Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Astudiaethau Athronyddol: 5. Dirfodaeth, Cristnogaeth a'r Bywyd Da - Ysgrifau John Heywood Thomas
Astudiaethau Athronyddol: 5. Dirfodaeth, Cristnogaeth a'r Bywyd Da - Ysgrifau John Heywood Thomas
Astudiaethau Athronyddol: 5. Dirfodaeth, Cristnogaeth a'r Bywyd Da - Ysgrifau John Heywood Thomas
Ebook128 pages2 hours

Astudiaethau Athronyddol: 5. Dirfodaeth, Cristnogaeth a'r Bywyd Da - Ysgrifau John Heywood Thomas

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A fifth volume of philosophical studies, comprising a collection of readable essays by John Heywood Thomas, a prominent author in the field of philosophy.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateJul 2, 2016
ISBN9781784613259
Astudiaethau Athronyddol: 5. Dirfodaeth, Cristnogaeth a'r Bywyd Da - Ysgrifau John Heywood Thomas

Related to Astudiaethau Athronyddol

Related ebooks

Reviews for Astudiaethau Athronyddol

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Astudiaethau Athronyddol - E Gwynn Matthews

    Dirfodaeth%2c%20Cristnogaeth%20a%27r%20Bywyd%20Da%20-%20AA5%20-%20John%20Heywood%20Thomas.jpg

    Hefyd yn y gyfres:

    Cred, Llên a Diwylliant: Cyfrol Deyrnged Dewi Z Phillips

    E. Gwynn Matthews (gol.)

    Cenedligrwydd, Cyfiawnder a Heddwch

    E. Gwynn Matthews (gol.)

    Y Drwg, y Da a’r Duwiol

    E. Gwynn Matthews (gol.)

    Hawliau Iaith

    E. Gwynn Matthews (gol.)

    Dirfodaeth, Cristnogaeth

    a’r Bywyd Da

    gan John Heywood Thomas

    Golygyddion

    E. Gwynn Matthews a D. Densil Morgan

    UW%20Domestic%20Logo%20DG.jpg

    Adran Athronyddol

    ac Adran Ddiwinyddiaeth

    Graddedigion Prifysgol Cymru

    Astudiaethau Athronyddol 5

    Argraffiad cyntaf: 2016

    © Hawlfraint yr awduron unigol a’r Lolfa Cyf., 2016

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon i lungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol

    Cyngor Llyfrau Cymru

    Cynllun y clawr: Y Lolfa

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 1 78461 268 9

    E-ISBN: 978-1-78461-325-9

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru

    ar bapur o goedwigoedd cynaladwy gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    gwefan www.ylolfa.com

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 832 782

    Rhagair

    Mae dau wahaniaeth rhwng y gyfrol hon a’r rhai a’i rhagflaenodd yn y gyfres hyd yma. Yn gyntaf, gwaith un awdur yw’r holl ysgrifau, ac yn ail, noddir y gyfrol gan ddwy o adrannau Graddedigion Prifysgol Cymru, sef yr Adran Athronyddol a’r Adran Ddiwinyddiaeth. Fel canlyniad, bu dau olygydd yn golygu’r testun.

    Mater o falchder i’r ddwy adran yw ein bod yn medru cyhoeddi gwaith a gyfansoddwyd yn wreiddiol yn y Gymraeg gan ysgolhaig sydd yn awdurdod rhyngwladol yn ei faes, sef yr Athro John Heywood Thomas. Mae ystod yr ysgrifau yn ymestyn dros athroniaeth a diwinyddiaeth – diwinyddiaeth athronyddol yn arbennig. Cyfrannodd yr Athro Thomas yn helaeth i lenyddiaeth athronyddol a diwinyddol y Gymraeg dros gyfnod maith gyda’i ysgrifau yn Efrydiau Athronyddol, Diwinyddiaeth, Y Traethodydd a Hanes Athroniaeth y Gorllewin, ac enwi ond yr amlycaf o’r cyhoeddiadau.

    Mae’r casgliad presennol yn cynnwys ysgrifau nas cyhoeddwyd o’r blaen ynghyd â rhai a ymddangosodd eisoes yn Efrydiau Athronyddol, Y Traethodydd neu Diwinyddiaeth.

    Hoffai’r ddwy adran gydnabod nawdd Prifysgol Cymru, sydd wedi ein galluogi i gyhoeddi’r gyfrol hon, ynghyd â chymorth Cyngor Llyfrau Cymru. Gwerthfawrogir yn arbennig ymlyniad Gwasg y Lolfa wrth y gwaith o gynhyrchu rhifynnau’r gyfres, a’u gofal wrth sicrhau diwyg deniadol i bob cyfrol.

    E. Gwynn Matthews a D. Densil Morgan

    Gŵyl Badrig 2016

    John Heywood Thomas

    D. Densil Morgan

    Un o ddiwinyddion athronyddol mwyaf nodedig ei genhedlaeth yw John Heywood Thomas. Ac yntau’n feddyliwr mirain a chreadigol, treuliodd oes gyfan yn ymgodymu ag athrylith y dysgawdwr o Ddenmarc, Søren Kierkegaard, gan ddehongli hefyd syniadaeth gywrain Paul Tillich, yr Almaenwr a ymgartrefodd yn yr Unol Daleithiau ar ôl ffoi o’i wlad yn sgil gormes y Natsïaid. Yn ogystal ag ymateb yn greadigol-feirniadol i ddau o feddylwyr crefyddol disgleiriaf y cyfnod modern, dangosodd feistrolaeth ddigymar ar holl rychwant y traddodiad clasurol ac erys y Dominiciad Tomos o Acwin, meddyliwr mwyaf yr Oesoedd Canol, yn ysbrydiaeth iddo o hyd. Fel awdur, athro a chyfarwyddwr ymchwil to o ysgolheigion iau, cyfrannodd yn helaeth at efrydiau diwinyddol ac athronyddol mewn pedair prifysgol: Durham, Manceinion, Nottingham a Chymru, ac ennill bri rhyngwladol, yn Sgandinafia a’r Unol Daleithiau yn bennaf. Ond trwy gydol yr amser Cymro yw Heywood Thomas, yn cyfrannu yn ôl ei allu at y ddwy ddisgyblaeth yn ei famwlad, ac yn cyfoethogi’r drafodaeth athronyddol a diwinyddol yn y Gymraeg. Cwbl briodol felly yw fod adrannau Athroniaeth a Diwinyddiaeth Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru yn uno i gyhoeddi’r detholiad hwn o’i ysgrifau fel y bumed gyfrol yn y gyfres Astudiaethau Athronyddol.

    Ganed John Heywood Thomas yn Llwynhendy, Sir Gaerfyrddin, ar 9 Tachwedd 1926, yn fab i of, David Thomas, ac Ann ei wraig. Er bod pentref Llwynhendy, fel tref Llanelli gerllaw, yn dibynnu ar y diwydiannau alcam a dur, roedd cryn dipyn o naws y wlad i’w theimlo yno, a magwraeth nodweddiadol o bentrefi’r werin gapelog Gymraeg a gafodd. O ysgol y pentref aeth i Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Llanelli, a’i swyno yno fwyaf gan ei astudiaethau mewn Ieithoedd Modern, a magu diddordeb arbennig yn y beirdd rhamantaidd Ffrengig, ac yn y Clasuron.¹ Wrth ddarllen Xenophon a Phlaton daeth i wybod am Socrates, a thrwy hyn deffrowyd ynddo ddiddordeb mewn athroniaeth a droes yn ysfa ac yn orfodaeth maes o law. Nid yr ysgol oedd unig fagwrfa diwylliant a dysg ond y capel hefyd, sef yn ei achos ef a’i deulu, Eglwys Annibynnol y Bryn. Y Parchedig John Evans oedd y gweinidog, pregethwr nerthol efengylaidd, ac wrth feithrin galwad y John Heywood ifanc i ymbaratoi at y weinidogaeth, rhoes iddo gopi o’r gyfrol Training in Christianity lle mae Kierkegaard yn annog ei ddarllenwyr i fentro ar Grist drwy ‘naid ffydd’. Trwy law ei dad-yn-y-ffydd, felly, y cafodd ei gyflwyno i un y deuai ymhen blynyddoedd yn arbenigwr byd-enwog arno.

    O Lanelli aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio mewn Athroniaeth yn 1947, ac oddi yno i Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin ar gyfer ei hyfforddiant diwinyddol. Ymhlith ei gyfoeswyr yng Nghaerfyrddin yr oedd tri a fyddai’n cyfrannu’n helaeth at addysg ddiwinyddol yng Nghymru, sef J. Alwyn Charles, E. Stanley John a Dewi Eirug Davies. Byddai Charles a Stanley John yn llenwi yn eu tro gadair Athrawiaeth Gristnogol Coleg Bala-Bangor; deuai Eirug Davies yn athro Athrawiaeth Gristnogol Coleg Coffa Abertawe, ac wedi hynny yn brifathro Coleg Coffa Aberystwyth, a Stanley John wedyn yn brifathro cyntaf Coleg yr Annibynwyr Cymraeg. O Gaerfyrddin cafodd Heywood Thomas Ysgoloriaeth Fletcher i astudio yng Ngholeg Cheshunt, Caergrawnt, ac mewn ysgrif ddiweddar yn Y Traethodydd² mae’n sôn amdano’i hun yn cael ei gyf-weld gan C. H. Dodd, yr ysgolhaig Beiblaidd enwog, a H. H. Farmer, yr Athro Norris-Hulse yn y brifysgol, a gyfunai ymlyniad wrth y traddodiad Presbyteraidd neu Ddiwygiedig a phwyslais Kant ar ryddid yr unigolyn i ymateb yn ddilyffethair i ras Duw yn yr efengyl. Derbyniwyd ef yn fyfyriwr ôl-radd gan Farmer yn 1950, ac o dan ei gyfarwyddyd ef y cychwynnodd ar raglen ymchwil ar Kierkegaard. Ffrwyth y cyfnod hwnnw oedd yr ysgrif ‘Kierkegaard ar grefydd fewnol’ (Efrydiau Athronyddol, 1954) a’r gyfrol Subjectivity and Paradox: A Study of Kierkegaard (Rhydychen: Blackwell, 1957), y gwaith cyntaf yn Saesneg i fanteisio ar holl rychwant y ffynonellau gwreiddiol mewn Daneg. Etholwyd Heywood Thomas yn Gymrawd Ymddiriedolaeth Swenson-Kierkegaard yn 1954, anrhydedd a’i galluogodd i fynd i Copenhagen i barhau â’i efrydiau.

    Ordeiniwyd ef yn weinidog Annibynnol yn ei fam-eglwys, Y Bryn, yn 1952, gan wybod mai ei gryfder fel addysgwr diwinyddol yn hytrach na bugail cynulleidfa fyddai’n pennu natur ei weinidogaeth. Yn fuan wedyn enillodd Gymrodoriaeth Mills i astudio yn yr Union Seminary, Efrog Newydd yn 1952–3, ac un o’i athrawon yno oedd y meddyliwr carismatig Paul Tillich. Mewn ysgrif gofiannol yn Y Traethodydd, meddai amdano: ‘Yn fyr o gorff safai’n unionsyth a’i wyneb fel darn o garreg wedi ei cherfio gan un o’r meistri.’³ Synnwyd ei gyd-fyfyrwyr gan ehofndra’r Cymro ifanc a gyhuddodd eu harwr o gamresymu: ‘Roedd eu parch tuag ato’, meddai, ‘bron yn addolgar’. Roedd Tillich ei hun yn fwy goddefgar: ‘"Don’t be disturbed by him … he’s my logical critic!’"⁴ Ar y pryd yr Union Seminary oedd canolfan fwyaf blaengar America ym maes diwinyddiaeth, a Tillich, ynghyd â’r moesegydd cymdeithasol Reinhold Niebuhr, yn bennaf addurn yno.⁵ Ffrwyth ymchwil Heywood Thomas o’r adeg hon oedd yr ysgrif ‘Dehongliad Paul Tillich o grefydd y Beibl’ (Diwinyddiaeth, 1957) ynghyd â’r dadansoddiad treiddgar Paul Tillich: An Appraisal (Llundain: SCM, 1963) a’r cyflwyniad hylaw Paul Tillich (Llundain: Carey Kingsgate, 1965) yn y gyfres ddefnyddiol Makers of Contemporary Theology. Ef hefyd a luniodd y rhagymadrodd i gyfrol led-hunangofiannol Tillich, On the Boundary (Glasgow: Collins, 1967), a daeth astudiaeth ddiweddarach o’i law, sef Paul Tillich yn y gyfres Outstanding Christian Thinkers (Llundain: Continuum) yn 2000. Yr Appraisal, ynghyd â’r gwaith ar Kierkegaard, a enillodd iddo radd Doethur mewn Diwinyddiaeth operis causa gan Brifysgol Cymru yn 1965, y trydydd un erioed i dderbyn y radd honno.

    Ar ôl dychwelyd o’r Unol Daleithiau (lle y priododd â Mair Evans, hithau o Lanelli, yng Nghapel yr Union Seminary yn Ionawr 1953), treuliodd 1954–5 yn athro Ysgrythur yn Ysgol Uwchradd Aberteifi a dyna pryd y ganed Nicola, eu hunig blentyn. Wedi hynny symudodd i Brifysgol Durham gan dreulio dwy flynedd yno fel Cymrawd Ymchwil mewn Athroniaeth cyn ei benodi yn 1957 yn ddarlithydd mewn Athroniaeth Crefydd ym Mhrifysgol Manceinion. Dychwelsant fel teulu i’r Unol Daleithiau yn 1964–5, pan fu’n Athro Gwadd yng Ngholeg Diwinyddol Presbyteraidd y De-orllewin yn Austin, Texas, ac yn ôl i Brifysgol Durham yn 1965, i’r Adran Ddiwinyddol y tro hwn, pan wnaed ef yn Ddarllenydd mewn Diwinyddiaeth yno. Bu’r cyfnod nesaf yn un ffrwythlon a chynhyrchiol iddo. Cyhoeddodd lu o ysgrifau pwysig ym mhrif gylchgronau academaidd ei ddisgyblaeth ynghyd â phenodau mewn cyfrolau Festschriften, a rhwng 1970 ac 1972 gwasanaethodd fel Deon y Gyfadran Ddiwinyddol. Prif faes ei fyfyrdod erbyn hyn oedd athroniaeth Idealaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn cynnwys gwaith Fichte a Schelling. Fe’i penodwyd yn 1974 i gadair Ddiwinyddiaeth Prifysgol Nottingham, ac yn ogystal â pharhau â’i ymchwil, bu’n flaenllaw mewn gweinyddiaeth academaidd gan wasanaethu fel pennaeth ei adran, fel Deon Cyfadran y Celfyddydau, a rhwng 1979 ac 1983 fel Dirprwy Is-Ganghellor. Er ei fod yn academydd proffesiynol prysur a oedd yn ymwneud fwyfwy â materion gweinyddol, bu’n driw i’w gynhysgaeth grefyddol fel aelod yn ei eglwys leol, fel pregethwr rheolaidd yng nghynulleidfaoedd Cymraeg canolbarth Lloegr, ac fel aelod o Gomisiwn Athrawiaeth yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig. Gwelodd gyflawni breuddwyd oes yn 1992, blwyddyn ei ymddeoliad o’i gadair yn Nottingham, pan wnaed ef yn Athro er Anrhydedd yn Adran Ddiwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Prifysgol Cymru, Bangor. Ers hynny, o’i gartref ar Ynys Môn ac yna ym Mro Morgannwg, mae wedi cyfrannu’n helaeth at weithgareddau crefyddol, diwinyddol ac athronyddol yng Nghymru gan gynnwys Urdd y Graddedigion a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    Daeth anrhydeddau lu i’r Athro Heywood Thomas. Enillodd radd DD er anrhydedd gan Brifysgol Caeredin a gradd D. Litt. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru. Etholwyd ef yn Gymrawd Academi Kierkegaard yn Copenhagen ac yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’n Eisteddfodwr brwd, ac er Hwlffordd yn 1972 mae’n gwisgo’r Wisg Wen yng Ngorsedd y Beirdd. Ar

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1