Cerddi Dafydd ap Gwilym
5/5
()
About this ebook
Read more from Dafydd Johnston
Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300-1525 Rating: 0 out of 5 stars0 ratings'Iaith Oleulawn': Geirfa Dafydd ap Gwilym Rating: 0 out of 5 stars0 ratings
Related to Cerddi Dafydd ap Gwilym
Related ebooks
Gweledigaethau y Bardd Cwsg Rating: 5 out of 5 stars5/5Siôn Powel Wehydd Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsGynghanedd Heddiw, Y Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsDychmygu Iaith Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsPam na fu Cymru: Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHanes Tregaron a'r Cyffiniau Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsNansi Lovell: Hunangofiant Hen Sipsi Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsRhywle Fel Hyn Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsLewis Edwards Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsLeila Megane: Ei Dawn a'i Stori Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCranogwen Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Clasuron: Cerddi T. H. Parry-Williams Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsY Chwyldro Ffrengig a'r Anterliwt: Hanes Bywyd a Marwolaeth Brenin a Brenhines Ffrainc Gan Huw Jones, Glanconwy Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsMadam Wen (eLyfr) Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsY Clerwr Olaf Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsY Gyfraith yn ein Llên Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsClywed Cynghanedd - Cwrs Cerdd Dafod Rating: 3 out of 5 stars3/5Perfformio'r Genedl: Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsWinllan Well, Y Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsGwaith Alun Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsBardd Cwsg Arall Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHer a Hawl Cyfieithu Dramâu: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Molière Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsEvan James Williams: Ffisegydd yr Atom Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHiwmor Tri Chardi Llengar Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsStafell Ddirgel, Y Rating: 4 out of 5 stars4/5Bugail Geifr Lorraine (eLyfr) Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHen Enwau o Feirionnydd Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsAmrywiaith 2 - Blas ar Dafodieithoedd Cymru Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsWythnos yng Nghymru Fydd Rating: 3 out of 5 stars3/5Ar Drywydd Twm Carnabwth - Hanes Dechrau Gwrthryfel Becca Rating: 0 out of 5 stars0 ratings
Related categories
Reviews for Cerddi Dafydd ap Gwilym
1 rating0 reviews
Book preview
Cerddi Dafydd ap Gwilym - Dafydd Johnston
Y
CERDDI
a’r
ARALLEIRIADAU
1
I’r Grog o Gaer
Cryf aberth yw nerth, nid yn aer—treiswyr
Eithr mywn trawswyrth didaer,
Crair mawrglod, croywrym eirglaer,
4Crog bedwarban o gan Gaer.
Lluniaf arawl mawl can wyf maer—ar wawd
I’r wiwdeg fygrddelw glaer,
Lle breisgdwrf llanw llwybr wysgdaer,
8Llathr amgylch cyfrestrfylch [Caer].
Llawn iawn fu o ddawn heb fodd aer—na thwrf
Na therfysg brwydr aglaer,
Ll[ ]lch oleugalch loywgaer,
12 Lle lleinw heli Dywi daer.
[ ]aer—[ ]
O achos y grog glaer,
Llathrgaen faen [ ] brwydrdaer,
16 Llithr byrdd fyrdd [fylch] lludw cylch Caer.
Llathrddelw fyw llin Llyw llwybr didaer—[
]claer
Lle daw, cyn treiaw traaer,
20 Llanw llawndraidd a gyrraidd Gaer.
[ ] dysg diaer—er urddas
I’r eurddelw loywfyw glaer,
Cannaid dadl [ ] didaer,
24 [ ]logion Caer.
Cyflawn yw o ddawn, ddinam faer,—ynof
Gan [ ]
Celfydd corf dedwydd didaer,
28 Coelfain cysegrblas cain Caer.
C[ ] Crist yw saer—y grog
Groywgadr wyrth ffrwythlonglaer,
Creawdr [ ]
32 [Crair] a ddoeth i dref goeth Gaer.
Y grog hon, loywfron lyfr Biblglaer—[
]saer
Eurddelw, drwyadl ddadl ddidaer,
36 Urddas carueiddblas Caer.
[ ] cannaer—aneuog
Lle mae naweirw dwrddglaer,
D[ ]daer
40 Dwfr dros lennyrch a gyrch Gaer.
Dug llanw gwyll [ ]
Er moliant i’r ddelw glaer,
Deifr brudd-deml, dwfr ebrwydd-daer,
44 [ ] Caer.
Da fu, drwyadl ddadl ddidaer,—hwyl[ ]
H[ ]
Dawn mawrglau, dinam, eirglaer,
48 Dwyn gem a garem i Gaer.
Credadun eiddun addef—yw dyfod
I blith Deifr Saesnectref,
[ ]
52 Crair croywgain air, crog o nef.
I’w ffloywfrain[
]dwyn gwawd gysylltgref,
Ei phlas yw Caer, aer wrdd-dref,
56 [ ]
Mae un englyn yn annarllenadwy yma, wedi ei docio ar frig y ddalen. Mae’n bosibl fod dau englyn arall yma hefyd yn wreiddiol.
Peryf didrist Grist groes dioddef—mygr,
Ni magwyd trafn mal Ef,
Pur, Mur, Amherodr tangnef,
64 Poen ffyrfgrair ffêr pêr Nêr nef.
Dug Duw Tad ddelw fad fydr gywair—i Gaer,
Egoriad gwyrth y’i gwnair;
Dygaf, dogn beraf burair,
68 Dwygerdd groyw i’m digardd grair.
Gwnaeth hon i’r deillon, heb dwyllair,—ni drem
Fal y dremwalch mudair;
Arwydd na bydd, ffydd Ffyrfbair,
72 Arab heb nerth Mawrfab Mair.
A bod, gwawl nawsglod, gwael annisglair—grupl,
Grapach feirw, Dwy eilgair,
Ar osteg, wiwdeg wawdair,
76 Ar restr yn ffyrf beddestr ffair.
O’i gwyrth prudd a’i budd y byddair—a glyw
Yn gleuwymp ddilestair;
A byw yn llwyrgryf a bair
80 O beth marw, obaith mawrair.
Gorhoff grair purair Peryf,—aglaerddelw
Eglurddoeth ei gwyrth cryf,
Gŵyr pob gradd, mad nadd neddyf,
84 Gorau taith er Gŵr a’u tyf.
Gofwy aur [ ]fawl deisyf—y grog
O groywGaer galchliw nyf,
Gwedy maddeuaint, braint bryf,
88 Gwawdaml seilm gwiwdeml Selyf.
Molaf, addolaf ar ddeulin,—[
]atwyf dafodflin,
Myrdd a fawl, gwehynfawl gwin,
92 Mawrddelw o fygrdrefn Myrddin.
Egoraf, dodaf, dadl ddeulin,—’y mryd
Ym mrodiau gwyrthefin,
I garu delw ryelw rin,
96 [ ]in
[
]drefn myrr a gwin,
Cyflawn ddawn ddysg [ ] rin,
100 Coeth corf eurddoeth Caer Fyrddin.
[ ]—i Gaer,
Ac arwydd Iesu yw,
Croyw gerdd ferwloyw [
104 ]cydfalch grair balch byw.
[ ]—[ ]edyriaith,
Awduriaid cerdd a’i clyw,
Wawr eurglawr byd a erglyw
108 Weddawl fawl i’r wiwddelw fyw.
Mynog ball eurog a bell oryw—Deifr
[ ]llyw
Lëygrwybr gaer ddilwygryw,
112 Loegrig foes, i’r loywgrog fyw.
[ ] ddileddf ddeddf a ddoddyw—i Gaer,
Pibl eirglaer, pybl erglyw,
O farw, firain Arglwyddlyw,
116 Eurog ball, a orug byw.
[ eur]ddelw wrddiaith—a gyrchodd
Ag erchyll hydr heb graith,
Corf balch[ ]eddylfaith,
120 Caer Fyrddin daer, fawrddawn daith.
[ ]wrddiaith—i fawrgaer,
Nid ofergerdd gwawdiaith;
Dyddwyn[ ]
124 Diddig detholedig daith.
[ ]aith—ugeinmil
A genmyl eu dawn maith;
Mynnaf na wydiaf wawdiaith,
128 Mawl hawl hylwydd rheg deg daith.
[ ] wyniaith—Usalem
A seilwyd yn Benrhaith,
Cylchwy bedd Crist ddi[
132 ]sg magwyr fraisg fraith.
[ ]wych araith—Fyrddin
A farddawdd chwŷl pobiaith,
Lle y mae[
136 ]athrddelw freinfryw, fyw, faith.
2 englyn yn eisiau o bosibl
[
]dyr pellfaith
140 Uddunt wy a eiddun taith.
Duw trugar, neu’n câr, ni’n cawdd,—ein gognwd
Dros waetffrwd draws wawtffrawdd;
Dâr breinol a’n dewr brynawdd,
144 Dôr y nef a’n dyry nawdd.
Doeth i Gaer, lle taer twrf môr-gymlawdd—ffyrf,
Yn y ffurf y’n prynawdd,
Dwysgenw pêr, dysg a’n parawdd,
148 Delw o’r nef, Adeilwr nawdd.
Arail dalm o’m salm, na sawdd—ferw awgrim,
Fawr wiwgrog a’m prynawdd,
Erchyll gwaedfriw a’th liwawdd,
152 Archaf, er Duw Naf, dy nawdd.
Traul gwyarddafn Trafn, trefnawdd—eglurGrist
I’r glaergrog a’n lludd cawdd,
Tras ym mydr, traws ymadrawdd,
156 Tref yn ail nef, annwyl nawdd.
Llathr yw y grog fyw o fywn dinas—Caer,
Cariad eilun teyrnas,
Lle gŵyl Deifr, llu gwelw difas,
160 Llif dwfr croyw a llanw gloyw glas.
Llwyr elw er eurddelw i ar urddas—gem
A gymyrth tŷ a phlas;
Lle beirw dwfr [ ] llwybr difas,
164 Llawr llathrfawr glawr llithrfor glas.
Lle deifrdaer yw Caer, lle nid cas—myned
Er mwyn delw nefolblas,
Lle[ ] Iuddas,
168 Lle beirw llawer glwyseirw glas.
Lluniaf daith drosaf, doeth dras,—i weled
Y wiwloyw golau gras,
[ ]llif uch camlas,
172 Llyry Caer a llen glaer llanw glas.
Mae yng nghylch llathrfylch llethrfaith blas—y grog
O g[ ]wg[ ]
Mwynrym ddawn maenrwym ddinas,
176 Mur hoyw a môr gl[ ] glas.
Maich wnaf i’m Trawsnaf trwy fodd tras—i’r grog
Ar groyw[ ] ei gwas,
Mygrwawd ddiofn, ddofn, ddifas,
180 Mal rhif graean ar lan las.
1
I’r Grog yng Nghaerfyrddin
Aberth grymus yw nerth (nid mewn rhyfel gorthrechwyr
ond mewn gwyrth gadarn dirion)
crair clodfawr, eglur ei rym, enwog,
4crog ac iddi bedwar pwynt o Gaer wen.
Lluniaf ddatganiad o fawl gan fy mod yn stiward ar farddoniaeth
i’r ddelw wych, ddisglair, hyfryd,
lle mae twrw mawr llanw byrlymus ei gwrs,
8cwmpas disglair Caer â rhesi o fylchau.
Llawn iawn fu o fendith heb ddull rhyfel
na thwrw na therfysg brwydr dra disglair.
............ caer loyw olau ei gwyngalch,
12 lle mae’r môr yn llenwi afon Tywi fyrlymus.
.....................................................
o achos y grog ddisglair,
maen â gorchudd llathraid ......taer ei ymladd,
16 llyfn yw’r bylchau â llawer o ystyllod [i]’r llu o gwmpas Caer.
Delw fyw lathraid o linach Tywysog llwybr tirion,
...........disglair
lle daw, cyn treio tu draw i’r maes,
20 llanw sy’n treiddio i’r eithaf ac yn cyrraedd Caer.
.................... dysg heddychlon er anrhydedd
i’r ddelw fyw wych, loyw a disglair,
disglair yw datganiad [?cennad] addfwyn,
24 ............................................................... Caer.
Cyflawn o fendith ydyw, stiward di-fai, ynof
gan ...................................
celfydd yw’r piler gwynfydedig tirion,
28 newydd da tŷ sanctaidd hyfryd Caer.
...................... Crist yw saer y grog
bur a chadarn ei gwyrth lesol a disglair,
Creawdwr .................................
32 [crair] a ddoeth i dref Caer ysblennydd.
Y grog hon, llyfr Beibl disglair â chlawr addurnedig,
....................................saer
delw wych, datganiad trylwyr tirion,
36 urddas tŷ annwyl Caer.
................................. can byddin diniwed
lle mae naw berw ton disglair eu sŵn,
...................................................
40 dŵr dros ddolydd sy’n mynd tuag at Gaer.
Daeth llanw gwyllt â .........................
er moliant i’r ddelw ddisglair,
teml ddwys y Saeson, dŵr cyflym byrlymus,
44 ......................................... Caer.
Da fu, datganiad trylwyr tirion, cwrs
.......................................
bendith fawr ac eglur, di-fai, enwog,
48 cludo gem a garem i Gaer.
Cyffes gywir a dymunol yw dyfod
i blith Saeson tref Seisnig,
..................................
52 crair eglur a hyfryd ei fri, crog o nef.
I’w ?braint ddisglair ............
................ cludo barddoniaeth wedi’i chysylltu’n gadarn,
ei thŷ yw Caer, tref filwrol gadarn,
56 ..................................................
.......................................
.......................................
.......................................
.......................................
Croes dioddefaint gogoneddus yr Arglwydd Grist gwynfydedig,
ni fagwyd pennaeth fel Ef,
Amddiffynnydd, Ymherodr pur tangnefedd,
64 dioddefaint crair cadarn gwych Arglwydd tirion y nef.
Daeth Duw Dad â delw ddaionus gywrain ei cherdd i Gaer,
fe’i gwneir yn allwedd gwyrth;
dof innau (cyfraniad o’r moliant pur melysaf)
68 â dwy gerdd eglur i’m crair di-fai.
Gwnaeth hon i’r deillion nad ydynt yn gweld, heb air o gelwydd,
[fod] fel y gwalch llygadog yn ei lawn blu;
arwydd na bydd, Arglwydd nerthol y ffydd,
72 neb yn ddedwydd heb nerth Mab mawr Mair.
A bod, goleuni clodfawr ei natur, crupl truan a phŵl,
meirwon gwywedig, ail air Duw,
yng ngŵydd pawb, gair mawl hyfryd,
76 yn gerddwr cryf ar orymdaith mewn ffair.
O’i gwyrth ddoeth a’i lles bydd y rhai byddar yn clywed
yn eglur wych heb rwystr;
a bydd yn gwneud peth marw yn fyw holliach,
80 gobaith moliant mawr.
Crair clodfawr gair pur yr Arglwydd, delw ddisglair
eglur a doeth ei gwyrth gref,
mae pob gradd o bobl, naddiad da gyda bwyall,
84 yn gyfarwydd â thaith er mwyn y Gŵr sy’n eu tyfu.
Ymweliad gwych .............. deisyf y grog
yng Nghaer eglur â lliw ei chalch fel eira,
wedi maddeuant, braint trwy lythyr,
88 salmau barddonol teml dda Solomon.
Molaf, addolaf ar fy ngliniau, .............
........... blinedig fy nhafod,
mae llawer yn moli, arllwysiad clodfawr o win,
92 delw fawr o drigfan ysblennydd Myrddin.
Agoraf, dodaf, datganiad ar ddeulin, fy mryd
mewn barnau goruchaf,
i garu delw fuddiol iawn ei rhinwedd,
96 ......................................
......................................
...................... trigfan myrr a gwin,
dysg sy’n fendith lwyr,
100 ysblennydd yw piler gwych a doeth Caerfyrddin.
...................................... i Gaer
ac arwydd Iesu yw,
cerdd eglur ddisglair ei bwrlwm .............
104 ............. crair byw urddasol.
.........................................................
cyfansoddwyr barddoniaeth a’i clyw,
Arglwydd wyneb gwych y byd a glyw
108 fawl gweddus i’r ddelw fyw hardd.
Mantell euraid urddasol a wnaeth Saeson o bell
.............................................
caer ddiddiffyg lleygwyr o liw barrug,
112 dull Seisnig, ar gyfer y grog fyw ddisglair.
......... diysgog [ei] braint a ddaeth i Gaer,
enwog yn y Beibl a glywir gan y pobloedd,
o farw, Arglwydd arweinydd gwych,
116 mantell euraid, a wnaeth yn fyw.
........................ delw euraid gref o ran iaith a ddaeth
gydag anafiadau mawr heb graith,
piler urddasol ..........................................
120 i Gaerfyrddin gref, taith fendithiol iawn.
................................. iaith gref i gaer fawr,
nid cerdd ofer yw iaith fawl;
dwyn ...................................
124 taith ddedwydd a dewisol.
................................ ugain mil
sy’n canmol eu bendith helaeth;
sicrhaf na fyddaf yn llygru iaith fawl,
128 moliant hawl ffyniannus y daith sy’n lles teg.
.................................... iaith wynfydig—Usalem
a seiliwyd yn Bennaeth,
ymyl bedd Crist ................
132 ................... mur cadarn a lliwiedig.
................................ traethiad gwych Myrddin
a ganodd gerdd sy’n cylchredeg ymhob iaith,
lle y mae ........................................
136 ............. delw fyw ddisglair, urddasol, faith.
............................................................
........................................
................................ pellfaith
140 iddynt hwy sy’n dymuno taith.
Duw trugarog, mae’n ein caru, nid yw’n ein ceryddu, ein tâl
dros lifeiriant creulon o waed a folir yn angerddol;
Derwen urddasol a’n prynodd ni yn ddewr,
144 Cynheiliad y nef sy’n rhoi nawdd i ni.
Daeth i Gaer, lle mae twrw rhuthr grymus y môr yn fyrlymus,
yn y ffurf y’n prynodd ni,
enwogrwydd melys, darparodd ddysg inni,
148 delw o’r nef, Crëwr nawdd.
Gofala am gyfran o’m salm, na ddarostwng arwyddion ysbrydoliaeth farddol,
y grog deg fawr a’m prynodd i,
anafiadau gwaedlyd a’th liwiodd,
152 erfyniaf, yn enw’r Arglwydd Dduw, dy nawdd.
Cost dafn o waed yr Arglwydd, trefnodd Crist eglur
i’r grog ddisglair sy’n ein gwared ni rhag digofaint,
bonedd mewn mydr, ymadrodd grymus,
156 dref sy’n ail nef, nawdd annwyl.
Llathraid yw y grog fyw o fewn dinas Caer,
delw annwyl teyrnas,
lle gŵyl y Saeson, torf welw gyfoethog,
160 llifeiriant dŵr croyw a llanw gloyw glas.
Elw cyflawn ar gyfrif delw euraid trwy urddas gem
a dderbyniodd tŷ a phlasty;
lle mae dŵr yn byrlymu ... cwrs dwfn
164 llawr [dyffryn] wyneb mawr llathraid y môr llyfn glas.
Lle byrlymus ei ddyfroedd yw Caer, lle nad cas mynd iddo
er mwyn delw y tŷ nefolaidd,
lle .......................... Jiwdas,
168 lle mae llawer o donnau glas hardd yn byrlymu.
Lluniaf daith gadarnaf, bonedd doeth, i weld
y [grog] wych a disglair [sy’n rhoi] goleuni gras,
.................................... llifeiriant uwch cwrs afon,
172 llwybrau Caer a mantell ddisglair llanw glas.
Mae o gwmpas tŷ y grog a’i fylchau disglair a’i lethr hir
................................................
bendith dirion ei grym dinas wedi’i amgylchynu gan faen,
176 mur cain a môr gloyw ..... glas.
Sicrwydd a wnaf i’m Harglwydd cadarn trwy foddion bonedd i’r grog
ar groyw .............. ei gwas,
mawl gwych, eofn, dwys, cyfoethog,
180 fel rhif graean ar lan las.
2
Englynion yr Anima Christi
Anima Christi, sanctifica me
Enwog trugarog, rhan wyd Tri—ac Un
O annog proffwydi,
Enaid teg, croesteg Cristi,
4Fal glain o fewn glanha fi.
Corpus Christi, salva me
Corff Crist, rhydrist gwrhydri—camau,
Cnawd cymin o’i erchi,
Iechyd, pur ysbryd, peri,
8Iachâ, Lyw, cadw yn fyw fi.
Sanguis Christi, inebria me
Gwaed Crist rhag yn drist dros deithi—a wna’
Fy neol a’m colli,
Cydfod goleuglod Geli,
12 Cadw rhag pechod feddwdod fi.
Aqua lateris Christi, lava me
Dwfr o ystlys dilwfr dolur weli—Crist,
Croes newydd cynheilri,
Dwyfawl gyllawl heb golli,
16 Diwyd gylch fywyd, golch fi.
Passio Christi, conforta me
Dioddef Crist o nef, Naf proffwydi—byd,
Bu ddygn dy bum weli,
Cadarn iawn wiwddawn weddi,
20 Cadarnha, fawr Wrda, fi.
O bone Iesu, exaudi me
Gwâr Iesu trugar, treigl, dydi,—ataf,
Ateb y goleuni,
Gwawr pob allawr fawr foli,
24 Gwrando heb feio fyfi.
Et ne permittas me separari a te
A gosod, fau fod, fyfi,—Gun urdda’,
Gar dy law, Leo mundi,
(Megis perth, wiwnerth weini,
28 Mawl heb dawl, y molaf di)
Ut cum angelis tuis laudem te
Cyda’th nifer, Nêr, nerth ir—angylion,
Yng ngolau ni chollir;
Yn y ne’ y cyweddir,
32 Nesed bid gwared, boed gwir.
Amen
Poed gwir, neu’n dygir i deg frenhiniaeth—nef
Yn ufudd wrogaeth,
Gwlad uchel, wlad feithrad faeth,
36 Gwledd ddiwagedd dduwogaeth.
2
Englynion yr Anima Christi
Enaid Crist, sancteiddia fi
[Y Gŵr] enwog a thrugarog, rhan o Dri ac o Un wyt
a ragfynegwyd gan broffwydi,
enaid prydferth, Crist ar groes hardd,
4glanha fi oddi mewn [nes fy mod] fel tlws.
Corff Crist, amddiffyn fi
Corff Crist, gresynus yw rhyfyg pechodau,
cnawd [y mae] cynifer i’w erchi,
peri di iechyd, yr ysbryd perffaith,
8iachâ a chadw fi yn fyw, Arglwydd.
Gwaed Crist, meddwa fi
Gwaed Crist, rhag fy alltudio a’m colli yn drist
oherwydd y pechodau a wnaf,
cyfamod Arglwydd disglair ei anrhydedd,
12 cadw fi rhag pechod meddwdod.
Dŵr o ystlys Crist, golch fi
Y dŵr o ystlys Crist gwrol a’i glwyf dolurus,
croes newydd y brenin sy’n cynnal [pob meidrol],
y Gŵr sanctaidd a pherffaith a chanddo hawl ar galon [pob meidrol],
16 yr un pur sydd uwchlaw popeth, golch fi.
Dioddefaint Crist, cryfha fi
Dioddefaint Crist o nef, Arglwydd proffwydi byd,
bu dy bum clwyf yn flinderus,
[dyma fy] ngweddi daer iawn am rodd fawr,
20 atgyfnertha fi, Arglwydd nerthol.
O Iesu da, gwrando fi
Tydi, Iesu trugarog a thirion, llwybreiddia ataf,
gair y goleuni,
Arglwydd a folir yn helaeth [gerbron] pob allor,
24 gwrando arnaf heb edliw.
Ac na ad i mi ymwahanu oddi wrthyt
A rho fi ger dy law, ardderchocaf Frenin,
fy nhrigfan, Llew y byd,
(molaf di â [chân] o fawl ddiddiwedd,
28 un megis perth, dyletswydd [a gyflawnir] yn egniol a brwd)
I’th foli di gyda’th angylion
Gyda’th lu, Arglwydd, cynheiliad grymus yr angylion,
yn y goleuni na fydd yn peidio,
yn y nefoedd y dygir [ni] oll ynghyd,
32 bydded gwaredigaeth yn fuan, dyna fy ngwir ddeisyfiad.
Amen
Gwir yw hyn, dygir ni oll i deyrnas hardd y nefoedd
mewn ymostyngiad ufudd,
gwlad fry, gwlad bendithion helaeth yn gynhaliaeth,
36 gwledd ddiderfyn y Duwdod.
3
Y Drindod
Da fu’r Drindod heb dlodi
A wnaeth nef a byd i ni.
Da fu’r Tad yn anad neb
4Roi Anna ddiwair wyneb.
Da fu Anna dwf uniawn
Ddwyn Mair Forwyn ddinam iawn.
Da fu Fair ddiwair eiriawl
8Ddwyn Duw i ddiwyno diawl.
Da fu Dduw Iôr, ddioer oroen,
Â’i Groes ddwyn pumoes o’u poen.
Da y gwnêl Mab Mair, air addef,
12 Ein dwyn oll bob dyn i nef.
3
Y Drindod
Da fu’r Drindod
a wnaeth y nefoedd a’r byd ar ein cyfer heb ddiffyg.
Da fu’r Tad yn fwy na neb
4[wrth] roi Anna ddihalog ei hanrhydedd.
Da fu Anna berffaith ei ffurf
[wrth] esgor ar Fair Forwyn bur iawn.
Da fu Fair [a’i] hymbil dilys [ar ein rhan]
8[wrth] esgor ar Dduw er mwyn [iddo] ddifetha’r diafol.
Da fu yr Arglwydd Dduw, gorfoledd diamwys,
[wrth] ddwyn pumoes [y byd] o’u dioddefaint â’i Groes.
Da y bydd Mab Mair yn sicrhau, addewid cydnabyddedig,
12 ein bod ni i gyd, bob creadur, yn cael ein dwyn i’r nef.
4
Lluniau Crist a’r Apostolion
Da y lluniwyd, dull iawnwedd,
Dwyfron Mab Duw fry a’n medd.
Rhoed yn lew mewn tabl newydd
4Eilun Wawr ar loywon wŷdd,
Er dangos i’w eurglos Ef
Y deuddeg oll a’r dioddef,
Grasus yw, ar groes y sydd,
8Y dioddefai Duw Ddofydd,
A’r Drindod, cymhendod cu,
A’i ras yn un â’r Iesu.
Da y lluniwyd Iesu lwyd Iôn,
12 O ddysg abl, a’i ddisgyblion,
Tyfiad agwrdd, twf digabl,
Tri ar ddeg, pand teg y tabl?
Duw ei Hun sy’n y canawl,
16 Delw fwyn, da y dyly fawl,
A’r deuddeg, lawendeg lu,
A iasiwyd ynghylch Iesu.
Chwech o ran ar bob hanner,
20 Deuan’ oll ynghylch Duw Nêr.
Ar yr hanner, muner mwyn,
Deau iddo, Duw addwyn,
Y mae Pedr, da y gŵyr edrych,
24 A Ieuan wiw awen wych;
A Phylib oreuwib ras,
Gwyndroed yw, a gwiw Andras;
Iago hael, wiwgu, hylwydd,
28 A Sain Simon, rhoddion rhwydd.
Lliw aur, ar y llaw arall
I’r Arglwydd cyfarwydd call
Y mae Pawl weddawl wiwddoeth,
32 A Thomas gyweithas goeth;
Martho—, ni wnaeth ymwrthod,
—Lamëus, glaer weddus glod;
Mwythus liw, Mathëus lân,
36 A Iago, rhai diogan;
Sain Sud o fewn sens hoywdeg,
Llyna ’ntwy, llinynnaid teg.
Llawn o rad ŷnt, bellynt bwyll,
40 Lle y doded mewn lliw didwyll.
Ystyr doeth ystoria deg
Dydd a gafas y deuddeg
Cerdded y byd gyd ag Ef,
44 Cain dyddyn, cyn dioddef.
Gwedy’r loes ar groes y grog
A gafas Crist, a’i gyfog,
A’i farw, ni bu oferedd,
48 Hefyd, ac o’r byd i’r bedd,
Pan gyfodes Duw Iesu,
Ein iawn gâr, o’r ddaear ddu,
Dug yn ei blaid, nid rhaid rhus,
52 Y deuddeg anrhydeddus,
Gwir Fab Mair, gair o gariad,
I oresgyn tyddyn y Tad.
4
Lluniau Crist a’r Apostolion
Yn dda y darluniwyd, mewn dull cymwys,
mynwes Mab Duw uchod sy’n llywodraethu drosom.
Rhoddwyd yn wych mewn darlun newydd
4ddelw’r Arglwydd ar goed gloyw,
er mwyn dangos i’w eglwys hardd Ef
bob un o’r deuddeg a’r dioddefaint
(graslon ydyw) sydd ar y groes
8lle bu’r Arglwydd Dduw’n dioddef,
ynghyd â’r Drindod (gwedduster annwyl),
a’i gras yn un â’r Iesu.
Yn dda y darluniwyd yr Arglwydd Iesu bendigaid,
12 drwy fedrusrwydd deheuig, a’i ddisgyblion,
mewn gwedd rymus a ffurf ddi-fai,
tri ar ddeg ohonynt—onid hardd yw’r darlun?
Duw ei Hun sy’n y canol,
16 delw hyfryd, mae’n llwyr deilwng o glod,
ac mae’r deuddeg, llu dedwydd a theg,
wedi eu hasio o amgylch Iesu.
Wedi eu rhannu’n chwech ar bob ochr,
20 ymgasglant i gyd o amgylch yr Arglwydd Dduw.
Ar yr ochr dde iddo,
arglwydd tirion, Dduw addfwyn,
y mae Pedr (gŵyr yn iawn sut i edrych)
24 ac Ieuan wych a theilwng ei awen;
a Phylip yr â ei ras ar led mor rhagorol,
gwyn ei droed ydyw, ac Andras wych;
Iago hael lwyddiannus, un annwyl a theilwng,
28 a Sant Simon ddigrintach ei roddion.
Mewn lliw aur, ar yr ochr arall
i’r Arglwydd hollalluog doeth
y mae Pawl weddus a llawn doethineb,
32 a Tomas dirion wych;
Bartholameus, ni fu iddo ymwrthod erioed,
un amlwg a chymwys ei glod;
Mathew landeg, mewn lliw cyfoethog,
36 ac Iago, rhai di-fai bob un;
Sant Jwdas mewn arogldarth hyfryd,
dyna nhw, yn un llinynnaid hardd.
Llawn o ras ydynt (doethineb cyrhaeddbell)
40 lle y’u gosodwyd mewn lliw dilys.
Mae’r doeth yn ystyried hanes godidog
y dydd y cafodd y deuddeg
rodio’r byd gydag Ef
44 (trigfan hardd) cyn ei ddioddefaint.
Wedi’r boen a brofodd Crist
ar groes y crocbren, a’i wewyr,
a’i farw hefyd (nid yn ofer y bu hynny)
48 a’i fyned o’r byd i’r bedd,
pan atgyfododd Iesu, ein Duw,
ein cyfaill cywir, o’r ddaear ddu,
dygodd o’i blaid (ni raid ofni)
52 y deuddeg anrhydeddus,
gwir Fab Mair, gair llawn cariad,
i oresgyn teyrnas y Tad.
5
Moliant Llywelyn ap Gwilym
Llyfr dwned Dyfed, dyfyn—ar windai
I randir Llywelyn;
Llannerch, aed annerch pob dyn,
4Lle twymlys llu, at Emlyn.
Llyn i barc Emlyn, camlas—hyd Deifi,
A’r tefyrn ymhob plas,
Lluddied gardd, lladded ei gas,
8Lle bo’r orddod, llwybr urddas.
Llwybr urddas, bar bras yn bwrw bryn,—eglur
Oglais Lloegr a Phrydyn,
Lle dêl yr holl fyd a dynn,
12 Llaw hael, ac enw Llywelyn.
Llywelyn a’u myn ym ynni—a grym,
Llawenfab Gwilym, erddrym wrddri,
Llai ymadrawdd cawdd i’n coddi—no chaeth,
16 Llywodraeth a wnaeth a maeth i mi.
Llafuriawdd, berthawdd i borthi—digeirdd,
Llys ym mryn y beirdd, lle heirdd yw hi,
Lle gnawd cael gwasgawd a gwisgi—ddillad,
20 Llety anghaead, wastad westi.
Lle cynefin gwin a gweini—heilgyrn,
Lle chwyrn, llwybr tefyrn, lle beirw Teifi.
Lle dichwerw, aserw, o erysi—bryd,
24 Lle chwery esbyd byd heb oedi.
Lle maith yn llawnwaith llenwi—buelin,
Lle mae ufuddwin llym i feddwi.
Lle o’th nerth, Dduw ferth, ydd af fi—drachefn,
28 Lle anarlloestrefn, llanw aur llestri.
Llys eurwr, a’i gwnaeth llu seiri—yn falch,
Lliwgaer yn lasgalch, llugyrn losgi.
Llawnaf, dianaf, daioni—mynud,
32 Lluniaeth ffraeth, ffrwythdud, glud glodfori.
Llwybreiddwlad, gariad Gwri—Wallt Euryn,
Llywelyn drawstyn a â drosti.
Llywiawdr, ymerawdr meiri—Edelffled,
36 Llyw yw ar Ddyfed, llawer ddofi.
Llorf llwyth, ei dylwyth hyd Wyli—y traidd,
Llariaidd, brawdwriaidd, ail Bryderi.
Llathrlaw ysb euraw, ysberi—gwëyll,
40 Llid Pyll, arf dridryll, arfod Rodri.
Llinongadr, baladr Beli—yng nghyngaws,
Llwyrnaws Llŷr hoywdraws, llew wrhydri.
Llawen grair, a’n pair yn peri—llwyddfoes,
44 Llawenydd a roes am oes i mi.
Llywelyn derwyn i dorri—aergad,
Llawfad aur-rhuddiad a ŵyr rhoddi.
Llwydda, na threia, Un a Thri—rhag llaw,
48 Llwyddaw dawn iddaw, Duw i’w noddi.
5
Moliant Llywelyn ap Gwilym
Llyfr dwned Dyfed, mae’n galw i windai
yn ardal Llywelyn;
gwerddon, gadewch i gyfarchiad pob dyn fynd,
4lle llys cynnes i lu, i Emlyn.
Llyn i barc Emlyn, ffrwd hyd [afon] Teifi,
a’r tafarndai ym mhob lle,
[boed iddo] rwystro cywilydd, [boed iddo] ladd ei elyn,
8lle bo ergyd gordd, ffordd anrhydedd.
Ffordd anrhydedd, gwaywffon fawr yn taro’r rhai aruchel, cythruddo
Lloegr a’r Alban yn amlwg,
lle dêl yr holl fyd sy’n tynnu,
12 llaw hael, ac enw Llywelyn.
Fe fynn Llywelyn ynni a grym i mi,
mab llawen Gwilym, yn rheolwr hardd a chadarn,
llai o eiriau dig i’n digio na thaeog,
16 gwnaeth lywodraeth a rhoddodd faeth i mi.
Parodd adeiladu, addurnodd, i gynnal y rhai di-warth,
llys yn uchelfan y beirdd, mae’n lle i rai hardd,
lle y mae’n arferol i gael gorchudd a dillad ysblennydd,
20 llety nad yw byth yn cau, [lle] o groeso bob amser.
Lle y mae gwin yn arferol a gweini cyrn yfed,
lle bywiog, llwybr tefyrn, lle byrlyma [afon] Teifi.
Lle braf, diogel, rhyfeddol ei olwg,
24 lle mae ymwelwyr y byd yn cyfeddach heb oedi.
Lle mawr yn brysur yn llenwi corn yfed,
lle mae gwin rhwydd a chryf i feddwi.
Lle o’th nerth, Dduw hardd, yr af fi eto,
28 lle llawn ei ystafelloedd, llenwi llestri aur.
Llys gŵr aur, llu o seiri a’i gwnaeth yn wych,
caer liwgar yn ddisglair [â] chalch, [a] llusernau yn llosgi.
[Y lle] llawnaf, di-nam, [yn llawn o] ddaioni cwrtais,
32 arlwy parod, gwlad ffrwythlon, a dyfal glodfori.
Gwlad hygyrch, cariad Gwri Wallt Euryn,
Llywelyn gryf sy’n llywodraethu drosti.
Arweinydd, ymerawdwr stiwardiaid Edelffled,
36 rheolwr ydyw ar Ddyfed, yn tawelu llawer [o ddynion].
Cynheiliad llwyth, mae ei dylwyth yn ymestyn hyd [afon] Gwili,
[un] addfwyn, [un] fel barnwr, tebyg i Bryderi.
Llaw ddisglair yn rhoi aur i westeion, gwaywffyn yn deilchion,
40 llid Pyll, arf doredig, ergyd Rhodri.
Cadarn ei waywffon, gwayw Beli mewn brwydr,
ysbryd yn union fel Llŷr, gwych a chadarn, dewrder llew.
Trysor llawen, a’n harglwydd yn achosi ffyniant,
44 rhoddodd lawenydd am oes i mi.
Llywelyn ffyrnig i dorri byddin,
perchen aur coch â llaw ffodus sy’n gwybod sut i roi.
Llwydda, na leiha, Un a Thri o hyn allan,
48 bydded i’w alluoedd fod yn llwyddiannus, a Duw yn ei arwain.
6
Marwnad Llywelyn ap Gwilym
Dyfed a siomed, symud—ei mawrair,
Am eryr bro yr hud;
Doe wiwdymp yn dywedud,
4Hyddawn fur, a heddiw’n fud.
Cyn hyn, Lywelyn, olud—tiriogaeth,
Tŷ rhagof nis caeud;
Agwrdd udd y gerdd oeddud,
8Agor i mi, y gŵr mud.
Pryd glwys, prudd dadwys prif dud,—praff awdur
Proffwydair, balchsyth, drud,
Prif dda wawd, prawf ddywedud,
12 Prydydd, ieithydd, na fydd fud.
Fy ngheinllyw difyw, Deifr helgud,—baham,
Bwhwman deigr neud glud,
Fy nghanllaw y’m gadawud,
16 Fy nghâr am aur, fy ngharw mud?
Gwawr gwir nef a llawr, llef alltud—oedd hon,
Hyn oedd ddygn nas clywud;
Gwae fi, Geli pob golud,
20 Gŵyl fy nghyflwr am ŵr mud.
Pendefig, gwledig gwlad hud—is dwfn,
Ys difai y’m dysgud.
Pob meistrolrwydd a wyddud,
24 Poened fi er pan wyd fud.
Neud dwfn dy alar, neud difud—fy llef
Am fy llyw cadarnddrud,
Nid diboen na’m atebud,
28 Nid hawdd ymadrawdd â mud.
Gwae fi fod, elw clod, ail Clud—nyw ballodd,
Heb allel dywedud,
Gwn ofal tost gan ofud,
32 Gawr eiriau mawr am ŵr mud.
Gwae fi, Grist Celi, caled—o’m rhyfig
A rhyfedd y’m cosbed,
Gwymp oeddem oll cyn colled,
36 Gwympo crair holl gampau Cred.
Gwae fi, Grist Celi, calon doll—yw’r fau,
Wyf fyfyr am ddygngoll,
Campus eirf, cwmpas arfoll,
40 Cwympo udd y campau oll.
Gwae fyfi fy Rhi, rhoi i’th ddarpar—Duw,
Dwyn cadarnwalch cerddgar,
Nid rhodd gŵyl, neud rhudd galar,
44 Nad rhydd ymgerydd am gâr.
Gwae fi ddwyn, ail brwyn, breiniawl gyhoedd—llu,
Llywodraeth y bobloedd;
Lleas taerfalch, lles torfoedd,
48 Llawen, gwawr awen gwŷr oedd.
Gwae fi weled, trwydded drwg,
Neuaddau milwr, tŵr teg,
Annawn oes, un yn ysig,
52 A’r llall, do gwall, yn dŷ gwag.
Gwae’r nai a oerai, a ery—gweled,
Gwaelawd cof a’m deffry,
Y llys fraith yn llaesu fry,
56 A’r Llystyn yn arlloesty.
Llys gwin ac emys, ddigamoedd—gyllid,
Och golli a’i gwnaddoedd,
Llys naf aur, lles niferoedd,
60 Llyw lles, pei byw llys pawb oedd.
Os marw fy ewythr, ys mawr—o ryfedd,
Aur Afia Cymru i lawr,
Nad eddwyf, nai a’i diddawr,
64 Nad af yngwyllt, Duw fy ngwawr!
Gŵr oedd Lywelyn, gwir ganu—prudd,
Cyn rhoi pridd i’w ddeutu,
Pwynt rhyfel heb ymgelu,
68 Penrhaith ar Ddyfed faith fu.
Gŵr, nid gwas, a las o loes archoll—dur,
A diriaid fu’r dygngoll,
Gwrawl hawl mewn helm drwydoll,
72 Gair oer am y gorau oll.
Pwnc truan oerwan am eurwas—yw hyn,
Honni mawr alanas,
Cain arddelw cyfan urddas,
76 Cyrdd a glyw, cwyn llyw, cyn llas.
Dihareb yw hon, dywirir—ym mro,
A laddo a leddir.
Diben fo, hwn a dybir,
80 Dibaid gwae, a Duw boed gwir.
Llithr ddagrau bid mau, modd chweg,—och allell
A chyllell faelereg,
Llawer och dost ar osteg,
84 Llathr erddyrn, lladd tëyrn teg.
Nid diofal, ffyrfdal ffêr,
Y gelyn a wnêl galar;
A laddo dyn â’i loywddur,
88 I luddias hoedl, a leddir.
Heilbryn flodeuyn diwyd—a dderyw,
Ddeurudd diymoglyd;
Llwyr ydd aeth, gwingaeth gyngyd,
92 Haearn â chof a barn byd.
A wnêl argae, gwae a gwall—i’r deau,
A gaiff dial cuall;
A wnêl drwg o dreigl anghall
96 Â llaw, arhöed y llall.
Dall fydd byd, dull gwŷd gwedy,—ddwyn llygad
Oedd yn Lloegr a Chymru.
Dwg i’th wledd, ni’m gomeddy,
100 Dôr gwŷr, da frëyr, Duw fry.
Cyfiawnder fu ef, cyfundeb—cyrdd aur,
Cerddwriaeth ddoethineb;
Cyweirdant pob cywirdeb,
104 Corf clod, nid un wybod neb.
Lles bychan buan yw bod—yn rhullfalch,
A’r hollfyd fel ffurf rhod;
Llew syberw lliaws wybod,
108 Llas ag arf glas gorf y glod.
Llew olwg farchog, Llywelyn,—o’th las
I’th lys deg yn Emlyn,
Llai yw’r dysg, medd llawer dyn,
112 Llaw i’th ôl llyfr a thelyn.
Och ddwyn Llywelyn, och ddoeth,—a ddodaf,
Och a ddyd ei gyfoeth,
Och rydd a roddaf drannoeth,
116 Och beunydd, ei ddydd a ddoeth.
Och, och, y Ddôl Goch, ddaly gŵyl—barchus
Am dy berchen annwyl;
Och wedy’r ddwyoch ddiwyl,
120 Och, panad och? Pwy nid ŵyl?
Wylais lle gwelais lle gwely—f’arglwydd,
Band oedd fawrglod hynny?
Gair ateb, wyf gâr yty,
124 Gŵr da doeth, agor dy dŷ.
Gwaelfyrn gwawl tefyrn, gweli tafawd,—gwaith
Gwaeth bellach myfyrdawd;
Gwaeg cedyrn, gwag yw ceudawd,
128 Gwecry gwŷr gwedy gwawr gwawd.
Salw a thost am iôr costrith,
Selerwin fyrdd-drin feirdd-dreth,
Campus reddf cwmpas roddfath,
132 Cwympo i gyd campau byd byth.
Coeth edling, fflowr dling dy lis—oreuraid,
Wared clochdy Paris;
Cymro glew a’n gadewis,
136 Cymryd un, Cymry neud is.
Truan ac eirian, pawb a garo—dadl,
Aed Landudoch heno;
Doethineb neud aeth yno,
140 Diwyd grair dan dywod gro.
6
Marwnad Llywelyn ap Gwilym
Amddifadwyd Dyfed, symudwyd ei hymffrost,
o arwr bro’r hud;
ddoe ar adeg wych yn llefaru,
4y cynheiliad dawnus, a heddiw’n fud.
Cyn hyn, Llywelyn, cyfoeth tiriogaeth,
ni fyddet ti’n cau tŷ yn fy erbyn;
arglwydd grymus y gerdd oeddet ti,
8agor i mi, y gŵr mud.
Gwedd hardd pennaeth doeth y brif wlad, awdur cadarn
gair o broffwydoliaeth, gwych a syth, dewr,
moliant o brif ddaioni, ceisia siarad,
12 bardd, ieithydd, paid â bod yn fud.
Fy arweinydd ysblennydd difywyd, heliwr Saeson, paham
(y mae treiglo dagrau yn ddyfal)
fy eiriolwr, y’m gadewaist fi,
16 fy nghyfaill am aur, fy ngharw mud?
Arglwydd nef a daear, gwaedd un alltud oedd hon,
roedd hyn yn galed nad oeddet ti’n ei chlywed;
gwae fi, Arglwydd pob cyfoeth,
20 edrych ar fy nghyflwr, oherwydd gŵr mud.
Pendefig, arglwydd gwlad yr hud o dan y byd,
dysget fi yn berffaith;
gwyddet bob celfyddyd,
24 poenwyd fi ers i ti fod yn fud.
Dwfn yw dy alar, mae fy llef yn atseinio
am fy arweinydd grymus o wrol,
poenus iawn yw’r ffaith na fyddet yn fy ateb,
28 nid hawdd yw sgwrsio â mudan.
Gwae fi fod, tâl am fawl, cymar Clud na pheidiodd â hynny,
heb allu siarad,
teimlaf bryder poenus o ofid,
32 geiriau mawr o floedd am ŵr mud.
Gwae fi, Arglwydd Grist, creulon oherwydd fy rhyfyg
a rhyfedd y’m cosbwyd,
hardd oeddem i gyd cyn y golled,
36 fod trysor holl orchestion y byd Cristnogol wedi cwympo.
Gwae fi, Arglwydd Grist, calon doredig yw fy eiddo,
rwyf yn meddwl yn ddwys am y golled enbyd,
arfau campus, croeso cynhwysfawr,
40 fod arglwydd yr holl orchestion wedi cwympo.
Gwae fyfi, fy Arglwydd, rhoi i’th ragluniaeth Dduw,
cymerwyd ymaith hebog cadarn a garai gerddi,
ni cheir rhodd adeg gŵyl, coch yw galar,
44 nad yw’n bosibl dial am berthynas.
Gwae fi ddwyn, ail dristwch, cyhoeddiad breiniol torf,
fod llywodraeth y bobl wedi ei chymryd ymaith;
angau taer a balch, daioni i dorfeydd,
48 un llawen, arglwydd ysbrydoliaeth dynion ydoedd.
Gwae fi weld, croeso gwael,
neuaddau milwr, tŵr teg,
trychineb oes, un wedi ei ddifrodi,
52 a’r llall, to toredig, yn dŷ gwag.
Gwae’r nai a oedd yn oeri, sy’n byw i weld
(dyfnder cof sy’n fy neffro)
y llys lliwgar yn dadfeilio acw,
56 a’r Llystyn yn dŷ gwag.
Llys gwin a meirch, cyfoeth cyfiawn,
och golli’r un a’i gwnaeth,
llys pennaeth aur, budd i lawer,
60 arweinydd llesol, petai’n fyw byddai’n llys i bawb.
Os yw fy ewythr yn farw, mae’n rhyfeddod mawr,
([mae] aur Arabia Cymru i lawr)
nad wyf wedi mynd, mae’n ofid mawr i’r nai,
64 nad af yn wallgof, Duw fy Arglwydd.
Gŵr doeth oedd Llywelyn, canu gwir,
cyn rhoi pridd o’i amgylch,
cyflwr rhyfel heb guddio dim,
68 bu’n bennaeth cyfraith Dyfed faith.
Gŵr, nid bachgen ifanc, a laddwyd trwy boen clwyf dur,
ac anfad fu’r golled enbyd,
hawliwr gwrol mewn helmed doredig,
72 gair trist am yr un gorau i gyd.
Hanes truenus o ergyd drist ynghylch dyn rhagorol yw hyn,
cyhoeddi llofruddiaeth fawr,
proffesu hardd urddas llwyr
76 (mae’n clywed cerddi, cwynfan am arglwydd) cyn iddo gael ei ladd.
Dihareb yw hon, fe’i profir yn wir yn y fro,
‘Bydd y sawl sy’n lladd yn cael ei ladd.’
Bydded hyn yn ganlyniad, dyma a gredir,
80 diddiwedd yw gwae, yn enw Duw boed hynny’n wir.
Boed fy nagrau’n rhwydd, dull dymunol, och ei bod yn bosibl
â chyllell wedi ei hurio
(llawer och ddolurus yn gyhoeddus,
84 dyrnau disglair) lladd arglwydd hardd.
Nid heb bryder, arwr tal a chadarn,
yw’r gelyn sy’n achosi galar;
y sawl sy’n lladd dyn â’i ddur gloyw,
88 i derfynu bywyd, fe gaiff ei ladd.
Mae blodeuyn ffyddlon a brynai ymborth wedi darfod,
dwy foch eglur;
aeth haearn â chof a barn y byd yn llwyr,
92 meddwl ymroddedig i win.
Y sawl a wna atalfa, gofid ac angen i’r de,
bydd yn dioddef dial sydyn;
y sawl a wna ddrwg trwy symudiad annoeth
96 gyda’i law, boed iddo ddisgwyl y llall.
Dall fydd y byd, dull drygioni, wedyn, [oherwydd] dwyn llygad
a oedd yn Lloegr a Chymru.
Dduw uchod derbynia i’th wledd, ni fyddi’n fy ngwrthod,
100 amddiffynfa gwŷr, uchelwr da.
Roedd ef yn gyfiawnder, yn gytgord cerddi aur,
doethineb celfyddyd barddoni;
cyweirdant pob ffyddlondeb,
104 colofn clod, nid oedd neb mor wybodus.
Lles bychan byrhoedlog yw bod yn fyrbwyll a balch,
a’r holl fyd ar ffurf olwyn;
llew cwrtais llawn gwybodaeth,
108 lladdwyd colofn y clod ag arf las.
Y marchog ag wyneb fel llew, Llywelyn, os lladdwyd di
yn dy lys hardd yn Emlyn,
llai yw’r ddysg, meddai llawer dyn,
112 gwael ar dy ôl yw llyfr a thelyn.
Och fod Llywelyn wedi’i ddwyn ymaith, och feddylgar a ddodaf,
och a ddoda ei diriogaeth,
och ddiatal a roddaf drannoeth,
116 och beunydd, daeth dydd [ei farwolaeth].
Och, och, y Ddôl Goch, fod dydd coffa parchus wedi’i gynnal
ar gyfer dy berchennog annwyl;
och ar ôl y ddwy och ddigalon,
120 och, onid och? Pwy nad yw’n wylo?
Wylais lle gwelais orweddle fy arglwydd,
onid oedd hynny’n glodforus?
Gair o ateb, rwyf yn berthynas i ti,
124 y gŵr da doeth, agor dy dŷ.
Byrnau gwael yw llewyrch tefyrn, sarhad geiriol,
gwaith gwaeth bellach yw coffadwriaeth;
ceidwad dynion cadarn, gwag yw’r galon,
128 eiddil yw gwŷr ar ôl colli arglwydd moliant.
Hyll a phoenus am arglwydd hael,
taliad i feirdd o win o’r seler ar fyrddau llawn,
greddf wych fel rhodd ymhob man,
132 fod y cyfan o gampau’r byd wedi cwympo am byth.
Tywysog glân, blodeuyn fleur-de-lys euraid y llinach,
gwaredigaeth clochdy Paris;
Cymro dewr a’n gadawodd,
136 o gymryd un, mae pobl Cymru yn waeth.
Pawb sy’n caru dadl, y truenus a’r disglair,
aed i Landudoch heno;
mae’r doethineb wedi mynd yno,
140 trysor ffyddlon dan dywod gro.
7
Moliant Ieuan Llwyd ab Ieuan Fwyaf
Neud Mai, neud erfai adarfeirdd traeth,
Neud manwyrdd coedydd, wŷdd weyddiaeth,
Neud meinwedn gan edn ganiadaeth—anawdd,
4Neud mi a’i heurawdd, neud mau hiraeth.
Nid er na chaffwyf, loywnwyf luniaeth,
Newyddion roddion ym Môn a maeth,
Nid eisiau heiliau, hael wasanaeth—byd,
8Neud heb anwylyd, tybion alaeth.
Neud temlau, byrddau, beirdd ysgafaeth,
Neud teulu eirian teuluwriaeth,
Na’m bu hyn, Duw gwyn, gweinidogaeth—serch,
12 Nad am annerch merch, mawrchwant neud gwaeth:
Na welaf Ieuan, ddifan ddofaeth,
Na wŷl yntau fi, rhi rhywiogaeth.
Neud af, anwylaf unoliaeth,—ataw,
16 Nid wyf hy hebddaw, ddifraw ddofraeth.
Gwyllt wyf tra gwelwyf gwaly mabolaeth,
Gwenwynwys ynof gwin wasanaeth,
Gwedy, gwydn y’m try, treftadogaeth—braw,
20 O gyhoedd wylaw, gywyddoliaeth.
Gwyrddgae yw’r lle mae, mi a’i rhydraeth,
Gwarae o feddiant, gwir ofyddiaeth,
Gwyndir cryf lle tyf tafarnwriaeth—hoed
24 A gwydr egin coed, gwiw diriogaeth.
Gwelaf yn bennaf ei unbennaeth,
Gwalch o hil Lawdden, gweilch helyddiaeth,
Gwaredfeirdd ydiw, gwirodfaeth—cerddawr,
28 Gwawr a garodd awr y gerddwriaeth.
Gwas diog fyddaf i’m gwesteiaeth,
Gwastad erbyniad yw’r aur bennaeth;
Gwaenwyn, gwiw ancwyn, ei uncaeth—fyddaf,
32 Gaeaf, cynhaeaf a haf hyfaeth.
Da cadwai awdur, deg geidwadaeth,
Da a fyn ym gnawd, diofn y’m gwnaeth.
Durgrwydr yw dôr brwydr ar dir breudraeth—môr,
36 Dôr difraw ragor, Deifr wrogaeth.
Difanol eiriol arial pennaeth,
Difai, medd pob rhai, y rhydd luniaeth.
Dyfodiad, trwsiad, treisiaeth—a gynnail,
40 Defodau Huail, hail ehelaeth.
Dibwl, difygwl bendefigaeth,
Diball, dyn arall nid un wriaeth,
Difai, dôr erfai, dewr arfaeth—drudchwyrn,
44 Difan aur dëyrn dwfn wrdaaeth.
Da fygylarf gwŷr, Lŷr filwriaeth,
Difygylodd fi, da fugeiliaeth.
Dwbled ym, rym rwymedigaeth—llurig
48 Dyblig, mad edmig, yw’r mau dadmaeth.
7
Moliant Ieuan Llwyd ab Ieuan Fwyaf
Mae’n fis Mai, mae beirdd-adar y traeth yn wych,
mae dail gwyrdd mân ar y goedwig, gweadwaith coed,
treiddgar a chlòs ei gwead yw cân astrus gan aderyn,
4myfi a’i gwnaeth yn enwog, mae hiraeth arnaf.
Nid am nad wyf yn cael anrhegion newydd a maeth
ym Môn, darpariaeth lawen,
nid oes prinder gwleddau, gwasanaeth agored i’r byd,
8heb un annwyl [yr wyf], meddyliau tristwch.
Mae byrddau yn bentyrrau, ysbail i feirdd,
mae gosgordd hardd eu cwrteisi,
[ond] yr hyn na chefais mohono, Duw sanctaidd, oedd gwasanaeth serch,
12 nid [chwant] am gyfarch merch, [ond] chwant mawr sy’n waeth:
[y ffaith] na welaf Ieuan, magwraeth berffaith,
[ac] na wêl yntau fi, arglwydd ucheldras.
Fe af ato, undod serchus iawn,
16 nid wyf yn ddewr hebddo, cynhaliaeth ddibryder.
Gwyllt wyf tra fy mod i’n gweld cyflawnder ieuenctid,
trodd darpariaeth gwin yn wenwyn ynof,
ar ôl etifeddiaeth dychryn, yn greulon y mae barddoniaeth
20 yn dod i mi yn sgil wylo cyhoeddus.
Cae gwyrdd yw’r lle y mae, fe wnaf fi ei gyhoeddi,
meddiant chwaraegar, gwir garwriaeth,
tir dedwydd cryf lle tyf lletygarwch hiraeth
24 ac egin coed disglair, tiriogaeth hyfryd.
Ei arglwyddiaeth ef sydd oruchaf yn fy ngolwg i,
hebog o linach Llawdden, helwriaeth â hebogiaid.
Gwaredwr ydyw i feirdd, darparwr gwirodydd i gerddor,
28 arglwydd a garai adeg cerddoriaeth.
Gwas diog fyddaf ar fy ymweliad,
croesawr cyson yw’r arglwydd ysblennydd.
Ei un caethwas fyddaf, gwledd dda, y gwanwyn,
32 y gaeaf, yr hydref a’r haf maethlon.
Fe gadwai awdur yn dda, cadwraeth weddus,
mae’n arfer dymuno’n dda i mi, fe’m gwnaeth yn ddi-ofn.
Arfwisg wedi’i haddurno’n ddelltog sydd am geidwad brwydr ar dir traeth brau y môr,
36 ceidwad dewr rhagorol [sy’n derbyn] gwrogaeth Saeson.
Ysbryd arglwydd hawdd ymbil arno,
rhydd luniaeth yn ddiarbed, medd pawb.
Mae’n croesawu ymwelwyr, ac yn rhoi gwisgoedd, ac yn atgyfnerthu,
40 yr un yw ei arferion â rhai Huail, gwledd helaeth.
Pendefigaeth eiddgar a di-ofn,
diarbed, nid oes dyn arall mor wrol,
perffaith, ceidwad gwych, bwriad dewr a ffyrnig,
44 arglwydd ysblennydd di-fai a dwfn ei fonedd.
Arf da sy’n dychryn dynion, milwriaeth Llŷr,
fe’m gwnaeth yn ddi-ofn, gofal da.
Mae fy nhad maeth yn wasgod amddiffynnol i mi
48 wedi’i rhwymo mor gadarn â phais ddur ddwbl, anrhydedd mawr.
8
Moliant Hywel, Deon Bangor
Arglwydd canonswydd, unsud—Mordëyrn
A Dewi yng ngwlad yr hud,
Cybi nefol ei olud,
4Cydymddeithion Simon, Sud.
Sain Sud un ffunud ffyniwyd,—o genedl
Y Gwinau Dau Freuddwyd,
Sain Silin, ffrangsens aelwyd,
8Salm Saint Elien, gŵr llên llwyd.
Tëyrn, llwyd broffwyd, hil Brân,—mae ungwr
Ym Mangor mewn gown pân,
Tŷ geirwgalch teg ei organ,
12 Tant côr heb atynt a’i cân.
Ni chân fy nhafawd wawd wenithaidd,
Ni chair lliniodr ŵyr yn ochr lluniaidd,
Ni chêl i Hywel hoyw garuaidd—lwybr
16 O burddawn ewybr barddonïaidd.
Neirthiad a gefais, didrais dwydraidd,
Ni’m gad gamruad, ged Gymroaidd,
Nis erfyn o brudd ac nis arfaidd—draw
20 Naw, o’r praw lidiaw, iôr preladiaidd.
Neur gaiff yng Ngwynedd hoywfedd hyfaidd,
Neur gâr a’i dyeingl, nêr gwrdäaidd,
Nid byr fawl gwrawl a gyrraidd—ym Môn
24 Y beirdd, ’y Neon barddonïaidd.
Nid bas cyweithas ŵr urddasaidd,
Neud bardd ’y neddair, ffyrfair, ffurfaidd,
Nid barn don yw hon, henw´raidd—ym mryd,
28 Nid byd heb Wyndyd pryd prydyddaidd.
Nid byw fal fy llyw gloywryw, glewraidd
Nen dan y seren, dawn oes w´raidd,
Nid un gwalch hoywfalch, hyfaidd,—llygeidfyw
32 Ag yw cyw y dryw, caeau a draidd.
Nid un claer araith dyn clerw´raidd
 llwybr gŵr ewybr yn garuaidd,
Nid un bryn mebyn mabaidd—â hynaif,
36 Nid un gwenithgnaif â hyddaif haidd.
Nid un gwin naddfin â mynyddfaidd,
Nid un y paun, gnu o blu, â blaidd,
Nid fal Bleddyn, dyn diburoraidd—ras,
40 Y cân eddylwas ferw Cynddelwaidd.
Ni ŵyr, cymraw llwyr, Cymro llariaidd,
Roddi i eirchiaid yn Rhydderchaidd,
Nwysgel, eithr Hywel, athrawaidd—ganon,
44 Naf Môn, gloyw Ddeon arglwyddïaidd.
8
Moliant Hywel, Deon Bangor
Arglwydd ac iddo swydd canon, un tebyg i Fordeyrn
a Dewi yng ngwlad yr hud,
Cybi nefol ei gyfoeth,
4cymheiriaid Simon a Jwdas.
Fe’i bendithiwyd yn yr un modd â Sant Jwdas, o linach
y Gwinau Dau Freuddwyd,
Sant Silin, a thus ar ei aelwyd,
8salm Sant Elien, eglwyswr duwiol.
Pennaeth, proffwyd duwiol, o hil Brân, mae un dyn
ym Mangor mewn gŵn ermin –
tŷ gwyngalch o liw ewyn ac ynddo organ hardd –
12 mae’n canu’n rhwydd dant y gangell.
Ni chân fy nhafod gân wenieithus –
ni cheir pren mesur cam yn ymyl un cymwys –
ni chuddia rhag Hywel fuchedd annwyl, deg
16 drwy ddawn brydyddol bur a pharod.
Cefais gynhaliwr (heddychlon yw’r ymweliadau mynych),
nid yw’n gadael i neb floeddio’n ofer arnaf (cymwynas Gymreigaidd),
ni fydd cynifer â naw yn ymbil arno o ddifri nac yn ei herio acw
20 os digwydd iddo wylltio, arglwydd o anian prelad.
Fe gaiff yng Ngwynedd ddiod fedd hyfryd sy’n ennyn beiddgarwch,
mae’n caru’r sawl sy’n ei oleuo, arglwydd bonheddig,
nid prin yw’r mawl rhagorol y mae’n ei ennill ym Môn
24 y beirdd, fy Neon awenyddol.
Nid salw yw’r gŵr tirion urddasol,
bardd yw fy noddwr, un lluniaidd, cadarn ei eiriau,
nid barn ddrylliog yw hon yn y meddwl, nid fel barn henwr musgrell,
28 ni fyddai byd heb y gŵr o Wynedd ac arno olwg prydydd.
Nid oes yr un arglwydd tebyg i’m tywysog disglair ei linach â’r wayw ddewr
i’w gael dan y sêr, y gŵr dawnus, gwrol ei fyw,
nid yr un yw hebog hardd a balch, eofn, gloyw ei lygaid
32 â chyw’r dryw sy’n croesi caeau.
Nid yr un yw datganiad uchel dyn o anian clerwr
â dull hawddgar gŵr parod ei eiriau,
nid yr un yw amlygrwydd llencyn bachgennaidd â hynafgwr,
36 nid yr un yw gwenith wedi ei gynaeafu â haidd llosg.
Nid yr un yw gwin o ymyl cwpan cerfiedig â maidd o’r mynydd,
nid yr un yw’r paun a’i gnu o blu â blaidd,
nid fel Bleddyn, dyn angherddorol ei ddawn,
40 y cân dyn amcanus farddoniaeth fel Cynddelw.
Ni ŵyr yr un Cymro addfwyn (testun dychryn llwyr)
sut i roddi i eirchiaid yn debyg i Rydderch,
gan roi taw ar lefain, ond Hywel, y canon dysgedig,
44 arglwydd Môn, Deon disglair pendefigaidd.
9
Marwnad Angharad
Didyr deigr, difyr adafael,—o’m drem
Am drymed i’m cof gwael
Dodiad hoyw Angharad hael
4Dan ddaear, duon ddwyael.
Aele yw nad byw buail—win aeddfed,
Awenyddfardd adfail;
Alaf ar waesaf wiwsail,
8Aelaw fu o’i hoywlaw hail.
Heilwin fu, medd llu, lleufer—cain Indeg,
Cyn undydd breuolder;
Hoedl dangnef neb ond nef Nêr,
12 Hudol yw hoedl i lawer.
Llawer bron am hon ym Mhennardd—a hyllt,
Ail Esyllt ŵyl lwysardd;
Llawer cyfarf galarfardd,
16 Llwyr wae, ni chwarae, ni chwardd.
Ni chwardd cywirfardd cyweirfad,—cwyn uthr,
Can eithyw Angharad,
Ni dau o’m bron, neud ym brad,
20 Ne llif geirw, naw llef girad.
Rhy irad, ddygiad ddigudd,—fu orfod,
Ddrem fwyarfalch wrmrudd,
Rhieinaidd ferch, rhannodd fudd,
24 Rhwymo derw rhôm a’i deurudd.
Deuruddlas fain was wyf yn wael—can gŵyn
Cain gannwyll yn urael,
Darfod dyfod, dwfn ddeigrgael,
28 Derfyn hir diweirfun hael.
Haelaf, digrifaf goreufun—yng Nghaer
Oedd Angharad wanllun,
Hoen ffysg, da ddysg, nid oedd un,
32 Huan wybr, â hi nebun.
Pa un â’m aur fun mor fyr—o’i hoedlddydd?
Aml hidlddeigr a’m tragyr.
Pwyll rhadfaith, pall iradfyr,
36 Pefr nith haul, py fron ni thyr?
Gorhoffter eurner, arnad—Dduw Dofydd
Y mae fy ngherydd am Angharad,
Gyflawned y rhoist gyfluniad—diwael
40 O ddawn, gyfiawn gael, Ŵr hael, a rhad,
Gan yt fynnu, bu bwyllwastad,—ei dwyn
Yn rhwyf ebrwydd frwyn yn rhefbridd frad.
Gorugost rydost rediad—ei hoedlddydd,
44 Gŵyr ei charennydd â Dofydd Dad.
Gwasg chwyrn ar f’esgyrn, eirfysgiad—bu ddig,
Gorwyr i Gynwrig, gorf brig bragad.
Goroen cywiwgroen Eigr, un gariad—Uthr,
48 Goruthr yn un rhuthr fu’n anrheithiad.
Gorne bron hoywdon ehediad—gwyndraeth,
Gŵyr ei brodyr maeth alaeth eiliad,
Gwrm ael yn urael, un irad—nad byw,
52 Gwae ryw Eigr unllyw o’r gaer winllad.
Gofalus fronllech, gafaeliad—oer gawdd,
Ymy a neidiawdd o’i mynediad.
Gwrygiant ardduniant eurddoniad—facwy,
56 Gwreigaidd olywy, gwragedd leuad,
Gweddeiddwar gymar geimiad—yng ngarthan,
Gwayw awchdan Ieuan, cyflafan cad,
Gwaedgoel saffwy rhwy, rhwym gwlad—a’i gafael,
60 Gwawdgael, llwydgun hael, llydw gynheiliad,
Gwrthwyneb galon, gartheiniad—gytbar,
Gwrddfar, gwingar ddâr, gwengerdd uriad.
Gwaisg y’m clwyfawdd cawdd, coddiad—y’i galwer,
64 Gweler ar lawer galar liwiad.
Gwenynen addien a wyddiad—ei dawn,
Gwawn Geredigiawn, garw ei dygiad,
Goleuddyn â’i hŷn o had—bonheddfaith,
68 Goluddiai wagiaith, gŵyl ddiwygiad.
Gwedy hoedlddwyn gŵyn wyf geiniad—bronddellt,
Gwedd eiry blisg gwisgwellt, gwawr Fuellt fad,
Gwenfun ddiwael, hael heiliad—yng nghyfedd,
72 Gwinfwrdd a berthedd, gwynfeirdd borthiad.
Gwayw o’i chof drwof drawad—a’m gwarchae,
Gwae, em oleugae, y mau lygad!
Gwedd, dig argywedd, deigr gawad—a’i gwlych,
76 Gwyrdd fy ngrudd a chrych, fawrnych farwnad.
Gwenwyn ym ei chŵyn, ni chad—o’m ystlys,
Gwanas gywirlys, gŵn ysgarlad.
Gwaith drwg i olwg fyddai wyliad—caeth,
80 Gwaeth, cyfyng hiraeth, cof Angharad.
9
Marwnad Angharad
Mae dagrau’n llifo o’m llygaid (adfeddiant hir)
am fod dodi Angharad lawen a bonheddig
dan y ddaear mor drist i’m meddwl truenus,
4hi â’r aeliau duon.
Mae’n drist nad yw’r un â’r cyrn gwin aeddfed yn fyw,
dinistr bardd ysbrydoledig;
cyfoeth ar sylfaen gadarn noddwr,
8bu gweini yn helaeth o’i llaw hardd.
Bu’n gweini gwin, medd llu o bobl, disgleirdeb Indeg gain,
cyn un dydd marwoldeb;
nid oes bywyd tangnefedd ond Arglwydd y nef,
12 rhithiol yw bywyd i lawer o bobl.
Mae sawl calon yn torri ym Mhennardd am hon,
ail Esyllt wylaidd a phrydferth;
mae sawl bardd galar trwsiadus,
16 tristwch llwyr, nad yw’n chwarae, nad yw’n chwerthin.
Ni chwardd bardd ffyddlon da ei gyfarpar
am fod Angharad wedi mynd, ansawdd llif ewyn,
nid yw cwyn ofnadwy yn tewi o’m calon,
20 fe’m bradychwyd, mae’n llef alaethus.
Rhy alaethus, cipiad agored, fu gorfod
(llygaid balch tywyll fel mwyar,
merch foneddigaidd, dosbarthodd elw)
24 clymu pren derw rhyngom a’i bochau.
Gwas main gwelw ei fochau wyf i yn druenus oherwydd galar
am gannwyll hardd mewn lliain,
am fod terfyn hir merch bur a hael
28 wedi dod, achos dagrau hidl.
Angharad â’r wedd eiddil oedd y ferch haelaf, hawddgaraf
a gorau yng Nghaer,
sirioldeb bywiog, dysg dda, nid oedd neb
32 yr un fath â hi, haul yr wybren.
Pwy a fu mor fyr ei heinioes â’m merch euraidd?
Dagrau hidl mynych sy’n fy mlino.
Synnwyr llawn gras, colled alaethus o sydyn,
36 nith ddisglair yr haul, pa fron nad yw’n torri?
Pennaeth euraidd moliant, arnat ti Arglwydd Dduw
y mae fy ngherydd am Angharad,
mor gyflawn y rhoddaist ddarpariaeth wych
40 o fendithion, caffaeliad priodol, Gŵr hael, a gras,
gan i Ti fynnu (un synhwyrol oedd hi) ei dwyn ymaith
yn rhy sydyn drist trwy frad y pridd tew.
Gwnaethost gwrs ei heinioes yn druenus iawn,
44 anghywir oedd ei pherthynas â Duw Dad.
Mae cywasgiad ffyrnig ar fy esgyrn, bu’n gyflafan greulon,
disgynnydd i Gynwrig, piler rhan flaen byddin.
Gloywder hyfryd Eigr, un anwylyd Uthr,
48 fe’n hysbeiliwyd yn ofnadwy mewn un ymosodiad.
Disgleirdeb brig ton lachar yn llifo dros draeth gwyn,
mae ei brodyr maeth yn adnabod gwead galar,
ael tywyll mewn lliain, mae’n drist nad yw hi’n fyw,
52 gwae dylwyth un arglwydd Eigr o’r gaer lle gweinir gwin.
Neidiodd dolur gofidus i’m calon
yn sgil ei hymadawiad, gafaeliad poen oer.
Ffyniant anrhydedd marchog sy’n rhoi aur,
56 gwraig aeddfed hardd, lleuad y gwragedd,
cymar tyner a gweddus pencampwr mewn brwydr,
Ieuan â’r waywffon danbaid, lladdfa brwydr,
gwaywffon waedlyd arglwydd, cydiwr gwlad a’i chynheiliad,
60 un a folir, arglwydd llwyd hael, cynheiliad llu,
gwrthwynebwr gelynion, cymar amddiffynnwr gwersyll,
arglwydd cadarn grymus ei ddicter, hoff o win, pendefig cerdd berffaith.
Fe’m brifodd gofid yn sydyn, gellir ei alw’n gerydd,
64 mae lliw galar i’w weld ar lawer o bobl.
Gwenynen hardd a oedd yn ymwybodol o’i dawn,
gwawn Ceredigion, creulon oedd ei dwyn ymaith,
merch olau â’i hynafiaid o dras fonheddig hir,
68 ataliai iaith ofer, gwedd wylaidd.
Ar ôl cwyn am ddwyn einioes wyf yn fardd torcalonnus,
gwedd haenen o eira’n gorchuddio gwellt, arglwyddes dda Buellt,
merch hardd wych, gweinydd hael mewn gwledd,
72 bwrdd gwin a chyfoeth, un a roddai ymborth i feirdd hardd.
Mae ergyd gwayw trwof o’r cof amdani yn fy nal yn gaeth,
gem penwisg ddisglair, druan o’m llygad!
Yr wyneb, niwed tost, mae cawod o ddagrau’n ei wlychu,
76 gwyrdd a rhychiog yw fy moch, cân alar druenus iawn.
Mae’r gŵyn amdani’n wenwyn i mi, nis ceir o’m hystlys,
cynheiliad llys cywir, gown ysgarlad.
Gwaith drwg i lygaid fyddai wylo di-baid,
80 gwaeth yw’r cof am Angharad, hiraeth enbyd.
10
Marwnad Rhydderch ab Ieuan Llwyd
Doe clywais, neur geisiais gêl,
Dair och ar lethrdir uchel.
Ni meddyliwn, gwn gannoch,
4Y rhôi ŵr fyth y rhyw och.
Ni bu i’m gwlad, rhoddiad rhydd,
Na llif cwyn, na llef cynydd,
Na meingorn ar lethr mangoed,
8Na chloch uwch no’r och a roed.
Pa dwrw yw hwn, pedeiroch?
Pefr loes, pwy a roes yr och?
Llywelyn, o’r syddyn serch,
12 A roddes hon am Rydderch,
Fychan, garllaw ei lân lys,
Ffyddfrawd Rhydderch ddiffoddfrys.
Och Amlyn o’i dyddyn dig,
16 Alaeth mamaeth, am Emig;
Och gŵr a fai’n awch garu
Ei gâr, o fawr alar fu;
A’r drydedd och, gloch y Glyn,
20 Llef ail, a roes Llywelyn.
Pan gaewyd, saith guddiwyd serch,
Gwin rhoddiad, genau Rhydderch,
Darfu, gwn y’m dierfir,
24 Ben Deheubarth wen yn wir.
Darfu’r foes dirfawr o fedd,
Darfu daearu dewredd.
Gorwyn alarch yng ngwarchae,
28 Gorwedd mewn maenfedd y mae.
Natur boen, nid hwy yw’r bedd,
Syth drudfalch, no saith droedfedd.
Pregeth ryfedd oedd weddu
32 Dan hyn o dywerchyn du,
Gwybodau, synhwyrau serch,
Gwmpas rodd gampus Rydderch,
A’i wiwdawd digollwawd gall,
36 A’i gryfgorff gwyn digrifgall,
A’i gampau, chwedl doniau dawn,
A’i lwyddiant a’i oleuddawn,
A’i ras, gyweithas ieithydd,
40 A’i glod, och ddyfod ei ddydd!
Trwst oedd oer trist ddaearu,
Trugarog o farchog fu.
Trugaredd, ddisymlwedd serch,
44 A roddo Duw i Rydderch.
10
Marwnad Rhydderch ab Ieuan Llwyd
Clywais dair ochenaid ddoe
ar lechwedd uchel, fe geisiais guddio.
Rwy’n adnabod llawer o ochneidiau, [ac] ni feddyliwn
4y byddai dyn byth yn rhoi’r fath ochenaid.
Ni bu i’m gwlad (rhoddwr dibrin)
na galar llifeiriol, na bloedd ceidwad cŵn,
na chorn treiddgar ar allt berthog,
8na chloch uwch na’r ochenaid a roddwyd.
Beth yw’r twrw hwn, pedair ochenaid?
Poen lem, pwy roddodd yr ochenaid?
Llywelyn Fychan, o drigfan cariad,
12 a roddodd hon am Rydderch,
gerllaw ei lys hardd,
cyfaill ffyddlon Rhydderch sydyn ei farwolaeth.
Ochenaid Amlyn o’i gartref galarus
16 am Emig, tristwch mam faeth;
ochenaid gŵr a fuasai’n caru perthynas iddo
yn angerddol, deilliodd o alar mawr;
a’r drydedd ochenaid, cloch Glyn Aeron,
20 gwaedd debyg, yw’r un a roddai Llywelyn.
Pan gaewyd ceg Rhydderch,
y rhoddwr gwin (cuddiwyd serch saith gwaith),
darfu am arglwydd Deheubarth wen yn wir,
24 gwn fy mod wedi fy ngadael yn ddiamddiffyn.
Daeth i ben yr arfer o roi medd yn helaeth,
fe roddwyd dewrder yn y ddaear.
Alarch gwyn llachar wedi’i ddal yn gaeth,
28 mae’n gorwedd mewn bedd o faen.
Cyflwr poenus, nid yw’r bedd yn fwy
na saith troedfedd, syth a didrugaredd.
Moeswers ryfedd oedd gosod
32 o dan y pridd du hwn,
gwybodaeth, synhwyrau cariad,
ddawn gynhwysfawr ac ardderchog Rhydderch,
a’i wychder canmoladwy a doeth,
36 a’i gorff cryf gwyn ffraeth,
a’i gampau, sôn am ddoniau athrylithgar,
a’i ffyniant a’i ddawn ddisglair,
a’i rinwedd, ieithydd caboledig,
40 a’i glod, mae’n wae fod dydd ei farwolaeth wedi dod.
Sŵn digalon oedd y claddu trist,
bu’n farchog trugarog.
Boed i Dduw roi trugaredd
44 i Rydderch, serch cwrtais ei ddull.
11
Awdl i Ifor Hael
Da y rhed ar waered arw oror—olwyn
Neu wylan ar rydfor;
Deuwell y rhed, buddged bôr,
4Diwyd wyf, dy wawd, Ifor.
Os da plethiad mad y môr—a’i hirwlych
Wrth herwlong raff angor,
Gwell y plethaf, ddewraf ddôr,
8Gwawd y tafawd yt, Ifor.
Ni thyf caen, llen maen, llanw môr—rhyferthwy,
Rhwyf Arthur neu Echdor,
Mygr ateb, ddiaereb ddôr,
12 Mal y tyf mawl yt, Ifor.
Cyfyd yt hawdd fyd, fadiain bôr,—gennyf,
Ac annwyl hawddamor,
Cad drachyfarf, ddurarf ddôr,
16 Cedyrn ofn, cadarn Ifor.
Nêr y byd wryd, bedeiror—giwdawd,
A Naf o logawd nef oleugor,
Neirthiad fo Efô ar fôr—daearlen,
20 Nen y ffurfafen, i ffyrf Ifor.
Newidiwr, trwsiwr trysor—moliant,
Normant glud goddiant, glod egwyddor;
Naddiad arf aergad, eirf argor—Einglgawdd,
24 Nawdd, mŷr a rwyfawdd, Mair ar Ifor.
Nawd braisg Ercwlff waisg, wisg borffor—lathrsiamp,
A Nudd oreugamp neddair agor;
Neud berth a chyngerth uwch angor—deifrblas,
28 Nid bas rhygafas rhywiog Ifor.
Ni byddai, lle bai ball, hepgor—arnaw,
Ni bwyf fi hebddaw, barawdlaw bôr.
Ni bydd anrhegydd un rhagor—nac uwch,
32 Ni bu ogyfuwch neb ag Ifor.
Hardd eisyllydd rhydd, rhodd ddidor—meddlyn,
Helmwyn Lywelyn, wawl gychwior.
Heddiw nid ydiw didwyll iôr—gwyndal
36 Hafal, hael