Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Llwyfannu’r Genedl Anghyflawn: Iaith a Hunaniaeth yn y Theatr Gymraeg
Llwyfannu’r Genedl Anghyflawn: Iaith a Hunaniaeth yn y Theatr Gymraeg
Llwyfannu’r Genedl Anghyflawn: Iaith a Hunaniaeth yn y Theatr Gymraeg
Ebook193 pages2 hours

Llwyfannu’r Genedl Anghyflawn: Iaith a Hunaniaeth yn y Theatr Gymraeg

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Sut mae ysgrifennu drama ‘genedlaethol’ mewn cenedl ddwyieithog a diwladwriaeth? A yw ymdrech dramodwyr yr 1990au i ddychmygu cenedl amgen ac annibynnol ar lwyfan wedi pylu ers datganoli? Sut y mae lleiafrifoedd eraill wedi dygymod â heriau’r oes honedig ôl-fodern ac  ôl-genedlaethol hon, ac a oes gan eu profiadau wersi i Gymru? Dyma rai o’r cwestiynau y mae nifer o arloeswyr y ddrama Gymraeg gyfoes yn ymhél â nhw yn y gyfrol ddiweddaraf hon yng nghyfres Safbwyntiau. Mae Llwyfannu’r Genedl Anghyflawn yn gasgliad heriol o ysgrifau, wedi ei guradu a’i olygu gan un o’n dramodwyr mwyaf blaengar.

LanguageCymraeg
Release dateJul 15, 2023
ISBN9781837720309
Llwyfannu’r Genedl Anghyflawn: Iaith a Hunaniaeth yn y Theatr Gymraeg

Related to Llwyfannu’r Genedl Anghyflawn

Related ebooks

Reviews for Llwyfannu’r Genedl Anghyflawn

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Llwyfannu’r Genedl Anghyflawn - Ian Rowlands

    illustrationillustration

    SAFBWYNTIAU

    Gwleidyddiaeth • Diwylliant • Cymdeithas

    Golygydd Cyffredinol y Gyfres: Daniel G. Williams, Prifysgol Abertawe

    Dyma gyfres sydd yn trafod ac ailystyried rhai o bynciau canolog astudiaethau gwleidyddol a diwylliannol Cymru a thu hwnt. Ei nod yw cyflwyno ymdriniaethau grymus ar amrywiaeth o bynciau o fewn y dyniaethau – o ffasgaeth i sosialaeth, o ethnigrwydd i rywioldeb, o iaith i grefydd. Tynnir ynghyd rhai o feddyliau mwyaf praff a difyr Cymru i gynnig safbwyntiau annisgwyl a dadlennol ar hanes, diwylliant a syniadaeth gyfoes o ogwydd gwleidyddol, theoretig a chymdeithasol.

    yn y gyfres

    Richard Wyn Jones (2013), ‘Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru’:

    Plaid Cymru a’r Cyhuddiad o Ffasgaeth

    Simon Brooks (2015), Pam na fu Cymru: Methiant

    Cenedlaetholdeb Cymraeg

    Llion Wigley (2019), Yr Anymwybod Cymreig: Freud, Dirfodaeth

    a’r Seice Cenedlaethol

    Gwennan Higham (2020)

    Creu Dinasyddiaeth i Gymru

    illustration

    Hawlfraint © Y Cyfranwyr, 2023

    Dyluniad y clawr: Olwen Fowler

    Llun y clawr: iStock

    Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, Cofrestrfa’r Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3NS

    www.gwasgprifysgolcymru.org

    Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.

    ISBN: 978-1-83772-028-6

    eISBN: 978-1-83772-030-9

    Datganwyd gan y Cyfranwyr eu hawl foesol i’w cydnabod yn awduron

    ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint,

    Dyluniadau a Phatentau 1988.

    Cydnabyddir cymorth ariannol Prifysgol Abertawe a

    Phrifysgol De Cymru ar gyfer y cyhoeddiad hwn.

    Nid cyfrifoldeb y cyhoeddwr yw hirhoedledd neu gywirdeb URL ar gyfer unrhyw wefannau allanol neu ryngrwyd trydydd-parti a gyfeirir atynt yn y cyhoeddiad hwn; ac ni all y cyhoeddwr warantu fod, nac y bydd, holl gynnwys y cyfryw wefannau yn parhau'n gywir neu'n addas.

    Cynnwys

    Rhagair

    1Dramodydd Datganoli: Sylwadau ar Lwyfannu Cenedl Anghyflawn

    Ian Rowlands

    2Plethu Diwylliannau Perfformio: Theatr Drawsddiwylliannol Gyfoes rhwng Cymru a Bryniau Casia

    Lisa Lewis

    3‘Pwy fuck yw’r werin datws erbyn hyn?’ Y Werin, y Genedl a’r Ddrama

    Dafydd Llewelyn

    4Menywod ar Lwyfan: Llais y Fenyw yn y Theatr Gymraeg

    Sharon Morgan

    5Iaith fel Arf, Iaith fel Allwedd: Cyfweliad gydag Aled Jones Williams a Sergi Belbel

    Hannah Sams a David George

    Y Cyfranwyr

    Nodiadau

    Rhagair

    Eironi o’r radd greulonaf oedd i mi lunio’r rhagair byr hwn ar gyfer cyfrol sy’n ymdrin ag agweddau o’r theatr Gymraeg mewn cyfnod pan oedd absenoldeb y theatr honno o lwyfannau’n gwlad yn drasiedi byw. Yn y rhagair gwreiddiol, ysgrifennais mai ‘gweithred o obaith yw’r gyfrol hon felly: y gobaith y daw ein hactorion, sydd wedi mudo i’r byd rhithiol am y tro, eto’n fyw ar lwyfannau’n gwlad, a phob gwlad, a bydd y theatr Gymraeg a Chymreig, unwaith yn rhagor, yn ddrych i’r genedl; er mor ddrylliedig y gall y drych hwnnw fod’. Mae ein theatr eto i adfer y tir a gollwyd ganddi yn sgil y pandemig, a hynny, yn rhannol, am fod ein theatrau wedi colli hyder yn eu natur ddirfodol. Gadewch i’r gyfrol hon atgyfnerthu a chanolbwyntio ymdrechion yr ecoleg theatr gyfan wrth iddi ymgryfhau gan sicrhau lle i’r theatr – er gwaetha twf y tribute bands bondigrybwyll – hawlio ei lle, unwaith yn rhagor ar lwyfannau ein gwlad.

    Man cychwyn y gyfrol hon oedd araith a draddodais dan wahoddiad Canolfan Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe yn 2017. Yn sgil y derbyniad ffafriol a gafwyd i ‘Notes on Being a Devolutionary Dramatist’, fe’m gwahoddwyd gan olygydd cyfres ‘Safbwyntiau’ i lunio cyfrol ar y thema ganolog, sef y galw am ail-radicaleiddio’r theatr Gymraeg a Chymreig er mwyn iddi fod yn ddrych go iawn i ddyhead y genedl ôl-ddatganoledig hon. Er mai braint oedd derbyn y gwahoddiad hwnnw, fy nghwestiwn i oedd a fyddai modd i mi guradu cyfrol a fyddai’n gorws o agweddau ar y theatr Gymraeg yn hytrach na pholemig unigolyn? Deialog yw drama, ys dywedodd Peter Szondi; lleisiau gwrthgyferbyniol gydag ystyr yn cael ei greu yn y gagendor rhyngddynt hwy. Fy ngobaith yw mai deialog yw’r gyfrol hon hefyd: yn gyntaf, ymysg y cyfranwyr o fewn ei chloriau hi ac yn ail, rhwng y gyfrol a’i darllenwyr. Er y cyfraniadau nodedig gan Hazel Walford Davies, Hywel Teifi Edwards, Anwen Jones, Roger Owen a Ioan Williams ymysg eraill, credaf ei fod yn deg dweud o hyd bod y cyfrolau a gyhoeddwyd ar y theatr gyfoes Gymraeg at ei gilydd – a gan wneuthurwyr yn benodol – o’i gymharu â’r swmp sydd wedi eu cyhoeddi gan ein chwaer-ddiwylliannau Celtaidd yn ddigon prin. Fy ngobaith yw mai ategiad at y corpws ac at y disgwrs annigonol parthed rôl theatr yn y Gymry gyfoes yw’r gyfrol hon.

    Am bron i ddwy ganrif bu’r egin genedl hon, cenedl ‘anghyflawn’ fy nheitl, wedi ei rhannu’n elfennol yn ddwy realaeth ieithyddol. Bellach, mae’r diwylliant Cymraeg ei iaith yn bodoli o fewn clytwaith o realaethau eraill yn y Gymru gyfoes. Ac eto, yr ‘iaith lydan’ yw prif ddynodydd Cymreictod o hyd i lawer, er i’r iaith fod yn un iaith ymysg nifer yn y genedl ymddangosiadol anfoddog hon. O ganlyniad, y Gymraeg yw prif thema’r gyfrol ynghyd â’r modd y mae mynegiannau perfformiadol Cymraeg (ac i raddau llai, Cymreig) yn ategu at synnwyr y genedl gyfan o’i hunaniaeth ac o’r heriau a fydd yn wynebu’r dramodydd wrth adlewyrchu’r Gymru hetrogonaidd a ddaw. Os oes neilltuolrwydd i’r gyfrol hon, yna mae’n deillio o’r ffaith mai gwneuthurwyr drama a theatr sydd yn cyfrannu iddi yn bennaf. Er y gobeithiaf bod Llwyfannu’r Genedl Anghyflawn yn gyfrol sydd yn cyrraedd safonau academaidd – a diolchaf i Daniel Williams am ei gymorth a’i gyngor yn hyn o beth – cyfrol sydd wedi ei gosod yn bwrpasol ar y ffin rhwng yr academaidd a’r ymarferol yw hon.

    Galwad i ail-radicaleiddio’r theatr yng Nghymru yw fy nghyfraniad innau, a’i harfogi yn erbyn y gwaddol ôl-drefedigaethol sydd yn ein llesteirio rhag cyd-ddyheu a chydweithredu er mwyn i’r genedl hawlio ei lle ar lwyfan y byd. Dyma oedd wrth wraidd yr araith a draethais yn Abertawe. Araith oedd honno yn seiliedig ar sylwadau’r dramodydd Cymreig, Tim Price, a fynnodd mai rhyddid (liberation) oedd datganoli; y rhyddid i ddramodwyr beidio â thrafod hunaniaeth ar lwyfan mwyach. Yn groes i’n cefndryd Celtaidd fe hunanffrwynodd ein theatr wedi 1997 wrth i’w gwneuthurwyr gredu bod y frwydr ar ben (noda Roger Owen sylw i’r perwyl yn ei gyfrol Ar Wasgar: Theatr a Chenedligrwydd 1979–1997). Mor hawdd yw dofi’r Cymry gyda briwsion pŵer; gweler S4C a’r Theatr Genedlaethol. Dyletswydd gwneuthurwyr Cymraeg a Chymreig, yn fy nhyb i, ac yn unol â rôl theatr yn yr Alban ôl-ddatganoledig yn benodol, yw dal ati i fynnu dyfodol gwell ar gyfer yr egin genedl hon trwy’n gweithredoedd perfformiadol gan fod y frwydr dros hunaniaeth ddirfodol y genedl yn dal i rygnu ymlaen.

    Trawsbeillio diwylliannol sydd wrth wraidd ysgrif Lisa Lewis, un sy’n seiliedig ar ei phrofiad o greu gwaith amlieithog, amlddiwylliannol ym Mryniau Casia yn yr India. Wrth wraidd ei phennod, mae’r tyndra rhwng yr ymwneud ‘rhyngddiwylliannol’ a’r ymwneud ‘trawsddiwylliannol’, a hynny mewn perthynas â Chymru: gwlad a gafodd gryn ddylanwad ar Gasia trwy ymroddiad cenhadon Cymraeg i’r cwr hwnnw o’r isgyfandir. Mae Lewis eisoes wedi ymhelaethu ar y pwnc yn ei hysgrif, ‘O’r Ddrama Gymdeithasol i’r Pasiant: Theatr yn y Gyfnewidfa Ddiwylliannol Rhwng Cymru a Gogledd-ddwyrain India’ (Gwerddon, Hydref 2019). Serch ‘dealltwriaeth gysefin’ y cenhadon Cymraeg o bobl Casi, ni all y Cymry wadu eu rôl yn y broses o goloneiddio pobloedd yr Ymerodraeth yn fasnachol ac yn feddyliol. Ac eto, endidau ôl-drefediagethol ydym, yn meddu ar ryw lun o annibyniaeth am ein bod yn dioddef o waddol gormes, ac yn meddu ar hanes o ormesu eraill yn enw’r Ymedodraeth yn ein tro. Maes ymchwil Lewis yw deinameg y paradocs hwnnw.

    Diddordeb Dafydd Llewelyn yw’r newid a fu o ran natur a swyddogaeth yr iaith Gymraeg ar lwyfannau’n gwlad yn sgil yr erydiad yn nefnydd y Gymraeg oddi mewn i’r dosbarth gweithiol yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Yn nhyb Llewelyn, y diweddar Meic Povey, etifedd W. S. Jones (Wil Sam), oedd dramodydd gwerinol olaf Cymru; welwn ni fyth mo’i fath eto am mai iaith y dosbarth canol yn bennaf yw’r Gymraeg bellach. Esgora hyn ar realaeth newydd a adlewyrchwyd ar ein llwyfannau wrth i wneuthurwyr addysgiedig gefnu ar y werin a throi’r theatr yn brofiad elitaidd, trefol. Dadl Llewelyn yw nad theatr y werin yw hi erbyn hyn, ond theatr y bwrgais. O ganlyniad, pa rôl sydd i’r theatr Gymraeg bellach wrth i’r bröydd a fu’n cynnal y Gymraeg edwino? Oherwydd oni cheir cymunedau a chymdeithas Gymraeg naturiol eu hiaith yna, pa swyddogaeth bydd i’r theatr Gymraeg? Sialens Llewelyn i’r theatr Gymraeg yw iddi fod o berthnasedd i’r fro ac i’r ddinas ill ddwy. Dibynna ei weledigaeth ar ail-normaleiddio’r Gymraeg ar lawr gwlad ac ar draws y dosbarthiadau cymdeithasol.

    Y gorgyffwrdd rhwng y disgwrs ôl-drefedigaethol a’r disgwrs ffeministaidd (intersectionality: bathiad Kimberlé Williams Crenshaw)1 sydd o ddiddordeb i’r actores a’r awdures Sharon Morgan. Er iddi siarad yn helaeth am anghydraddoldeb rhyweddol o fewn y theatr a’r gymdeithas Gymraeg ar y cyfryngau, a cheisio gwneud yn dda am hynny trwy ei gwaith ei hunan fel dramodydd, dyma’r tro cyntaf iddi geisio crisialu ei safbwynt wrth-batriarchaidd yn ffurfiol, a hynny trwy lens ei phrofiad personol. Croesholi’r gyfundrefn Gymraeg yw ei phrosiect a’r modd y mae’r gyfundrefn honno wedi ei hadlewyrchu o fewn ein theatr ac o ganlyniad yn atgynhyrchu’n berfformiadol y status quo; nid Saunders Lewis, Gwenlyn Parry ac Aled Jones Williams sy’n cynnig drych i’w Chymru hi. Mae’n archwilio’r rhesymau dros absenoldeb affwysol llais y fenyw ar ein llwyfannau ers dyfodiad y theatr broffesiynol yn 1965, a’r diffyg sylw dybryd i’r rhai hynny sydd wedi mentro. Yn nhyb Morgan, mae ‘canon’ y theatr Gymraeg eto i’w lunio; un a fydd yn cynnwys mynegiannau dramatig yr hanner honno o gymdeithas a fudwyd gan batriarchaeth. Ei gobaith yw ysgogi ymchwil pellach.

    Dramodydd sydd wedi gwreiddio yn ei fro yw Aled Jones Williams; dyn Herderaidd ei anian fel y noda yn ei gyfweliad â Hannah Sams. Trwy wrthgyferbynnu sylwadau Williams am ei grefft ac am fod yn ddramodydd Cymraeg â chyfweliad a gynhaliodd David George gyda Sergi Belbel (un o brif ddramodwyr Catalunya), mae Sams a George yn ymchwilio i’r tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng dau ddramodydd sy’n creu ar ‘ymylon’ eu cymdeithasau, er bod eu dramâu’n ganolog i fynegiant theatrig eu cenhedloedd. Er mai eu hieithoedd lleiafrifol sydd wrth wraidd hunaniaeth y ddau ddramodydd, maent yn meddu ar farn tra gwahanol o ran eu cynulleidfaoedd targed a chyfieithu eu dramâu. Medd Williams, fel un sydd o ddiwylliant lleiafrifol o fewn ei diriogaeth (h.y. lleiafrif o fewn lleiafrif): ‘Tydw i ddim yn siŵr am y cyfieithu. Mae rhan ohonof yn meddwl mai i Gymry Cymraeg eu hiaith yn unig yr wyf fi o ddefnydd’. Esgora agwedd ‘blwyfol’ o’r fath (hynny yw, yn ôl diffiniad Pascale Casanova o blwyfoldeb: diwylliant cenedlaethol sydd yn meddu ar gyfalaf diwylliannol gwan) ar ddiwylliant anweledig heb fawr ddim ymwybyddiaeth o’i bodolaeth ar lwyfan ryngwladol. Fel aelod o ddiwylliant ieithyddol lleiafrifol yn Sbaen, ond yn un sydd yn fwyafrifol yn ei thiriogeth ac sy’n meddu ar gyfalaf diwylliannol cryf, mae Belbel yn argyhoeddiedig fod ‘cyfieithu’n hanfodol’ i ‘ddiwylliant lleiafrifol fel ein diwylliant ni’ am ei fod yn fodd i gyfreithloni’r genedl yn rhyngwladol trwy ei mynegiannau diwylliannol. Trwy ddisgwrs mae tyfu, a hwyrach bod lle i alaru nad yw dramâu Williams yn hawlio eu lle yn y byd ac yn sgil hynny, yn codi stoc diwylliannol Cymru.

    Bu i lawer sôn dros y blynyddoedd am yr angen i fod yn optimistig am allu theatr i fod yn ffocws i ddyheadau cenedl, yn unol â damcaniaethau Schiller a Goethe yn y ddeunawfed ganrif. Ond a fu hynny erioed yn wir yng Nghymru? Heddiw mae gennym ni ddwy theatr genedlaethol, y ddwy o’r herwydd yn anghyflawn yn eu perthynas â’r genedl. Gellir dadlau fod y ddwy yn atgyfnerthu’n hollt mewnol yn hytrach na’i chyfannu (gweler fy sylwadau yn yr erthygl ‘Cenedl? Pa genedl?’)2 Gan dderbyn mai proses yw datganoli, ac felly nad oes diwedd i’r daith wleidyddol hyd yn oed y tu hwnt i unrhyw annibyniaeth arfaethedig, a oes lle i ddadlau fod angen i’r genedl fod yn endid homogonaidd cyn iddi allu gweithredu’n heterogonaidd yn ôl anian y Cymry newydd? At ei gilydd, mae cyfranwyr y gyfrol hon yn cydnabod yr angen hwnnw ac yn dyheu am theatr gyfoes – un llwyfan, sawl iaith – sydd yn adlewyrchu ein hunaniaethau ni yn y Gymru ôl-ddatganoledig. Cynigiaf mai rôl theatr yw ategu’r broses o lunio dyfodol gwell ar gyfer cenedl unedig sifig, gyda’r Gymraeg wrth ei gwraidd; theatr gynhwysol, theatr sy’n tarddu o gariad ac o gynddaredd, theatr berfformiadol a allai fod yn rhagflas o Gymru Fydd.

    Ian Rowlands

    Ebrill 2023

    1

    ‘Dramodydd Datganoli: Sylwadau ar Lwyfannu Cenedl Anghyflawn

    Ian Rowlands

    I

    Mewn erthygl yn y cylchrawn Planet a oedd yn trafod Devolved Voices – prosiect ymchwil ar ddylanwad datganoli ar feirdd a llenorion Cymreig – dyfynnwyd y dramodydd Tim Price. ‘Devolution,’ meddai ef, ‘liberated us artists from having to eternally interrogate what it means to be Welsh’. Gyda dyfodiad y Cynulliad – ‘an institution dedicated to that question’ – fe beidiodd hunaniaeth fod o bwys affwysol i artistiaid yng Nghymru: ‘It feels like Renaissance Italy when artists were finally allowed to stop painting Jesus’. Mae tri pheth yn fy niddori i am ei sylwadau. Yn gyntaf, fe’u mynegwyd gan Gymro alltud: nid wyf am farnu Price – sydd wedi ymgartrefu y tu hwnt i Glawdd Offa – am ei alltudiaeth fel y cyfryw, dim ond y parch mwyaf sydd gennyf tuag ato ef a’i waith.1 Y cysyniad o alltudiaeth sydd o ddiddordeb i mi: byw a bod ‘the safe side of distance,’ chwedl James Joyce a oedd, wrth gwrs, yn alltud enwog ei hun.2 Yn ail, defnydd Price o’r lluosog ‘ni’. Ac yn drydydd, natur ei fetaffor o ran eiconograffi. Yn y bennod hon, af ati i ystyried sylwadau Price a hynny o safbwynt un sy’n hawlio’r epithet ‘dramodydd datganoli’, hynny yw, dramodydd sydd, yn groes i Price, yn creu mewn perthynas â, ac a gafodd ei greu gan y ‘broses’.3

    Nid yw Price yn anarferol wrth iddo fynegi ei awydd i ryddhau

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1