad fod Islwyn Ffowc Elis, y nofelydd, yn ymlafnio yn erbyn y propagandydd ynddo. Eironi arall, o gofio am Leifior a’u tebyg, yw mai yn Nant Gwynant wledig y mae gelynion y Gymru ddelfrydol – ond mae’r awdur wedi creu cymhlethdod yn eu sefyllfa nhw ac wedi osgoi eu troi i gyd yn ddihirod diadfer. Yn y Gymru ddychrynllyd hefyd, mae yna rai, fel yr Athro Richards a Philip Seeward sydd, fel Winston Smith yn Nineteen Eighty-four, yn anniddigo ynghylch eu sefyllfa. Pobl anhapus, surbwch a rhwystredig sydd yn byw yn ‘Lloegr Orllewinol’, sef Cymru chwarter ola Wythnos, ac, yn hynny o beth, mae Islwyn Ffowc Elis yn osgoi’r hunllef eitha y mae Aldous Huxley yn ei chreu yn ei nofel ac yn sôn amdani yn ei ragair i argraffiad diweddarach ohoni:

    A really efficient totalitarian state would be one in which the all-powerful executive of political bosses and their army of managers control a population of slaves who do not have to be coerced, because they love their servitude.

    A dyna ni’n dod at ganolbwynt yr ymateb diweddar i Wythnos yng Nghymru Fydd a’r holl sylw i’r darogan arwynebol, technolegol am y dyfodol. Ar lefel ddyfnach, efallai bod Lloegr Orllewinol yn llawer nes nag y bydden ni yn dymuno’i gyfadde, nac yn gallu ei gyfadde chwaith. Holl bwrpas Islwyn Ffowc Elis oedd sicrhau na fyddai hi’n dod o gwbl.

    Wrth amddiffyn George Orwell yn erbyn cyhuddiadau fod ei weledigaeth yn rhy dywyll, mae’r beirniad llenyddol Martin Seymour-Smith yn awgrymu y gallai Nineteen Eighty-four fod wedi helpu i ohirio hunllef Orwell neu hyd yn oed ei rhwystro rhag dod yn wir. Byddai modd dadlau’r un peth am Islwyn Ffowc Elis. Does dim amheuaeth fod chwarter ola’r nofel, gyda’i darlun o goedwigoedd di-ben draw, ei phentrefi coll a’i chronfeydd dŵr wedi helpu i danio cenhedlaeth. Gwnaeth yr un frawddeg honno, ‘Yr oeddwn wedi gweld â’m llygaid fy hun farwolaeth yr iaith Gymraeg’, lawer i grynhoi meddyliau ymgyrchwyr ar gyflwr ein diwylliant. Mae’n enghraifft o sgrifennu creadigol a phropaganda athrylithgar yr un pryd, yn llwyddo i greu darlun mytholegol bron allan o bwynt gwleidyddol. Mae’r ffaith y gallwn ni ddweud yn weddol hyderus na fydd yr iaith farw erbyn 2033 yn arwydd rhannol o’i llwyddiant.

    Yn arwynebol hefyd, mae rhai o freuddwydion Islwyn Ffowc Elis wedi dod yn weddol wir a rhai o’r hunllefau gwaetha wedi eu hosgoi. Ar un llaw, mae gan Gymru lun ar Senedd a theatr genedlaethol ac mae yna arwyddion dwyieithog i’w gweld yma ac acw ar fusnesau a mannau cyhoeddus; ar y llaw arall, arafodd cynnydd y coedwigoedd a foddwyd mo’r rhan fwya o’r dyffrynnoedd sy’n cael eu henwi yn chwarter ola’r gyfrol. Anoddach yw bod yn hyderus am y diwylliant a’r agweddau meddwl diwylliannol sy’n ganolbwynt i’r ddwy weledigaeth.

    Yn y flwyddyn wedi marwolaeth Hitler, pan oedd Stalin yn anterth ei rym, roedd Aldous Huxley yn hyderus na fyddai eu math nhw o dotalitariaeth agored greulon yn parhau. Fersiwn o’r math hwnnw o dotalitariaeth sydd yn chwarter ola’r Wythnos ond, yn ôl Huxley, mae system o’r fath yn aneffeithiol yn ei hanfod ac roedd angen mynd ymhellach wrth ddarlunio dyfodol hunllefus. Dyna pam yr oedd ef yn sôn am ddisgrifio’r ‘chwyldro personol, dwfn’ yr oedd ei angen i wneud i bobl garu eu caethiwed.

    Hanner canrif wedi cyhoeddi nofel Islwyn Ffowc Elis, mae modd dadlau fod y chwyldro hwnnw ar waith, ein bod yn cerdded yn fodlon a hyderus tua fersiwn arall led-hunllefus o’r Gymru fydd. Nid yn yr allanolion y mae hynny i’w weld, ond yn ein hagweddau dyfnach; nid trwy rym gwladwriaeth dotalitaraidd y mae’n digwydd ond trwy’r grymoedd masnachol a diwylliannol y mae gwladwriaethau wedi eu rhyddhau. Yr hyn y methodd awdur Wythnos yng Nghymru Fydd a’i ddarogan oedd na fedr yr un wladwriaeth bellach reoli amodau byw ei thrigolion ond fod grymoedd eraill yn gwneud hynny.

    Felly, wrth inni ennill rhai o arwyddion allanol yr hunaniaeth yr oedd Islwyn Ffowc Elis mor hwyliog wrth eu darlunio, mae yna beryg ein bod yn colli’r agwedd meddwl a’r ymwybyddiaeth yr oedd hyd yn oed yn fwy brwd yn eu cylch. Wrth gwrs, heb nofelau newydd, ni fydd yr ola i ddeall y golled.

    Dylan Iorwerth

    Mai 2007

    1

    Nid oes neb ar wyneb y blaned hon yn gwybod sut y deuthum i’n genedlaetholwr Cymreig ond fy nghyfaill Tegid a minnau. Yr unig un arall a wyddai’r stori oedd Doctor Heinkel, ond bu ef farw dri mis yn ôl.

    Fel y dywedais, nid oes neb sy’n fyw a ŵyr fy stori ond Tegid a minnau. Nid wyf wedi’i hadrodd wrth neb, a hynny am dri rheswm. Yn gyntaf, tybiwn na fyddai neb yn credu fy stori. Yn ail, petai rhywun yn ei chredu, byddai’n gweld bai arnaf am ymhél â phwerau sydd hyd yma uwchlaw dirnadaeth. Ac yn drydydd, byddai’r papurau Sul Saesneg yn hwyr neu’n hwyrach wedi cael gafael ar fy stori, ac wedi troi peth sy’n gysegredig iawn i mi yn ddim ond gwerth grot o adloniant i’w darllenwyr.

    Yn ei lythyr ddoe, fodd bynnag, fe ddywedodd Tegid wrthyf fod yn ddyletswydd arnaf ysgrifennu’r hanes.

    ‘Cofia,’ meddai, ‘mae Doctor Heinkel wedi marw, a does wybod beth a all ddigwydd i ti a minnau. Rhyw ddydd yn y dyfodol, fe fydd y peth a ddigwyddodd i ti yn ddigwyddiad cyffredin ar y ddaear. Ac fe fydd yn werthfawr i haneswyr y dyfodol wybod am yr arbraw cyntaf yn y maes yma a wnaed yng Nghymru. Taro’r hanes ar bapur, ’rhen ddyn, pan gei di hamdden.’

    Wel, fe drodd llythyr Tegid y fantol. Er mwyn haneswyr a gwyddonwyr y dyfodol, ac er cof edmygus am Doctor Heinkel, mi benderfynais ysgrifennu’r hanes. Nid i’w gyhoeddi, wrth gwrs. Nid oes gennyf ronyn o awydd yr enwogrwydd rhad a fyddai’n rhwym o ddilyn cyhoeddi hanes fel hwn. Ond ar wahân i unrhyw werth hanesyddol neu wyddonol a all fod i’r hanes, mi gaf innau ryw gymaint o ollyngdod wrth osod ar bapur beth sy’n ormod o faich i ddyn ei gario’n gudd yn ei galon ar hyd ei oes.

    Felly, dyma fi’n mynd rhagof, ac yn dechrau yn y dechrau …

    2

    Diwrnod braf yn niwedd Mai ydoedd pan gyrhaeddais Gaerdydd i dreulio pythefnos o wyliau gyda Tegid. Yr oeddwn wedi gobeithio cael fy ngwyliau ddechrau Awst, fel arfer, er mwyn cael mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol. Ond pan euthum i swyddfa’r bòs i wneud fy nghais arferol, dywedodd y bòs fod dau arall o’r staff eisoes wedi gofyn am ddechrau Awst, ac na allai ef fforddio colli trydydd yn ystod y pythefnos hwnnw. Cynigiodd imi ddau bythefnos arall i ddewis ohonynt, un yn niwedd Mai a’r llall yn nechrau Hydref. Yn ddigon blin fy ysbryd, ac yn tyngu dan fy ngwynt, dewisais ddiwedd Mai.

    Pe bawn i’n gwybod ar y pryd beth oedd i ddigwydd imi yn ystod y pythefnos hwnnw, byddwn yn ddibetrus wedi dewis dechrau Hydref. Erbyn hyn, nid wyf mor edifar. Ond i fynd ymlaen â’r stori.

    Yr oedd Tegid yn byw mewn tŷ digon braf yng nghyffiniau Parc y Rhath. Yr oedd ef, fel finnau, yn ddibriod, ac er bod ganddo ddynes yn dod i mewn i lanhau, yr oedd yn gwneud ei fwyd ei hun, ac yn gryn law ar goginio. Yr oedd ef a minnau yr un oed, ac yn gyfeillion ers dyddiau ysgol. Yn wir, yr oeddem yn debyg i’n gilydd mewn llawer peth. Un gwahaniaeth sylfaenol oedd rhyngom. Yr oedd Tegid yn aelod selog o’r Blaid,

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1