Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300-1525
Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300-1525
Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300-1525
Ebook814 pages11 hours

Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300-1525

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Gwaith Beirdd yr Uchelwyr yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r bymthegfed oedd uchafbwynt traddodiad barddol Cymraeg yr Oesoedd Canol. Dyma ailargraffiad y gyfrol gyntaf i gynnig darlun cynhwysfawr ac awdurdodol o lenyddiaeth y cyfnod hwnnw yn ei holl agweddau. Rhoddir ystyriaeth fanwl i rai o gewri’r cywydd megis Dafydd ap Gwilym, Iolo Goch, Guto’r Glyn, Dafydd Nanmor, Lewys Glyn Cothi a Thudur Aled, a sonnir yn ogystal am lu o feirdd mawr a mân a’r tai lle caent groeso ar eu teithiau clera ar hyd a lled y wlad. Dyfynnir llawer o gerddi difyr, rhai ohonynt yn haeddiannol enwog ac eraill sy’n derbyn sylw yma am y tro cyntaf. Trafodir rhychwant eang o farddoniaeth, yn fawl a marwnad urddasol, yn ganu gofyn ffraeth, yn ganu crefyddol dwys, yn broffwydoliaethau gwleidyddol, yn ganu serch ac yn ganu dychan deifiol. Rhoddir cyfrif hefyd am y rhyddiaith amrywiol sy’n ddrych i ddiwylliant cyfoethog y cyfnod.
LanguageCymraeg
Release dateApr 15, 2014
ISBN9781783161379
Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300-1525

Related to Llên yr Uchelwyr

Related ebooks

Related categories

Reviews for Llên yr Uchelwyr

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Llên yr Uchelwyr - Dafydd Johnston

    Liên yr Uchelwyr:

    Hanes Beimiadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300—1525

    Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525

    DAFYDD JOHNSTON

    Cyhoeddwyd ar ran Pwyllgor Iaith a Llên

    Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru

    GWASG PRIFYSGOL CYMRU

    CAERDYDD

    © Dafydd Johnston, 2005

    Ail Argraffiad 2014

    Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, Maes Brigantîn, Caerdydd, CF10 4UP.

    Gwefan: www.gwasgprifysgolcymru.org

    ISBN 978-1-7831-6052-5

    eISBN 978-1-78316-137-9

    Mae cofnod catalogi’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.

    Datganwyd gan Dafydd Johnston ei hawl foesol i gael ei gydnabod yn awdur y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 o’r Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.

    Er cof am Siân

    Cynnwys

    Rhagair

    Rhagair i’r Ail Argraffiad

    Rhagymadrodd

    Byrfoddau

    1 Y Cefndir Hanesyddol

    2 Y Gyfundrefn Farddol

    3 Parhad Traddodiad yr Awdl a’r Englyn

    4 Y Cywydd

    5 Dafydd ap Gwilym

    6 Canu Serch y Cywyddwyr Cynnar

    7 Canu Mawl y Cywyddwyr Cynnar

    8 Y Canu Crefyddol

    9 Beirdd y Bymthegfed Ganrif

    10 Genres a Chonfensiynau 1: Y Canu Mawl

    11 Genres a Chonfensiynau 2: Canu Serch y Bymthegfed Ganrif

    12 Proffwydoliaeth a Phropaganda

    13 Dychan ac Ymryson

    14 Cyfnod y Tuduriaid

    15 Rhyddiaith

    Llyfryddiaeth

    Rhagair

    Hon yw’r gyfrol gyntaf i’w chyhoeddi mewn cyfres o dan y teitl cyffredinol ‘Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg’. Cynllun yr Academi Gymreig oedd hwn yn wreiddiol, ac rwy’n ddiolchgar iawn i olygyddion cyntaf y gyfres, yr Athro Emeritws R. Geraint Gruffydd a’r Athro Emeritws R. M. Jones, am y gwahoddiad i gyfrannu cyfrol, ac am eu cyngor a’u hanogaeth wrth i mi ei pharatoi. Mae arnaf ddyled i Ymddiriedolaeth Leverhulme a’r Academi Brydeinig am eu nawdd a’m rhyddhaodd am flwyddyn sabothol yn 1998–9 i gychwyn ar y gwaith, a hefyd i Fwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru am ariannu swydd cynorthwy-ydd ymchwil yn ystod y flwyddyn honno. Cefais gymorth defnyddiol iawn gan Ms Elin Humphreys, a braf oedd cael cydweithio â hi am flwyddyn. Cawsom fanteisio ar gyfleusterau ymchwil y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth yn ystod y flwyddyn honno, ac rwy’n ddiolchgar i’r Athro Geraint Jenkins a’i staff am bob cymwynas. Fel y gwelir yn eglur o’r cyfeiriadau niferus ar hyd y gyfrol hon, mae prosiect Beirdd yr Uchelwyr y Ganolfan wedi taflu llawer o oleuni newydd ar farddoniaeth y cyfnod yn y blynyddoedd diwethaf, ac rwy’n ddyledus i ymchwilwyr y prosiect, ac yn enwedig i Dr Ann Parry Owen, am eu parodrwydd i rannu’u gwybodaeth â mi. Darllenwyd drafft o’r llyfr hwn gan olygyddion cyntaf y gyfres, gan yr Athro Gwyn Thomas (sydd bellach yn gydolygydd gyda mi ar y gyfres) a chan ddarllenydd ar ran y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, ac fe ddarllenwyd penodau gan ddau o’m cydweithwyr yn Abertawe, Dr Christine James a Dr Cynfael Lake. Mae’r gwaith yn lanach ac yn fwy cytbwys oherwydd eu sylwadau manwl a chraff, ond afraid dweud mai myfi piau bob amryfusedd a phob rhagfarn a erys.

    Carwn ddiolch i Bwyllgor Iaith a Llên y Bwrdd Gwybodau Celtaidd am noddi’r gyfrol hon, ac i Nia Peris ac Elin Lewis o Wasg Prifysgol Cymru am eu gwaith gofalus. Fy nyled fwyaf yw’r un ddifesur i’m teulu am eu cariad a’u hamynedd maith dros yr amser y bu’r gwaith hwn ar y gweill, ac yn enwedig i’m gwraig Siân am ei chefnogaeth ddiwyro.

    Rhagair i’r Ail Argraffiad

    Wrth baratoi’r argraffiad newydd hwn, manteisiais ar y cyfle i gywiro rhai mân wallau, ac i ddiweddaru’r llyfryddiaeth. Cyhoeddwyd nifer o destunau newydd yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae’r golygiadau electronig o gerddi Dafydd ap Gwilym a Guto’r Glyn yn gam mawr ymlaen o ran yr adnoddau sydd ar gael i astudio barddoniaeth y cyfnod hwn. Rwy’n ddiolchgar iawn i Wasg Prifysgol Cymru am eu parodrwydd i gyhoeddi’r gwaith mewn argraffiad clawr meddal.

    Rhagymadrodd

    Ystyrir yr Oesoedd Canol diweddar yn oes aur y traddodiad barddol Cymraeg. Yn ystod y ddwy ganrif rhwng y Goncwest Edwardaidd a chyfnod y Tuduriaid cyrhaeddodd celfyddyd cerdd dafod uchafbwynt ei datblygiad, a sefydlwyd safonau o ran iaith a chrefft sydd wedi parhau i raddau helaeth hyd heddiw. Ar un olwg mae elfen o baradocs yn perthyn i’r blodeuo hwn yn dilyn colli annibyniaeth y Tywysogion, ond efallai mai ymgais i arddel hunaniaeth ddiwylliannol yn wyneb y colledion gwleidyddol oedd sylfaen a chuddiad cryfder yr adfywiad llenyddol. Yn sicr, roedd cyfraniad dosbarth yr uchelwyr yn hanfodol i’r ffyniant, nid yn unig fel noddwyr materol, ond hefyd fel cynulleidfa ddeallus, casglwyr gwybodus a hyd yn oed fel awduron.

    Yn wahanol i’r cyfnod cynharach, ac yn enwedig y ddeuddegfed ganrif pan oedd barddoniaeth a rhyddiaith yn ddau gyfrwng llewyrchus ochr yn ochr â’i gilydd, roedd llawer mwy o lewyrch ar farddoniaeth nag ar ryddiaith yn yr Oesoedd Canol diweddar, a barnu yn ôl chwaeth lenyddol fodern o leiaf. Yr hyn sydd ar goll o’r rhyddiaith yn ein golwg ni yw’r chwedloniaeth ddychmygus a geid yn gyfoethog iawn yn y canrifoedd blaenorol. Ar y llaw arall fe gafwyd gweithgarwch newydd o ran cyfieithu storïau o’r Ffrangeg, ac o ran rhyddiaith ymarferol, yn enwedig gweithiau crefyddol, a llawer o’r rheini wedi’u cyfieithu o’r Lladin. Mae ysgolheictod Cymraeg wedi arfer ymdrin â barddoniaeth a rhyddiaith yr Oesoedd Canol yn gyfan gwbl ar wahân i’w gilydd, ond mewn gwirionedd perthynent i’r un diwylliant llenyddol. Er mai hanes barddoniaeth yw prif bwnc y gyfrol hon, felly, gwneir ymgais i gyfannu’r darlun yn y bennod olaf.

    Y mae gwedd Ewropeaidd llenyddiaeth Cymru yn amlycach ym maes rhyddiaith nag ym maes barddoniaeth yn yr Oesoedd Canol diweddar. Yr unig faes lle y ceid traddodiad rhyddiaith hollol frodorol oedd y gyfraith; ym mhob maes arall llywodraethai dysg a ffasiynau rhyngwladol, a hyd yn oed yn achos chwedlau am arwr mawr y Cymry, y brenin Arthur, drwy ddylanwad y Normaniaid y deuai’r deunydd yn bennaf erbyn y cyfnod hwn. Deublyg oedd y berthynas â llenyddiaeth Ewrop yn achos y farddoniaeth, a pheth ohoni’n perthyn i’r brif ffrwd ond agweddau eraill yn ymylol, er nad yn gwbl unigryw. Y brif ffactor a oedd yn gyfrifol am arwahanedd barddoniaeth Gymraeg oedd y gyfundrefn farddol broffesiynol a drafodir ym mhennod 2. Er bod beirdd llys wedi bodoli yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop yn yr Oesoedd Canol cynnar, erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg dim ond mewn gwledydd ymylol megis Cymru, Iwerddon a Gwlad yr Iâ y parhâi’r ddefod hynafol o foli arglwydd ar gân i fod yn fath pwysig o lenyddiaeth. Y mathau ffasiynol yng ngwledydd y Cyfandir, a Lloegr yn eu sgil, oedd cerddi naratif arwrol fel y chansons de geste am Siarlymaen (a droswyd i ryddiaith yn y Gymraeg), athroniaeth foesol fel cerddi hir Chaucer a Langland a thelynegion serch a chrefydd. Roedd gwerthoedd cymdeithasol y canu mawl Cymraeg yn rhai cyffredin i holl wledydd Cred, a gellir yn hawdd gyffelybu’r darluniau o gartrefi’r uchelwyr â’r hyn a wyddys am sgwieriaid Lloegr yn yr un cyfnod, ond fel genre llenyddol nid oedd y canu mawl yn rhan o’r brif ffrwd Ewropeaidd.

    Mae’r un peth yn wir am fathau eraill o gerddi a oedd yn gysylltiedig â’r canu mawl, sef marwnad, gofyn a diolch, a’r dychan a oedd yn wrthwyneb i foliant. Yn sylfaen i’r rhain yr oedd defodau cymdeithasol a fuasai’n gyffredin i holl lysoedd Ewrop ers y cyfnod cynnar, o ran bendithio’r marw, anrhegu’n arwydd o ewyllys da a melltithio gelynion. Roedd olion o’r defodau hyn i’w gweld o hyd mewn llenyddiaethau eraill, ond camp beirdd Cymru oedd eu troi yn ddeunydd cerddi arbennig. Trwy ystyried hanes genres fel y farwnad a’r canu gofyn gellir gweld bod barddoniaeth Gymraeg yn yr Oesoedd Canol diweddar yn datblygu yn ei ffordd ei hun ac, er yn hynafol, yn bell o fod yn aros yn ei hunfan.

    Ar y llaw arall, mewn rhai meysydd yr oedd barddoniaeth Gymraeg yn debyg iawn i’r hyn a geid mewn ieithoedd eraill. Fel y ceir gweld ym mhennod 8, y canu crefyddol telynegol a ysgogwyd gan ddylanwad urddau rhyngwladol y Brodyr-bregethwyr a ddengys y berthynas amlycaf â llenyddiaethau eraill. Roedd y cerddi mawl ffurfiol i Dduw yn perthyn yn hytrach i draddodiad y beirdd llys brodorol. Mae’r un peth yn wir am y rhieingerddi ym maes y canu serch, a oedd yn fawl i ferched bonheddig, ond yma hefyd gwelir dylanwadau estron ar y cerddi mwy telynegol. Mae lle i gredu bod yr agwedd addolgar tuag at ferched sy’n nodweddu serch cwrtais trwy wledydd Ewrop wedi datblygu yn annibynnol yng Nghymru mor gynnar â’r ddeuddegfed ganrif oherwydd amgylchiadau tebyg yn y llysoedd, ac os felly gellir ystyried hyn yn draddodiad brodorol. Ond, yn sicr, erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg deuai dylanwadau uniongyrchol o Ffrainc a Lloegr i mewn i Gymru, a gwelir Dafydd ap Gwilym a’i gyfoeswyr yn defnyddio motiffau a genres rhyngwladol yn greadigol iawn.

    Un gwahaniaeth mawr rhwng barddoniaeth Gymraeg a’r hyn a geid mewn ieithoedd eraill yn yr Oesoedd Canol yw’r elfen o addurn seiniol, sef yr hyn a elwir yn gyffredin yn grefft. O ran nifer ac ansawdd ei mesurau roedd barddoniaeth Gymraeg mor gywrain ag unrhyw farddoniaeth yn Ewrop, ond y gynghanedd yn anad dim sy’n ei gwneud yn unigryw. Yr unig beth cyffelyb yn Saesneg yw’r canu cyflythrennol, traddodiad Hen Saesneg a ddaeth i’r amlwg o’r newydd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, ond amrwd a thrwsgl yw hwnnw o’i gymharu â chelfyddyd y gynghanedd. Fe geid celfyddyd yr un mor gymhleth, er yn hollol wahanol, yng ngherdd dafod Iwerddon, a diau fod prentisiaeth hir beirdd proffesiynol y ddwy wlad yn fodd i feithrin y fath gywreinrwydd.

    Barddoniaeth glasurol oedd hon yn yr ystyr ei bod yn seiliedig ar reolau a ddeilliai o gerddi’r gorffennol y disgwylid i feirdd ifainc eu meistroli. Roedd traddodiadaeth geidwadol yn sicr yn nodwedd ar rywfaint o’r farddoniaeth am y rheswm hwnnw, ond eto nid celfyddyd ddigyfnewid ac amhersonol oedd cerdd dafod yr Oesoedd Canol. Er bod gwreiddiau’r gynghanedd yn yr hengerdd, Beirdd yr Uchelwyr a’i sefydlodd yn gyfundrefn reolaidd, ac fe barhaodd dulliau cynganeddu i ddatblygu tan yr unfed ganrif ar bymtheg. Ac er bod y mesurau a’r gynghanedd mor gaeth, yr oeddent yn ddigon hyblyg yn nwylo’r bardd medrus, a gellid arfer amryw arddulliau gan barchu’r un rheolau. Mae modd gwahaniaethu, felly, rhwng y cenedlaethau o fewn cyfnod y Cywyddwyr, fel y dangosir ym mhennod 4, ac mae modd adnabod lleisiau digamsyniol y meistri. Yn wahanol iawn i lenyddiaeth Saesneg ganoloesol, a oedd yn ddienw yn amlach na pheidio, priodoli i awduron penodol oedd y norm ym maes barddoniaeth Gymraeg, er nad ym maes rhyddiaith.

    Cynlluniwyd y gyfrol hon yn rhannol er mwyn amlygu’r datblygiadau dros amser, gan ganolbwyntio ar dri chyfnod yn fras, sef y cyfnod o groestynnu yn y bedwaredd ganrif ar ddeg pan gydoesai ceidwadaeth y Gogynfeirdd diweddar (pennod 3) a dyfeisgarwch y Cywyddwyr cynnar (penodau 5, 6 a 7), y ffyniant mawr yng nghanol y bymthegfed ganrif (pennod 9) ac uchafbwynt datblygiad y gelfyddyd yn oes y Tuduriaid cynnar (pennod 14). Gan mai yn y bymthegfed ganrif yr ymsefydlogodd y prif genres ar ôl arloesi’r ganrif flaenorol, neilltuir dwy bennod i’r genres hynny gan dynnu ar esiamplau o waith beirdd y cyfnod hwnnw. Yn y bymthegfed ganrif hefyd y daeth y canu gwleidyddol i’w anterth gyda’r cywyddau brud a hyrwyddai achos y Tuduriaid, fel y gwelir ym mhennod 12. Mae athrylith unigryw Dafydd ap Gwilym yn hawlio pennod iddo ar ei ben ei hun, ond ymdrinnir â beirdd mawr eraill fel Iolo Goch, Guto’r Glyn, Lewys Glyn Cothi a Thudur Aled o fewn eu priod gyfnodau, ochr yn ochr â llu o feirdd llai adnabyddus. Rhyfygus fuasai honni bod yr astudiaeth hon yn hollgynhwysfawr, ond amcanwyd at roi cyfrif o leiaf am bob bardd a llenor hysbys.

    Mae perygl mewn astudiaeth hanesyddol fod pawb a phopeth yn cael eu gweld yn nodweddiadol o ryw gyfnod ac yn gam tuag at rywbeth arall, gan golli golwg ar werth llenyddol gweithiau unigol ynddynt eu hunain. Ymgais i wneud iawn am y gwendid anochel hwnnw yw’r trafodaethau manwl ar rai o gerddi mawr y cyfnod megis marwnad Llywelyn Goch i Leucu Llwyd, cywydd cymod Tudur Aled, marwnad Lewys Glyn Cothi i’w fab bach a chywydd deifiol Siôn Cent ar bwnc gwagedd y byd, ac ambell ddarn grymus o ryddiaith yn ogystal. Er yn perthyn i gyd-destun hanesyddol arbennig, gall y rhain lefaru’n groyw wrthym ar draws y canrifoedd, ac o ganolbwyntio arnynt gobeithir agor drysau ar lawer o weithiau llai adnabyddus a ddengys rai o’r un rhinweddau. Dim ond felly y deuir i iawn werthfawrogi paham yr ystyrir hwn yn un o’r cyfnodau cyfoethocaf yn hanes ein llên.

    Byrfoddau

    PENNOD 1

    Y Cefndir Hanesyddol

    Roedd y cyfnod dan sylw yn y gyfrol hon yn un o drawsnewid mawr ac yn un o’r rhai mwyaf cymhleth yn hanes Cymru.¹ Yn y bôn, y trawsnewid o’r byd canoloesol i’r byd modern yw hwn, ac mae iddo sawl gwedd wahanol, yn wleidyddol, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. O ran hanes gwleidyddol y wlad mae’r cyfnod wedi’i fframio’n glir yn ei ddau ben gan y Goncwest Edwardaidd a roes ddiwedd ar oes y Tywysogion annibynnol yn y 1280au a’r Deddfau Uno a gwblhaodd y broses o gymathu â Lloegr yn y 1530au. Yn y cyfamser roedd sefyllfa Cymru’n amwys iawn, a hithau’n drefedigaeth wedi’i choncweru ac eto’n cadw ei harwahanrwydd, ac felly’n llawn deuoliaethau a chroestynnu. Daeth y tyndra i uchafbwynt ar ddechrau’r bymthegfed ganrif pan gododd Owain Glyndŵr mewn gwrthryfel sydd fel petai’n crynhoi holl gymhlethdodau a gwrthdrawiadau’r oes.²

    Gwlad ranedig yn ei hanfod oedd Cymru cyn y goncwest, ac ni wnaeth y drefn weinyddol newydd ond parhau’r hen raniadau. Yn y lle cyntaf roedd rhaniad sylfaenol rhwng y Mers yn y dwyrain a’r de ar y naill law a’r ardaloedd gorllewinol dan awdurdod uniongyrchol y Goron ar y llall. Daliai’r Mers i fod yn glytwaith dyrys o arglwyddiaethau mawr a mân, annibynnol mwy neu lai. Er bod trefn sirol Seisnig wedi’i gosod ar dywysogaethau Gwynedd a Deheubarth trwy greu siroedd y Fflint, Caernarfon, Môn, Meirionnydd, Caerfyrddin ac Aberteifi, daliai’r hen gymydau i fod yn unedau pwysig ar gyfer gweinyddu llywodraeth leol.

    Roedd diffyg unoliaeth Cymru wedi’i ddwysáu gan anawsterau teithio, heb ffyrdd da na phontydd dros yr afonydd. Serch hynny, byddai digon o fynd a dod ar hyd y wlad, pa un ai o raid neu o ddewis, gan borthmyn a gweithwyr amaethyddol, gan filwyr wedi ymrestru mewn byddinoedd ar fynd i’r Alban neu i Ffrainc a chan bererinion ar eu ffordd i gyrchfannau brodorol fel Tyddewi neu Ffynnon Gwenfrewy, a rhai a fentrai ar fordeithiau peryglus i Santiago de Compostella, i Rufain ac i Gaersalem. Ni cheid teithwyr mwy dyfal na beirdd Cymru, ac ar eu cylchoedd clera cyflawnent swyddogaeth bwysig trwy fynd â newyddion o ardal i ardal a thrwy gynnal ymwybyddiaeth genedlaethol er gwaetha’r rhaniadau.

    Mwy nag mewn unrhyw gyfnod arall yn ei hanes, roedd llenyddiaeth yn ffactor a unai Gymru gyfan yn yr Oesoedd Canol diweddar, a diau bod hyn yn deillio o angen dwfn am hunaniaeth ddiwylliannol a wnâi iawn am ddiffygion gwleidyddol. Roedd llawn cymaint o gyfle i’r beirdd glera yn ardaloedd y dwyrain ag yn y gorllewin, ac mae tystiolaeth bod yr iaith Gymraeg ar gynnydd ac yn lledu ei thiriogaeth yn y Gororau.³ Am y tro olaf yn ei hanes bu Gwent yn ganolbwynt i lenyddiaeth Gymraeg am ysbaid tua chanol y bymthegfed ganrif, nid yn unig o ran canolfannau nawdd ond hefyd trwy arwain y ffordd wrth ddefnyddio ysgrifen i gadw barddoniaeth gyfoes.

    Y newid mwyaf i dirlun Cymru yn sgil y goncwest oedd twf y trefi o gwmpas y cestyll newydd. Nid oedd bywyd trefol yn ddieithr i’r Cymry cyn hynny, ond ar ôl 1282 cafwyd polisi bwriadol o sefydlu trefedigaethau Seisnig â breintiau masnachol, gan greu gelyniaeth ddofn rhwng eu bwrdeisiaid a Chymry’r wlad o’u hamgylch (rhai ohonynt, fel teulu Iolo Goch, wedi colli eu tiroedd etifeddol i wneud lle i’r mewnfudwyr). Ac eto mae perygl gorliwio effaith negyddol y trefi. Er bod rhai trefi castellog allweddol fel Caernarfon, Conwy a Biwmares yn hollol anghymreig ac yn symbolau amlwg o orthrwm, roedd eraill yn fwy cymysg eu poblogaeth, fel Rhuthun ac Aberystwyth a hen drefi Normanaidd fel Caerfyrddin. Ac er bod Gruffudd ab Adda wedi mynegi atgasedd tuag at Lanidloes, y ‘dref o gyfnewid rwydd’, a bod Dafydd ap Gwilym wedi ymddiofrydu rhag mynd i ‘drefydd drwg’, mae’n amlwg bod y beirdd wedi cael cynulleidfaoedd parod yn y trefi, fel y dengys cywydd mawl Dafydd ei hun i Niwbwrch ym Môn, ac yn nes ymlaen rai Guto’r Glyn a Thudur Aled i Groesoswallt.⁴ Cofier hefyd fod yr iaith Gymraeg yn ddigon grymus yn y cyfnod hwn i gymathu mewnfudwyr a ymsefydlodd ar ystadau yng nghysgod y trefi, fel Salsbrïaid Lleweni yn Nyffryn Clwyd a ddaeth yn noddwyr blaenllaw i’r beirdd.

    Gwedd bwysig arall ar hunaniaeth y Cymry oedd eu harferion cyfreithiol, ac yma eto cafwyd newidiadau a chymhlethdodau mawr rhwng y goncwest a’r Deddfau Uno. Mynnodd Edward I weithredu cyfraith droseddol Lloegr mewn achosion o ladd, lladrata a llosgi, gan wneud y troseddwr yn atebol fel unigolyn i’r wladwriaeth, yn hytrach nag fel aelod o dylwyth i dylwyth arall. Cafwyd cwyn angerddol ynghylch anwarineb Cyfraith Loegr gan Ddafydd ab Edmwnd yn ei farwnad i’r telynor Siôn Eos a ddienyddiwyd am lofruddiaeth. Petasai’r achos wedi digwydd mewn man arall yn y Mers gallasai Siôn gael ei drin yn drugarocach dan Gyfraith Hywel. Yng Ngwynedd y dilewyd y gyfraith frodorol yn drylwyraf, a theimlai’r Cymry eu bod wedi’u hamddifadu o’u hawliau cynhenid dan orthrwm cyfraith estron.

    Ar y llaw arall, cafodd Cyfraith Hywel barhau ar gyfer materion yn ymwneud â thir mewn rhai ardaloedd, yn enwedig yn siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi, lle defnyddid llyfrau cyfraith Cymraeg tan ddiwedd y bymthegfed ganrif. Ar un olwg roedd hyn yn cynnal hunaniaeth ddiwylliannol, ac fe geir gwŷr llengar fel Rhydderch ab Ieuan Llwyd yn gweithredu fel ‘dosbarthwyr’. Ond nid oedd arferion y gyfraith frodorol wrth fodd y boneddigion bob amser, oherwydd er bod cyfran yn sicrhau tegwch o fewn y tylwyth trwy rannu’r etifeddiaeth yn gyfartal, yr oedd yn rhwystr rhag crynhoi ystad fawr. Llawer mwy manteisiol i deuluoedd ar gynnydd oedd arfer Cyfraith Loegr, sef cyntafanedigaeth, ac fe lwyddodd nifer o deuluoedd uchelwrol i gael y fraint o etifeddu tir yn ôl y dull Seisnig er mwyn osgoi darnio’r ystad ym mhob cenhedlaeth. Ni chaniatâi Cyfraith Hywel brynu a gwerthu tir ychwaith, ond manteisiwyd yn helaeth ar yr arfer a elwid yn ‘brid’, sef prydles hir, er mwyn ychwanegu at ystadau, yn enwedig yn sgil y pla pan oedd llawer o dir ar gael oherwydd diboblogi.

    Fe welir bod effaith y goncwest ar y Cymry wedi amrywio yn ôl dosbarth. Yn ddiamau, cafodd effaith lem iawn ar y taeogion, rhai heb dir etifeddol a lethid gan drethi ariannol newydd. Dirmygus ar y cyfan yw’r ychydig gyfeiriadau sydd at y werin gyffredin yn llenyddiaeth hynod annemocrataidd y cyfnod. Er bod moliant Iolo Goch i’r llafurwr yn eithriad ymddangosiadol, cymhelliad ceidwadol oedd iddo yn y bôn wrth annog y llafurwr i gyflawni ei ddyletswydd i’r gymdeithas a derbyn ei le isel yn ddirwgnach, yn union fel y ‘caith’ delfrydol ar ystad Owain Glyndŵr yn Sycharth. Ond i’r gwŷr rhydd hynny a oedd yn abl i fanteisio ar eu cyfle gallai effeithiau’r goncwest fod yn fendithiol. Buasai safle a dylanwad y dosbarth hwn ar gynnydd dan y tywysogion, ac mae’n amlwg bod llawer ohonynt yn ddigon parod i gydweithredu â’r drefn newydd er eu lles eu hunain, gan orthrymu’u cydwladwyr fel swyddogion ar ran arglwyddi estron. Un o gymhlethdodau mwyaf diddorol y cyfnod hwn yw teyrngarwch deublyg y gwŷr hyn sydd mor nodweddiadol o sefyllfa ôldrefedigaethol, y gwrthdaro rhwng eu cefnogaeth i lywodraeth estron a’u hymlyniad i’r diwylliant Cymraeg a gadwai’n fyw ryw ddelfryd o hunaniaeth arwahanol.

    ‘Uchelwr’ yw’r term arferol am aelod o’r dosbarth hwn, ond fe geir ambell esiampl o’r hen air deheuol ‘breyr’ yn y farddoniaeth hefyd.⁶ Nodwedd ddiffiniol yr uchelwyr oedd eu tras fonheddig, ac yn sgil honno eu tir etifeddol. Roedd rhai yn ddisgynyddion i’r hen dywysogion, fel ‘barwniaid’ Edeirnion, ond ni fyddai bonedd ynddo’i hun yn gwarantu statws a llwyddiant. Tir oedd sail ffyniant yr uchelwyr gyda’r gwelliant mewn dulliau o amaethu, ac yn enwedig llewyrch y fasnach wlân. Ond roedd rhychwant y dosbarth yn eang, yn ymestyn o ffermwyr di-nod i foneddigion ag ystadau sylweddol iawn. Wrth i deuluoedd gefnu ar gyfran a chrynhoi’r etifeddiaeth ym meddiant un gangen cyfyngwyd yn raddol ar rychwant y dosbarth, ond ni ddaeth y duedd honno i’r amlwg tan gyfnod y Tuduriaid. Yn y bymthegfed ganrif roedd y mân uchelwyr yn ddosbarth lluosog iawn wedi’u cydgysylltu trwy garennydd a phriodas yn rhwydweithiau cymdeithasol clòs a oedd yn hanfodol i ffyniant cyfundrefn y beirdd. Fe ddichon mai dathlu’r undod teuluol a ddeilliai o egwyddor cyfran oedd ergyd rhai o’r cerddi mawl niferus i frodyr o amser Iolo Goch ymlaen.

    Ei dŷ oedd yr arwydd gweledol o statws uchelwr a chanolbwynt ei fywyd cymdeithasol.⁷ Roedd yr Oesoedd Canol diweddar yn gyfnod o adeiladu prysur ac uchelgeisiol, ac wrth gwrs fe efelychwyd pensaernïaeth hynod y cestyll a’r eglwysi, yn ogystal â ffasiynau Lloegr. Gyda’r ffyniant economaidd daeth mwy o gysur i’r neuaddau, pethau a fuasai’n rhyfeddodau gynt fel ffenestri gwydr a simnai i fynd â’r mwg allan. Datblygiad a effeithiodd yn ddirfawr ar arferion cymdeithasol yn y pen draw oedd preifatrwydd, gydag ystafelloedd cysgu ar wahân i’r teulu a’u prif westeion, ond ar y cyfan yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r rhan fwyaf o’r bymthegfed byw a bod gyda’i gilydd drwy’r trwch a wnâi holl drigolion y tŷ.

    Byddai maint ac ansawdd tai’r uchelwyr yn amrywio’n ôl eu cyfoeth, a hefyd yn ôl arferion ardaloedd. Tai pren a geid yn bennaf yn y dwyrain, a thai cerrig llai o faint gan amlaf yn y gorllewin. Mae Tre’rtŵr, cartref cangen o deulu’r Fychaniaid ger y Fenni, yn rhoi syniad i ni o safonau pensaernïaeth a chrefft wych seiri coed y bymthegfed ganrif, ond rhaid cofio mai plasty anghyffredin o helaeth oedd hwnnw. Byddai llawer o gartrefi eraill yn debycach i ffermdai gweddol o faint. Efallai fod disgrifiadau gormodieithol y beirdd braidd yn gamarweiniol yn hyn o beth; mae’r enwocaf ohonynt, gan Iolo Goch am neuadd Owain Glyndŵr, yn rhoi argraff o dŷ llawer mwy nag a geid mewn gwirionedd ar ben tomen Sycharth.

    Beth bynnag oedd maint y tŷ, yr un fyddai’r delfryd cynhaliol, delfryd a grynhoir gan y term perchentyaeth. Nid delfryd neilltuol o Gymreig oedd hwn; roedd yn gyffredin drwy Ewrop, ac mae’n cyfateb i’r term Saesneg householdership.⁸ Y radd gyfatebol i’r uchelwr yn Lloegr oedd y franklin, ac mae portread Chaucer o’r cymeriad hwnnw yn Chwedlau Caergaint yn hynod o debyg i ganu mawl Beirdd yr Uchelwyr – heblaw am y tinc eironig sy’n tanseilio’i uchelgais cymdeithasol. Dyma’r darn yn nhrosiad Bryan Martin Davies:

    Ac yn ei gwmni, gwelais Ffranclin glân,

    Mor wyn â llygad y dydd ei farf achlân.

    Ei wyneb oedd yn borffor, fel ei fin.

    I frecwast, hoffai damaid gwlych mewn gwin.

    Fe lanwai hwn ei fywyd â mwynhad

    Fel petai Epiciwrws iddo’n dad.

    Can’s yn ei farn, boddhad llwyr i’r synhwyrau

    A ddylai fod yn ddiben i’n bywydau.

    Pencampwr oedd mewn crefft o gadw tŷ,

    Sant Julian ei sir oedd ef i ffrindiau lu.

    Y bara a’r cwrw gorau un a gadwai

    Dim ond y gwinoedd drutaf un a brynai.

    Nid prin ei dŷ o ddigon basteiod

    Toreth o gigoedd a llawer iawn o bysgod,

    Fel petai bwyd a diod yn gawodydd,

    Fe gadwai yn ei dŷ ddanteithion beunydd,

    Yn ôl tymhorau’r flwyddyn fe newidiai

    Y cigoedd ar ei fwrdd, fel hyn swperai.

    Fe gadwai betris tew yn saff mewn cutiau,

    Y wrachen ddu, penhwyaid mawr mewn llynnau.

    Gwae’r cogydd os mai diflas saws goginiai,

    Neu os oedd ef heb baratoi fel dylai.

    Ac yn ei neuadd yn arlwy ar y byrddau

    Yr oedd bob amser wledd o flasus seigiau.

    Fel Ustus yn y llys ef a ddisgleiriai,

    Fel Aelod dros y Sir yn aml gweithredai.

    O’i wregys crogai dagr a phwrs bach sidan

    Wynned â llaeth y bore, lle cadwai ei arian.

    Bu’n siryf, bu hefyd yn gyfrifydd,

    Ni fu yn unman ddaliwr tir mor ufudd.

    Fe welir yma mor ganolog oedd ei dŷ i hunaniaeth yr uchelwr, a hwnnw’n dŷ agored i bawb yn ei ardal. Yno y câi ei weld yn mwynhau’r safon uchaf o foethau – ‘conspicuous consumption’ er mwyn profi ei fod yn fonheddwr o’r iawn ryw. Mae’n amlwg bod Chaucer yn feirniadol o fateroliaeth a hunan-dyb y gŵr, ond byddai’r beirdd Cymraeg yn gweld yr un arferion mewn goleuni mwy ffafriol, gan ddilyn egwyddorion yr hen ganu mawl arwrol. Fel y dengys dwy ystyr y gair hael, ‘generous’ a ‘noble’, roedd bonheddwr yn hael o ran ei natur, ac ni allai cybydd fod yn fonheddig. Roedd haelioni’n rhinwedd Gristnogol a gyflawnai’r ddyletswydd i roi elusen ac ymgeleddu’r anghenus. Roedd hefyd, wrth gwrs, yn arfer gymdeithasol ddoeth er mwyn cadarnhau teyrngarwch cefnogwyr. Cyfraniad y beirdd oedd cyhoeddi enw da’r uchelwr i’r byd, gan ledaenu trwy eu geiriau dystiolaeth weledol defodau’r llys.

    Y ddefod hynaf a mwyaf ystyrlon oedd y wledd yn y neuadd. Roedd y wledd yn symbol grymus o harmoni cymdeithasol yn ddibynnol ar ewyllys da meistr a meistres y tŷ. Dyma achlysur iddynt arddangos eu golud a’u chwaeth trwy ansawdd y lluniaeth amheuthun, ac ymhyfrydai beirdd y bymthegfed ganrif mewn rhestru’r bwydydd a’r gwinoedd. Roedd seremoni’r wledd hefyd yn gyfle ar gyfer defodau eraill megis anrhegu a datgan cerddi’r beirdd, ac felly byddai eu mawl fel petai’n dal drych i adlewyrchu’r achlysur.

    Yn yr hen ganu roedd y wledd yn rhan annatod o filwriaeth, yn gyfle i’r milwyr ymrwymo i’w harglwydd cyn y cyrch ac i gael eu gwobrwyo neu’u coffáu ar ei ôl. Er bod bywyd at ei gilydd yn fwy heddychlon erbyn cyfnod yr uchelwyr, nid oedd hen arwyddocâd y wledd wedi’i lwyr anghofio. Diddorol yw gweld Iolo Goch, yn ei gywydd mawl i Syr Hywel y Fwyall, yn darlunio’r olygfa wâr yn neuadd Castell Cricieth ac yna’n dwyn i gof gampau milwrol Syr Hywel a enillasai swydd warcheidiol cwnstabl y castell iddo, gan gloi trwy gynnig llwncdestun sy’n gwreiddio’r gerdd yn yr olygfa y mae wedi’i darlunio.¹⁰ Dwy ochr yr un geiniog oedd y gwâr a’r anwar – yn enwedig mewn castell.

    Rhyfela oedd raison d’être uchelwyr Cymru tan y goncwest, ac nid yw’n syndod felly fod brenin ac arglwyddi Lloegr wedi cael yng Nghymru gronfa barod o filwyr i’w byddinoedd am y ddwy ganrif nesaf. Gwladwriaeth imperialaidd yn manteisio ar bobl orchfygedig ei threfedigaeth gyntaf, yn ddiamau, ond roedd hyn yn gyfle arall i’r uchelwyr ymddyrchafu trwy wasanaeth, pa un ai ar faes y gad neu fel recriwtwyr ar ran y brenin.¹¹ Bu dau o ddisgynyddion Ednyfed Fychan, distain Llywelyn Fawr, yn ddiwyd yn y gwaith recriwtio, sef Syr Gruffudd Llwyd yn y gogledd yn y blynyddoedd ar ôl y goncwest ac yna ei nai, Syr Rhys ap Gruffudd, yn y de am y rhan fwyaf o hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg. Ym marwnad Syr Rhys yn 1356 dathlodd Iolo Goch ei wrhydri personol ym mrwydr Crécy yn ôl y traddodiad arwrol, ac mae’n debygol mai ar anogaeth Syr Rhys y canodd Iolo ei gywydd mawl i Edward III er mwyn darbwyllo’r Cymry fod y brenin yn teilyngu eu gwasanaeth milwrol.¹² Nid oedd llawer o waith darbwyllo arnynt, oherwydd dan y brenin rhyfelgar hwnnw a’i fab enwog, y Tywysog Du, cafodd Lloegr lwyddiant mawr yng nghyfnod cynnar y Rhyfel Canmlynedd, gydag uchafbwynt ym mrwydr Poitiers yn 1356 lle y gwnaeth Syr Hywel enw iddo’i hun â’i fwyall.

    Disgrifiodd Iolo’r brwydro yn Ffrainc a’r Alban yn fyw iawn, ac mae’n bosibl ei fod ef a rhai o’r beirdd eraill wedi gwasanaethu fel milwyr eu hunain, ond yr unig un y gwyddys yn bendant iddo fod gyda byddin yw Llywelyn Goch ap Meurig Hen yn 1346.¹³ Aros gartref a gobeithio y byddai’r Gŵr Eiddig yn boddi ar y fordaith a wnaeth Dafydd ap Gwilym!¹⁴ Fodd bynnag, roedd cerddi mawl y beirdd yn gyfrwng pwysig i ledaenu clod yr arwyr gartref, fel y dengys adroddiad manwl Iolo Goch am gampau Owain Glyndŵr yn yr Alban. Yn ystod yr ail gyfnod o lwyddiannau mawr i’r Saeson yn Ffrainc yn y bymthegfed ganrif mae cerddi Guto’r Glyn, fel ei fawl i’r capten enwog Mathau Goch yn enwedig, yn cyfleu ysbryd anturus milwriaeth.¹⁵

    Nid ar ran coron Lloegr yn unig y bu Cymry’n ymladd ar y cyfandir. Un a wasanaethodd frenin Ffrainc oedd Owain Lawgoch, yr olaf o linach tywysogion Gwynedd, ac fe lwyddodd i ddenu ychydig o Gymry ato yn ei ymgyrch i adennill ei dreftadaeth yn y 1370au.¹⁶ Un o’r rheini oedd Ieuan Wyn, ac awgryma’i lysenw, ‘le poursuivant d’amour’, fod delfrydau sifalrïaidd yn ogystal â dyheadau cenedlaethol yn gyrru’r anturiaethwyr hyn. Mae’n ffaith ogleisiol fod Ieuan Wyn yn fab i Rys ap Robert o Ginmel, un o ddisgynyddion Ednyfed Fychan, a bod gan Iolo Goch gywydd mawl i hwnnw yn cwyno am anghysuron mordaith.¹⁷ Ac mae awdl ddarogan i Owain Lawgoch gan Ruffudd ap Maredudd, bardd cangen arall o ddisgynyddion Ednyfed Fychan ym Mhenmynydd, yn brawf bod cefnogaeth iddo yng Ngwynedd.¹⁸

    Bu ymladd ffyrnig yng Nghymru yn ystod Gwrthryfel Owain Glyndŵr ar ddechrau’r bymthegfed ganrif, ond ychydig iawn o sôn sydd am hynny gan y beirdd. Y brwydro nesaf sydd o bwys fel pwnc yn y farddoniaeth yw’r helyntion maith a elwir yn Rhyfeloedd y Rhosynnau.¹⁹ Rhyfel cartref rhwng pendefigion Lloegr oedd hwn mewn gwirionedd, ac ni fu fawr ddim ymladd ar dir Cymru. Ond fe wnaeth yr uchelwyr a’u dilynwyr gyfraniad mawr yn sgil cysylltiadau Cymreig y ddwy blaid, ac fe lwyddodd rhai i elwa ar hynny, dros dro o leiaf. Plaid Lancastr a gafodd y gefnogaeth fwyaf oherwydd teyrngarwch i’r Tuduriaid, yn enwedig wrth i’w hymgyrch fagu nerth yn y blynyddoedd cyn brwydr Bosworth yn 1485. Ond roedd digon o Gymry’n bleidiol i achos yr Iorciaid hefyd yn ystod teyrnasiad Edward IV, a beirdd fel Guto’r Glyn yn barod i olrhain tras Gymreig y brenin trwy’r Mortimeriaid i Wladus Ddu. Mae’n debyg mai rhyfel cartref yw’r math mwyaf chwerw o ryfel, ac fel y gellid disgwyl mae’r darlun o’r brwydro hwn yn llawer llai arwrol a rhamantus nag yn y cerddi am y rhyfela yn Ffrainc. Y frwydr fwyaf trychinebus i Gymru oedd un Banbri yn 1469 pan laddwyd nifer o gefnogwyr blaenllaw plaid Iorc, ac yn rhai o’r cerddi yn ymateb i’r drychineb y ceir y darlun mwyaf realistig o ddryswch dychrynllyd brwydr ganoloesol.²⁰

    Mewn egwyddor, diben grym milwrol y bendefigaeth mewn gwladwriaeth Gristnogol oedd amddiffyn y diriogaeth a’i phobl rhag trais yn erbyn awdurdod cyfiawn. Wrth gwrs, nid oedd pethau fyth mor syml â hynny, gan fod pob plaid mewn rhyfel dynastig yn honni bod eu hawl yn gyfiawn, a chan fod y ddyletswydd foesol i ddial cam yn gallu estyn rhyfela’n ddi-ben-draw. Gellid cyfiawnhau ymosod ar wlad arall ar sail rhyw hawl fregus hefyd, fel y gwnaeth Lloegr wrth ryfela ar dir Ffrainc yn y Rhyfel Canmlynedd. Serch hynny, roedd milwriaeth gyfrifol yn ddelfryd ystyrlon yn y farddoniaeth. Yn ôl Iolo Goch, ‘estwng pobl anystwyth Lloegr a Ffrainc’ a wnaeth Edward III, heb unrhyw wahaniaeth rhwng hawliau’r brenin yn y ddwy wlad. Amddiffynnwr pobl Môn rhag ymosodiad o’r tu allan oedd Tudur Fychan, a chadw’r holl wlad yn ddiogel oedd diben grym Syr Hywel yng Nghastell Cricieth. O gofio’r delfryd hwn hawdd yw amgyffred anogaeth Iolo i Rosier Mortimer i ‘arfer o arfau’ er mwyn adfer trefn ar ei diriogaethau yn Iwerddon, a hefyd y feirniadaeth ymhlyg ar filwriaeth anghyfrifol yn ei gywydd i’r llafurwr.²¹ Mae Iolo Goch yn rhoi mwy o bwyslais ar y delfryd hwn nag unrhyw fardd arall, ac fe all fod a wnelo ei gefndir eglwysig â hynny, ond thema ddigon cyffredin trwy’r cyfnod i gyd yw dyletswydd uchelwyr i gadw’r drefn trwy sefyll yn gadarn yn erbyn drwgweithredwyr treisgar. Mewn cyfnod pan oedd y llywodraeth ganolog yn wan ac arglwyddi yn aml yn absennol, dibynnai trefn gymdeithasol i raddau helaeth ar rym uchelwyr lleol. Roedd aflywodraeth yn broblem arbennig yn y canolbarth yn y blynyddoedd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr, a byddai’r beirdd yn fynych yn annog gwastrodi herwyr, ond ar y llaw arall fe geir hefyd gerddi mawl sy’n delfrydu’r herwyr fel arwyr yn gwrthsefyll gormes.

    Roedd hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg yn gyfnod o lewyrch mawr ym mywyd crefyddol Cymru yn sgil gweddnewid trwyadl dros y ddwy ganrif flaenorol a’i tynasai i mewn i brif ffrwd Cristnogaeth Ewropeaidd.²² Safonwyd trefniadaeth yr Eglwys ei hun trwy greu pedair esgobaeth a rhannu’r wlad yn blwyfi, a chychwynnwyd ar raglen i godi safonau addysg offeiriaid. Roedd mynachaeth yng Nghymru wedi’i hadnewyddu gan ddyfodiad urddau rhyngwladol yn sgil y Normaniaid, ac yn enwedig y Sistersiaid, urdd a oedd wedi llwyr Gymreigio erbyn diwedd oes y Tywysogion. Ac yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg fe ymsefydlodd urddau’r Brodyr-bregethwyr gan ysgogi ysbrydolrwydd newydd ymhlith lleygwyr. Bu’r tri datblygiad hyn yn llesol iawn i ddiwylliant llenyddol y wlad.

    Roedd y llysoedd esgobol yn debyg iawn i dai uchelwyr mawr, a phan fyddai’r esgob yn Gymro, fel y digwyddodd am gyfnodau yn Llanelwy yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, byddent yn gyrchfannau pwysig i’r beirdd. Hyd yn oed pan fyddai’r esgob yn Sais, ceid nawdd i feirdd gan swyddogion eraill fel archddiaconiaid a deoniaid yn eglwysi cadeiriol Llanelwy a Bangor, ac i raddau llai yn Nhyddewi a Llandaf. Er bod y rhan fwyaf o offeiriaid plwyf yn dlawd, byddai rhai’n dal nifer o fywoliaethau ac yn ddigon cefnog i groesawu beirdd. Roedd offeiriaid yn elfen amlwg ymhlith y beirdd amatur, ac wrth gwrs fe gafodd Einion Offeiriad ddylanwad mawr ar ddatblygiad cerdd dafod fel awdur cyntaf y gramadeg barddol.²³ Bu rhai’n gyfieithwyr rhyddiaith hefyd, fel Syr Dafydd Fychan o Forgannwg a gyfieithodd Ffordd y Brawd Odrig, a’r bardd Syr Huw Pennant a gyfieithodd rai o fucheddau’r saint.²⁴ Cynhelid ysgolion yn yr eglwysi cadeiriol a hefyd mewn eglwysi colegol fel Abergwili, ac mae lle i gredu bod rhai o’r beirdd, er enghraifft Iolo Goch a Lewys Glyn Cothi, wedi derbyn addysg eglwysig o’r fath. Yn sicr, roedd cysylltiadau eglwysig yn gyfrifol i raddau helaeth am dwf llythrennedd ymhlith y beirdd yn y cyfnod hwn. Mae’n bosibl hefyd fod rhai o’r beirdd wedi derbyn addysg mewn mynachlogydd, fel y byddai ambell un o feibion yr uchelwyr.

    Roedd yr abatai Sistersiaidd yn neilltuol o bwysig fel elfen o barhad diwylliannol yn ystod y cyfnod ansefydlog ar ôl y goncwest, gan ddiogelu rhai o drysorau llenyddol oes y Tywysogion yn eu scriptoria. Yr enghreifftiau gorau o hyn yw gwaith mynachod Ystrad-fflur yn cyfieithu Brut y Tywysogion o’r Lladin, gwaith a barhawyd yng Nglyn-y-groes gyda chofnodion newydd hyd y flwyddyn 1332. Yn Ystrad-fflur, mae’n debyg, y lluniwyd y casgliad godidog o gerddi Beirdd y Tywysogion sydd yn Llawysgrif Hendregadredd, a chyfrannodd y mynachod i’r rhyddiaith grefyddol newydd hefyd trwy gyfieithu rhai o’r testunau a geir yn Llyfr Ancr Llanddewibrefi. Byddai’r rhwydwaith o dai Sistersiaidd yn gyfrwng i gynnull a lledaenu deunydd o bob cwr o Gymru: Llantarnam, Margam, Nedd a’r Hendy-gwyn yn y de; Ystrad-fflur, Cwm-hir ac Ystrad-marchell yn y canolbarth; Aberconwy a Glyn-y-groes yn y gogledd. Roedd y rhain wrth gwrs yn noddfeydd gwerthfawr i feirdd teithiol, fel y tystia nifer fawr o gerddi mawl i abadau. Mae’n eironig braidd fod Guto’r Glyn, un o’r lleiaf duwiol o feirdd, wedi derbyn mwy o nawdd mewn abatai nag odid neb o’i gyfoedion, o Ystrad-fflur ac Ystrad-marchell yn ei ieuenctid i Lyn-y-groes yn ei henaint, ond ni raid synnu at hynny gan fod abadau’n aml yn mwynhau bywyd moethus fel arglwyddi seciwlar, yn enwedig wrth i’r Oesoedd Canol dynnu i’w terfyn.

    Ymsefydlodd y Ffransisgiaid (y Brodyr Llwydion) a’r Dominiciaid (y Brodyr Duon) yng Nghymru yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg, ac er nad oedd ond ychydig o dai ganddynt cawsant ddylanwad mawr ar y wlad trwy eu pregethu, oherwydd yn wahanol i fywyd neilltuedig yr urddau mynachaidd disgwylid i’r Brodyr grwydro’r wlad gan fyw ar gardod. Yn ogystal â phregethu, byddent yn cyflawni defodau angenrheidiol megis clywed cyffes a chladdu, gan fygwth bywoliaeth yr offeiriaid plwyf. Roeddent yn ddigon eofn i feirniadu moesau llac gwŷr eglwysig, a byddai’r beirdd yn naturiol yn amddiffyn eu noddwyr. Dyna a wnaeth Iolo Goch mewn dau gywydd dychan i Frawd Llwyd o Gaer a bregethodd yn erbyn offeiriaid priod yn esgobaeth Llanelwy.²⁵ Mae cerddi eraill gan Ddafydd ap Gwilym a Madog Benfras yn tystio i elyniaeth fawr rhwng y beirdd a’r Brodyr, a hynny’n deillio yn y bôn o’r ffaith eu bod mewn cystadleuaeth â’i gilydd fel crwydriaid a ddibynnai ar y gair llafar i ennill eu bywoliaeth. Nid oedd agwedd lem y Brodyr tuag at bopeth bydol yn nodweddiadol o’r Eglwys fel y cyfryw, ac yn ei ymddiddan â’r Brawd Llwyd cynigiodd Dafydd ap Gwilym safbwynt amgen sydd yr un mor ddilys fel athroniaeth Gristnogol.²⁶

    Ni ddylai gwawd y beirdd ein dallu i’r effaith lesol a gafodd y Brodyr ar grefydd Cymru. Arwydd o’u dylanwad ar leygwyr yw’r ffaith bod Gruffudd ap Llywelyn o Rydodyn wedi comisiynu’r casgliad o ryddiaith ddefosiynol a geir yn Llyfr yr Ancr, gan gynnwys gweithiau a luniwyd yn wreiddiol ar gyfer offeiriaid neu fynachod, megis y traethawd cyfriniol hynod, Ymborth yr Enaid. Byddai’r Brodyr yn defnyddio barddoniaeth fel cyfrwng i bregethu, ac er nad oes dim wedi goroesi yn y Gymraeg ar ôl cerddi teimladwy’r Ffransisgiad Madog ap Gwallter yn y drydedd ganrif ar ddeg, mae eu dylanwad i’w weld yn glir ar waith Siôn Cent ar ddechrau’r bymthegfed ganrif.

    Canolbwynt defosiwn personol oedd myfyrdod ar ddioddefaint Crist ar y groes, wedi’i gynorthwyo’n aml gan grogau hynod drawiadol a ddaeth yn wrthrychau addoliad ynddynt eu hunain. Rhaid cofio am gyfraniad celfyddyd weledol fel cyfrwng i addysgu’r bobl anllythrennog ac i gyffroi emosiynau pawb. Byddai pobl yn gyfarwydd â gweld lluniau dychrynllyd o’r Farn Fawr a phoenau uffern ar furiau eglwysi, yn ogystal â’r seintiau yn eu harddwch, a byddai pethau felly’n cyfoethogi’r ymateb dychmygus i bregethau a llenyddiaeth.²⁷

    Cynrychiolai’r seintiau wedd ddynol ar grefydd, a byddai pobl yn troi atynt am gymorth mewn angen, yn ysbrydol ac yn gorfforol. Yn eu plith roedd seintiau rhyngwladol eu bri a nawddsaint lleol a oedd â gofal arbennig dros eu plwyfolion. Disgwylid i’r seintiau eiriol dros y ddynoliaeth, a’r eiriolwraig bwysicaf oll oedd mam yr Iesu. Bu cwlt y Forwyn ar gynnydd o’r drydedd ganrif ar ddeg ymlaen, wedi’i hyrwyddo gan y Sistersiaid a’r Brodyr fel ei gilydd, ac yn ei sgil daeth santesi eraill fel Mair Fadlen, Catrin a Gwenfrewy yn boblogaidd iawn ac yn batrymau i uchelwragedd defosiynol. Roedd gwyrthiau’r seintiau yn adnabyddus trwy lên ysgrifenedig a llafar, ac amlygid eu nerth trwy eu creiriau a’u delwau, a thrwy’r ffynhonnau sanctaidd a ddenai bererinion yn ceisio iachâd.

    Daeth elfennau poblogaidd neu dorfol yn fwyfwy amlwg yn y llenyddiaeth grefyddol tua diwedd yr Oesoedd Canol, a hynny i raddau ar draul yr ysbrydolrwydd mwy personol a dwys a geid gynt. Diau fod nifer o ffactorau’n gyfrifol am y newid hwn, ond gellir ei weld yn ganlyniad i’r cyfnod llwm yn hanes yr Eglwys yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg a dechrau’r bymthegfed. Roedd yr Eglwys Gymreig yn gymharol dlawd ar y gorau, ond yn sgil difrod y pla a Gwrthryfel Glyndŵr lleihaodd ei hincwm oddi wrth ddegymau a rhenti tir yn ddifrifol.²⁸ Am gyfnod ar ôl y goncwest roedd yr Eglwys wedi cadw rhyw gymaint o annibyniaeth, ond yn raddol fe’i tanseiliwyd gan bolisi swyddogol o benodi Saeson i’r swyddi uchaf. Cadwodd yr abatai Sistersiaidd eu Cymreictod, ond aeth y rheini trwy gyfnod dilewyrch hefyd wrth i niferoedd y mynachod ddisgyn. Daeth tro ar fyd gyda’r adfywiad economaidd erbyn tua chanol y bymthegfed ganrif, a chafwyd cyfnod prysur o helaethu ac addurno y gwelir ei olion mewn adeiladau eglwysig hyd heddiw. Dyma oes aur y crogau, y delwau a’r ffynhonnau fel cyrchfannau pererindod, ac roedd cerddi’r beirdd yn gyfrwng effeithiol i ledaenu eu clod. Roedd gwŷr eglwysig yn flaenllaw iawn ymhlith noddwyr y beirdd, ond mae’n arwyddocaol na chafwyd unrhyw ganu ysbrydol o bwys gan feirdd mwyaf y genhedlaeth cyn y Diwygiad Protestannaidd.

    Er bod y pla, neu’r Farwolaeth Fawr fel y’i gelwid, yn drychineb na welwyd ei thebyg erioed, ychydig o sôn agored amdano a geir yn y llenyddiaeth, ac felly hawdd y gall y darllenydd ddibrisio ei effaith ar y gymdeithas. Rhwng 1347 a 1350 lladdwyd rhyw draean o boblogaeth Ewrop, ac fe fu’r pla yn rhemp am flynyddoedd wedyn, gan daro eto yn enwedig yn 1361–2 a 1369, a nifer o weithiau yn ystod y bymthegfed ganrif. Cyrhaeddodd dde Cymru yn gynnar yn 1349, a lledodd i weddill y wlad dros y ddwy flynedd nesaf, gan ddifa dros chwarter y boblogaeth, a llawer mwy yn y trefi ac ymhlith taeogion yr iseldir. Roedd poblogaeth Cymru yn crebachu beth bynnag yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg, am resymau economaidd yn bennaf, ac amcangyfrifir bod nifer y trigolion wedi gostwng o ryw 300,000 yn 1300 i lai na 200,000 yn 1400.²⁹

    Er na cheir rhyddiaith o’r cyfnod hwn sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r pla, fe gadwai y chwedloniaeth gof am afiechydon heintus, fel y stori am Faelgwn Gwynedd yn ymguddio rhag ‘y Fad Felen’ yn eglwys Rhos, stori a roes fod i’r dywediad ‘hun hir Maelgwn yn Rhos’.³⁰ Roedd ffoi rhag y pla yn fotîff cyffredin yn llenyddiaeth Ewrop, un a ddarparodd ffrâm ar gyfer Decameron Boccaccio, ac fe geir enghraifft ddiweddar ohono yn y chwedl Ystoria Ysgan ab Asgo lle mae’r arwr yn ceisio lloches rhag angau.³¹

    Natur bersonol a delfrydol y traddodiad barddol yw’r rheswm pam na chafodd y pla gymaint o sylw yn y farddoniaeth ag y gellid disgwyl. Cerdd anghyffredin iawn yw cywydd Ieuan ap Rhys ap Llywelyn yn cwyno am epidemig o’r frech wen yn ail hanner y bymthegfed ganrif.³² Mae’n rhaid bod rhai o wrthrychau marwnadau’r cyfnod wedi marw o’r pla, ond gan mai anaml iawn y nodid achos y farwolaeth mewn marwnad, ni ellir ond dyfalu gan mwyaf. Un eithriad nodedig yw marwnad Iolo Goch i Ithel ap Robert a fu farw yn 1382, lle ceir disgrifiad manwl o symptomau’r pla niwmonig, y chwysu, y cryndod a’r dwymyn, a’r farwolaeth ddychrynllyd o sydyn, un gyflymach hyd yn oed nag eiddo’r pla biwbonig a’i ‘nodau’ du.³³

    Eithriad pwysig arall yw marwnadau plant. Roedd graddfa marwolaethau plant yn arswydus o uchel trwy gydol yr Oesoedd Canol, ond gyda dyfodiad y pla byddai llond tŷ o blant yn cael eu difa ar unwaith. Fe ymddengys fod y bygythiad hwn i barhad yr uned deuluol wedi ysgogi genre newydd o farwnadau i blant, ac yn bennaf blant y beirdd eu hunain.³⁴ Cywydd gan fardd o’r enw Llywelyn Fychan yw’r cynharaf o’r rhain, lle sonnir am farwolaeth pump o blant o ‘haint y nodau’ rywbryd yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg. Ar ddechrau’r bymthegfed ganrif cwynodd Gwilym ap Sefnyn am y ‘farwolaeth’ a aeth â deg o blant oddi wrtho. Yn ei farwnad i’w fab Siôn soniodd Ieuan Gethin am y ‘ddufrech’ ar ei gorff, ond ni fanylodd ar achos marwolaeth ei ferch yn ei awdl farwnad iddi hi, ac mae’r un peth yn wir am farwnadau Llywelyn ap Gutun a Lewys Glyn Cothi i’w meibion. Mae’n bosibl mai merch y bardd ei hun oedd gwrthrych marwnad Dafydd Llwyd o Fathafarn i ferch a fu farw o’r chwarren, lle dyfelir y nodau fel ysgrifen ar y croen.³⁵ Yr unig gerdd o’r fath i blant noddwr yw marwnad Robin Ddu i wyth o blant Gloddaith a fu farw yn yr un wythnos. O ran ymateb pobl i’r pla, y fwyaf dadlennol o’r cerddi hyn yw cywydd Llywelyn Fychan, a hynny’n ddiau am fod y pla biwbonig ar y fath raddfa yn ffenomen newydd yr adeg honno. Mynegir y gred gyffredin mai cosb gan Dduw am bechodau’r ddynoliaeth oedd y pla, a disgrifir y nodau yn gofiadwy iawn mewn darn hir o ddyfalu.

    Gweddi i Dduw yw cerdd Llywelyn Fychan yn y bôn, a dyna’r unig ffurf a ganiatâi ymateb uniongyrchol i’r pla. Dwy enghraifft sydd gan feirdd a welodd ddifrod yr epidemig cyntaf. Gellir bod yn weddol hyderus mai’r pla oedd cefndir gweddi Iolo Goch ar i Iesu a’r seintiau ei warchod ef a’i deulu rhag yr angau hollbresennol.³⁶ Ac ni all fod amheuaeth ynghylch cefndir englynion Gruffudd ap Maredudd sy’n ymbil am arbed Gwynedd rhag ei throi’n ‘waeth na newidlong wag’, enghraifft o’r ofnau apocalyptaidd am ddiwedd gwareiddiad a ysgogwyd gan y pla.³⁷ Trodd tipyn o dir âr yn ddiffaith wrth i’r boblogaeth grebachu yn y cyfnod hwn, ac o gofio hynny mae’n amlwg bod y weledigaeth ysgubol o ddiwedd amaethu ym Môn ym marwnad Iolo Goch i Dudur Fychan yn llawer mwy na gormodiaith rethregol.³⁸ Hawdd gweld symbolaeth yn adfail Dafydd ap Gwilym hefyd, a safai ‘yrhwng gweundir a gwyndwn’, ar y ffin rhwng diffeithwch a gwareiddiad. Ac mae’r cyfeiriad at ‘waith y teulu’ (sef teulu Gwyn ap Nudd, y tylwyth teg, mae’n debyg) ar ddiwedd y gerdd honno yn awgrymu esboniad amgen ar broblem ddyrys y pla, sef y gred bod pwerau’r tywyllwch wedi cael rhwydd hynt i ddifrodi’r byd.³⁹

    Cafodd y pla effaith bellgyrhaeddol ar strwythur y gymdeithas, trwy ryddhau llawer o diroedd a aeth i ffurfio ystadau mawr ychydig o deuluoedd bonheddig, a hefyd trwy achosi prinder gweithwyr i drin y tir ac felly roi cyfle i daeogion fynnu gwell amodau a’r hawl i werthu eu llafur. Ceisiodd yr awdurdodau rwystro datblygiadau peryglus o’r fath er mwyn gwarchod buddiannau’r tirfeddianwyr, ac arweiniodd hynny at gryn anesmwythyd a ddaeth i uchafbwynt yn Lloegr gyda Gwrthryfel y Werin yn 1381, anesmwythyd a fu hefyd yn ffactor yng nghefnogaeth gwerin Cymru i Owain Glyndŵr. Mynegodd Iolo Goch ymateb anuniongyrchol i hyn oll trwy ganmol y llafurwr am dderbyn ei le yn dawel ac aros am ei wobr yn y nefoedd, sef yr union beth na wnâi llawer o lafurwyr yr oes. Diau hefyd fod llawer o angerdd ei ddarlun delfrydol o drefn gymdeithasol ar ystad Owain Glyndŵr yn deillio o’i ymwybyddiaeth o fygythiad i’r drefn honno, o safbwynt cymdeithasol yn ogystal â chenedlaethol.⁴⁰

    Ym marwnadau ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg yr amlygwyd ymateb anuniongyrchol i’r pla yn fwyaf trawiadol. Roedd ymwybyddiaeth o freuder bywyd a marwoldeb yn nodwedd ar yr Oesoedd Canol yn gyffredinol, ond fe gynyddodd i gyflwr ingol yn y cyfnod hwn, gan roi grym arbennig i’r marwnadau. ‘Gwedy nad oes awr heb fawr farwnad’ meddai Llywelyn Ddu ab y Pastard yn ei farwnad i deulu Trefynor, ac er nad oes sicrwydd mai’r pla a ddifaodd y teulu hwnnw, mae’r llinell yn awgrymog iawn yn y cyd-destun hwnnw.⁴¹ Mewn marwnadau i uchelwragedd ifainc pwysleisid y cyferbyniad poenus rhwng tynerwch moethus y corff a gerwindeb y bedd, fel y gwelir yn arbennig ym marwnad Gwenhwyfar gan Ruffudd ap Maredudd a marwnad Lleucu Llwyd gan Lywelyn Goch. Marwnadau Iolo Goch sy’n cyfleu awyrgylch cyfnod y pla orau, gyda’r ymholi pryderus a’r galar eithafol a ysgogwyd gan farwolaeth sydyn. Math arall sydd yr un mor nodweddiadol o’r oes hon yw’r ffug-farwnadau, a’r rheini weithiau’n angerddol o alarus, fel un Dafydd ap Gwilym i Rydderch ab Ieuan Llwyd. Mae cerddi o’r fath yn dipyn o syndod ar yr olwg gyntaf, ond byddai eu hiwmor a’u her yn gymorth i ymdopi â dychryn angau. Y dewis arall oedd y besimistiaeth ynghylch tynged dyn a gafodd ei mynegiant llawnaf gan Siôn Cent.

    Yn debyg braidd i’r pla, roedd Gwrthryfel Owain Glyndŵr yn ddigwyddiad aruthrol na chafodd ond ychydig o sylw uniongyrchol yn y llenyddiaeth ond y gellir canfod ymateb anuniongyrchol iddo am amser hir wedyn. O ran hanes y gwrthryfel ei hun, yr unig beth a geir yn y Gymraeg yw cronicl byr a moel yn llaw Gruffudd Hiraethog, sydd yn ddiau yn gopi o destun cynharach.⁴² Yn y cofnod olaf am y flwyddyn 1415 gwelir eginyn yr arwr chwedlonol: ‘MCCCCxv ydd aeth Owain mewn difant yng Ngŵyl Fathau yn y cynhaeaf. O hynny allan ni wybuwyd ei ddifant. Rhan fawr a ddywaid ei farw; y brudwyr a ddywedant na bu.’

    Gan nad oedd naratif yn rhan o’r traddodiad barddol, ni ellir disgwyl llawer o sylw i ddigwyddiadau’r gwrthryfel gan y beirdd. Eithriad yw cywydd Madog ap Gronw Gethin yn canmol afon Dyfrdwy am orlifo’i glannau a boddi llu o Saeson a geisiai ei chroesi i ymosod ar y Cymry ym Maelor, amrywiad ffraeth ar y confensiwn o ymbil ar afon i adael i’r bardd ei chroesi.⁴³ Yr unig fardd a drodd ei brofiadau ei hun yn ddeunydd cerddi yw Llywelyn ab y Moel. Ond nid dathlu’r achos cenedlaethol na brolio gwrhydri a wnaeth Llywelyn, eithr gwneud hwyl am ei ben ei hun mewn cerdd hynod wrth-arwrol am sgarmes ar Waun Gaseg ym Mhowys.⁴⁴ Er gwaethaf eu haddewid i sefyll yn gadarn, ffodd cefnogwyr Owain rhag ymosodiad gwŷr meirch, ac roedd Llywelyn yn amlycach na neb oherwydd ei got wen!

    Soniodd Llywelyn am fod ar herw yng Nghoed y Graig Lwyd ger Croesoswallt hefyd, a’i galw’n ‘Llundain gwerin Owain’.⁴⁵ Wrth i’r gwrthryfel fethu aeth nifer o’r ffyddloniaid yn herwyr, a daeth herwriaeth yn ffordd o fyw i rai, ac yn ddelfryd rhamantus yn y farddoniaeth. Mae cychwyn y delfryd i’w weld mewn pâr o gywyddau mawl gan fardd anhysbys i Hywel Coetmor a Rhys Gethin, dau frawd a fu’n cynnal achos Owain ‘mewn dyrys goedydd’ yn Nyffryn Conwy, ac fe barhaodd yn y canu i ŵyr Rhys Gethin, yr herwr enwog Dafydd ap Siancyn o Nanconwy.⁴⁶

    Roedd y canu darogan yn sicr yn ddylanwadol iawn o ran ennyn cefnogaeth i Owain a chynnal gobeithion y gwrthryfelwyr, ac fe gofir bod gan Owain ei frudiwr personol, Crach Ffinnant. Ond er bod nifer o gywyddau yn y llawysgrifau yr honnir eu bod yn sôn am Owain, yr unig gerdd y gellir ei dyddio’n bendant i gyfnod y gwrthryfel ei hun yw ‘Llyma fyd rhag sythfryd Sais’, cywydd sy’n moli Owain pan oedd ar anterth ei lwyddiant tua 1402–3.⁴⁷ Ynghyd â’r ddau Owain arall, Owain ab Urien ac Owain Lawgoch, aeth enw Glyndŵr yn rhan o draddodiad y brudiau a pharhawyd i ddarogan ei ddychweliad am amser maith.

    Achoswyd cryn ddrwgdeimlad gan y Deddfau Penyd llym a basiwyd gyntaf yn 1401–2, ac a fu mewn grym, yn ddamcaniaethol o leiaf, tan gyfnod y Tuduriaid. I raddau roedd y rhain yn ymateb i’r bygythiad milwrol trwy roi gwaharddiad ar gynulliadau arfog ac ar y beirdd a dihirod eraill a fu’n ysgogi gwrthryfel. Ond roeddent hefyd yn ffurfioli trwy statud hen anghyfiawnderau hiliol; ni châi’r Cymry ddal eiddo na swydd yn y bwrdeistrefi, a byddai Saeson a briodai Gymry yn colli’u breintiau cynhenid. Dyna rwystro dau o ddulliau’r uchelwyr o wella’u byd, ac er mai anaml y gweithredwyd y deddfau hyn, roedd eu bodolaeth yn cadarnhau israddoldeb y Cymry.

    Cosbwyd rhai o gefnogwyr Glyndŵr yn drwm, ond at ei gilydd bu’r Goron yn barod i estyn pardwn er mwyn lleddfu’r gwrthryfel, ac fe gefnodd llawer o uchelwyr ar Owain pan ddaeth yn amlwg bod ei ymgyrch milwrol yn fethiant. Un a drodd ei got ar yr adeg iawn gan elwa’n fawr o’r herwydd oedd Gwilym ap Gruffudd, mab-yng-nghyfraith Goronwy ap Tudur o Benmynydd, a lwyddodd i sefydlu ystad fawr y Penrhyn trwy feddiannu’r tiroedd a gollodd ei gefndryd oherwydd eu cefnogaeth i Owain. Daliodd disgynyddion Gwilym swydd Siamberlain Gwynedd lawer gwaith, ac mae’r cerddi mawl iddynt yn arwydd o barodrwydd y beirdd i anghofio gorffennol anghyfleus. Ond mae modd canfod elfen o goegni yn y cerddi a ganodd Rhys Goch Eryri i Wilym a’i fab Wiliam Fychan. Gwnaeth Wiliam gais am gael ei dderbyn yn ddinesydd Seisnig ar sail y ffaith ei fod yn fab i Saesnes (Janet Stanley, ail wraig Gwilym), ac fe aeth Rhys Goch ati i olrhain ei achau Cymreig dilychwin!⁴⁸ Ac mae amwysedd a mawl mesuredig i’w gweld mewn ambell gerdd arall i gefnogwyr y drefn yn hanner cyntaf y bymthegfed ganrif.⁴⁹

    Yr anhrefn cyffredinol yn y gymdeithas yw’r rheswm pennaf am brinder cymharol y cerddi o chwarter cyntaf y bymthegfed ganrif. Cynnyrch barddol mwyaf nodedig y cyfnod yw gwaith Siôn Cent, gyda’i besimistiaeth ddofn ynghylch cyflwr y byd, a phrin ei bod yn ddamwain mai yn y cyfnod dilewyrch hwn yr ymosododd Siôn Cent ar seiliau athronyddol y canu mawl.⁵⁰

    Fe ddichon fod rhai cerddi mawl i gefnogwyr Owain heb gael eu diogelu am fod yn well gan eu disgynyddion anghofio’r rhan honno o hanes y teulu. Mae’n wir bod ambell un yn cael ei foli yn nes ymlaen yn y ganrif am ei gampau gydag Owain gynt, fel Gwilym ap Tomas a fu’n ‘hapus iawn ar hwpaw Sais’.⁵¹ A sonnir yn barchus iawn am Owain ei hun, fel y gwelir yn enwedig yng ngherddi Lewys Glyn Cothi i’w ferch ordderch, Gwenllian, lle gelwir Owain yn ‘d’wysog cadarn’.⁵² Ond ar y cyfan, awydd i anghofio helyntion y gorffennol sydd i’w deimlo yn y farddoniaeth a flodeuodd yn sgil yr adfywiad economaidd o ganol y 1430au ymlaen. Er mwyn iawn werthfawrogi’r sefydlogrwydd a’r llewyrch a ddethlir mor frwd gan feirdd y Ganrif Fawr, rhaid cofio’r aflwydd a’r anhrefn a fu am dri chwarter canrif cyn hynny. Yr un mor arwyddocaol â’r cerddi mawl i’r herwyr a gadwai fflam gwrthryfel ynghynn yw’r rhai sy’n apelio’n daer ar i arglwyddi ddileu torcyfraith ac adfer trefn.

    Er bod yr ymgiprys rhwng pleidiau Lancastr a Iorc yn rhyfel cartref hir a ffyrnig iawn ar adegau, ni chafodd effaith mor ddinistriol ar Gymru am mai prin oedd yr ymladd ar ei daear hi. Ac er bod rhai Cymry blaenllaw wedi colli’u bywydau yn y brwydro, cyfle i godi yn y byd oedd hwn yn fwy na dim i’r rhai ffodus a ddigwyddai gefnogi’r blaid lwyddiannus ar yr adeg iawn. Yr enghraifft amlycaf oedd Wiliam Herbert, ac roedd ei lwyddiant ef yng ngwasanaeth Edward IV a’r rhwydwaith o ddilynwyr a sefydlodd yn y de-ddwyrain yn allweddol i ffyniant y beirdd yn y pumdegau a’r chwedegau. Ei farwolaeth ef a nifer o’i blaid ym mrwydr Banbri yn 1469 oedd yr ergyd drymaf a ddaeth i ran Cymru yn ystod y rhyfeloedd hyn (a barnu yn ôl ymateb y beirdd o leiaf), ond buan yr adferwyd Edward i’r orsedd, a bu ail ran ei deyrnasiad ef, o 1471 hyd 1483, yn gyfnod o heddwch a llewyrch sylweddol. Oni bai am amhoblogrwydd ei olynydd, ei frawd Rhisiart III, prin y cawsai’r Tuduriaid gyfle i feddiannu’r orsedd yn 1485. Ni ddylid llyncu propaganda’r Tuduriaid a geisiai bardduo holl gyfnod yr Iorciaid er mwyn mawrygu eu trefn newydd hwy.

    Hawdd yw gor-ddweud pwysigrwydd 1485 fel trobwynt yn hanes Cymru, er gwell neu er gwaeth. I’r uchelwyr a’u beirdd roedd coroni Harri Tudur yn uchafbwynt ar ymgyrch hir y brudiau, yn gyfle i unioni hen anghyfiawnderau ac i roi i’r Cymry eu lle haeddiannol yn llys y brenin. Siomwyd y gobeithion hynny, wrth gwrs, er i’r beirdd elwa ar lwyddiant ambell un fel Syr Rhys ap Tomas. Yn ddiweddar tueddir i weld uniad y ddwy wlad yn sgil dyfodiad y Tuduriaid fel cam tyngedfennol yn y broses o ddiddymu annibyniaeth Cymru a Seisnigo ei huchelwyr. Ond mewn gwirionedd roedd y broses honno ar droed eisoes, ers y bedwaredd ganrif ar ddeg o leiaf, a hynny ar lefel lawer mwy sylfaenol na digwyddiadau gwleidyddol.

    Ar un olwg yr oedd cynnydd yr uchelwyr o dan y drefn oedd ohoni ar ôl y goncwest yn golygu ymseisnigo anochel. Yn ystod yr Oesoedd Canol diweddar symudodd dosbarth yr uchelwyr oddi wrth eu tarddiad o blith yr hen wŷr rhydd tuag at eu huchelgais i fod yn foneddigion, ac yn y broses honno newidiodd eu perthynas â’r cymunedau o’u hamgylch, gyda llai o bwyslais ar

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1