Ewyllysiau Cymraeg
()
About this ebook
Related to Ewyllysiau Cymraeg
Related ebooks
Siôn Powel Wehydd Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsLewis Edwards Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsPam na fu Cymru: Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHenry Morton Stanley - Y Cyfandir Tywyll - Y Cymro a Ddarganfu Livingstone Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsNansi Lovell: Hunangofiant Hen Sipsi Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsMerêd - Dyn ar Dân Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsYr Erlid - Hanes Kate Bosse-Griffiths a'i Theulu yn yr Almaen a Chymru Adeg yr Ail Ryfel Byd Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHunangofiant John Davies - Fy Hanes I Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsElystan - Atgofion Oes: Atgofion Oes Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsWinllan Well, Y Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsSgythia - Hanes John Dafis, Rheithor Mallwyd Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCrefydd, Cenedlgarwch a’r Wladwriaeth: John Penry (1563-1593) a Phiwiritaniaeth Gynnar Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsFaciwî, Y Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCofio Ioan Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHenry Richard: Heddychwr a Gwladgarwr Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsY Gyfraith yn ein Llên Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsGymraes o Ganaan, Y Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsRhywle Fel Hyn Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsMalwan Bach Fel Fi... yn Cloddio am Aur Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsO'r Aman i'r Ystwyth Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsGwaith Alun Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHer a Hawl Cyfieithu Dramâu: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Molière Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsGweledigaethau y Bardd Cwsg Rating: 5 out of 5 stars5/5Nest Merfyn (eLyfr) Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCofiant Jim Griffiths Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHud a Lled - Hunangofiant Eirian Wyn: Hunangofiant Eirian Wyn Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsPantycelyn a'n Picil Ni Heddiw Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsAmrywiaith 2 - Blas ar Dafodieithoedd Cymru Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsDwi Isio Bod Yn... Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCysgodau y Blynyddoedd Gynt (eLyfr) Rating: 0 out of 5 stars0 ratings
Reviews for Ewyllysiau Cymraeg
0 ratings0 reviews
Book preview
Ewyllysiau Cymraeg - Gerald Morgan
Cyflwynedig i’r
Parch. Ddr Dafydd Wyn Wiliam
ac er cof am y Dr Evan James, Penrhyn-coch
Ewyllysiau Cymraeg
Pennod Goll yn Hanes yr Iaith
Gerald Morgan
Argraffiad cyntaf: 2022
© Hawlfraint Gerald Morgan a’r Lolfa Cyf., 2022
Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw
Lluniau’r clawr blaen: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Cynllun y clawr: Y Lolfa
Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978-1-80099-247-4
Cyhoeddwyd, rhwymwyd ac argraffwyd yng Nghymru gan
Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE
gwefan www.ylolfa.com
e-bost ylolfa@ylolfa.com
ffôn 01970 832 304
ffacs 832 782
Rhagair
Rwyf am eich
perswadio y cewch bleser wrth ddarllen y llyfr hwn. Felly rwyf am i chi droi i’r bennod gyntaf heb oedi. Wedyn, gobeithio y byddwch yn awyddus i ddeall cefndir y storïau, ac i ddarllen mwy am bobl nad oes dim modd arall i ddysgu am eu bywydau – y mwyafrif ohonynt yn bobl uniaith Gymraeg. Ond mae rheswm arall am i mi ymddiddori yn y dogfennau hyn. Dywedir yn aml bod y Gymraeg wedi ei gwahardd gan Ddeddfau 1535/42 fel iaith gyfraith. Mae hynny’n wir o ran cofnodion cyfraith troseddau ac achosion sifil. Ond roedd grym cyfreithiol i fusnes yr Eglwys Wladol, a sylweddolodd nifer cynyddol o bobl bod modd ysgrifennu eu hewyllysiau yn Gymraeg, Roedd awdurdodau’r Eglwys yn sylweddoli bod rhaid cydnabod y dogfennau hyn fel dogfennau cyfreithiol; felly y bu, ac felly y mae heddiw.
Pleser yw diolch yn gynnes iawn i bobl a’m cynorthwyodd, gan gynnwys Gruffudd Antur, Ms Carrie Fox, Mrs Eleri Wynne Jones, Dr Richard Ireland, Dr Huw Walters, Ms Hilary Peters ac aelodau staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru dros y degawdau. Diolch arbennig i’r golygydd, Dr Huw Meirion Edwards, ac i staff y Lolfa. Mae diolch arbennig hefyd yn ddyledus i Enid, a ddarllenodd y testun i gyd a gwneud llawer o gywiriadau ac awgrymiadau.
NODYN. Fe wêl y darllenydd lawer o wallau iaith yn rhai o’r dyfyniadau a geir yng nghorff y llyfr. Rwyf wedi ymdrechu i gadw at y dogfennau gwreiddiol heb eu cywiro na’u safoni.
1 – Tameidiau i Aros Pryd
Tua deg o’r
gloch y nos ar y 10fed o Ebrill 1715, roedd Edward Jones o’r Bachie, Llanfyllin, yn sâl yn ei wely, a’i wraig Mari gerllaw. Gerllaw hefyd roedd dau gymydog, John Thomas Morgan a Catrin Cadwaladr, gwraig weddw. Mynnai’r claf iddyn nhw wrando ar ei ddymuniadau olaf ar gyfer yr ychydig eiddo oedd ganddo. Yn anffodus, doedd y rhai oedd yn bresennol ddim yn medru ysgrifennu. Dyletswydd y gwrandawyr, felly, oedd cofio ei ddymuniadau a’u hadrodd wrth rywun llythrennog oedd yn gwybod beth i’w wneud. Dyna beth ddigwyddodd wedi i Edward Jones farw, ac mae’r ddogfen wedi goroesi hyd heddiw.
Yn gyntaf, roedd am i’w wraig Mari dalu ei ddyledion. Hyd at hynny, mae’r ddogfen yn adrodd yr hanes mewn Saesneg ffurfiol, ond yn sydyn mae’n newid iaith, ac yn dod yn fyw:
Mi fynnaf dalu i bawb ei heiddo, a rhoi coron i bob brawd a chwaer a feddaf, a’r rest i chwithe.
Ar yr un pryd, meddai’r tystion, roedd yn pwyntio at ei wraig. Yn ei drallod, mynnodd y dyn claf ddweud eto:
Na fynnaf i adel dim ond coron i bob brawd a chwaer ar a feddaf i. Mae’r rest yn ddigon bach i chwi, yr ydym ni yn byw ar un ffydan.
(Ffydan yw ffyrling, y darn bach lleiaf o arian.) Diolch i gymdogion Edward Jones, cofnodwyd geiriau’r Cymro cyffredin hwn, ei eiriau olaf, yn ei iaith ei hun. Anodd gwybod pwy ysgrifennodd y ddogfen, ond roedd awdurdodau’r Eglwys yn Llanelwy yn barod i’w derbyn fel ewyllys lafar. Yr adeg honno, pan oedd yn arferol i lawer o bobl adael y gwaith o lunio ewyllys hyd y funud olaf, a phan oedd llawer yn methu ysgrifennu, roedd yn gyfreithlon (hyd 1837) i lunio’r hyn a elwir yn ewyllys lafar (S. nuncupative, oral or parable will). Ni ellir defnyddio’r drefn mwyach heblaw ar faes y gad yn amser rhyfel.
*
Ar 21 Rhagfyr 1718 roedd Evan David o Fagwr-frân, plwyf Cas-mael, Sir Benfro, yng nghwmni dau gymydog, David Harding a Robert Lewis. Yn ddirybudd, trawyd Evan yn wael, a theimlai ei fod ar farw. Dymunai rannu’r ychydig eiddo oedd ganddo, ond roedd yn rhy hwyr i yrru am reithor y plwyf i lunio ewyllys; ni wyddai ei gyfeillion chwaith sut i ysgrifennu. Felly dywedodd Evan yn ofalus wrth ei gymdogion beth oedd ei ddymuniadau olaf:
Yr wyf yn rhoi i fy mrawd Thomas David, os byw ydyw, bum swllt
Gofynnodd un o’i gyfeillion i’r claf a oedd plant gan ei frawd, ac os oedd, a fyddai am adael rhywbeth iddynt. Meddai Evan yn blwmp:
na wna. Ac nid wyf yn rhoi mor pum swllt hynny i nêb arall ond im brawd, os byw ydyw.
Rhaid felly bod y ddau frawd wedi colli cysylltiad, peth a allai ddigwydd yn rhwydd iawn ’slawer dydd. Aeth Evan ymlaen:
yr wyf yn rhoi y rhest o’m da bydol am meddiant i Matty.
Gofynnodd un o’r tystion iddo ba ‘Matty’ oedd yn ei feddwl. ‘Y Matty yna,’ meddai Evan David, a phwyntiodd at Martha, merch ei lysfab y diweddar Lewis William. Er ei fod yn sâl hyd at angau, roedd yn medru siarad yn blwmp ac yn blaen, cyn gorffen trwy fathu dihareb:
y mae hynny yn ddigon i rwystro pob ymrafael ynghylch fy mhetheu i, os na chonsidraf i ymhellach etto yn ol hyn. Y mae’n rhaid cael torth fawr i lenwi pob geneu
Fe wyddai David Harding a Robert Lewis beth oedd rhaid ei wneud nesaf. Ar ôl i Evan farw, aeth y ddau i weld rheithor y plwyf i ddweud wrtho beth oedd wedi digwydd, er mwyn iddo baratoi ewyllys. Efallai y byddech yn disgwyl i offeiriad wrando ar dystiolaeth y ddau a chyfieithu eu geiriau i’r Saesneg. Ond nid yr offeiriad hwn, oherwydd er gwaethaf ei enw Seisnigaidd, roedd y ficer hwn, William Gambold, yn Gymro o hil gerdd. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, yn 1728, byddai’n cyhoeddi gramadeg Cymraeg yn yr iaith Saesneg, a bu farw’r un flwyddyn. Felly fe ysgrifennodd Gambold eiriau’r tystion yn ofalus, gyda disgrifiad yn Saesneg o’r amgylchiadau, ond gan adael geiriau Evan David yn y Gymraeg wreiddiol.
Pan gymerodd Martha’r ddogfen gymen i swyddfa esgobaeth Tyddewi yn Abergwili, Caerfyrddin, profwyd yr ewyllys heb unrhyw drafferth, yn ôl trefn y gyfraith. Beth am frawd Evan, os byw ydyw? Cyn bod telegram, cyn bod teliffon, cyn bodolaeth y We Fyd-eang, doedd dim yn rhwyddach nag i aelodau teulu fynd ar wasgar a diflannu. Ond byddai’n chwithig iawn petai ef wedi dod yn ôl a mynnu cyfran o’r etifeddiaeth fechan. Felly o adael pum swllt iddo, roedd Evan wedi sicrhau gweddill yr eiddo i’w weddw.
*
Yn y ddwy stori yna fe ddown yn agosach nag yn unman arall at glywed Cymraeg llafar dau werinwr uniaith, yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif, wrth iddyn nhw fynegi eu dymuniadau olaf. Rhaid cyfaddef nad yw’r ddwy stori’n edrych yn debyg i ewyllysiau go iawn. Ond diolch i’r posibilrwydd o wneud ewyllys lafar, daeth geiriau olaf Evan David ac Edward Jones i lawr atom heddiw. Ynddynt fe glywn iaith lafar gyhyrog Cymry Cymraeg fel yr oedd dri chan mlynedd yn ôl – Cymraeg llafar o’r tu hwnt i’r bedd!
Ceir enghraifft arall yn achos Elisabeth Parry o Eglwys-rhos yn 1762:
Dŷdd llŷn y 10th o Ionawr 1762
Elsbeth Parry o Blwŷ Llan Rhôs yn Sir Garnar-
fon a Ddwedodd fel hyn, ar eu Dydd diwedd.
Robert Evan a ofynodd iddi Pwy i’r oedd Hi yn ewyllys
gael eu Heuddo, Hithe attebodd mae ei Nîth –
Betti a Swllt iw Nai os doe fe iw geisio.
Bron mor ddiddorol â’r ewyllysiau hynny yw un a luniwyd yn 1775 gan Thomas Roberts, Trehwfa Fawr, Cerrigceinwen, Sir Fôn. Roedd yn medru ysgrifennu rhyw Gymraeg drylliedig braidd, a bwriodd ati ei hun i lunio ei ewyllys. Un rheswm am hynny yw stori ei fywyd crefyddol. Un o fferm Y Myfyrian Uchaf yn ardal Gaerwen, Môn, oedd Thomas Roberts yn wreiddiol, ac yn aelod o achos yr Annibynwyr yn Rhos-meirch, Llangefni, lle yr arferai bregethu. Ond yn 1763 aeth i Wrecsam i ymuno â’r Bedyddwyr, ac yntau’n dal i fyw ym Môn, bellach yn Nhrehwfa Fawr, lle y bu farw. Ef oedd y Bedyddiwr cyntaf yn yr ynys, ffaith a enillodd iddo le yn Y Bywgraffiadur Cymreig. Felly pan deimlai fod angau’n nesáu, nid oedd neb o’i gyd-grefyddwyr ar gael i’w helpu.
Ymhlith ymadroddion diddorol ewyllys Thomas Roberts mae ei ddymuniad i adael ei eiddo ‘rwng fy gwraig am blant diengad i wnethyr heddwch ryng bob yn ohonynt’ [i’m gwraig a’m plant sydd wedi goroesi i wneud heddwch rhwng pob un ohonynt]. Wedi rhannu rhoddion o bum punt yr un i’w ddau fab a’i ferch Siân, meddai, ‘hrwi yn roi deg bund ar igian £30 [i’m] merch Elisabeth yr ifiengaf ag rwi hngadal hresd im gwraig Elin’ [rwy’n rhoi deg punt ar hugain £30 i’m merch Elisabeth yr ieuengaf ac rwy’n gadael y rest i’m gwraig Elin] ac mae’n gorffen: ‘fy llaw fy hun am sêl’. Un o’r pethau hynod am y system brofeb oedd parodrwydd yr awdurdodau eglwysig i ddilysu dogfennau blêr fel ewyllys Thomas.
Gobeithio y bydd yr hanesion hyn yn eich perswadio bod yma fodd i glywed Cymry cyffredin y gorffennol yn ceisio rhoi trefn ar eu heiddo a’u teuluoedd trwy gyfrwng yr hyn a gawn yn eu geiriau olaf. Cawn gip drwyddynt ar eu teuluoedd, eu ffermydd, eu dodrefn, eu hoffer, eu gobeithion a’u problemau. Rhaid dweud mai lleiafrif oedd y bobl a adawodd ewyllysiau, ond ni pherthynent i unrhyw ddosbarth ar wahân i weddill eu cymdeithas.
Y peth hynod am ddogfennau Edward Jones, Evan David, Elisabeth Parry a Thomas Roberts yw eu bod yn rhannol neu’n gyfan gwbl yn Gymraeg. Fy mwriad yn y llyfr hwn yw dangos sut y mae’n bosibl canfod a deall ewyllysiau a dogfennau cysylltiedig a ysgrifennwyd yn Gymraeg, a hynny rhwng y blynyddoedd 1560 ac 1858. Dim ond yn ddiweddar