Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Pygiana ac Obsesiynau Eraill
Pygiana ac Obsesiynau Eraill
Pygiana ac Obsesiynau Eraill
Ebook111 pages1 hour

Pygiana ac Obsesiynau Eraill

Rating: 3.5 out of 5 stars

3.5/5

()

Read preview

About this ebook

A collection of ten essays presenting a personal view of the world of art, craft and film in Wales, England and America by one of the most prolific contemporary Welsh authors. 6 photographs.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateMay 7, 2014
ISBN9781847718914
Pygiana ac Obsesiynau Eraill

Read more from Mihangel Morgan

Related to Pygiana ac Obsesiynau Eraill

Related ebooks

Reviews for Pygiana ac Obsesiynau Eraill

Rating: 3.5 out of 5 stars
3.5/5

1 rating0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Pygiana ac Obsesiynau Eraill - Mihangel Morgan

    Pygiana%20ac%20Obsesiynau%20Eraill%20-%20Mihangel%20Morgan.jpg

    Argraffiad cyntaf: 2013

    © Hawlfraint Mihangel Morgan a’r Lolfa Cyf., 2013

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon i lungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Mae rhai o’r ysgrifau hyn wedi gweld golau dydd o’r blaen: ‘Truman Sant Capote’ yng nghylchgrawn Taliesin ac ‘Yr Enwog Weegee’ yn Gweld Sêr, gol. M Wynn Thomas, Gwasg Prifysgol Cymru.

    Llun y clawr: Iestyn Hughes

    Cynllun y clawr: Y Lolfa

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 1 84771 753 5

    E-ISBN: 978-1-84771-891-4

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol

    Cyngor Llyfrau Cymru

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 01970 832 782

    Rhagair

    ‘Nid yw pawb yn gwirioni’r un fath’, meddai T H Parry-Williams yn ei gerdd am Dic Aberdaron, y gŵr a wirionodd ar ieithoedd a chathod. Ond geiriau mam Parry-Williams yw’r rhain yn wreiddiol, fel y datgelodd yn ei ysgrif ‘Y Flwyddyn Honno’; arferai hithau ddweud ‘Nid yw pawb yn wirion yr un fath’ pan fyddai un o’r teulu’n gwneud rhywbeth ffôl neu ddisynnwyr. Gellid tybio bod y gair gwirion(i) wedi newid ei ystyr yn sylweddol dros amser. Er ei fod yn dynodi gwirio, profi , gan ei fod yn tarddu o’r un gwreiddyn â gwir, gwirio, gwirionedd ac yn y blaen, mae’n bosibl olrhain gwirion sydd yn gyfystyr â diniwed, dieuog, glân, pur , yn ogystal ag ynfyd, ffôl, annoeth yn ôl i’r bymthegfed ganrif. I fam T H Parry-Williams, roedd gwirioni yn golygu ffoli, dwlu . Ond nid ffoli ar ieithoedd a chathod yn gymwys a wnaeth Dic Aberdaron eithr dotio arnynt, gwynfydu ynddynt ac ymgolli ynddynt. Mewn geiriau eraill, roeddynt yn obsesiynau iddo. Mae modd dadlau, felly, fod peth gwirionedd i’w gael mewn gwirioni ar rywbeth a bod ag obsesiwn yn ei gylch, a bod ffolineb yn perthyn iddo hefyd er bod y cyfan yn ddigon diniwed.

    Wrth gyflwyno’r ysgrifau hyn ar rai o’m hobsesiynau personol mae sawl pryder yn fy mhoeni. Fy mhrif ofn yw y byddaf yn debyg i’r gŵr hwnnw sy’n cornelu pob un ohonom yn ein tro mewn parti, gan ein llethu am awr a hanner â’i ddiddordeb angerddol a’i wybodaeth fanwl am… rwy’n oedi yma cyn cynnig enghraifft; wedi’r cyfan, rhaid cofio, er yn wermod i mi, efallai fod ei drenau, neu ei adar, neu ei rygbi, neu ei bêl-droed, neu ei Fanic Street Preachers, yn fêl iddo ef. A pha hawl sydd gyda fi i obeithio y caiff rhywun arall yr un blas melys ar y pethau sy’n mynd â’m bryd i? Wrth gwrs, mae terfyn i’n cydymdeimlad. Er enghraifft, gallai Ed Wood Jr, cyfarwyddwr ffilmiau ofnadwy fel Plan 9 from Outer Space, siarad am siwmperi angora am oriau. Gobeithio na fydd yr ysgrifau hyn yn gymaint o dreth ar amynedd ac ewyllys da â hynny.

    Beth sy’n gyffredin rhwng yr ysgrifau hyn sy’n bryder arall. Hyd y gwelaf, prin yw’r themâu sy’n eu huno. Oes, mae peth tebygrwydd i’w weld rhwng y casgliad o bygiau a chathod Siämaidd, ac artistiaid cerameg yw Phil Rogers a Catrin Howell, er mor annhebyg eu gwaith. Wedi dweud hyn, at ei gilydd does dim sy’n cysylltu’r amrywiaeth fechan o destunau yma ar wahân i’r ffaith iddynt ddigwydd croesi drwy f’ymwybyddiaeth bersonol i.

    Wrth lunio’r ysgrifau fe wawriodd arnaf fod yma broses o archwilio ar y gweill. Sylweddolais, er mor od a phenodol oedd rhai o’r testunau (Gorey, cathod Siämaidd), nad chwilod unig yn fy mhen i mohonynt, eithr bod arwyddocâd ehangach i bob un a bod yr un chwilod yn crafu ym mhennau eraill. Byddai fy nghasgliad o bygiau yn edrych yn gymedrol, os nad yn fychan, ochr yn ochr ag un Blanche Roberts, ac mae toreth o weithiau gan lenorion, cyfansoddwyr a pheintwyr mwyaf y byd am gathod Siämaidd. Yn wir, ym mhob achos, roeddwn i’n perthyn i gymdeithas estynedig a rhyngwladol, hyd yn oed, o bobl oedd wedi gwirioni yn union yr un fath â mi. Nid yw pygiau na darluniau Gorey na ffilmiau Hitchcock nac arysgrifau David Jones yn bodoli mewn gwagle; maen nhw’n tarddu o rwydwaith o gysylltiadau hanesyddol a diwylliannol sy’n dal i ymestyn, gan gyffwrdd â bywydau llawer o bobl. Ond, yn y bôn, proses o archwilio’r profiad o wirioni sydd yma. Er nad ydym i gyd yn gwirioni’r un fath, nac ar yr un pethau, ymhlyg yn y cyflwr o wirioni ceir elfen gref o angerdd.

    Peth tebyg i ymserchu yw gwirioni. Er mor ddiflas yw trenau/adar/rygbi/pêl-droed/Manic Street Preachers y gŵr sy’n ein cornelu yn y parti, rhaid inni edmygu ei frwdfrydedd. Mae gwirioni ar rywbeth yn debyg i gwympo mewn cariad â’r peth hwnnw; yn wir, efallai, y dywedai rhai seicolegwyr fod obsesiynau yn ffurf ar garwriaeth ddirprwyol, neu eu bod yn cymryd lle rhywioldeb mewn bywyd a fyddai, fel arall, yn wag. Ond, pe bai’r seicolegydd yn asesu gwirioni yn y termau yna, onid yw’n syml yn ategu’r farn fod pob diddordeb ysol yn rhywbeth nad yw o ddiddordeb i nyni yn ffôl, yn ynfyd, yn wirion? Ffordd arall o ddweud taw pobl eraill sy’n gwirioni yw hyn; nid yw ein diddordeb (call) personol ni yn y Manic Street Preachers, mewn rygbi, pêl-droed, adar, trenau neu bygiau byth yn ffôl nac yn wirion. Wrth gwrs, rydym yn barod i gydnabod mewn ffordd ysgafn, ‘Dwi wedi dwlu/gwirioni ar ffilmiau Hitchcock/cathod Siämaidd/trenau/rygbi’, gan feddwl yn dawel bach ar yr un pryd, ‘Ydw, ond rydw i’n ei gadw dan reolaeth’. Pobl eraill, ymwelwyr â’n cartref sy’n gweld ein casgliad o fodelau o bygiau fel rhywbeth dros ben llestri, fel arwydd o wallgofrwydd, fel peth gwirion. Ond i ni mae’n gartref. Mae pob gwirioni yn gartref i’r sawl sy’n ymgartrefu ynddo.

    Ond pan fo’r gwirioni yn un cyffredin, a llawer yn ei rannu, nid yw’n cael ei weld fel ffolineb o gwbl. Dyna pam y dewisais rygbi a phêl-droed yn enghreifftiau. Pan ddaw hi’n adeg Cwpan y Byd, neu’n ornest y Chwe Gwlad, neu’r Gemau Olympaidd, yr hyn sy’n digwydd yw bod y wlad, yn wir sawl gwlad, os nad y byd i gyd, yn gwirioni heb i neb ei weld fel peth od. Os nad ydym wedi cyd-wirioni ar y pethau hyn, yna, unwaith yn rhagor, nyni sy’n od. Dim ots – fe’n gorfodir i wirioni fel pob un arall gan y papurau, y teledu, y radio a phob dull electronig posibl. Dyma’r gŵr sy’n ein cornelu yn y parti ar raddfa genedlaethol a rhyngwladol hyd yn oed. O leiaf dyna’r argraff i ni sydd ddim yn rhannu’r un diddordeb yn y medalau aur, y Goron Driphlyg neu’r jiwbilî diweddaraf. Nid yw angerdd poblogaidd yn wirion o gwbl. Bod â’r un angerdd am rywbeth anghyffredin (pygiau, cathod Siämaidd, lluniau Weegee) sy’n od, yn wirion, yn ecsentrig (er na fyddwn i byth yn defnyddio’r label yna i ddisgrifio fi fy hun).

    Ystyrir yr ecsentrig – hynny yw, y sawl sy’n gwirioni ar rywbeth anghyffredin yn hytrach na rhywbeth cyffredin a phoblogaidd – gan bobl eraill fel rhywun anhapus (sad yw’r term dirmygus amdano yn Saesneg ac nid yw ‘trist’ yn cyfleu’r un feirniadaeth ddilornus). Mae ei fywyd cymdeithasol yn anghyflawn ac mae’n nerd neu’n geek, ac fe’i darlunnir fel y Comic Book Guy yn y Simpsons, fel un sy’n byw ar fwydydd afiach ac yn gwastraffu ei fywyd. Ond nid yw pawb, hyd yn oed seicolegwyr, yn cytuno â’r delweddau ystrydebol hyn. Yn eu llyfr Eccentrics (1995) dywed David Weeks a Jamie James, ‘The eccentric project was the most cheerful research any psychologist ever undertook. With few exceptions, the subjects in the study were happy, even joyful people, and their joy was infectious.’

    Yn y bennod olaf yn eu llyfr, dan y teitl ‘Eccentricity and Health’, maen nhw’n mynd ymlaen i ddatgan, ‘Moreover, eccentrics have more to be happy about: the single quality most often associated with happiness in the popular mind is good health, and there is ample evidence that eccentrics are healthier and live longer than the rest of us.’

    Yn eu hastudiaeth hanesyddol o enghreifftiau o bobl ecsentrig sy’n rhychwantu’r blynyddoedd rhwng 1551 ac 1950, canfuwyd eu bod wedi byw hyd at eu trigain oed a thu hwnt i hynny, mewn cyfnod pan oedd pobl yn lwcus i gyrraedd eu pymtheg ar hugain. Yn rhyfedd iawn, er iddo dreulio’i oes fel crwydryn, bu farw Dic Aberdaron yn 63 oed yn 1843. Ategir hyn gan ecsentrigion enwocaf Cymru: Iolo Morganwg, a fu farw yn 78 oed, a’r Dr William Price, a oedd yn 92 oed pan fu farw yn 1893.

    Yn syml, mae Weeks a James yn priodoli iechyd da pobl ecsentrig i’w hapusrwydd: ‘Eccentrics, however, are largely immune to the physiological toll of stress, because they do not

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1