Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Henry Morton Stanley - Y Cyfandir Tywyll - Y Cymro a Ddarganfu Livingstone
Henry Morton Stanley - Y Cyfandir Tywyll - Y Cymro a Ddarganfu Livingstone
Henry Morton Stanley - Y Cyfandir Tywyll - Y Cymro a Ddarganfu Livingstone
Ebook921 pages12 hours

Henry Morton Stanley - Y Cyfandir Tywyll - Y Cymro a Ddarganfu Livingstone

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

One of the most lauded heroes of the British Empire, H. M. Stanley's life was a constant battle to escape the ghosts of his past: poverty, shame, and his Welsh roots. This is a detailed look at his career from a Welsh perspective, analysing his motives and explaining the significance of his unexpected fame. 68 images and 5 maps.
LanguageCymraeg
PublisherGomer
Release dateJan 19, 2021
ISBN9781785623387
Henry Morton Stanley - Y Cyfandir Tywyll - Y Cymro a Ddarganfu Livingstone

Related to Henry Morton Stanley - Y Cyfandir Tywyll - Y Cymro a Ddarganfu Livingstone

Related ebooks

Reviews for Henry Morton Stanley - Y Cyfandir Tywyll - Y Cymro a Ddarganfu Livingstone

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Henry Morton Stanley - Y Cyfandir Tywyll - Y Cymro a Ddarganfu Livingstone - Howard Huws

    llun clawr

    Henry Morton Stanley:

    Y Cyfandir Tywyll

    Y dyn a ddarganfu Livingstone

    ac a’i collodd ei hun

    Howard Huws

    Gomer

    Cyhoeddwyd gyntaf yn 2020 gan

    Wasg Gomer, Llandysul, Ceredigion SA44 4JL

    ISBN 978 1 78562 338 7

    ⓗ y testun: Howard Huws, 2020 Ⓒ

    Mae Howard Huws, wedi datgan ei hawl dan Ddeddf Hawlfreintiau, Dyluniadau a Phatentau 1988 i gael ei gydnabod fel awdur y llyfr hwn.

    Cedwir pob hawl. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig, tâp magnetig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr.

    Cyhoeddwyd gyda chymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru.

    Argraffwyd a rhwymwyd yng Nghymru gan

    Wasg Gomer, Llandysul, Ceredigion.

    www.gomer.co.uk

    Troswyd i e-lyfr gan Almon.

    Cynnwys

    Clawr

    Hawlfraint

    Rhagair

    Byrfoddau

    Pennod 1 – Dyffryn Clwyd

    Pennod 2 – New Orleans

    Pennod 3 – Ethiopia

    Pennod 4 – Ujiji

    Pennod 5 – Llundain

    Pennod 6 – Buganda

    Pennod 7 – Y Congo

    Pennod 8 – Brwsel

    Pennod 9 – Berlin

    Pennod 10 – Ituri

    Pennod 11 – Llyn Albert

    Pennod 12 – Richmond Terrace

    Pennod 13 – Cymru

    Pennod 14 – Lambeth

    Pennod 15 – Yr Isymwybod

    Pennod 16 – Stanleyville

    Pennod 17 – Ymlaen tua’r gorffennol

    Dramatis Personae

    Nodiadau

    Gardd Achau teulu John Rowlands (H. M. Stanley)

    Lluniau

    Cydnabyddiaethau Lluniau

    Llyfryddiaeth

    Mynegai

    Rhagair

    Yr adeg honno roedd llawer o leoedd gweigion ar y ddaear … Fe’i llanwyd ers fy machgendod ag afonydd a llynnoedd ac enwau. Peidiodd â bod yn wagle o ddirgelwch swynol – man gwyn y gallai bachgen freuddwydio’n ogoneddus amdano. Daeth yn fangre tywyllwch.

    (Joseph Conrad, Heart of Darkness, tt. 21–2)

    tu regere imperio populos, Romane, memento

    (hae tibi erunt artes), pacique imponere morem,

    parcere subiectis et debellare superbos.

    (Dy waith, Rufeiniwr, a phaid â’i anghofio,

    Fydd llywodraethu’r byd o dan d’arglwyddiaeth.

    Dy alluoedd fydd sefydlu gwareiddiad pan fo heddwch,

    Arfer trugaredd lle bo ymostwng,

    A darostwng trwy ryfel lle bo balchder.)

    (Mason, J., Aeneid 6.847–853

    – Virgil’s vision of Roman Greatness,

    Ar-lein: http://classicalanthology.theclassicslibrary.com/2012/08/07/aeneid-6-847-853/.)

    Chewch chi fyth hyd i Sais ar fai. Gwna bopeth ar sail egwyddor. Mae’n eich ymladd ar dir egwyddorion gwladgarol; mae’n dwyn oddi arnoch ar sail egwyddorion busnes; mae’n eich caethiwo ar sail egwyddorion ymerodraethol.

    (Shaw, Bernard, ‘Man of Destiny’

    yn Complete Plays with Prefaces, Cyf. I, t. 743.

    New York: Dodd, Mead and Company, 1963)

    Dechreuais ymchwilio i fywyd a buchedd John Rowlands, neu Henry Morton Stanley, yn sgil helynt codi delwau ohono yn Ninbych a Llanelwy yn 2011. Bu imi fy holi fy hun: ‘Sut y gallai hyn ddigwydd? Wedi’r oll a ddatgelwyd ynghylch natur a chanlyniadau imperialaeth y ddwy ganrif flaenorol, wedi i Ryfel Fietnam a Chwyldro Iran ddangos bod oes yr ymerodraethau wedi dod i ben, sut allai pobl yng Nghymru, ddechrau’r unfed ganrif ar hugain, fod eisiau dathlu dyn a fraenarodd dir Affrica ar gyfer gormeswyr, Cymro a gefnodd ar ei gynefin, ac a wadodd ei Gymreictod?’ Roedd yn amlwg fod rhyw newid sylfaenol wedi digwydd yn agweddau pobl at y gorffennol.

    Arweiniodd hynny fi i geisio rhagor o wybodaeth am H. M. Stanley, ei fyd a’i gyfnod. Dysgais mor gymhleth, mor amlochrog oedd cymeriad y dyn, mor rhyfeddol oedd ei wrhydri a’i ryfyg, mor druenus oedd ei fywyd cynnar, mor ddychrynllyd oedd ei drywydd o warth a thlodi i enwogrwydd byd-eang. Trwy ei nerth ei hun, fe gafodd yr hyn y dyheai fwyaf amdano; ond ni chyfrifodd y draul iddo’i hun, nac i eraill. Yr oedd yn hanes gwerth ei adrodd, ac er i eraill gyhoeddi astudiaethau ohono, nid oedd yr un cofiant diweddar, Cymraeg ar gael, un a edrychai arno o safbwynt Cymreig, a chan ddefnyddio ffynonellau Cymreig. Penderfynais geisio cywiro’r diffyg hwnnw.

    Dyma fy nghynnig ar gyflwyno i’ch sylw hanes bywyd H. M. Stanley, a’r rhesymau a arweiniodd at godi’r delwau ddeng mlynedd yn ôl; gobeithio y cewch fudd a mwynhad o’i ddarllen. Mae fy niolch yn fawr i Wasg Gomer am gyhoeddi’r gwaith, ac yn neilltuol i’r golygydd amyneddgar Catrin Stevens, a’m hachubodd rhag llithriadau lawer, a Marian Beech Hughes. Dymunwn ddiolch i staff Archifdy Sir Ddinbych ac Archifdy Prifysgol Bangor am eu cymwynasgarwch, ac i Kristina Banholzer am ei gwaith camera ardderchog. Eiddof fi unrhyw ddiffygion sy’n weddill.

    Howard Huws

    Bangor, 2020

    Byrfoddau

    Pennod 1

    Dyffryn Clwyd

    Ddechrau haf 1840 canfu Elizabeth Parry o Ddinbych ei bod yn feichiog. Roedd yn ferch bedair ar bymtheg oed i Moses Parry o’r dref honno, gŵr a fu ar un adeg yn gigydd ffyniannus a breswyliai ym Mhlas Pigot, ond a aeth mor dlawd fel y bu’n rhaid iddo symud i fwthyn distadl yng nghyffiniau porth y castell.¹ Yno, ymgynhaliai, orau y medrai, gyda’i deulu, ac roedd yn ŵr hoffus a berchid gan ei gymdogion. Ond yr oedd i’w ferch ddibriod feichiogi yn ergyd drom i’r hyn oedd yn weddill o barchusrwydd ei dylwyth, ac fel petai’n cadarnhau eu darostyngiad cymdeithasol yng ngŵydd y byd.

    A hithau’n disgwyl, ymwelodd Elizabeth Parry â swynwraig, gan holi ynghylch rhyw’r plentyn disgwyliedig a sut ddyfodol fyddai iddo yn y byd.² Ni wyddom pa ateb a gafodd, ond ganwyd ei bachgen yn y bwthyn ar 28 Ionawr 1841, ac ar 19 Chwefror cofrestrwyd bedydd ‘John (bastard) son of John & Elizabeth …’ yn eglwys Ilar Sant, hen addoldy garsiwn y castell. Dyma’r cofnod cyntaf am y dyn a adwaenid yn ddiweddarach yn Henry Morton Stanley.³

    Yn ôl y gofrestr, tad y plentyn oedd John Rowlands (II) alias Rolant, ffermwr 26 oed, ac mae’n bosibl iddo ef ac Elizabeth Parry geisio priodi yn Lerpwl dair blynedd ynghynt, ond iddynt gael eu llesteirio. Roedd John yn fab i John Rowlands neu Rolant (I), Llys, filltir i’r de o’r castell, ond ni chafodd Stanley adnabod yr un ohonynt erioed.⁴ Honnodd yn ddiweddarach fod John Rowlands (II), ei dad, wedi marw toc wedi ei eni, ac efallai mai dyna a ddywedwyd wrtho gan ei fam, ond mewn gwirionedd bu farw ei dad o alcoholiaeth dair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach, ar 24 Mai 1854. At hyn, honnodd Stanley yn ei hunangofiant iddo gyfarfod ar un achlysur â’i daid, John Rowlands (I), yn fferm y Llys, ond y mae hynny’n annhebygol iawn.⁵

    Yn ôl bywgraffydd cyntaf Henry Morton Stanley, yr oedd yn arfer gan Gymry’r cyfnod roi i faban newydd-anedig lwyaid o fenyn a siwgr yn gymysg, gan obeithio, mae’n debyg, mai bras a melys fyddai ei fyd o hynny ymlaen. Pan aeth y fydwraig ati i gyflawni’r ddefod hon yn achos John bach, ataliodd Moses Parry hi, gan ddweud: ‘Aros! Aros! Gad imi roi’r mymryn cyntaf yn ei geg!’ A chyda hynny, tynnodd hanner sofren aur o’i boced a’i rhoi yng ngheg y baban, gan ddweud: ‘Gobeithiaf na fydd arnat ti fyth ddiffyg cegaid o’r fath, fy ngwas!’

    Y Sulgwyn canlynol cynhaliwyd gŵyl yn Ninbych, ac yn ôl yr arfer gorymdeithiai’r cymdeithasau cyfeillgar (y cymdeithasau lles a sefydlid i ofalu am eu haelodau) drwy’r dref. Daeth y wraig a’i magai â’r baban allan o’r bwthyn yn ei breichiau, a chan weld John Rowlands (II), ei dad, ymysg y gorymdeithwyr, camodd y ddynes ymlaen a gweiddi arno, cyn uched ag y medrai, ‘John Rolant! John Rolant! Yli, gofala di am y baban hwn!’ Bu hyn yn destun cywilydd i’r tad, a chwerthin mawr ymysg ei gyfeillion, a chafodd ei atgoffa droeon o’r achlysur.

    Bu, ac y mae, sïon mai tad gwirioneddol y bachgen oedd James Vaughan Horne (1800–48), cyfreithiwr o Ddinbych a fu farw o effeithiau alcohol hefyd.⁸ Ni chafwyd unrhyw dystiolaeth bendant i’r perwyl hwn, dim un darlun o Horne na’r un disgynnydd iddo, ond serch hynny mae mwy nag un hanesydd wedi tynnu sylw at y ddamcaniaeth.⁹ Mae rhai fel petaent yn amharod i gredu y gallai unrhyw un mor ddawnus â Henry Morton Stanley godi o blith y werin Gymreig, a bod rhaid iddo ddeillio, rywsut, o haen ‘uwch’ y gymdeithas neu o hil amgen. Efallai y byddai Stanley wedi croesawu’r ddamcaniaeth hon, oherwydd does dim dwywaith nad oedd ei deulu ei hun yn destun cywilydd iddo wedi iddo ymddyrchafu yn y byd. Yr oedd trigolion cyffiniau Castell Dinbych (gan gynnwys ei deulu), meddai, yn ‘bobl hynod gyntefig’ a di-dras.¹⁰

    Yr un awydd i ymddieithrio oddi wrth ei dylwyth, efallai, a barodd i Stanley honni mai morwyn yn Llundain oedd ei fam, iddi ddod adref ar gyfer yr enedigaeth ac iddi ddychwelyd i Lundain wedyn – pechod anfaddeuol, ym marn ei theulu.¹¹ Awgrymai hynny’r posibilrwydd nad llabwst meddw o Gymro gwladaidd oedd ei dad, ond rhywun ym mhrifddinas yr Ymerodraeth – Sais, efallai, neu hyd yn oed Sais bonheddig. Mae’r dystiolaeth ar gyfer hynny, fodd bynnag, yn deneuach nag yn achos Horne. Yr unig beth y gellir ei ddweud â sicrwydd yw na fu gan fam Stanley fawr o ran yn ei fagu.

    Am gyfnod byr bu dan ofal ei daid, Moses Parry, ac roedd ganddo atgofion melys am yr hen ŵr. Mynnai hwnnw fynd ag ef i wasanaethau diflas y capel Wesleaidd, a dysgodd iddo ysgrifennu ar lechen hefyd. Roedd gan y plentyn ddiddordeb neilltuol mewn llythrennau, ac roedd yn ymwybodol eu bod yn cyfleu ystyr, er na allai ef, ar y pryd, eu dehongli. Ar un achlysur yr oedd wrth lawnt fowlio’r dref, a sylwodd fod ‘S.W.D.’ wedi’i baentio ar fasgedaid o boteli cwrw gerllaw. Llythrennau cyntaf enw’r gwerthwr oeddent, ond wrth ei weld yn syllu arnynt, gofynnodd rhywun iddo’n gellweirus beth oedd eu hystyr. Atebodd yntau: ‘Byddigions’. Yn fychan iawn, yr oedd yn ymwybodol fod yna wahaniaethau mewn cymdeithas, a bod oedolion â’r modd i chwarae ac yfed yn fodau o radd uwch nag ef. Parhawyd â’i addysg am ysbaid fer yn adran fabanod yr English Free School leol, a gedwid gan ryw John Jones.¹²

    Roedd ef a’i daid erbyn hynny’n byw yng nghartref dau fab Moses Parry, sef Moses yr ieuengaf a Thomas; ond wedi i Moses Parry yr ieuengaf briodi, pylodd y croeso ar yr aelwyd i’r henwr a’r bachgen. Wedi marwolaeth ddisymwth Moses Parry (yr hynaf) ym 1846 (toc wedi iddo fygwth rhoi cweir i John bach am dorri piser), buan y rhoddwyd y plentyn yng ngofal Richard a Jenny Price, cymdogion, mewn tŷ cyfagos yn Bowling Green, a thalwyd 2/6 yr wythnos iddynt am ofalu amdano.¹³ Pan briododd Thomas Parry yntau, cytunodd y ddwy chwaer yng nghyfraith fod yr hanner coron wythnosol (bron cymaint â chyflog dyddiol labrwr amaethyddol)¹⁴ yn ormod o draul ar eu hadnoddau a phenderfynwyd rhoi’r gorau i dalu’r arian, gan obeithio, efallai, y byddai’r Preisiaid yn rhy hoff o’r bychan i gael gwared arno.

    Os felly, gobaith gwag ydoedd. Ar 20 Chwefror 1847, ac yntau’n chwech oed, gwisgwyd dillad John bach amdano a’i gludo’r wyth milltir i Lanelwy ar gefn Richard Price, mab ei ofalwyr. Gadawyd iddo gerdded rhywfaint o’r ffordd, ond roedd allan o’i gynefin, a holai’n bryderus, ‘Ble ryden ni’n mynd, Dic?’ Er mwyn tawelu ei ofnau, dywedwyd wrtho eu bod yn mynd i weld ei fodryb Mary yn Ffynnon Beuno, ond pen y daith oedd Tloty Llanelwy. Yno, canodd Richard gloch y drws, a throi i adael. Pan ofynnodd John iddo ble’r oedd yn mynd, atebodd ei fod yn mynd i brynu cacennau iddo ac y byddai’n dychwelyd gyda’i Fodryb Mary.¹⁵ Agorwyd y drws, ac er gwaethaf ei brotestiadau gafaelwyd yn John gan ddieithryn a’i dynnu i mewn. Yna caewyd y drws ar y byd allanol am y naw mlynedd nesaf, i bob diben.

    Dyna, efallai, ddigwyddiad pwysicaf ei fywyd personol, yr un a ddylanwadodd fwyaf arno. O edrych yn ôl, gellid dadlau na ddaeth ato’i hun wedi’r sioc hwn ac na ddihangodd o gysgod y tloty erioed. Yn sicr, nid anghofiodd erioed y modd y twyllwyd ac y bradychwyd ef gan Dic Price, a sut y gallai gwên gyfeillgar ragflaenu ergyd fradwrus. Fel yr adroddodd un gohebydd drigain mlynedd yn ddiweddarach:

    Daliai’r dig chwerwaf, difaddau tuag at ymddygiad ei berthnasau cefnog am ganiatáu iddo yng nghyfnod ei ieuenctid – yr oedd yn blentyn wyth [sic] mlwydd oed – gael ei gymryd i Dloty Llanelwy. Yn y sefydliad hwnnw bu iddo, ac yntau’n llanc dawnus, bywiog, feithrin ei lid. Wedi hynny teimlai gynddaredd tuag at ei holl berthnasau heblaw ei fam ac Emily ei chwaer.¹⁶

    Yn yr hen gymdeithas amaethyddol, efallai na fuasai bod yn fab llwyn a pherth wedi dwyn arno anfri parhaol. Onid oedd digonedd o blant siawns ymysg y werin a’r bonedd fel ei gilydd? Os oedd yn iach, gallasai:

    … dasu a thoi, a chanu, a dal yr arad,

    A gweithio heb ymdroi, a thorri gwrych yn wastad¹⁷

    cystal ag unrhyw ddyn; ac awgryma astudiaeth o gofnodion genedigaethau plwyf Nantwich (tref nid nepell o Ddinbych, ac nid annhebyg iddi) fod cyfran helaeth o oedolion y plwyf hwnnw rhwng 1690 a 1819 yn epilio y tu allan i briodas.¹⁸ Erbyn canol y ddeunawfed ganrif, fodd bynnag, roedd gofyn cynyddol am ddiffinio’r rheolau ynghylch priodas, er mwyn egluro a diogelu pwy yn union oedd â hawl i reoli ac etifeddu cyfoeth newydd, cynyddol y chwyldroadau amaethyddol a diwydiannol. Diffiniodd Deddf Priodas Ddirgel 1753 (Deddf yr Arglwydd Hardwicke) briodas ‘gyfreithlon’; roedd unrhyw fath arall o uniad yn ‘anghyfreithlon’, ac unrhyw epil o’r uniad hwnnw’n blentyn ‘anghyfreithlon’ hefyd. Bron nad oedd geni plentyn y tu allan i briodas yn weithred droseddol. Un o ganlyniadau’r Ddeddf oedd cynnydd sylweddol yn nifer y plant yr oedd yn rhaid i glerigwyr, wrth gofrestru eu geni, nodi eu bod yn ‘anghyfreithlon’. Cyn hynny, ni fernid bod plant rhieni dibriod yn fastardiaid, os oedd y rhieni eisoes wedi cyhoeddi eu bwriad i briodi; ond ni thyciai hynny ar ôl 1753. Ymhellach, roedd sicrhau priodas ‘gyfreithlon’, wedi pasio’r Ddeddf, yn broses hir a chostus, ac yn anochel ni allai rhai tlodion ohirio planta hyd nes y casglent ddigon o arian i dalu am y ddefod. Yn Nantwich eto, awgryma’r ystadegau fod 20% o’r plant a fedyddiwyd ar ôl 1760 yn ‘anghyfreithlon’, a rhwng 25% a 33% wedi’u cenhedlu cyn y briodas.¹⁹

    Sylwodd un ymwelydd o Gaergrawnt, ddechrau’r 19eg ganrif, ar barhad yr hen agwedd ryddfrydol at blanta ymysg Cymry Gwynedd a Môn. Wedi crybwyll arfer ‘caru yn y gwely’ ymysg y werin, dywed: ‘peth cyffredin iawn yw i ganlyniad y gyfathrach ymddangos i’r byd ymhen dau neu dri mis wedi’r briodas. Nid yw’r pwnc yn destun unrhyw sylw neilltuol ymysg y cymdogion, ond i’r briodas ddigwydd cyn dwyn y tyst byw i’r goleuni.’²⁰

    Nid oedd genedigaeth ‘anghyfreithlon’ John Rowlands (III), felly, yn anarferol, ac yn ôl map Bastardy in England and Wales Joseph Fletcher ar gyfer 1842, nid oedd cyfradd genedigaethau ‘anghyfreithlon’ Sir Ddinbych lawer mwy na llai na’r gyfradd ar gyfer Cymru a Lloegr gyfan.²¹ Nid Elizabeth Parry oedd yr unig ferch ‘syrthiedig’ ac mae’n debyg na fuasai ei chyd-dlodion wedi collfarnu gormod arni yn achos un plentyn. Eithr, yng ngolwg yr awdurdodau, roedd magu plant siawns yn dreth annerbyniol ar adnoddau prin y plwyf (ar drethdalwyr parchus, hynny yw), a’u geni felly yn weithred wrth-gymdeithasol.²² Roedd pwysau ar ddarpar-rieni i briodi, neu gallent wynebu canlyniadau annymunol. Fel y dywed yr un ymwelydd Saesneg ynghylch ‘caru yn y gwely’: ‘Gan fod yr arfer wedi’i gyfyngu’n llwyr i ddosbarthau gweithiol y gymuned, nid yw mor llawn perygl ag y gallai ymddangos ar yr olwg gyntaf. Cymaint tlodi’r ddeuddyn, rhaid iddynt sicrhau bod eu plant yn gyfreithlon, er mwyn diogelu eu henw da, a chyda hynny eu modd o ennill bywoliaeth.’²³ Prin, felly, y gellid maddau i rywun fel Elizabeth Parry, yn enwedig wedi iddi fynd rhagddi i ddwyn i’r byd nid un mab llwyn a pherth ond pedwar plentyn siawns arall, gan dri neu bedwar dyn gwahanol.²⁴

    Er iddi yn ddiweddarach briodi tad dau o’r plant (a thad ei hunig blentyn cyfreithlon, wedi’r briodas), Robert Jones y plastrwr, roedd ei hymddygiad yn ymylu ar buteindra amatur, ac yn her agored i foesau’r cyfnod. Roedd Dinbych 1841 dan ddylanwad Calfiniaeth lem y mwyafrif Anghydffurfiol; synient fod drygioni yn glefyd etifeddol a bod plant siawns yn dwyn gwarthnod camymddygiad eu rhieni.²⁵ Roedd yn gymdeithas y gwgai ei harweinwyr ysbrydol yn arw ar ymblesera a chosbent gamymddwyn rhywiol ymhlith eu cynulleidfaoedd trwy eu hesgymuno.²⁶

    Soniwyd eisoes am Ddeddf Hardwicke a fu’n gam at ddiogelu adnoddau’r cyfoethogion wrth i effeithiau economaidd y Chwyldro Diwydiannol ddechrau dod yn amlwg yn Lloegr. Ymhen ychydig ddegawdau roedd yr un effeithiau i’w gweld ledled Cymru, a chyda hynny’r un caledu o ran agweddau at y tlodion. Yn y gymdeithas gyfalafol, ddiwydiannol, newydd, roedd bod yn segur a methu ennill a chrynhoi digon o arian i fedru byw heb gymorth eraill yn gyfystyr â bod yn barasit. Yr oedd yn annerbyniol.

    Gyda chost cynnal tlodion ar y plwyf yn cynyddu, awdurdododd Deddf Newydd Cyfraith y Tlodion (1834) grynhoi plwyfi cyfagos ynghyd yn undebau ac adeiladu tloty ym mhob undeb. Yno, didolid gwŷr a gwragedd, oedolion a phlant, yr iach a’r afiach oddi wrth ei gilydd mewn ymgais i ddelio â ‘phroblem’ y tlodion trwy eu corlannu o’r golwg a rhoi iddynt rywbeth defnyddiol i’w wneud. Sicrheid nad oedd yno fawr o groeso na chysur. Byddai’n rhaid i bethau fynd i’r pen ar deulu cyn iddynt gilio yno rhag llwgu i farwolaeth neu farw o oerfel. Nid carchardai mohonynt ac yn ddamcaniaethol roedd pobl yn rhydd i’w gadael pan fynnent; ond erbyn y 1850au nid segurwyr iach oedd mwyafrif y preswylwyr ond yr hen, y claf o gorff a meddwl, mamau dibriod a phlant amddifad: pobl heb unman arall i fynd iddo. Gwaelod tomen cymdeithas, yn wir, oedd y tloty.²⁷Yn awr roedd John bach yntau nid yn unig yn blentyn siawns ond hefyd yn ‘hogyn wyrcws’; a pha faint bynnag y gorliwiwyd y profiad hwn ganddo yn ddiweddarach, ni allasai cael ei amddifadu’n ddisymwth o’i gartref a’i deulu, a’i roi tan ofal dieithriaid anghyfiaith a digariad mewn sefydliad cwbl estron, fod yn llai nag ysgytwol iddo.²⁸

    Roedd tloty Llanelwy yn adeilad newydd sbon, wedi’i adeiladu ym 1838–9 yn unswydd at ei ddiben, ar gyfer 300 o breswylwyr, ar draul o £6,500 mewn ardal wledig gymharol iachus, nid mewn slym dinesig.²⁹ Ni fwriedid i’r lle fod yn foethus, rhag denu yno rai a ddymunai hawddfyd; ond yn faterol, gallai bywyd yno fod yn well na’r angen dybryd a wynebai gannoedd o dlodion gogledd Cymru’r cyfnod hwn, fel y tystia atgofion Robert Thomas (Ap Vychan).³⁰ Yn wir, ac yntau’n blentyn tad meddw a merch a oedd, efallai, yn forwyn yn Llundain bell, gallesid cyfrif John Rowlands (III) yn gymharol ffodus iddo gael lle yn y tloty. Dilledid y preswylwyr, a pha mor undonog bynnag oedd y bwyd, tyfodd yn hogyn corfforol iach, hynod gydnerth ac yn ymladdwr ffyrnig na feiddiai’r hogiau eraill ei herio, er gwaethaf ei ddiffyg taldra.³¹

    Y dewis arall fyddai wynebu tlodi yn Ninbych ar adeg cyni mawr y 1840au a’r 1850au neu lwgu ym mudreddi Llundain, lle’r oedd cyfradd marwolaethau plant yn uchel, a’r gyfradd ymysg plant siawns ddwywaith hynny.³² Rhaid cofio mai prin yr ystyriai awdurdodau’r cyfnod hwn eu bod yn gyfrifol am les unigolion, ac mai bychan iawn oedd dylanwad y wladwriaeth ar fywydau pobl, o’i gymharu â’r hyn oedd hanner canrif neu ganrif yn ddiweddarach. Roedd ardal Dinbych yn ffodus hefyd o fod â darpariaethau gofal iechyd corff a meddwl cymharol flaengar.³³ Eto, lle digariad iawn oedd y tloty, a gallai magwraeth mewn sefydliad felly beri niwed emosiynol a seicolegol mawr.

    Ymwelodd Comisiynwyr yr Adroddiadau i Gyflwr Addysg yng Nghymru (awduron y ‘Llyfrau Gleision’ drwg-enwog) â Thloty Llanelwy ychydig wythnosau cyn y derbyniwyd Stanley yno, ac roedd y lle, yn eu barn nhw, yn ‘feithrinfa puteindra benywaidd ac anlladrwydd gwrywaidd’, gyda’r trigolion yn cynnwys puteiniaid claf o anhwylderau gwenerol neu ar fin geni plant a dynion a oedd yn ‘ymroi i bob drygioni posibl’. Roedd y plant yn clywed iaith ac yn gweld ymddygiad yr oedolion hyn, onid oeddynt yn wrthrych eu blysiau hefyd. Roedd y puteiniaid yn hyfforddi merched ifanc yn eu crefft, a’r bechgyn yn rhannu gwlâu bob yn ddau, un hŷn gydag un ieuengach, fel eu bod ‘yn dechrau deall ac arfer pethau na ddylent’.³⁴

    O dan y fath amgylchiadau, gellir holi i ba raddau y bu i John ddioddef ymosodiadau rhywiol yn y tloty? Mae mwy nag un cofiannydd wedi awgrymu i hynny ddigwydd ac mai i’r profiad hwnnw y dylid priodoli ei agweddau diweddarach at ryw a rhywioldeb, ond mae’n amhosibl profi hynny.³⁵ Yr hyn a ddywed yw iddo ddyheu yno am gyfeillgarwch, ond ‘yn anffodus, darfu i’r rhai y mentrais draddodi iddynt yn fy oedran ymddiriedus, obeithion a diddordebau cyfrinachol fy nghalon, yn ddieithriad fy mradychu … Fe’m hwynebwyd gan Gasineb yn ei holl raddau.’³⁶

    Roedd yno 70 o blant, 40 bachgen a 30 merch. Canfu’r Comisiynwyr fod athro ysgol y tloty, James Francis, yn ddigymhwyster ac ymhell o fod yn rhugl ei Saesneg, er ei fod i ddysgu yn yr iaith honno ac i gosbi’r plant pe siaradent Gymraeg. Serch ei ddiffygion, mynnai eu bod yn siarad Saesneg ac o ganlyniad yr oedd safon eu hamgyffred a’u darllen yn yr iaith honno’n well nag y gellid ei ddisgwyl mewn ysgol mor gyntefig.³⁷ Ei unig gynorthwywraig oedd ei ferch 12 oed, nad oedd wedi’i hyfforddi o gwbl.

    Yr unig wersi oedd rhai ar y Catecism a’r Ysgrythurau, a’r unig werslyfr (yn wir, yr unig lyfr seciwlar yn yr ysgol) oedd gwerslyfr sillafu Saesneg, hen ffasiwn. Roedd y Gwarcheidwaid wedi gwrthod prynu llechi ysgrifennu a mapiau, gan ddadlau nad oedd angen dysgu mathemateg a daearyddiaeth i’r plant. Er bod cyfyngiadau a rheolau pendant ynghylch cosb gorfforol, tybiai’r arolygydd fod rhai o’r plant yn edrych fel petaent wedi eu cam-drin; ond nid oedd yn sicr a oedd hynny oherwydd nad oedd gan y plant ddigon i’w cadw’n brysur. O gofio mai ysgol tloty oedd hon, nid oedd yn eithriadol wael. Yn wir, roedd anlladrwydd, camdriniaeth a safonau academaidd isel yn nodweddu hyd yn oed ysgolion bonedd mwyaf breintiedig y cyfnod.³⁸

    Dim ond am ddwy awr y diwrnod y dysgid, er mai tair awr a ddisgwylid yn ôl y rheolau, a’r plant fel arall naill ai’n nyrsio cleifion yn y ward (y merched), neu’n gwau hosanau neu’n plethu gwellt (y bechgyn).³⁹ Eto, gwellodd y sefyllfa gydag amser, gyda llyfrau cofnodion Bwrdd y Gwarcheidwaid yn dangos y prynid Beiblau, llyfrau hyfforddi, llyfrau copïo a llechi ar gyfer y plant ar gais James Francis. Gwobrwywyd yr athro am ei effeithlonrwydd a chafodd godiad cyflog, ac erbyn 1856 gallai’r arolygydd ddweud bod yr ysgol yn foddhaol. Roedd Henry Davies, awdur bywgraffiad Stanley a gyhoeddwyd ym 1872, yn fawr ei ganmoliaeth i’r ysgol, i’r modd ‘rhagorol’ y câi ei rheoli, ac i ddiddordeb byw’r Esgob a’r clerigwyr lleol yn addysg a lles y plant.⁴⁰

    Flynyddoedd yn ddiweddarach honnodd Stanley ei fod ef a phlant eraill tloty Llanelwy yn cael eu curo’n barhaus ac yn ddidrugaredd gan John Francis, a bod hynny’n esbonio, onid yn cyfiawnhau, ei ymddygiad a’i bersonoliaeth ef ei hun weddill ei fywyd.⁴¹ Rhaid dweud bod creulondeb a thrais corfforol yn rhan annatod nid yn unig o addysg ond o gymdeithas yr oes honno.⁴² Roedd meistri’n curo’u gweision, swyddogion yn curo troseddwyr, athrawon yn curo’u disgyblion, gwŷr yn curo’u gwragedd a rhieni’n curo’u plant. O fewn cof byw’r cyfnod hwnnw, roedd y brenin ei hun wedi gorchymyn fflangellu ei ddau fab hynaf yn greulon.⁴³ Ymhlith pobl gyffredin, roedd unigolion yn sefydlu eu statws yn y gymdeithas neu’n datrys anghytundeb trwy ymosod ar ei gilydd yn gorfforol. Roedd pobl yn curo ac yn cam-drin anifeiliaid domestig a gwyllt, a thyrrai lluoedd i wylio dienyddiadau cyhoeddus. Roedd trais yn gymaint rhan o’r gymdeithas fel na allai’r rhan fwyaf o’i haelodau ddychmygu sut y gellid byw hebddo.

    Yn wir, ystyrid athro nad oedd yn curo’i ddisgyblion yn esgeulus.⁴⁴ Felly, mae’n anodd dychmygu bod tloty Llanelwy yn eithriad i’r duedd gyffredinol, yn enwedig o gofio yr ystyrid y plant yno’n wehilion cymdeithas, heb neb i achub eu cam. Ar wahân i hunangofiant annibynadwy Stanley, mae o leiaf un cyfeiriad yn ei ddyddiadur yn awgrymu iddo ddioddef cosb lem ar un achlysur am fwyta mwyar duon.⁴⁵ Ond a gosbid yno i’r fath raddau ag yr honnai ef hanner canrif yn ddiweddarach, gan beri niwed parhaol i’w bersonoliaeth?

    Dangosodd ymchwil trylwyr y diweddar Emyr Wyn Jones fod honiadau Stanley am greulondeb John Francis yn debyg o fod yn gwbl gelwyddog, gan gadarnhau hynny trwy gyfeirio at gofnodion a chynllun y tloty ei hun ac at yr hyn a wyddys am fywyd a phersonoliaeth Francis.⁴⁶ Yn wir, mae tystiolaeth fod Francis yn neilltuol hoff o John Rowlands, ac y barnai ei fod yn alluog ac yn sicr o ddod yn enwog. Ymbiliodd ar Moses Parry droeon i ‘wneud rhywbeth’ dros John bach, gan fod y plentyn mor anarferol o ddeallus.⁴⁷ Mae’n debyg mai ffug hefyd yw’r hanesyn a rydd Stanley yn ei hunangofiant ynglŷn â churo plentyn, rhyw Willie Roberts, hynod olygus, i farwolaeth yn y tloty.⁴⁸

    Yr oedd rheolau pendant yno ynghylch cosb gorfforol, ac ar yr un achlysur a gofnodwyd pan droseddodd Francis yn erbyn y rheolau hynny ym 1863, flynyddoedd wedi i John ymadael, cynhaliwyd ymchwiliad ar unwaith a bygythiwyd ef â’i ddiswyddo. Roedd yr un drosedd honno’n rhagarwydd o’r afiechyd meddwl a’i goddiweddodd yn llwyr fis yn ddiweddarach.⁴⁹ Pan gafwyd ym 1866 fod ei olynydd yntau wedi curo dau blentyn heb achos digonol, galwyd yr heddlu, rhyddhawyd datganiad i’r wasg, a chynhaliwyd ymchwiliad a arweiniodd at fygwth atal yr athro o’i waith a’i erlyn drwy’r llysoedd os troseddai drachefn.⁵⁰

    Mae’n amlwg i John gael addysg dda, o ystyried yr amgylchiadau. Roedd yn ddarllenydd brwd, ysgrifennai’n ddestlus, roedd ganddo afael ragorol ar ddaearyddiaeth, a medrai rifo’n ddigon cywir i gynorthwyo clerc y tloty gyda’i waith.⁵¹ Medrai arlunio’n dda a chafodd anogaeth i barhau â hynny; roedd hefyd yn arweinydd côr, yn brif fachgen y tloty, ac ym marn yr Arolygydd (meddai Stanley ei hun yn ddiweddarach), ef oedd hogyn mwyaf deallus yr ysgol.⁵² Ym mis Ionawr 1855 cafodd Feibl yn rhodd gan yr Esgob Vowler Short ‘for diligent application to his studies and good conduct’.⁵³ At hyn, roedd yn hoff o gerddoriaeth, yn gantor ac yn ddynwaredwr dawnus, ac ynddo arwyddion y ddawn theatraidd gref a ddaeth yn gymaint nodwedd ohono yn ddiweddarach yn ei yrfa.⁵⁴ Roedd y rhai a’i hadnabu, o’r wraig a gadwai’r stondin afalau ym marchnad Dinbych i’w gymdeithion yn y tloty, o’i athro ysgol i Esgob Llanelwy ei hun, yn sicr yr ymddyrchafai yn y byd, os câi fyw.⁵⁵

    Ceir awgrymiadau ynghylch personoliaeth y bachgen dawnus hwn mewn atgofion diweddarach gan rai a’i hadnabu. Yn ôl un o’i gyfoedion:

    Yr ysgolfeistr [yn Nhloty Llanelwy] yr adeg honno oedd rhyw Francis, a oedd â barn uchel iawn o’r Rowlands (Stanley, wedyn) ifanc, ac a arferai ei wneud yn gyfrifol am y bechgyn yn ei absenoldeb. Roedd y bachgen yn gallu cynnal disgyblaeth yn llwyr. Ni chaniatâi i unrhyw un herio ei awdurdod. Yn hytrach na chaniatáu i unrhyw un fod yn hy arno, rhoddai gurfa dda i bawb, ac roedd hynny mor effeithiol fel na heriai unrhyw fachgen ei awdurdod.⁵⁶

    Yn ôl rhyw Mr Hughes o Landudno, y cofnodwyd ei farn ym 1872, roedd gan Rowlands:

    … ewyllys anorchfygol na wyddai, yn wir, unrhyw rwystr i’w hamcan … natur ddewr, anhyblyg … llanc wynepgrwn, ystyfnig, penderfynol, pengrwn, digyfaddawd, dwfn … yn anarferol o deimladwy; ni allai oddef unrhyw bryfocio, na’r mymryn lleiaf o gellwair. Roedd yn neilltuol o gadarn o gorff, ond nid yn ddestlus nac yn lluniaidd iawn ei goesau, a oedd yn anghymesur o fyr.⁵⁷

    Dywed yr un ffynhonnell, gan ddibynnu ar gof gwlad amdano, fod Rowlands:

    … yr un mor nodedig ar y maes chwarae. Dywed y bonheddwr a ddyfynnwyd eisoes ei fod yn nodedig am ei asbri a’i ewyllys benderfynol … ef oedd flaenaf ym mhob hwyl … roedd yn hollol alluog i ddal ei dir ymhlith hogiau o’r un oed ag ef, boed trwy ei ddeallusrwydd neu’i ddyrnau … Dywedwyd i John ddianc o’r ysgol, yn y diwedd, wedi ymladdfa arw gydag un o’i gyd-ddisgyblion … Tueddwn i amau iddo ddianc oherwydd ymladdfa.⁵⁸

    Yr oedd y cof am ei ddiddordeb mewn daearyddiaeth a’i barodrwydd i ddefnyddio’i ddyrnau ar ei gyd-ddisgyblion yn fyw dros drigain mlynedd yn ddiweddarach: ‘Cofir amdano eto, tra oedd yn nhloty Llanelwy, ei fod wastad ar ôl y mapiau, ac yn stido neu’n curo’r bechgyn a darfent arno, tra oedd ef yn eu hastudio [h.y. y mapiau] yn absenoldeb ei feistr.’⁵⁹

    Disgwylid i unrhyw fachgen gwerth ei halen fedru ymladd, ond mae’n ddiddorol fod pobl yn cofio hynny yn achos John Rowlands (III) yn neilltuol. Ymddengys i Francis, ar un o’i ymweliadau blynyddol â’r Wyddgrug, benodi Rowlands yn ddirprwy iddo yn ei absenoldeb, gyda chaniatâd iddo fygwth y bechgyn a’u cosbi’n gorfforol. A dyna’n union a wnaeth, gan sefydlu ei awdurdod wedi ymladdfa â bachgen na fynnai ufuddhau iddo. ‘Yn aml wedyn,’ meddai yn ei hunangofiant, ‘yr wyf wedi dysgu pa mor angenrheidiol i drefn yw gorfodaeth trwy rym. Daw adeg pan nad yw erfyn yn tycio dim.’⁶⁰

    A fu’r achlysur hwnnw, ac eraill, yn gyfrwng iddo ganfod ynddo’i hun hoffter at drais ac at arfer tuag eraill dueddiadau treisiol yn ei bersonoliaeth ei hun – tuedd y bu iddo, flynyddoedd yn ddiweddarach, ei thadogi ar James Francis, er mwyn gosod y bai am ei dreisgarwch ei hun ar rywun arall? Yn sicr, roedd ei ddisgrifiad yn ei hunangofiant o’i gyfnod yn y tloty yn sen ofnadwy nid yn unig ar James Francis, ond hefyd ar Feistr a Meistres y tloty, John Williams a’i wraig, y Capten Leigh Thomas, Cadeirydd Bwrdd y Gwarcheidwaid, yr Esgob Vowler Short a’r holl gymdeithas leol. Pardduwyd James Francis yn neilltuol megis bwystfil creulon am yn agos i ganrif wedi cyhoeddi’r gyfrol, ac mae haneswyr llai gofalus yn parhau i ailadrodd y celwydd hyd heddiw.

    Mae’n sicr i rywbeth yn ei fagwraeth feithrin ynddo barodrwydd i ddatrys unrhyw her bersonol trwy drais geiriol neu gorfforol. Fel llawer plentyn teimladwy mewn amgylchiadau digariad, datblygodd foddion i’w amddiffyn ei hun rhag y byd a’r bobl frwnt o’i gwmpas. Dysgodd beri i eraill ryfeddu at ei ddoniau; dysgodd raffu celwyddau credadwy a dysgodd wadu pob bai neu ei osod ar ysgwyddau rhywun arall. Dysgodd ymuno yn y bwlio ar blant eraill.⁶¹ Yn bennaf oll, magodd gragen galed, bigog a gadwai eraill rhag mentro yn rhy agos ato, ond a olygai hefyd na fedrai gymdeithasu’n rhwydd ag eraill. Felly penderfynodd nad oedd arno eisiau eu cymdeithas. Ceisiodd ei ddarbwyllo’i hun nad oedd arno eisiau eu cariad ychwaith. Eto crefai amdano, neu yn niffyg cariad am fri a pharch o leiaf. Tyfodd i fod, i bob golwg, yn brocer o ddyn, yn asgwrn cefn i gyd, heb ddim calon. Ond ni fu hynny’n ddigon i’w gadw rhag ymdeimlad dwfn, parhaol o annigonolrwydd personol a diffyg hyder yn wyneb anawsterau.

    Yn sicr, nid oedd gofal y tloty i’w gymharu â chariad mam, ond ni chafodd hynny. Nid ymwelai hi na neb arall o’r teulu ag ef. Os gallwn ei gredu, ni welodd ei fam hyd nes ei fod yn tynnu am ei ddeg oed, pan ddangosodd James Francis iddo ddynes oedd newydd geisio lloches y tloty ar ei chyfer ei hun a’i phlant. Gofynnodd Francis iddo a oedd yn ei hadnabod, ond nid oedd. ‘Beth,’ meddai Francis, ‘dwyt ti ddim yn adnabod dy fam dy hun?’ Edrychodd y ddynes yn oeraidd arno ac ni ddywedodd air wrtho; roedd yn brofiad ysgytwol iddo. Roedd hi wedi gofalu am ei phlant eraill, ond nid amdano ef, ei chyntaf-anedig; ac aeth blynyddoedd lawer heibio cyn ailsefydlu unrhyw fath o berthynas rhyngddynt.⁶²

    Ni allai’r John ifanc lai nag ymdeimlo’n ddwfn â chywilydd ei eni a’i wrthod gan y fath fam. Efallai mai hynny, dan ddylanwad moesoldeb llym y cyfnod, a fagodd ynddo’r teimlad y dylai ac y gallai ‘olchi ymaith’ y cywilydd hwn trwy lendid amgylcheddol, corfforol a moesol trwyadl. Wrth iddo arolygu glanhau ystafell wely’r bechgyn: ‘â sêl a ysbrydolwyd gan fy nghred gadarn fod rhaid inni fod yn lân, y tu mewn a’r tu allan, ac y dylai ein calonnau, ein cyrff, a’n preswylfeydd fod yn ddilychwin, cyn y gellid ein galw’n dda. Sut y deuthum i arddangos arddeliad ffanatig dros drefn a glendid, wn i ddim.’⁶³

    Gydol gweddill ei oes pwysleisiai wrth ei ddarllenwyr a’i wrandawyr ei lendid personol a’i hoffter o drefn. Felly hefyd ei foesoldeb a’i dduwioldeb, oherwydd fe’i hargyhoeddwyd yn y tloty fod yn rhaid bod yn gwbl ddibechod er mwyn ennyn ffafr yr Arglwydd, er mor anodd hynny o dan yr amgylchiadau, ac er nad oedd yr oedolion o’i gwmpas hwythau’n ddi-fai, er gwaethaf mynych a maith weddïo rhai ohonynt. Felly, yn ystafell gysgu’r bechgyn aeth Stanley ati i:

    godi am hanner nos i ymgodymu’n ddirgel â’m hunan drygionus ac, wrth i’m cyd-ddisgyblion gysgu’n dawel, yr oeddwn ar fy ngliniau, yn agor fy nghalon gerbron yr Hwn a ŵyr bopeth, yn tyngu y byddai’r diwrnod nesaf yn tystio i’m diffuantrwydd, ac nad ofnwn fy ngwatwar am geisio gwneud yr hyn oedd yn dda. Addawn ymatal rhag dymuno rhagor o fwyd, ac, er mwyn dangos sut y dirmygwn y bol a’i boenau, rhannwn un pryd o fwyd o’r tri rhwng fy nghymdogion … a phe digwyddai fyth imi feddu ar unrhyw beth a gynhyrfai eiddigedd rhywun arall, fe’i rhoddwn ar unwaith … ac wedi imi wneud fy rhan, gobeithiwn weld yr arwydd o ffafr Dduw mewn triniaeth fwy cymedrol gan Francis.⁶⁴

    Duw llym a dialgar oedd y duw hwn, duw yr oedd yn rhaid ei blesio’n barhaus; ac yn ei ysgrifau diweddarach, ei lyfrau teithio a’i hunangofiant, ni chollodd Stanley unrhyw gyfle i amlygu a phwysleisio’i ffydd yn yr Hollalluog, diolch Iddo am Ei ofal tuag ato, a’r fath gymeriad rhinweddol a dyngarol a fagwyd ynddo o ganlyniad i hynny. Mae ei ailadrodd syrffedus ar y thema hon fel petai’n ymdrech i geisio’i argyhoeddi ei hun, lawn cymaint â’r darllenydd.⁶⁵

    Mae diddordeb mawr mewn mapiau a theithio yn aml yn codi o rwystredigaeth y caeth, a chwyna Stanley yn ei hunangofiant sut y’i cyfyngid i’r tloty, ac fel y cenfigennai wrth fechgyn y dref a wisgai gadachau lliwgar am eu gyddfau, ac wrth was y groser, a gâi fwyta cymaint o gyraints a siwgr ag y dymunai. Eto, rhaid na fu’n gwbl gaethiwus. Bu ar o leiaf un ymweliad â’r Rhyl er mwyn ymdrochi yn y môr, pan glywodd oedolion yn gwneud sylwadau dilornus am ei ordewdra. Hyd yn oed os nad oedd bwyd y tloty yn ddanteithiol, roedd yn ddigon iddo brifio arno; ac os gwir iddo rannu ei fwyd ag eraill, roedd ganddo eto ddigon yn weddill i’w besgi lond ei groen.⁶⁶

    Dywedir iddo ddianc o’r tloty, unwaith. Canfu ei Fodryb Catrin ef un bore ar drothwy ei chartref yn Ninbych, a gofyn iddo o ble roedd wedi dod. ‘Dwi wedi dengid,’ meddai.⁶⁷ Golchodd hi ei ddwylo a’i wyneb, rhoddodd frecwast da iddo a threuliodd weddill y diwrnod yn chwarae efo’i gefndryd. Cysgodd yno’r noson honno a phan gyrhaeddodd ei Ewythr Moses adref gyda’r hwyr cafodd wybod bod hogyn ei chwaer Betsi mewn gwely i fyny’r grisiau. Nid oedd unrhyw dda rhwng Moses a’i chwaer; roedd ef yn fasnachwr parchus a hi a’i phlant siawns yn embaras iddo, a gorchmynnodd yrru John yn ôl i’r tloty’r bore canlynol. Dywed ei gofiant cyntaf (a seiliwyd ar wybodaeth leol yn Ninbych) iddo gael chwecheiniog gan ei fodryb ar yr achlysur hwn a bod hynny wedi gwneud iddo ‘deimlo’n gyfoethog’. Ond, yn ôl un a’i gwelodd wedi iddo ddychwelyd i’r tloty, roedd y profiad o gael blasu bywyd teuluaidd am un diwrnod yn unig ac yna cael ei hel yn syth yn ôl i gaethiwed, yn ddigon i’w lorio’n llwyr. Roedd eisiau bod gyda’i deulu, a phrofi bywyd teuluol; ond roedd hefyd eisiau ymryddhau o’i gefndir a bod yn rhydd i grwydro lle y mynnai.⁶⁸

    Cafodd y cyfle hwnnw, o’r diwedd, ar 13 Mai 1856, ac mae’r hyn a ddywed am yr achlysur yn enghraifft dda o’i ddawn i lunio stori gredadwy, gyffrous. Yn ei hunangofiant dywed i James Francis fynd ati i’w guro unwaith yn ormod ac iddo yntau droi ar yr athro creulon a’i lorio. Yna, dihangodd o’r tloty yng nghwmni llanc o’r enw ‘Mose’ ac aeth y ddau ohonynt ar grwydr anturiaethus i Gorwen a Dinbych. Dyma pryd, meddai, yr aeth i weld ei daid, John Rolant, am yr unig dro yn ei gartref yn y Llys, ac na wnaeth yr henwr ond dangos y drws iddo â dirmyg amlwg. Unwaith eto, meddai, roedd wedi’i wrthod gan ei deulu ei hun.⁶⁹

    Mae’n hanesyn difyr sydd fel petai’n cyfiawnhau ei agwedd at ei deulu, ond nid yw’n wir. Nid yw’n esbonio sut y gallai dyn ag un llaw, fel Francis, afael mewn bachgen cryf a’i bastynu yr un pryd. Mae’n wir i lanc o’r enw Moses Roberts ddianc o’r tloty, ond roedd hynny ddeg mis cyn ymadawiad John. Nid yw llyfr cofnodion y tloty yn crybwyll unrhyw ysgarmes, ac ni ellir cysoni’r manylion a rydd Stanley â gofynion ymarferol y daith a’r digwyddiadau a ddisgrifir ganddo. Mae’n amheus a welodd ef ei daid erioed, ac er nad da gan hwnnw i’w fab genhedlu plentyn siawns, awgryma bywgraffiad 1872 fod yr hen John Rolant yn eithaf hoff o’r bychan, ac yn garedig tuag ato.⁷⁰ Ni fu ymladdfa, ni fu dianc, nid ymwelwyd â’r Llys. Ymadawodd John â’r tloty ar fore dydd Mawrth a chofnodwyd ei fod wedi bwyta brecwast cyn mynd at ei ewythr yn y National School, Holywell (a gedwid gan ei gefnder, Moses Owen, mewn gwirionedd). Dyna’r cwbl – ni chrybwyllir gair am unrhyw ddigwyddiad nac amgylchiad anghyffredin.⁷¹

    Dyna a ddywed bywgraffiad Stanley gan Thomas Gee (1890) hefyd, ond bod Gee yn gywirach pan ddywed mai i Ysgol Brynffordd yr aeth, nid i Dreffynnon. Ni soniodd Gee am unrhyw ymladdfa, ac yntau’n newyddiadurwr a fu’n byw ac yn gweithio yn Ninbych gydol y cyfnod ac a oedd â chlust fain am unrhyw hanesyn diddorol.⁷² Felly hefyd Dinbych yn ei Hynafiaeth a’i Henwogion (1907) gan yr hanesydd lleol Owen Evans, ac ysgrif goffa Stanley yn y Denbighshire Free Press ym Mai 1904.⁷³ Mae bywgraffiad 1872 yn crybwyll, fel y gwelsom, si fod Rowlands wedi gadael y tloty wedi ymladdfa arw â llanc arall, ond dywed yr un bywgraffiad hefyd ei fod wedi ymadael â’r tloty yn ddigon parchus yng nghwmni James Francis, a fenthycodd chwecheiniog gan farbwr lleol i’w roi’n anrheg i John ar ddechrau ei yrfa newydd. Yn fyr, mae’r hanes am guro’r athro a dianc o’r tloty yn fath ar ‘ffantasi ddial’, rhywbeth y gellid ei ddisgwyl gan lanc yn ei arddegau, ond nid gan ddyn yn ei oed a’i amser dros ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach. Mae’n debyg iddo ei godi o ddisgrifiad Charles Dickens o’r gurfa a roes Nicholas Nickleby i Wackford Squeers.⁷⁴

    O gyrraedd ysgol ei gefnder Moses Owen ym Mrynffordd, Treffynnon, cytunodd hwnnw i’w dderbyn yn ddisgybl-athro di-dâl ac i’w gyflenwi â bwyd, dillad a llety. Yn gyntaf, fodd bynnag, byddai’n rhaid iddo dreulio mis gyda’i fodryb Mary ar ei fferm a’i thafarn yn Ffynnon Beuno, petai ddim ond er mwyn cael dillad addas.⁷⁵ Cerddodd Stanley yno ac oeraidd iawn oedd y croeso a gafodd pan gyrhaeddodd, gan na fedrai ei fodryb ddeall pam ar y ddaear roedd ei mab am drafferthu gofalu am un o blant ei chwaer benchwiban hi. Ni fu’n brin o fynegi’r teimladau hyn wrth ei chwsmeriaid, a hynny yng nghlyw John. Wedi dianc rhag ‘caethiwed corfforol’ y tloty, roedd yn awr yn ‘gaethwas moesol’, yn gwbl ddibynnol ar ewyllys da gwraig or-ddarbodus a phryderus, na welai fod gofalu amdano yn ddim ond gwastraff arian ac adnoddau prin.⁷⁶

    Roedd gwaith ynddo, fodd bynnag, a threuliodd fis yn helpu gyda gwaith y fferm, ac yn tendio ar David, mab ieuengaf Mary. Eto, rhaid mai rhyddhad mawr i’r nai a’r fodryb oedd y diwrnod pan gafodd John ei ddillad newydd, ac y cychwynnodd tua Brynffordd drachefn. Yno, cafodd fynediad at lyfrgell fechan ei gefnder, gan ymgolli yn y cyfrolau a dysgu sut i’w defnyddio at ddibenion ymchwil. Roedd y disgyblion, fodd bynnag, yn anwariaid budron, cableddus ac anifeilaidd, yn ei farn ef; a’u hymateb i’w ymdrechion i’w dysgu a’u disgyblu oedd ei atgoffa o’i dras. Effaith hynny, meddai, fu ‘fy ngyrru i’m cragen fy hun, ac argraffu arnaf y wers fy mod i wedi fy ngwahardd am byth oherwydd imi fod yn byw yn y tloty’.⁷⁷ Gallai oddef hynny; ond wedi naw mis fe surodd y berthynas rhyngddo a Moses Owen, a hynny, amheuai John, oherwydd dylanwad Mary Owen. Er iddo brofi ei fod yn ddysgwr brwd, cyhuddwyd ef gan Moses o fod yn dda i ddim ond i drwsio esgidiau’r tlodion, a bu’n rhaid iddo ddioddef ei edliw a’i sarhau’n barhaus ac annioddefol gan ei gefnder.⁷⁸

    O’r diwedd dychwelodd i weithio i’w fodryb Mary yn Ffynnon Beuno. Mae’n debyg i’w brofiadau blaenorol a’r driniaeth a ddioddefodd yn Ffynnon Beuno ac ym Mrynffordd ragfarnu’r llanc yn erbyn ei deulu yn neilltuol, a’i gyd-Gymry’n gyffredinol. Dywed amdanynt:

    methaf weld eu rheswm dros fod mor ofnadwy o ffroenuchel ag y cofiaf iddynt fod. Yna, roedd fy modryb – roedd hi’n falch, roedd David yn falch – roeddent oll yn hynod falch yn Nhremeirchion. Fe’m hatgoffir sut yr oeddent yn ddirmygus o bob estron, yn casáu’r Sais ac yn difrïo eu cymdogion, a sut yr oedd pob un yn tybio bod ei gyflwr, ei ymddygiad, neu ei deulu ef neu hi yn well nag un pawb arall … efallai y byddai ‘rhagfarn’ yn ei ddisgrifio, rhagfarn yn deillio o anwybodaeth, a’i feithrin mewn cymdeithas fechan gyfyngedig na wyddai ddim am y tiroedd llydan, heulog y tu draw i’r Dyffryn niwlog, llaith … Mae Cymry’r gogledd yn gymysgedd o wrthgyferbyniadau … mor gyfyngedig â’r Sbaenwyr, mor ddialgar â gwŷr Corsica, ac mor geidwadol â’r Osmanlis; yn gall mewn busnes ond nid yn fentrus; yn ffraegar ond yn parchu’r gyfraith; yn dduwiol ond yn ymgyfreithgar, yn ddiwyd ac yn ddarbodus ond nid yn gyfoethog; yn deyrngar ond yn anfodlon.⁷⁹

    Am gwsmeriaid y dafarn, roeddent yn ‘ddynion esgyrnog, yfent fel milwyr a bytheirient fel gwallgofiaid’.⁸⁰ Llabystiaid aflednais ac anystywallt oeddent, a afradai eu hamser a’u harian ar hel straeon budron, slotian ac ysmygu, ond a ufuddhaent ar unwaith pe codai Mary Owen gymaint â bys atynt.

    Cafodd John ddihangfa pan syrthiodd i Ffynnon Beuno, a buasai wedi boddi oni bai i wraig ei weld a’i dynnu allan gerfydd ei wallt.⁸¹ Eto, roedd ganddo atgofion melys am y lle, yn enwedig yr adegau pan gâi fod ar ei ben ei hun yn bugeilio ar y Graig Fawr, ymhell o’r byd ‘calon-galed, hunanol’.⁸² Ond nid oedd ei fodryb am ei gadw yno funud yn hwy nag oedd rhaid. Ymgeisiodd yn aflwyddiannus am swydd clerc yng ngorsaf rheilffordd yr Wyddgrug ym mis Mehefin 1858, cyn i chwaer Mary Owen, Maria Morris, gytuno i’w gymryd ef i fyw ati hi a’i gŵr, Thomas, yn 22 Roscommon Street, Lerpwl, yng nghyffiniau Scotland Road.⁸³ Roedd Thomas yn adnabod rheolwr cwmni yswiriant yno ac yn sicr y gallai gael swydd i John.

    Wylodd John wrth adael Ffynnon Beuno er y gwyddai na wylai neb yno o’i golli. Roedd yn llecyn hyfryd ac yn fwy o gartref iddo nag y bu’r tloty erioed. Ond yn awr roedd wedi ei wrthod a’i yrru’n alltud. Aeth Mary Owen ag ef ar y stemar i Lerpwl ym mis Awst 1858 ac wrth i’r llong adael tir Cymru daeth arno bwl ofnadwy o hiraeth ac iselder. Roedd yn ymwybodol ei fod yn ffarwelio â llawer mwy na golygfeydd ac unigolion.

    Yn fuan, fodd bynnag, roedd ganddo bethau eraill i ddenu ei sylw. Ni fu erioed mewn dinas fawr o’r blaen ac roedd maint a phrysurdeb Lerpwl, yr adeiladau a’r llongau a’r cyffro yn syfrdanol. Bu ond y dim iddo grefu ar ei fodryb i fynd ag ef yn ôl i Dremeirchion, ond ymataliodd, efallai oherwydd iddo gofio’i wers gyntaf yn y tloty, sef nad yw dagrau’n tycio dim. Aeth ei fodryb ag ef i dŷ ei chwaer, a chawsant groeso yno. Roedd y Morrisiaid yn glên a dechreuodd John ymlacio a thybio nad oedd cynddrwg ei fyd ag roedd wedi ofni. Nid arhosodd Mary Owen; ymadawodd bron cyn gynted ag y medrai, ond cyn mynd rhoddodd sofren i John a dymunodd iddo fod yn hogyn da ac i ymgyfoethogi’n fuan. Ni welodd mohoni yn y cnawd fyth wedyn.⁸⁴

    Dyma pryd y tynnwyd y llun cyntaf hysbys ohono – llanc yn ei arddegau, yn eithaf llond ei groen, mewn siwt addas i glerc ifanc ond sydd yn gwrthod ei ffitio rywsut. Ei wyneb, fodd bynnag, sy’n tynnu sylw – wyneb anghymodlon, penderfynol â llygaid treiddgar. Er gwaethaf y siwt a hyder Thomas Morris, methodd y cynllun i’w wneud yn glerc a bu’n rhaid i John roi ei sofren i’w fodryb Maria yn dâl am ei gadw. Cymerodd honno ei siwt a’i gôt i’w gwystlo. Roedd ei ewythr Thomas yn gymeriad dymunol, ond roedd ei obeithion a’i anogaethau yn aml yn fwy na’i allu i ennill digon o arian i gadw ei deulu. Cafodd John swyddi achlysurol eraill, gan gynnwys glanhau siop dilledydd am bedair awr ar ddeg y dydd ar gyflog o bum swllt yr wythnos.

    Bu’n ormod iddo; clafychodd a chollodd y swydd i lanc hŷn. Cafodd waith gyda chigydd blin, ond er ei fod yn dod ag ychydig arian i’r tŷ, doedd dim dwywaith nad pylu wnaeth y croeso ar aelwyd ei berthnasau. Un diwrnod, wrth ddanfon cig i long Americanaidd, y Windermere, fe’i gwahoddwyd gan y capten i weld ei gaban moethus. Gofynnwyd iddo a hoffai swydd gwas caban? Roedd y gwaith yn ysgafn ac ymhen amser, pwy a ŵyr na ddeuai yntau’n gapten llong wych? Roedd John eisoes wedi gweld llongwyr ifainc, talog â’u botymau pres gloywon yn torsythu ar hyd y strydoedd, a llongau ag enwau rhamantus yn dadlwytho nwyddau rhyfeddol o ben draw’r byd. Addawodd y Capten David Hardinge iddo bum doler (ychydig dros bunt) y mis a dillad addas. Roedd yn hwylio am New Orleans, yng ngwlad y gwŷr rhyddion a chartref y dewrion, ymhen tridiau. A hoffai John ddod gydag ef? Derbyniodd y llanc ei gynnig caredig yn y fan a’r lle.⁸⁵

    Syfrdanwyd y Morrisiaid o glywed y newyddion ond roedd John yn benderfynol. Bu’n gaeth i ewyllys eraill yn rhy hir. Roedd Lerpwl a’r Capten Hardinge wedi rhoi cyfle iddo benderfynu ar ei dynged ei hun, a neidiodd at y cyfle.

    Pennod 2

    New Orleans

    Gadawodd John Rowlands Lerpwl am New Orleans ar y Windermere ar 20 Rhagfyr 1858 ac wedi dioddef tridiau o salwch môr fe’i hysgydwyd o’i wely gan lais yn taranu: ‘Rŵan ’ta, tyrd allan o fan’na, y Prydeiniwr ifanc ******! Siapia hi ar unwaith, neu mi ddo’ i i lawr yna a blingo dy gorff di’n fyw!’⁸⁶ Dyna sut y cafodd wybod nad gwas caban fyddai ond decmon cyffredin dan lach barhaus tafodau, dyrnau, esgidiau a chnotynnau pen rhaff y ddau fêt, Nelson a Waters. Roedd yn arfer gan gapteiniaid diegwyddor y cyfnod hudo bechgyn i hwylio gyda hwy ag addewidion teg cyn gadael porthladd ac yna’u cam-drin cymaint ar y fordaith fel y dihangent ar unwaith pan gyrhaeddid pen draw’r daith, heb aros i hawlio’u cyflog. Âi’r arian hwnnw i bocedi’r capten a’r mêts. Yn union fel pan gyrhaeddodd y tloty, roedd yn rhaid i John ddysgu’n gyflym iawn sut oedd goroesi ymysg pobl elyniaethus ac anfoesol. Ofer fu unrhyw ymdrechion ganddo i sefydlu perthynas â’i gyd-longwyr rheglyd a threisgar, er y dywed iddo, ac yntau’n Gristion da, weddïo drostynt a’u bendithio. Bu hynny o gysur mawr iddo o dan yr amgylchiadau.⁸⁷

    Yr unig eithriad oedd y cogydd a fu’n garedicach tuag ato ac a roddodd iddo ddigon o fwyd. Er gwaethaf y bryntni, roedd yn well gan longwyr o bob cenedl longau Americanaidd, petai am y lluniaeth yn unig.⁸⁸ Amheua un bywgraffydd, serch hynny, a fu’r llanc yn dyst i’r math o gam-drin rhywiol ar aelodau ieuengaf y criw a oedd yn rhemp ar longau’r cyfnod, neu a fu’n wrthrych ymosodiadau o’r fath; ond ni ddywed Stanley air am hynny.⁸⁹

    Achubai Waters, yn enwedig, ar bob cyfle i hanner lladd unrhyw longwr arall, weithiau heb unrhyw esgus o gwbl heblaw ei fod eisiau codi ofn arnynt oll. Gwellodd pethau i’r criw ‘swyddogol’ pan ganfuwyd tri Gwyddel yn cuddio ym mol y llong, oherwydd arferai’r mêts ddial eu llid arnynt hwy yn neilltuol, a gadael llonydd i’r lleill. Yn ogystal ag ehangu ei eirfa a dysgu crefft y llongwr mewn byr amser, sylwodd John, y dynwaredwr dawnus, ar rywbeth arall – sef bod Nelson yntau’n dipyn o actor. Ni ddangosai’r un wyneb i bawb, ond byddai’n ymddwyn ac yn ymweddu’n wahanol yn ôl yr achlysur a’r angen. Gallai fod yn barchus, yn gyfeillgar hyd yn oed; ond gydol yr amser, y tu ôl i’r mwgwd, roedd Nelson arall, yr un go iawn, y bwystfil byr ei dymer a ffrwydrai pan fyddai angen.⁹⁰ Daeth hyn i’r amlwg yn bennaf wrth i’r llong agosáu at New Orleans, oherwydd newidiodd ymarweddiad y mêts yn llwyr a dechreuasant ganmol a gwenu. Roedd John yn ddigon call erbyn hynny i ddeall y byddai’r ddau, ymhen ychydig, yn ceisio darbwyllo rhai o’r criw i ymrestru ar gyfer y fordaith nesaf.⁹¹

    Cyrhaeddodd y llong New Orleans ym mis Chwefror 1859. Y ddinas hon oedd porthladd allforio mwyaf y byd, a hynny’n bennaf oherwydd y fasnach gotwm ffyniannus. Roedd yn ganolfan ariannol o bwys ac yn gartref i farchnad gaethweision fwyaf y Byd Newydd. Ceid ynddi 155,000 o bobl wynion o 32 o genhedloedd gwahanol, 41% ohonynt wedi eu geni dramor, ac roedd yn enwog (neu’n ddrwg-enwog) am ei thrythyllwch, ei gwychder a’i thrais.⁹² Roedd arogleuon siwgr coch, triog du, rym, pyg, coffi a bwydydd anghyfarwydd, blasus ym mhobman. Roedd yr argraff a wnaeth y lle egsotig hwn ar fachgen na welsai fawr ddim o’r blaen ond tloty Llanelwy, y Graig Fawr a dociau Lerpwl, yn ddofn ac yn barhaol. Dyma weld y byd!

    Aeth John i’r lan cyn gynted ag y gallai, gyda llanc arall o’r enw Harry. Wedi pryd da o fwyd, aethant i dŷ, ac wedi i Harry sibrwd rhywbeth yng nghlust y berchnoges, aethpwyd â’r ddau i barlwr lle croesawyd hwy’n frwd gan bedair merch lawen, hanner noeth. Er gwaethaf anogaeth Harry, ffodd John o’r puteindy cyn gynted ag y medrai, a dywed na chollodd ef erioed ei atgasedd tuag at ‘fenywod o gymeriad o’r fath’.⁹³ Wrth sôn am y digwyddiad hwn flynyddoedd yn ddiweddarach mae fel petai’n ei ddefnyddio i amlygu a chyfiawnhau ei ddiweirdeb cyson. Efallai i’r merched hyn ei atgoffa ormod o’i fam; ond yn gyffredinol câi drafferth ymwneud â menywod o unrhyw fath. Fel y dywedodd dros ugain mlynedd yn ddiweddarach, ‘Y ffaith yw, alla’ i ddim siarad efo merched’.⁹⁴

    Pwysleisia’i ddiniweidrwydd rhywiol drachefn pan edrydd ei hanes yn rhannu gwely yn New Orleans â llongwr ifanc arall o Lerpwl o’r enw ‘Dick Heaton’, ond a oedd, mewn gwirionedd, yn ferch. Dywed na wybu hynny hyd nes iddo weld dau chwydd rhyfedd ar fron ei gywely a sylweddoli, gyda sioc, fod ‘Dick’ yn fenyw.⁹⁵ Mae un bywgraffydd o’r farn mai ffantasi yw’r hanesyn hwn, a’i fod naill ai’n fynegiant o’i amwysedd rhywiol ei hun neu’n ymdrech i bwysleisio’i burdeb moesol o’i gyferbynnu ag eiddo’i fam; ac y byddai’n amhosibl i un a fagwyd yn nhloty Llanelwy (o gofio sylwadau’r Comisiynwyr) beidio â gwybod beth oedd bronnau merch. Deil bywgraffydd arall fod yr hanesyn yn wir ac wedi’i grybwyll mewn llythyr at Stanley gan un a’i hadnabu yn New Orleans.⁹⁶

    Ar ôl ffoi o’r puteindy gwrthododd John gynnig Harry y dylent fynd i dafarn. ‘Yfa di os wyt ti eisiau,’ meddai John, ‘ond dwi’n perthyn i’r Band of Hope ac wedi llofnodi’r llw, felly rhaid imi beidio’. ‘Wel,’ meddai Harry (wedi ’laru, mae’n debyg, ar fod yng nghwmni’r fath fursyn sych-dduwiol), ‘ysmyga, ynte, gwna rywbeth fel llanciau eraill.’ Derbyniodd John sigâr ganddo ac wedi iddo ddechrau teimlo’n sâl ofnadwy dychwelodd i’r Windermere am y noson. Dyna ddiwedd siomedig ei ddiwrnod cyntaf mewn gwlad dramor, ond buan y daeth yn ysmygwr pybyr.⁹⁷

    Synnodd Nelson o’i weld yno’r bore canlynol, gan iddo dybio bod y ‘Britisher’ ifanc wedi ffoi fel pob llanc arall a dwyllwyd gan addewidion y Capten. Os arhosai Rowlands ar y llong, efallai y byddai’n rhaid ei dalu ac y collai Nelson ei gyfran o’r arian cyflog, felly aeth ati i wneud ei fywyd mor annioddefol â phosibl. Wedi pum niwrnod o hyn roedd John wedi cael digon ac ar ôl gweddïo gadawodd y Windermere heb ddim ond ei ddillad gorau a’r Beibl a roddwyd iddo gan Esgob Llanelwy. Dywed iddo gysgu’r noson honno mewn pentwr o fyrnau cotwm. Roedd yn 17 oed, yn ddi-waith ac yn ddigartref mewn gwlad ddieithr lle nad oedd unrhyw un yn ei adnabod.

    Ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd iddo wedyn, dywed yn ei hunangofiant iddo gyfarfod â brocer cotwm cefnog o’r enw Henry Stanley, a’i cymeradwyodd i’w gyfaill, James Speake.⁹⁸ Cafodd John waith yn siop Speake am gyflog o $25 y mis a dywed yn ei hunangofiant iddo fod yn was delfrydol i’w feistr newydd. Ni ddadleuai na gwrth-ddweud ac roedd ei gof eithriadol o fantais enfawr wrth gadw trefn ar y stoc; roedd, yn wir, yn batrwm o ddefnyddioldeb gweithgar ac o ymddygiad da a ffyddlon. Ymwadai â phob pleser ofer, gwariai ei arian ar lyfrau dyrchafol a bu darllen y rheiny o gymorth i’w ddiogelu rhag unrhyw nwydau afreolus. Enillodd ffafr ei gyflogwr trwy fod yn sylwgar, gan ganfod a datgelu mân-ladradau dau gaethwas du, a gosbwyd trwy eu fflangellu’n frwnt, yn ôl eu haeddiant. Cafodd un ohonynt ddychwelyd i’r siop ond gwerthwyd y llall i blanhigfa.⁹⁹

    Ysywaeth, dim ond wyth mis yn ddiweddarach (Hydref 1859) trawyd y ddinas gan y dwymyn felen a dysentri a bu farw Speake. Bu farw gwraig angylaidd Henry Stanley hefyd, tra oedd ef ar daith fusnes i St. Louis, a hynny er gwaethaf gofal tyner John amdani; ac aethpwyd â’i chorff i’w gladdu yn y ddinas honno.¹⁰⁰ Yn ddi-waith a digartref eto a heb swydd barhaol, penderfynodd John ofyn cymorth Henry Stanley, ac er nad oedd hwnnw wedi gwneud unrhyw ymdrech i gysylltu ag ef, yr oedd wrth ei fodd pan ddaeth John i’w gartref. Yn wir, daeth i feddwl cymaint ohono nes iddo’i fabwysiadu a’i fedyddio (bu’n weinidog ar un adeg) â’i enw ei hun, Henry Stanley.¹⁰¹

    Edrydd yr hunangofiant sut y bu iddo hysbysu Henry Stanley’r masnachwr am ei dras iselwael a’i gyfnod yn y tloty; ac iddo gyfaddef y gallai hynny fod yn rhwystr i’w uchelgais. Wfftiodd y masnachwr y syniad: ‘Wn i ddim,’ meddai, ‘beth allai fod yn arferol gan y Cymry, ond yma rydym yn parchu cymeriad a gwerth personol, nid tras. Yn ein plith ni, dyrchefir pobl nid oherwydd yr hyn, efallai, oedd eu teulu, ond oherwydd yr hyn ydynt hwy eu hunain.’¹⁰² Yna dywed John/Henry iddo dreulio dwy flynedd hyfryd yn teithio afon Mississippi a’i rhagnentydd gyda’i dad newydd. Ni chrybwylla air yn y cyswllt hwn am fasnachu cotwm, ond gofala gofnodi iddynt ymroi i ymddiddan duwiol.¹⁰³ Parhaodd ei gydwybod effro a dylanwad yr Ysgrythur i’w ddiogelu rhag pob drwg, meddai. Unwaith eto bu sylwgarwch a dewrder John/Henry yn allweddol yn rhwystro lleidr arfog peryglus; er na chafodd ei ddal y tro hwn, ysywaeth, ac ni chosbwyd y dihiryn trwy ei fflangellu nac unrhyw gosb haeddiannol arall. Parhaodd John/Henry hefyd i syfrdanu pawb â’i gof rhyfeddol am fanylion pobl, llongau ac adeiladau. Dysgodd Henry Stanley iddo hanfodion ymarweddiad personol, gan gynnwys gwisgo’n drwsiadus ac ymbincio’n drwyadl bob dydd. Ni allai John/Henry ymatal rhag gwrthgyferbynnu hyn ag agweddau ei gyd-Gymry budron, aflêr at y ffasiwn fursendod:

    Yng Nghymru barnai’r trigolion mai annheilwng o’r sawl a geisiai ymarweddu’n ddyn fyddai dynwared gofal cysetlyd gwragedd, a rhoi gormod o sylw i ymddangosiad personol; a phe clywsent fy nhad newydd yn traethu mewn modd mor ddysgedig am ddefnydd brwsys dannedd a brwsys ewinedd, teimlaf yn sicr y byddent wedi troi ymaith gan wgu a chodi’u gwarrau yn eu hanfodlonrwydd.¹⁰⁴

    Bwriad y teithio, meddai, oedd ei baratoi ar gyfer cadw siop mewn lle o’r enw Pine Bluff ar afon Arkansas. Yna, dywed yr hunangofiant i Henry Stanley, y masnachwr, ei adael yn brentis gyda chyfaill o dirfeddiannwr yn Saline County, Arkansas, ym mis Medi 1860, cyn mynd i Havana i ofalu am ei frawd, a oedd yn ddifrifol wael. Erbyn mis Mehefin 1861 roedd John/Henry yn glerc yn siop rhyw Mr Altschul yn Cypress Bend, Arkansas, lle achubodd fywyd un o’i gyd-glercod mewn modd arwrol, a thrwy fod yn anghyffredin o sylwgar, daliodd leidr ac ataliodd ladradau eraill gan y caethweision duon. Yno yr hysbyswyd ef fod ei noddwr caredig wedi marw yn Havana ac, yn ddiweddarach fyth, nad oedd wedi darparu ar ei gyfer yn ei ewyllys.¹⁰⁵

    Felly y dywed yn ei hunangofiant a gyhoeddwyd ym 1906. Eithr cafwyd ganddo fersiwn cynharach o’r digwyddiadau hyn. Dywedodd wrth ei fam a’i deulu ym 1866 mai Henry Stanley oedd enw’r siopwr a’i cyflogodd ac a’i mabwysiadodd ac i hwnnw syrthio’n farw ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, heb wneud ewyllys. Un noddwr felly, nid dau, a hwnnw’n siopwr, nid yn fasnachwr.¹⁰⁶ Bu cryn ddyfalu ymysg bywgraffwyr pam roedd John Rowlands (III) wedi’i yrru i le mor anghysbell â Cypress Bend, a pham, os oedd ar gystal telerau â Henry Stanley a’i wraig, na welodd yr un o’r ddau yn dda i ddarparu ar ei gyfer yn eu hewyllysiau. Dyfalwyd i Henry Stanley a John ffraeo yn enbyd – ynghylch merch, efallai – ac i Henry Stanley nid yn unig ei alltudio i Arkansas, ond iddo wahardd crybwyll enw John Rowlands yn ei bresenoldeb byth wedyn. Beth bynnag oedd yr achos, ‘Ni allai’r fath adwaith dwys ond codi o sen enfawr ar y teulu cyfan.’¹⁰⁷

    Nid oedd amheuaeth, fodd bynnag, am fodolaeth masnachwr cotwm llwyddiannus o’r enw Henry Hope Stanley yn New Orleans y cyfnod hwn, a chanddo swyddfeydd yn Exchange Place, yn agos at siop Speake. Roedd yn ŵr o Stockport yn wreiddiol, â gwraig ifanc (15 oed pan briodasant) o’r enw Frances, hefyd o Swydd Gaerlleon. Roedd ganddynt ferch fabwysiedig o’r enw Annie. Dangoswyd, fodd bynnag, i Henry Hope Stanley farw ym 1871, nid 1861, a’i wraig ym 1878, nid 1859; ac nid yn Havana na St. Louis y’u claddwyd, ond gyda’i gilydd ym mynwent Metaire Ridge, New Orleans.¹⁰⁸

    At hyn, ni chrybwyllodd John Rowlands/Henry Stanley yn ei hunangofiant mai ‘Hope’ oedd ail enw ei dad mabwysiedig, nac mai ‘Frances’ oedd enw ei wraig, nac o ba le y daethant, na bod ganddynt ferch fabwysiedig. Yn wir, mae’r holl wybodaeth a rydd amdanynt yn ei hunangofiant yn eithaf niwlog ac anodd ei chysoni â ffeithiau hysbys. Po fwyaf yr ymchwiliwyd i fanylion cysylltiad honedig John Rowlands â Henry Hope Stanley a’i deulu, mwyaf yr amlygwyd mai celwydd oedd y cyfan: y bedydd a’r mabwysiadu, yr ymgomio duwiol, y dal lladron, a’r edmygedd a enynnid gan ei ymarweddiad a’i sylwgarwch.¹⁰⁹ Mae’r cyfan yn ffugiad ac yn ddyledus, mae’n debyg, i straeon Charles Dickens a’u disgrifiadau o olygfeydd gwely angau a noddwyr cyfoethog.¹¹⁰ Unig ddiben y cyfan oedd dyrchafu ei rinweddau yng ngolwg ei ddarllenwyr (ac yn ei olwg ef ei hun), a chuddio beth bynnag y bu’n ei wneud yn ystod ei flynyddoedd cynnar yn yr Unol Daleithiau, gan achub ar y cyfle i ddial ei lid ar ei gyd-Gymry hefyd. Roedd yr holl hanes wedi’i lunio’n ofalus gan Rowlands er mwyn awgrymu cysylltiad agos rhyngddo a Henry Hope Stanley; ond ped ymchwilid i’r mater byddai’n hawdd iddo wadu hynny, a honni mai rhyw Henry Stanley arall oedd ei noddwr.

    Os gallwn goelio unrhyw beth ym mhenodau agoriadol ei hunangofiant,

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1