Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

'Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru': Plaid Cymru a'r Cyhuddiad o Ffasgaeth
'Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru': Plaid Cymru a'r Cyhuddiad o Ffasgaeth
'Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru': Plaid Cymru a'r Cyhuddiad o Ffasgaeth
Ebook148 pages2 hours

'Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru': Plaid Cymru a'r Cyhuddiad o Ffasgaeth

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

This revealing and controversial book weighs and reflects on the historical truth of the accusations of sympathy with Fascism against Plaid Cymru and its leaders.

LanguageCymraeg
Release dateJul 15, 2013
ISBN9781783161065
'Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru': Plaid Cymru a'r Cyhuddiad o Ffasgaeth
Author

Richard Wyn Jones

I was born and raised in a small seaside town of Cardigan on the west coast of Wales.After University, I spent many years working in London before finally moving from the city to the countryside, eventually settling in the idyllic Cotswold region of England, where I've had more time to focus on my writing.From a very early age I had a keen interest in crafting stories and would get lost for hours in my adventures. My working career in predominantly senior marketing and creative positions enabled me to continue this childhood passion and fuelled my dream to eventually attempt to write a full blown novel.As a young boy, I found books by authors such as Richard Adams fascinating, where they used animal subject matter to deliver human stories and this genre very much inspired me in the direction I would take for my first novel, A Squirrel's Tale and subsequently with my second novel, The Prairie Drifter.My biggest hope is that people really enjoy the characters and the journey they take as much as I enjoyed creating them.

Related to 'Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru'

Related ebooks

Reviews for 'Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru'

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    'Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru' - Richard Wyn Jones

    ‘Y B

    LAID

    F

    FASGAIDD

    YNG

    N

    GHYMRU

    SAFBWYNTIAU

    Gwleidyddiaeth • Diwylliant • Cymdeithas

    Golygydd Cyffredinol y Gyfres: Daniel G. Williams, Prifysgol Abertawe

    Dyma gyfres sydd yn trafod ac ailystyried rhai o bynciau canolog astudiaethau gwleidyddol a diwylliannol Cymru a thu hwnt. Ei nod yw cyflwyno ymdriniaethau grymus ar amrywiaeth o bynciau o fewn y dyniaethau – o ffasgaeth i sosialaeth, o ethnigrwydd i rywioldeb, o iaith i grefydd. Tynnir ynghyd rhai o feddyliau mwyaf praff a difyr Cymru i gynnig safbwyntiau annisgwyl a dadlennol ar hanes, diwylliant a syniadaeth gyfoes o ogwydd gwleidyddol, theoretig a chymdeithasol.

    ‘Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru’

    Plaid Cymru a’r Cyhuddiad o Ffasgaeth

    Richard Wyn Jones

    Gwasg Prifysgol Cymru

    Caerdydd

    2013

    Hawlfraint © Richard Wyn Jones, 2013

    Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigantîn, Caerdydd CF10 4UP.

    www.gwasg-prifysgol-cymru.org

    Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.

    ISBN 978-0-7083-2650-3

    e-ISBN 978-1-78316-106-5

    Datganwyd gan Richard Wyn Jones ei hawl foesol i’w gydnabod yn awdur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.

    i Eli Stamnes,

    un a wyddai o’r cychwyn cyntaf

    mai pobl ryfedd ar y naw ydym ni’r Cymry…

    CYNNWYS

    Cyflwyniad

    1 Y Cyhuddiadau

    2 Adnabod Ffasgwyr a Ffasgaeth

    3 Diffinio Ffasgaeth

    Y wladwriaeth

    Mawrygu trais

    Mawrygu arweinydd ac arweinyddiaeth

    Gwrth-Semitiaeth

    4 Cymru Mewn Degawd o Ryfela

    5 Diwylliant Gwleidyddol Cymru

    6 Diweddglo: Achubiaeth ac Alltudiaeth

    Nodiadau

    Llyfryddiaeth

    Cyflwyniad

    Mae’n amhosibl dychmygu cyhuddiad mwy difrifol y gellid ei daflu at wleidydd neu blaid wleidyddol na’r cyhuddiad o ‘Ffasgaeth’. Yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, daeth Ffasgaeth i gynrychioli isafbwynt yn hanes y ddynoliaeth. Yn Auschwitz, Bergen-Belsen, a gweddill y gwersylloedd difa dreng a sefydlodd y Natsiaid, plymiodd y Ffasgwyr ddyfnderoedd o fwystfileidd-dra sydd y tu hwnt i’n dirnadaeth. Beth bynnag yr anfadwaith a wnaed yn enw Stalin, Mao ac amrywiol ymerodraethau imperialaidd y gwledydd Ewropeaidd, y mae i Ffasgaeth le unigryw ac iasol yn ein dirnadaeth a’n dealltwriaeth o ddrygioni. Yn wir, cynrychiola ffigur Hitler y peth agosaf sydd gennym yn yr oes seciwlar hon at Ddrygioni absoliwt. Trwy gondemnio rhywrai fel Ffasgwyr yr ydym yn eu huniaethu â hyn oll.

    Anodd yw cysoni’r ddelwedd boblogaidd o’r Blaid Genedlaethol gynnar – plaid o genedlaetholwyr diwylliannol – gyda’n delwedd o Ffasgwyr a Ffasgaeth. Nid yw Gweinidogion Anghydffurfiol, athrawon, darlithwyr a gweddill pobl ‘y Pethe’ Cymraeg yn bobl a gysylltwn yn hawdd â’r llabystiaid mewn jackboots a chrysau unlliw a nodweddai gynulliadau o’r pleidiau Ffasgaidd a dyfodd fel madarch trwy Ewrop yn ystod y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd byd. Serch hynny, drosodd a thro ers canol y 1930au clywyd cyhuddiadau i’r perwyl fod Plaid Genedlaethol Cymru yn blaid Ffasgaidd. Clywyd y cyhuddiadau hyn o enau pobl y byddwn yn eu hystyried mewn cyd-destunau eraill yn bobl o sylwedd y dylid cymryd eu barn o ddifrif – gweinidogion y Goron, Aelodau Seneddol, prifathrawon prifysgolion, gweinidogion yr efengyl, ac ati. Ceir enwau mawr yn eu plith, megis James Griffiths, Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru. Nid yn unig hynny, ond mae’r un cyhuddiadau yn dal i gael eu hailadrodd hyd heddiw.

    Mae’r gyfrol fechan hon yn craffu’n fanwl ar y cyhuddiadau hyn gan ysfyried mewn manylder berfhynas Plaid Cymru â Ffasgaeth. Oblegid os oes unrhyw sail wrthrychol i’r cyhuddo yna mae rhwymedigaeth arnom i edrych ar holl hanes y Blaid Genedlaethol – a gwleidyddiaeth Cymru – mewn goleuni cwbl wahanol.¹ Petai sail i’r cyhuddiad yna byddai’n rhaid dechrau mynd i’r afael â goblygiadau’r ‘ffaith’ fod canran sylweddol o ddosbarth deallusol Cymru – gan gynnwys y mwyafrif llethol o’r Cymry Cymraeg eu hiaith yn eu plith – wedi bwrw eu coelbren â phlaid ‘Ffasgaidd’. Byddai’n rhaid ymboeni am oblygiadau’r ffaith fod plaid a fu’n rhan o Fywodraeth Cymru rhwng 2007 a 2011 yn blaid â sawr Ffasgaidd arni. Yn wir, petai’r cyhuddiad yn sefyll yna byddai’n gweddnewid nid yn unig ein dealltwriaeth o wleidyddiaeth Cymru, ond o wleidyddiaeth Prydain drwyddi draw. Oblegid yn hytrach na gweld Ffasgaeth fel ffenomen ‘gyfandirol’, byddai’n dechrau mynd i’r afael ag oblygiadau’r ‘ffaith’ fod o leiaf un gornel o Brydain lie llwyddodd mudiad ‘Ffasgaidd’ i fwrw gwreiddiau dwfn a gwydn. Byddai’n rhaid ystyried Plaid Cymru ochr yn ochr â Front National Ffrainc, Freiheitspartei Awstria, a gweddill y pleidiau hynny yr arferir cyfeirio atynt yng nghyd-destun trafodaethau am ddylan-wad Ffasgaeth a neo-Ffasgaeth ar wleidyddiaeth Ewrop gyfoes.

    Ar y llaw arall, os nad oes sail i’r cyhuddiadau eithriadol ddifrifol hyn, yna mae’n briodol ein bod yn ystyried beth y mae’r ailadrodd cyson, awdurdodol a gafwyd arnynt yn ei awgrymu wrthym ynglyn â natur gwleidyddiaeth a diwylliant gwleidyddol Cymru. Paham y mae rhai o wleidyddion amlycaf ein gwlad wedi gweld yn dda i lusgo enw da gwrthwynebwyr gwleidyddol na fuont, ar y cyfan, erioed yn llawer o fygythiad iddynt trwy’r llaid yn y fath fodd? Beth ynglŷn â Phlaid Cymru a oedd yn dan ar groen fel eu bod yn haeddu triniaeth o’r fath? A phaham, yn wir, y mae sylwebyddion gwleidyddol wedi cynnig tragwyddol heol i’r cyhuddwyr gael chwydu’r fath wenwyn dros eu gelynion?

    Er mwyn mynd i’r afael â pherthynas Plaid Cymru â Ffasgaeth, mae’r drafodaeth sy’n dilyn wedi ei rhannu’n bum rhan. I ddechrau cawn fwrw golwg manwl dros ‘Y Cyhuddiadau’ a daflwyd i gyfeiriad y Blaid. Yn dilyn hynny ceir trafodaeth ar y cwestiwn astrus sut i ‘Adnabod Ffasgwyr a Ffasgaeth’. Fe arwain hyn yn ei dro at ymdrech i ‘Ddiffinio Ffasgaeth’ er mwyn sefydlu ffon fesur y gellir gosod syniadau Plaid Cymru yn ei herbyn ac felly benderfynu gwirionedd y cyhuddiadau a glywyd mor fynych. Wedi ymdrech i bwyso a mesur sylwedd y cyhuddiadau, aiff y gyfrol ymlaen i holi pam eu bod wedi cael eu hailadrodd gyda’r fath arddeliad ers degawdau. Mae dwy ran i’r ateb. Yn gyntaf trafodir agwedd Plaid Cymru yng nghyd-destun ‘Degawd o Ryfela’, sef, Rhyfel Cartref Sbaen a’r Ail Ryfel Byd. Arweinia hyn yn ei dro at fyfyrdod ehangach ynglyn â natur ‘Diwylliant Gwleidyddol Cymru’.

    * * *

    Fel rhan o ail gyfrol a fydd maes o law’n olynu Rhoi Cymrun Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru Cyf. 1 (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007) y bwriadwyd yn wreiddiol y drafodaeth bresennol ar y cyhuddiad o Ffasgaeth yn erbyn y Blaid Genedlaethol. Fy nghyfaill Jerry Hunter oedd y cyntaf i awgrymu y gallai fod yn werth ei chyhoeddi fel cyfrol ar wahân. Cafodd yr awgrym ei eilio’n frwd gan nifer o gyfeillion eraill a fu’n ddigon caredig i ddarllen y testun a chynnig sylwadau arno. Felly hefyd gan y wasg. Rwy’n wir-ioneddol ddiolchgar i Guto Harri, Emyr Fewis, Dafydd Trystan, John Stevenson, Daniel G. Williams ac, wrth gwrs, i Jerry am eu sylwadau; ac i staff Gwasg Prifysgol Cymru, y cyfarwyddwr Helgard Krause, y comisiynwyr Sarah Lewis ac Angharad Watkins, ac i Siân Chapman a Dafydd Jones yn yr adrannau cynhyrchu a golygyddol, oll am eu cymorth parod, ynghyd â llu o awgrymiadau gwerthfawr. Rwy’n ddiolchgar i dri darllenydd anhysbys a fu’n darllen a chynnig sylwadau ar y deipysgrif ar ran y Wasg, a mawr yw fy nyled hefyd i Menna Baines am ei gwaith golygu manwl a deallus.

    Yn ogystal â’r rhain, cefais fudd mawr o gael cyfle i fyfyrio uwchlaw sylwadau cyfeillion eraill ar ddrafft cynharach o’r testun. Diolch felly i Meredydd Evans, Simón Brooks, Gwenan Creunant ac R. Geraint Gruffydd. Bu Peter Jackson, sydd bellach wedi ymadael â Chymru er mwyn ymgartrefu yn yr Hen Ogledd, yn barod iawn bob amser i rannu ei wybodaeth fanwl o’r llenyddiaeth hanesydd-iaethol enfawr sy’n trafod gwleidyddiaeth Ewrop y 1930au. Un arall a fu’n rhan o’n trafodaethau di-rif ar wahanol agweddau ar hanes syniadaethol y cyfnod fu Mike Williams, bellach o Brifysgol Ottowa. Dysgais beth wmbreth gan y ddau ohonynt. Diolch hefyd i Aled Elwyn Jones a Matthew Rees am eu gwaith wrth gyrchu ffynonellau, ac i Lucy Hammond, Lee Waters a Peter Keelan am eu cymorth hwythau. Bu fy nghyd-weithwyr yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, hefyd yn gefn. Diolch i Rebecca Rumbul ac yn arbennig i Roger Scully.

    Os perthyn unrhyw rinwedd i’r drafodaeth sy’n dilyn yna’r cyfeillion a enwyd uchod bia llawer o’r clod am hynny. Gan fod cynnwys y gyfrol yn debyg o fod yn ddadleuol, mae’n bwysicach nag arfer hyd yn oed fy mod yn nodi’n eglur na ellir dal yr un ohonynt yn gyfrifol am unrhyw wendidau neu frychau sy’n parhau. Ysywaeth, fy nghyfrifoldeb i yn unig yw’r rheini.

    Richard Wyn Jones

    Fagerstrand, Nesodden, Norwy

    Nodiadau

    1 Sefydlwyd Plaid Genedlaethol Cymru/The Welsh Nationalist Party yn ystod gaeaf 1924/5. Wedi 1945 câi’r blaid ei hadnabod fel Plaid Cymru. Yn 1998 mabwysiadwyd enw dwyieithog ar ei chyfer, sef, y tro hwn, Plaid Cymru – The Party of Wales. Yn 2006 talfyrrwyd yr enw i Plaid fel rhan o broses o ailfrandio mwy cyffredinol (er bod Plaid Cymru - The Party of Wales wedi parhau fel enw swyddogol). Wrth i’r gyfrol bresennol gael ei chwblhau cyhoeddwyd y byddai’r blaid yn dychwelyd at y drefn a fodolai am ugain mlynedd cyntaf ei bodolaeth gan fabwysiadu enwau Cymraeg a Saesneg gwahanol – Plaid Cymru/ The Party of Wales. Amser a ddengys a fydd y steil diweddaraf yn ennill ei blwyf ond, yn yr hyn sy’n dilyn, defnyddir y Blaid Genedlaethol a Phlaid Cymru am yn ail â’i gilydd.

    1

    Y Cyhuddiadau

    Mewn colofn yn trafod hynt a helynt Prifysgol Cymru Aberystwyth, ‘UCW Notes’, yn rhifyn 25 Tachwedd 1938 o’r Cambrian News ceir y nodyn canlynol:

    A debate was held on Friday, the motion being ‘That Welsh Nationalism is Welsh Nazi-ism.’ The speakers were: For, R. Islwyn Pritchard and Edgar Jones; Against, G. I. Lewis and Dyfnallt Morgan. The motion was passed by a narrow margin.¹

    Ni ddylid talu gormod o sylw i ganlyniadau ymrysonfeydd mewn cymdeithasau dadlau myfyrwyr. Ond yn yr achos hwn o leiaf, roedd y ddadl – a’i chanlyniad – yn adlewyrchu realiti ehangach. Erbyn 1938, roedd y Blaid Genedlaethol o dan warchae gyda chyhuddiadau o Ffasgaeth, neu o gydymdeimlad â Ffasgaeth, yn cael eu taflu ati o wahanol gyfeiriadau.²

    Roedd sawl gwahanol ffurf i’r cyhuddiadau, o sylwadau ffwrddâ-hi na thrafferthwyd ceisio eu cyfiawnhau i ymdrechion ymresymedig i ddadlau yn erbyn rhyw agwedd benodol neu’i gilydd ar syniadau neu safbwyntiau’r blaid. Yn ddieithriad yn y cyfnod cyn y rhyfel, gwelir cysylltiad uniongyrchol rhwng manylder yr ymresymu a difrifoldeb y cyhuddiad. Yn benodol, po fwyaf ffwrddâ-hi’r ymdriniaeth po fwyaf ysgubol, difrïol a difrifol yr ensyniadau. Wele, er enghraifft, eiriau gohebydd yn rhifyn 15 Chwefror 1938 o’r Daily Herald: ‘The Welsh Nationalist leaders are out and out Fascists, despite the fact that they try to hide it, said an ex-Nationalist to me …’³ Ni chyflwynir tystiolaeth i gefnogi’r haeriad y tu hwnt i ddyfynnu geiriau honedig ‘cyn-genedlaetholwr’ dienw.

    Yr

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1