Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

O.M.
O.M.
O.M.
Ebook1,070 pages14 hours

O.M.

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Owen Morgan Edwards, from Llanuwchllyn in Gwynedd, was a politician, scholar, writer and publisher of magazines. He is well-known for publishing periodicals for adults and children, as well as writing books and essays about history, politics, and travel. This is the first ever complete biography about the life of OM Edwards. 88 black and white photographs.
LanguageCymraeg
PublisherGomer
Release dateOct 26, 2020
ISBN9781785623400
O.M.

Related to O.M.

Related ebooks

Reviews for O.M.

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    O.M. - Hazel Walford Davies

    llun clawr

    O. M.

    Cofiant

    Syr Owen Morgan Edwards

    Hazel Walford Davies

    Gomer

    Cyhoeddwyd gyntaf yn 2019 gan

    Wasg Gomer, Llandysul, Ceredigion SA44 4JL

    ISBN 978 1 78562 340 0

    ⓗ y testun: Hazel Walford Davies, 2020 ©

    Mae Hazel Walford Davies, wedi datgan ei hawl dan Ddeddf Hawlfreintiau, Dyluniadau a Phatentau 1988 i gael ei chydnabod fel awdur y llyfr hwn.

    Cedwir pob hawl. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig, tâp magnetig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr.

    Cyhoeddwyd gyda chymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru.

    Argraffwyd a rhwymwyd yng Nghymru gan Wasg Gomer, Llandysul, Ceredigion.

    www.gomer.co.uk

    Troswyd i e-lyfr gan Almon.

    Cyflwynaf y gyfrol hon i

    blant fy mhlant

    Brychan, Cristyn, Mari, Rhys

    ‘Yr wyf yn hoff o honoch. Yr wyf yn meddwl fy mod yn eich adwaen yn dda … Aml dro bum yn dweud hanesion wrthych.

    Yr oeddech yn ufudd a dedwydd, a llawen; ac ni fum innau erioed mor hapus a phan oeddych o’m hamgylch.’

    O. M. Edwards,

    Cymru’r Plant

    ‘Dyma’r O. M. Edwards a swynodd ac a achubodd fy nghyfnod i ac nid y gŵr gwyn ei wallt sydd â’i lun ar barwydydd yr ysgolion. Erbyn hynny yr oedd ei waith arnom ni wedi ei wneud.’

    E. Tegla Davies, 1966

    Diolchiadau

    Y mae arnaf ddyled i’r diweddar Owen Edwards ac i Prys Edwards am eu caniatâd parod i ddyfynnu’n helaeth o Bapurau O. M. Edwards yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cefais ddau gymwynaswr o’r radd flaenaf i’m hysbrydoli i gwblhau’r gyfrol hon. Mawr yw fy nyled i’r Athro Derec Llwyd Morgan am wirfoddoli i ddarllen y gwaith fesul pennod, a hynny’n gwbl ddi-dâl. Ymgorfforais ei holl awgrymiadau gwerthfawr. Pwysig hefyd oedd cymorth a chefnogaeth Dr Huw Walters, a manteisiais ar ei wybodaeth syfrdanol o ddaliadau printiedig Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Elwais hefyd ar ei barodrwydd i ymchwilio i hyn a’r llall ar fy rhan.

    Diolchaf i Gyngor Llyfrau Cymru am gymorth ariannol i ymchwilio mewn gwahanol archifau yn Lloegr, yr Alban, ac yn Heidelberg a Genefa. Mawr yw fy niolch i staff archifdai Dolgellau a Chaernarfon ac i archifwyr Prifysgolion Glasgow, Caerdydd ac Aberystwyth. Mae arnaf ddyled arbennig i Einion Thomas, cyn-archifydd Llyfrgell Prifysgol Bangor, ac i’r staff presennol. Cefais groeso a chymorth gan swyddogion archifau Coleg Balliol, Coleg Lincoln, y Dragon School, Rhydychen, a Choleg Newnham, Caergrawnt. Diolchaf i David Puleston Williams, Caergybi, am ei ganiatâd i ymchwilio ym mhapurau ei daid, John Puleston Jones.

    Ni allaf ganu clodydd staff cymwynasgar Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ormodol. Am gyfnod o bedair blynedd bu eu sirioldeb, eu proffesiynoldeb a’u caredigrwydd o’r pwysigrwydd mwyaf yn ystod y cyfnod ymchwilio. Rhaid enwi’r rhai a olygodd fod ysgrifennu’r gyfrol hon yn bleser: Linda Davies, Beryl Evans, Sarah Humphreys, Esyllt Jewell, Hywel Jones ac Ellen Rees. Bu Rhidian Davies, Jane Day a Diana Jones o’r cymorth mwyaf i’m helpu i ddod o hyd i nifer o ddogfennau. Cefais wybodaeth am ddyddiadau pwysig drwy law Nan Williams a Rosemary Thomas, gwirfoddolwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

    Pleser yw cydnabod y wybodaeth a gefais gan y canlynol: Dr Robin Chapman, Dr Gwyn Davies, Walford Gealy, yr Athro Emeritws Marged Haycock, Dr Bleddyn Huws, y pensaer Harry James, Dr David Jenkins, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, Dr Graham Jones, Nonna Redmund ac M. E. Edwards, Amwythig. Bu Ann Kean yn gydymaith hynaws i mi pan oeddwn yn ymchwilio yn archifau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a thrwyddi hi y cefais y llun o O.M. a’i gyd-arolygwyr.

    Yn Llanuwchllyn, fy mhrif ddolen gyswllt oedd y ddigymar Beryl Hughes Griffiths. Ei gwaith ymchwil manwl a ganiataodd i mi amgyffred cymhlethdod y berthynas rhwng teuluoedd y pentref. Hi a aeth â mi i Goed Siambre Duon, a threfnu i Fflur Jones ddangos holl ystafelloedd y Gwyndy i mi, sef rhan o’r Neuadd Wen. Cefais fy ngyrru gan David Meredith ar hyd tiroedd y Garth Uchaf, a threfnodd ef fy mod yn cael sgwrs â Gordon Jones, y perchennog presennol, am atyniadau’r fferm, gan mai dymuniad Ifan ab, wedi’r Rhyfel Mawr, oedd ffermio’r tir. Bu Luned Meredith hefyd o gymorth drwy anfon gwybodaeth ataf am rai dyddiadau allweddol yn hanes teulu O.M. Mae dyled arnaf i Mel a Lisa Williams am eu croeso a’u cymorth ac i Mai Jones am ei chroeso hithau, a’r wybodaeth a gefais ganddi am deulu Edward Morris, Pantsaer. Diolchaf hefyd i Bethan ac Eryl Edwards am fy nghroesawu i ymchwilio yn eu cartref yng nghofnodion Capel Glanaber ac i Siân Pugh, Dinas Mawddwy, ac i Alun Puw am fod mor barod i drafod ambell agwedd ar O.M. fel meistr tir.

    Mae arnaf ddyled arbennig i ddwy ffrind, sef Nia Peris am ateb fy holl ymholiadau gyda’i phroffesiynoldeb a’i sirioldeb arferol, ac i’r ardderchog Carys Briddon am baratoi teipysgrif lân a chywir ar gyfer y wasg. Diolchaf hefyd i’m cyfeillion Audrey Evans, Elisabeth James, Siân Wyn Siencyn, Arwel a Mererid Thomas ac Elin Jones, Siop Lyfrau’r Hen Bost, Blaenau Ffestiniog, am eu cefnogaeth gyson.

    I gloi, diolchaf i Elinor Wyn Reynolds, gynt o Wasg Gomer, am gomisiynu’r gyfrol, ac i Dr Huw Meirion Edwards, Cyngor Llyfrau Cymru am ei waith golygyddol gwych. Derbyniais bob caredigrwydd gan Sam Brown, Meirion Davies, Gary Evans, Gruffudd Eifion Owen a Susan Roberts, Gwasg Gomer. I Tegwyn Jones mae’r diolch am baratoi’r Mynegai

    Cydnabyddiaethau – Lluniau

    Llyfrgell Genedlaethol Cymru

    Copi o’r Dystysgrif Geni

    Ysgol y Llan, Llanuwchlyn

    Athrawon a myfyrwyr Coleg y Bala, 1878

    Michael D. Jones

    Coleg Aberystwyth

    Y Prifathro T. C. Edwards a staff y Coleg

    Silvan Evans

    John Puleston Jones

    Dan Isaac Davies

    Cyfieithiad Owen o gerdd gan Heine

    Cymrodyr a myfyrwyr Coleg Lincoln, 1889

    Y Prys Mawr, Llanuwchllyn

    Rhyddfrydwyr Meirionnydd yng nghwmni’r Aelod Seneddol

    Y Prif Arolygydd

    Y Gynhadledd Addysg Imperialaidd, 2 Mai 1911

    Winnie Parry, golygydd Cymru’r Plant, 1908–12

    Comisiwn Haldane (1917–18)

    Y llun eiconig o’r gŵr gwyn ei wallt sydd â’i lun ar barwydydd yr ysgolion

    Casgliad y diweddar Owen Edwards, ŵyr Syr O. M. Edwards

    Rhieni Owen Edwards

    Thomas (Twm), ei frawd hynaf

    Edward (Ned), yr ail frawd

    John, y brawd ieuengaf

    Coed y pry

    Owen Edwards yn un ar bymtheg oed

    Y tri ffrind: T. E. Ellis, D. R. Daniel ac Owen Edwards

    Edward Edwards, Penygeulan, ewythr Owen

    Y ddau aderyn cariadlawn

    Dau ffrind: Owen Edwards a’i gefnder Evan T. Davies

    Owen Edwards, 1882

    Yr Aran a Llyn Tegid

    Y fynedfa i ystafelloedd Owen Edwards yn ‘Chapel Quad’

    Llun a dynnwyd gan Owen Edwards ychydig funudau wedi iddo ef ac Ellen Davies bennu dyddiad ar gyfer eu priodas

    3 Clarendon Villas

    Ifan ab yn ei siwt filwrol yn Ffrainc

    Archifdy Gwynedd

    Capel Castle Square, Caernarfon

    Coleg Cymraeg Cenedlaethol

    Hazel Walford Davies (clawr cefn)

    Aled Jenkins

    Caerhys

    C. R. Jones, y Bala

    Ysgol Tŷ-Tan-Domen

    Lluniau a dynnwyd gan Syr O. M. Edwards ac aelodau o’i deulu

    Llun a dynnwyd yn Awst 1891 wrth glawdd Cae Murddyn

    Ellen ac Ab Owen

    Owen Edwards ac Ab Owen

    Y morynion wrth ddrws Bryn’r Aber, y cartref yn Llanuwchllyn

    Ellen ac Ab Owen ar wyliau yn y Bermo

    Ab Owen ym mreichiau ei dad

    Ab Owen, ei nain Coed y pry a’i ewythr Twm

    Ab Owen yn cysgu

    Haf, Ifan ab a’u rhieni

    Ellen, Lizzie, Haf ac Ifan ab yng ngardd 3 Clarendon Villas

    Ifan ab a Haf yn Llanuwchllyn

    Owen Edwards a’r Overland a’i gwpanaid o de

    Ifan ab yn ei siwt filwrol yn Ffrainc

    Ifan ab a Maelgwyn Morris, cariad Haf yn 1916

    Ellen Edwards yng nghwmni Ieuan a Linnie Hughes, plant ei chwaer Kate.

    Llun a dynnwyd gan Haf o’i rhieni ar eu taith olaf ar hyd llwybr Coed y Garth

    Prifysgol Aberystwyth

    Y tîm pêl-droed

    Sefydlu Edward, Tywysog Cymru, yn Ganghellor Prifysgol Cymru yn Aberystwyth, 1896

    Ted Richards, Llanuwchlyn

    Y Neuadd Wen

    Prifysgol Glasgow

    Prifysgol Glasgow

    Yr Athro Edward Caird

    Yr Athro John Nichol

    Oxford City Libraries

    Coleg Balliol a Chofgolofn y Merthyron

    Gorymdaith seremoni’r Encaenia yn Rhydychen

    ‘Eights Week’, wythnos rasys cychod colegau Rhydychen

    Coleg Lincoln

    ‘Dining Hall’, Coleg Lincoln

    Boars Hill, Rhydychen

    Thomas Photos, Headington, Rhydychen

    Arthur Lionel Smith, prif diwtor Hanes Owen yn Balliol

    Coleg Lincoln

    Cymrodyr Coleg Lincoln

    Hazel Walford Davies

    45 Marston Street, Rhydychen

    15 Museum Terrace, Rhydychen

    Ardal Park Town, Rhydychen

    Alfred Ellis, Llundain

    Mary Cave

    W. Blackall, Rhydychen

    Ab Owen yn Rhydychen

    Gyde, Aberystwyth

    Y teulu yn Aberystwyth

    Y Fonesig

    Eddie Madge, Y Fenni

    Yr awdur Eluned Morgan

    Urdd Gobaith Cymru

    Owen Edwards, A.S., 2 Mai 1899

    Gwen Rowlands, Llanuwchlyn

    William a Catherine Matthews, ewythr a modryb Ellen

    Kate, chwaer Ellen

    Mary, chwaer Ellen

    Brian Winfield

    Cilfach ysgrifennu Owen Edwards yn ystafell fwyta’r Neuadd Wen

    Estyn

    Owen Edwards a’i gyd-arolygwyr

    Anhysbys

    Henry Jones

    Owen Edwards, Coleg Balliol

    Y Parchedig Owen Edwards, Penygeulan

    Blwyddyn gyntaf Cymdeithas Dafydd ap Gwilym

    Ail flwyddyn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym

    Arglwydd Aberdâr

    Owen Edwards B.A.

    Ellen Davies, Y Prys Mawr, Llanuwchllyn, ‘Miss Nineteen’

    16 Carlstrasse, Heidelberg

    Ystafell Wesley, Coleg Lincoln

    Dafydd Davies, brawd Ellen

    Mr a Mrs O. M. Edwards

    Ab Owen a’r morynion Jane a Lizzie

    Cymrodyr Coleg Lincoln

    Haf yn 1917

    Y Marchog

    Owen Edwards yn 1917

    Y llun ffurfiol olaf o Owen Edwards

    Y llun eiconig o’r ‘gŵr gwyn ei wallt sydd â’i lun ar barwydydd yr ysgolion’

    Angladd breifat Owen Edwards

    Bedd y teulu

    Cofeb ‘O.M.’ yn Llanuwchllyn, 1959

    Coleg Aberystwyth

    Teulu’r Prys Mawr

    Y teulu yn Aberystwyth

    Haf yn 1917

    Haf, Ifan ab a’r morynion Lizzie a Jane.

    Haf, Ifan ab a’u rhieni

    Benjamin Jowett, Pennaeth Coleg Balliol

    Gwnaethpwyd pob ymdrech i olrhain a chydnabod deiliaid hawlfraint. Bydd y cyhoeddwyr yn falch o wneud trefniadau addas gydag unrhyw ddeiliaid na lwyddwyd i gysylltu â hwy.

    Rhagair

    Yn y rhagair i ail argraffiad 1938 Rhan Un Owen Morgan Edwards, Cofiant gan W. J. Gruffydd eglurodd yr awdur na fedrai, wedi’r cyfan, ddod i ben ag ysgrifennu Rhan Dau. ‘Ar ôl gweld maint aruthr y gwaith yn yr ail ran’, awgrymodd i’w noddwr, Ifan ab Owen Edwards, y dylid chwilio am berson arall i ymgymryd â’r dasg, gan ei fod ef ei hun wedi dychryn, ac yn ofni na châi hamdden i gwblhau’r ymchwil a’r ysgrifennu. Daeth yr hanesydd R. T. Jenkins i’r adwy, gan addo gweld at yr ail ran. Methodd wneud hynny, ac yn ei gyfrol Edrych Yn Ôl mae’n egluro paham: ‘yng ngeiriau Ifor Williams mae o wedi mynd yn hunllef arnat, a chytunai’r meddyg.’ Yna, cynigiwyd y gwaith i Alun Llywelyn-Williams, ond, ar gyngor R. T. Jenkins, gwrthododd y cynnig. Ar achlysur dathlu canmlwyddiant geni O. M. Edwards yn 1958 gwahoddwyd Gwynedd O. Pierce, darlithydd yn Adran Hanes Coleg y Brifysgol, Caerdydd, i ysgrifennu cofiant llawn. Cytunodd i wneud hynny, ond penderfynodd yntau, maes o law, roi’r gorau iddi.

    Yn 1930 cludodd Ifan ab holl ohebiaeth a chyhoeddiadau ei dad i swyddfa W. J. Gruffydd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, gan ddisgwyl, yn gwbl afresymol, i’r cofiant llawn gael ei anfon ato yn 1932. Collodd ei amynedd pan eglurodd Gruffydd wrtho nad gwaith dros nos oedd darllen yr holl bapurau yn y pump ar hugain o focsys sylweddol a roddwyd iddo, ynghyd ag ymchwilio mewn nifer o archifau eraill, ac yna ymroi i ysgrifennu’r cofiant. Barn Ifan ab erbyn Ionawr 1935 oedd: ‘y mae fel pe bai rhyw falltod ar y cofiant.’ Aeth pethau’n go ddiflas rhyngddynt, ac yn Chwefror 1936 gwelir Ifan ab yn bygwth dod i Gaerdydd i gasglu papurau ei dad ac yn edliw i Gruffydd iddo fethu ysgrifennu’r cofiant ar fyrder: ‘Tybiaswn na buasech wedi gwneud fel hyn â chofiant fy nhad – gŵr a wnaeth gymaint trosoch yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Nid oes gennyf eisiau dweud ychwaneg.’ Nid oedd gan Ifan ab, wrth gwrs, amgyffred o ofynion swydd Gruffydd yn y Brifysgol, a gofynion y byd llenyddol a chreadigol yng Nghymru. Mae’n wir iddo ennill ei fywoliaeth fel Cyfarwyddwr Adran Efrydiau Allanol Coleg y Brifysgol, Aberystwyth am ddeng mlynedd, ond rhedeg y cyfan fel uned fusnes a wnaeth yn y blynyddoedd hynny. Tanlinellir ei ddiffyg dealltwriaeth o’r byd academaidd mewn llythyr a anfonodd yn 1968 at ei ddilynwraig bybyr, Norah Isaac, ynghylch ei yrfa ef ei hun ac addysg ei ddau fab, Owen a Prys:

    Ddymunais i erioed fod yn fardd yn poeni am fân reolau cynghanedd, nac yn llenor yn poeni am ramadeg a chystrawen a’i thebyg. Mi all Cymru wneud â llai o feirdd a llenorion o fri pe cai hi fwy o ddynion busnes. O brofiad erbyn hyn nid oes gennyf unrhyw amheuaeth na bydd Prys â’i A.R.I.B.A. mewn Coleg Uwch Dechneg yn llawer mwy o werth i Gymru’r dyfodol nag Owen â’i radd o Rydychen.

    Ac yn yr un llythyr mae’n ymffrostio iddo fedru byw yn dra chyfforddus ar y ‘Stock Exchange’, ac iddo rannu symiau sylweddol ‘efo’r bechgyn’. Ond y symiau sylweddol a etifeddodd gan O.M., ei dad yntau, a ganiataodd iddo fuddsoddi arian yn y lle cyntaf.

    Pan awgrymodd W. J. Gruffydd iddo yn 1930 y dylid gofyn i Wasg Prifysgol Cymru, ymhlith gweisg eraill, roi amcangyfrif o gostau cyhoeddi Owen Morgan Edwards, Cofiant, cynddeiriogodd Ifan ab:

    Yr wyf yn bendant yn erbyn Gwasg y Brifysgol. Y mae gennyf brofiad – ac ni wna ceffylau gwylltion i mi byth eto ymweld â hwy. Ac ni wnaent hwy ddim ond rhoi’r gwaith i rywun ei brintio. Na thenciw. Wnaf i byth yn dragywydd eto gyda dim byd a lywodraethir gan bwyllgor.

    Yn y diwedd, Ab Owen oedd y cyhoeddwr ac Ifan ab oedd y golygydd. Yn 1958 cyhoeddwyd cofiant bychan, sef Bywyd a Gwaith Owen Morgan Edwards, ar gyfer plant ysgol gan G. Arthur Jones. Cwmni Urdd Gobaith Cymru oedd y cyhoeddwr ac Ifan ab oedd y golygydd, a gwelir ei imprimatur ef drwyddi draw. Clodfori a chanmol O. M. i’r uchelfannau oedd bwriad y gyfrol hon.

    Heb os, dyma’r lle i mi gofnodi’r ffaith na chefais unrhyw ymyrraeth na rhwystr gan ddisgynyddion O.M. wrth ysgrifennu’r gyfrol hon. I’r gwrthwyneb. Cefais bob cymorth posibl gan Prys a Cath Edwards a’r diweddar Owen Edwards, a chredaf y byddai O.M. ei hun yn cymeradwyo hynny, gan iddo gadw pob gohebiaeth ar gyfer cofiannydd, gan gynnwys y llythyrau hynny a oedd yn datgelu ei wendidau. Bûm nifer o weithiau yn crwydro Llanuwchllyn a Dinas Mawddwy yng nghwmni Owen Edwards ac Ifor Owen, Y Gwyndy, Llanuwchllyn. Owen Edwards a ofynnodd i mi olrhain hanes salwch meddyliol ei daid, Evan Davies y Prys Mawr, ynghyd â hunanladdiad Kate, chwaer ei nain. Ef hefyd a ddangosodd i mi yr union fan lle disgynnodd ei nain, Ellen Edwards, wedi iddi luchio ei hun o un o ffenestri’r Neuadd Wen. Ac ymhellach, ef a soniodd wrthyf am y sibrydion ynghylch gwir dad biolegol O.M.

    Gan Owen Edwards y cefais ar fenthyg y llun a welir ar wynebddalen y cofiant hwn. Pur ffurfiol a phendefigaidd yw’r darlun cyfarwydd hwnnw a welwyd ar furiau ysgolion Cymru am flynyddoedd lawer. Ond nid dyna’r gŵr y bûm i yn ei gwmni tra oeddwn yn ysgrifennu rhan helaeth y gyfrol hon. Ar yr wynebddalen gwelir O.M. yn ieuenctid ei ddydd ac yn anterth ei yrfa. Dyma’r gŵr a hanner addolwyd gan werin Cymru, cymwynaswr golygus, ffraeth ac atyniadol. E. Tegla Davies a anfonodd y llun hwn at Owen Edwards yn 1966:

    Dyma’r O. M. Edwards a swynodd ac a achubodd fy nghyfnod i ac nid y gŵr gwyn ei wallt sydd â’i lun ar barwydydd yr ysgolion. Erbyn hynny yr oedd ei waith arnom wedi ei wneud.

    Yng nghyfnod y Rhyfel Mawr, ac yntau yn ei bumdegau, y trodd gwallt O.M. yn wyn, a hynny bron dros nos. Yn y cyfnod hwn, ac yntau’n frwd dros y rhyfel, gwelodd nifer o’i ffrindiau a’i ddarllenwyr yn ymgilio rhagddo. Ac eto, pan fu farw yn 1920, gosodwyd ef ar bedestal yn yr holl deyrngedau, ac yn llythrennol ar bedestal yn y cerflun yn y Gilfach Goffa yn Llanuwchllyn yn 1959. Yng nghof y genedl, dyrchafwyd ef yn sant, os sant seciwlar.

    Nid hagiography neu ‘lên y saint’ yw’r gyfrol hon, ond yn hytrach ymgais i ddychwelyd y gŵr diddorol hwn i fyd dynion. Yn y broses rhaid oedd taflu llygad oer yn awr ac yn y man ar ambell agwedd ar ei bersonoliaeth. Ceisiais ymdreiddio i hanfodion ei gymeriad ac i gymhlethdod ei fywyd a’i yrfa. Pam, er iddo hiraethu cymaint am Lanuwchllyn, y dewisodd ymgartrefu yn Lloegr cyhyd? Sut y medrodd ddioddef byw ar wahân i’w wraig a’i blant am fisoedd lawer o’r flwyddyn? Beth oedd natur yr uchelgais a’i gyrrodd i beryglu ei iechyd mor aml? Pam, er iddo gyfaddef ei fod yn byw dan orthrwm obsesiynau, y bu iddo ymwrthod â’r cyngor a’r cymorth a gafodd gan feddygon a ffrindiau? Yr un mor bwysig â’r uchod oedd fy ymgais i asesu ei ddawn fel llenor a newyddiadurwr a’i gyfraniad enfawr i iaith, diwylliant ac addysg Cymru.

    Pan ofynnwyd i O.M. ysgrifennu cofiant i’w ffrind, T. E. Ellis, dywedodd wrth gyfaill arall, sef D. R. Daniel, yr hoffai ddefnyddio ‘geiriau Tom ei hun’ yn y gyfrol. Wrth ysgrifennu cofiant O.M. ceisiais innau, drwy ddyfynnu’n helaeth o’i lythyrau, ei ddyddiaduron a’i gyhoeddiadau, roi llais hyglyw i’r gwrthrych. Nid yn aml y clywir llais gwraig y gwrthrych mewn cofiannau Cymraeg, ond yma y mae Ellen Edwards yn rhannu’r llwyfan â’i gŵr, oherwydd gellir dadlau nad oes unrhyw agwedd unigol arall ar fywyd O.M. sy’n bwysicach na’i berthynas ag Ellen. Y berthynas hon a’i clymodd yn derfynol wrth wreiddiau dyfnaf ei dras a’i ysbrydoliaeth. Wedi marwolaeth ddisyfyd Ellen yn 1919, gofynnodd O.M.: ‘A fu’n ferthyr i’m gwaith?’ Fel y ceisir dangos yn y cofiant hwn, ‘Do, heb os’ yw’r ateb.

    Llanuwchllyn a Phenllyn a’i lluniodd. Mae bro mebyd, fel yn nisgrifiad Owen o gariad cyntaf, ‘yn ddwfn ac yn aros yn hir’. Ble bynnag y mae wrthi’n ysgrifennu, mae tirwedd ac ardal Llanuwchllyn yn codi fel tirlun yr isymwybod. Ond nid Llanuwchllyn ar ffurf ei sanctaidd leoedd yn unig a geir, ond pobl y pentref yn ogystal, a’r lleoedd preifat hynny megis Coed Siambre Duon, Cae Siafft a’r ‘Llidiart Ddu yng nghysgod Coed y Prys’ lle y bu ef a’r Ellen ifanc yn cadw oed. Ei drasiedi oedd iddo ddewis peidio â dychwelyd yn gorfforol yn ddigon aml i’w wir gartref yn Llanuwchllyn, er iddo ddychwelyd yno’n feunyddiol yn ei feddwl.

    Rhoddais sylw arbennig i’r cyfnodau ffurfiannol hynny ym mywyd O.M., sef ei ddau dymor ym Mhrifysgol Glasgow, ei flynyddoedd yng Ngholeg Balliol, Rhydychen a’i deithiau ar y Cyfandir. O fantais wrth drafod ei holl flynyddoedd yn Rhydychen oedd i minnau a’m teulu ymgartrefu am chwe blynedd yn Park Town, drws nesaf i’r tŷ yn y Crescent lle y treuliodd O.M., Ellen ac Ab Owen, eu cyntaf-anedig, rai o fisoedd hapusaf eu bywyd, a bron gyferbyn â 3 Clarendon Villas, eu cartref sefydlog yn Rhydychen tan iddynt ddychwelyd i Lanuwchllyn yn 1907. Fel Ifan ab, mynychodd fy mhlant innau ysgol feithrin gartrefol Greycotes, ac yr oedd gennyf finnau, fel Ellen hithau, agoriad i ardd fach breifat Park Town, lle y dysgodd Ab Owen gerdded. Ac fel O.M., bûm innau pan oeddwn yn byw yn Malvern, yn dringo’r Worcestershire Beacon yn wythnosol i gael cipolwg ar fryniau Cymru o’r copa. Gwyddwn am hyfrydwch y broydd hyn, ond medrais werthfawrogi hefyd hiraeth dwys O.M. am Gymru.

    Mewn unrhyw gofiant gwerth chweil clywir dau brif lais, sef llais y gwrthrych a llais y cofiannydd. Ofnaf y dywed clasur W. J. Gruffydd gymaint am W.J. ag a ddywed am O.M. Fy nghyfrifoldeb innau hefyd oedd mynegi barn, ond ceisiais wneud hynny heb foddi llais O.M., a heb ymyrryd â rhediad yr yrfa. ‘Mae’r call yn edrych ymhell,’ meddai O.M. wrth ei wraig un tro, ond efallai nad ‘edrych ymhell’ yw’r unig gamp, ond ‘gweld yn glir’ yn ogystal. Ar gwestiwn iaith, addysg a diwylliant, nid oes amheuaeth nad oedd O.M. yn edrych ymhell ac yn gweld yn glir. Dagrau pethau oedd na welodd yr un mor glir wrth esgeuluso ei gyfrifoldebau i’w deulu ac i’w iechyd ef ei hun.

    Hyfrydwch arbennig i mi yw’r ffaith y cyhoeddir cofiant llawn i Syr O. M. Edwards yn 2020, blwyddyn canmlwyddiant ei farwolaeth.

    Hazel Walford Davies

    Aberystwyth, Medi 2019

    Nodyn Golygyddol

    – Wrth ddyfynnu cadwyd yr orgraff wreiddiol, yr holl gamsillafu a’r atalnodi.

    – Yn yr ôl-nodiadau talfyrrir ‘Papurau O. M. Edwards’ i POME.

    – Er mai ‘Elin’ y galwai O.M. ei wraig, ‘Ellen’ a ddefnyddir ganddi hi yn ei llythyrau. ‘Ellen’ a geir yn y gyfrol hon.

    – Gwelir yn yr ôl-nodiadau nifer o gyfeiriadau at lythyrau a dogfennau ym Mhapurau O. M. Edwards yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd ar hyn o bryd heb eu catalogio. Llawysgrifau yw’r rhain y deuthum i a’r diweddar Owen Edwards o hyd iddynt yn 1987 yn seleri llaith pencadlys Urdd Gobaith Cymru yn Heol Llanbadarn, Aberystwyth. Chwilio yr oeddem am luniau ar gyfer y gyfrol Syr O. M. Edwards 1858–1920 yng nghyfres Bro a Bywyd. Yr oedd yno bedwar bocs yn llawn llythyrau, ac un yn llawn o ganiau ffilm. Yn eu plith yr oedd Y Chwarelwr a ffilmiau o fordeithiau’r Urdd. Ar gais Owen a Prys Edwards, euthum â’r ffilmiau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, a throsglwyddais hwy i ofal Iwan Michael Jones. Eto, ar gais y ddau frawd, cedwais y bocsys o lythyrau gan fy mod wedi addo iddynt y byddwn, pan fyddai’n gyfleus, yn mynd ati i ysgrifennu cofiant llawn i’w taid. Erbyn hyn, mae’r cofiant hwnnw wedi ei gyhoeddi, ac mae’r holl lythyrau a’r dogfennau wedi ymuno â Phapurau O. M. Edwards yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

    – Yn y testun atgynhyrchir enwau cartrefi, tiroedd a lleoedd fel y’u ceir yng ngohebiaeth a dyddiaduron O.M. Edwards. Yn y Mynegai ceir yn ogystal y ffurfiau safonol.

    Pennod 1

    Dechrau’r Daith

    ‘Mab y mynydd ydwyf, tyddyn bychan oedd fy nghartref, llethrau’r Aran oedd fy noddfa a Phenllyn oedd fy mharadwys.’

    Ar ddydd Sul, 26 Rhagfyr 1880, dringodd Owen Edwards, myfyriwr yng Ngholeg Aberystwyth ar y pryd, i gopa Craig Glais yn y dref. Y Nadolig hwnnw, oherwydd pwysau gwaith, penderfynodd beidio dychwelyd at ei deulu yn nhyddyn cyntefig Caerhys, Llanuwchllyn. Ond, drannoeth yr ŵyl, cododd hiraeth arno am ei gartref a’i fro enedigol, a dringodd Graig Glais yn y gobaith y câi gipolwg ar fynyddoedd Meirionnydd yn y pellter.

    Wedi dychwelyd i’w lety yn 1 Sea View Place, ger harbwr a chastell Aberystwyth, ysgrifennodd y cofnod canlynol yn ei ddyddiadur:

    Sunday 26 1880

    My twenty second birthday.

    The afternoon I spent on Constitution Hill, the sea before me and the amphitheatre formed by the mountains of Arvon, Meirionnydd, Aberteifi and Penfro around me … The exact time of my birthday thus came and went, and now I must write myself twenty-two.¹

    Gwahanol yw’r dyddiad geni a geir ganddo flwyddyn ynghynt ar ddydd Nadolig 1879: ‘Yr wyf yn 21 oed heddyw.’² Ac ar noswyl y Nadolig hwnnw ysgrifennodd at ei ffrind, Robert Williams, Llanllyfni, i egluro sut yr oedd yn bwriadu treulio ei ben-blwydd ‘tomorrow’: ‘I mean to celebrate my birthday in some way or other … I’ll read an account of the Nativity.’³ Ac ymhellach, mae’r llythyr a anfonodd at y Parchedig Parry-Owen, Abermaw o Genefa ar 24 Rhagfyr 1887 fel petai’n cadarnhau bod Owen yn ffafrio dydd Nadolig fel dydd ei ben-blwydd: ‘Nos da, y mae’r Nadolig bron a dechre, dydd pen fy mlwydd.’⁴ Pam, felly, nodi mor benodol yn 1880 mai ar 26 Rhagfyr y’i ganed?

    Trafodir hyn i bwrpas. Y gwir amdani yw fod cryn ddirgelwch ynghylch dyddiad geni Owen. Egyr cofiant W. J. Gruffydd, Owen Morgan Edwards, gyda’r frawddeg hynod hyderus: ‘Ar noson cyn y Nadolig yn y flwyddyn 1858 ganwyd Owen Edwards’, a dyna hefyd yw barn G. Arthur Jones yn ei gofiant bychan Bywyd a Gwaith Owen Morgan Edwards: ‘ar fin y Nadolig y ganed Owen.’ Hawlia’r hanesydd R. T. Jenkins yn ei gofnod ar Owen yn y Dictionary of National Biography mai ar 26 Rhagfyr y’i ganed, fel y gwna Gareth Elwyn Jones yntau yn yr Oxford Dictionary of National Biography cyfredol. Honnir gan eraill mai dydd Nadolig oedd dydd ei ben-blwydd.

    A oes unrhyw bwrpas erbyn hyn i drafferthu olrhain dirgelwch y dyddiad geni? Oes, yn sicr. Gwraidd yr holl ddryswch yw’r dystysgrif geni, gan na ellir ymddiried o gwbl yng nghywirdeb yr hyn a gofnodir arni. Beth tybed yw’r dirgelwch sy’n llechu ynddi? Ni chafodd Owen gipolwg ar y dystysgrif hon tan 1888, a syndod iddo oedd gweld islaw ‘Signature of informant’: ‘X The mark of Owen Edwards Father’, gan ei fod yn hen gyfarwydd â llofnod destlus a chaboledig ei dad. Cafodd wybod mai croes ei fam oedd ar y dystysgrif gan mai hi a aeth i’r Bala i gofrestru’r enedigaeth. Pam hynny, gan na fedrai, heb gyfarwyddyd ei phriod, dorri ei henw ac yn sicr gan na fedrai ddeall gair o’r dystysgrif uniaith Saesneg? A diddorol yw’r ffaith mai’r tad a aeth i gofrestru’r tri mab arall, sef Thomas (9 Mai 1861), Edward (20 Ionawr 1865) a John (31 Mai 1868).

    Gan mai’r fam a aeth i roi’r manylion perthnasol i’r cofrestrydd John Morris, a chan y byddai hi, o bawb, yn sicr o’r dyddiad geni, digon hawdd fyddai tybio fod y dyddiad a geir ar y dystysgrif yn un cywir. ‘Twenty sixth December 1858’ yw hwnnw, ond eto mynnai Elizabeth Edwards flwyddyn ar ôl blwyddyn mai ar ddydd Nadolig y ganed Owen. Dyma hi, ar un adeg, yn egluro wrth ei pherthynas, y Parchedig G. A. Edwards, paham yr oedd Owen, wedi iddo dyfu’n ddyn, mor hoff o gwpaned o de: ‘fe aned Owen welwch chi ar ddydd Nadolig yn y pnawn, at amser te, ac mae wedi bod yn ffond o de byth er hynny.’ Mae yma fanylder, ‘ar ddydd Nadolig’, ‘yn y pnawn’ ac ‘at amser te’.⁵ A wnaeth y cofrestrydd gamddeall y dyddiad a roddodd y fam ar lafar iddo? Nid cywir chwaith yw sillafiad y cofrestrydd o enw’r cartref, Coed y pry (pru), ond sicrhaodd ei gŵr bod y sillafiad yn gywir pan aeth ef i lenwi tystysgrifau’r brodyr yn swyddfa’r un cofrestrydd. Gwyddai Owen hefyd mai esgus gwan a gynigiodd ei frawd John iddo yn 1887 dros y ffaith mai’r fam a aeth i gofrestru: ‘Mewn perthynas a’r X, fy mam a’i torodd, y hi ydoedd yn gwneud y negeseuon pwysig hyn.’ Ni ellid ar unrhyw gyfrif ymddiried, fel y gwyddai’r brodyr, ‘negeseuon pwysig’ i ‘Bet Coed y pry’.

    Pam, felly, nad aeth y tad i gofrestru’r enedigaeth? Rhaid bod yn ofalus yn awr, ond gan fod ‘sibrydion’ ynghylch tad honedig Owen yn dal yn gryf ym mhentref Llanuwchllyn ni ellir mwyach osgoi eu trafod, a gwneir hynny yma ar gais penodol y diweddar Owen Edwards, ŵyr Syr Owen Edwards. Ganddo ef, yn y lle cyntaf, y cafodd awdur y gyfrol hon yr hanes, a chafodd ef yr hanes yn ei dro gan ei dad, Syr Ifan ab Owen Edwards.⁶ Yn ôl y stori, nid Owen Edwards Coed y pry ond yn hytrach Edward Morris, Pantsaer oedd y tad biolegol. Â’r stori rhagddi fel a ganlyn. Hanner chwaer Elizabeth Edwards Coed y pry oedd Catherine, gwraig Edward Morris, a phan oedd hi’n ddifrifol sâl aeth Elizabeth am gyfnod i Bantsaer i warchod pedwar plentyn bach ei chwaer ac i ofalu am y claf. Honnir iddi ddod adref yn feichiog, ac mai Owen oedd y baban a aned. Hawdd dymchwel y stori hon. Bu farw Catherine Morris o ganlyniad i’w salwch, a chladdwyd hi, a hithau’n ddim ond 31 mlwydd oed, yn Chwefror 1855. Bu i Elizabeth ac Owen Edwards Coed y pry briodi ar 4 Gorffennaf 1857 yng nghapel Ebenezer, pan oedd ef yn 35 mlwydd oed a hithau’n 27. Ganed Owen, eu plentyn cyntaf, yn 1858, 17 mis wedi’r briodas. Nid yw hyn yn profi, wrth gwrs, y tu hwnt i bob amheuaeth nad Edward Morris oedd tad biolegol Owen, ond mae’n amlwg, o graffu ar ddyddiad claddu Catherine, nad yw’r ‘stori’ uchod o leiaf yn dal dŵr.

    Yn y cofiant hwn, nodir hwnt ac yma enghreifftiau o gysylltiad Owen a’i deulu ag Edward Morris, Pantsaer, ac er bod rhai ohonynt yn lled awgrymog, nid ydynt yn profi dim yn derfynol y naill ffordd na’r llall. Mewn cyfweliad diddorol yn 2017 rhwng Mai Jones, Llanuwchllyn a Mel Williams o’r un pentref, clywir Mai yn sôn yn hyglyw am Edward Morris, Pantsaer, ei hen daid, ac yn adrodd sut y bu i’w mam ddweud wrthi mai ef oedd tad Owen: ‘Cafodd fy hen daid blentyn o Beti Coed y pry’, a bod ‘yr hen bobol yn gwbod’ hynny.⁷ Ai dyma paham yr aeth Elizabeth Coed y pry ar ei phen ei hun i swyddfa’r cofrestrydd yn y Bala? Pwy a ŵyr? Digon yw dweud, at bwrpas y gyfrol hon, pan sonnir am ‘dad’ Owen mai at Owen Edwards, Coed y pry y cyfeirir: bu’n dad tyner a gofalus i Owen ar hyd ei oes. Owen oedd wrth ei wely pan fu farw, ac mae’r ddau’n gorffwys yn yr un bedd.

    Ond eto, mae dirgelwch arall eto fyth yn parhau. Honnir gan W. J. Gruffydd yn argraffiad cyntaf ei gofiant yn 1937 mai’r Parchedig Ebeneser Morris a fedyddiodd Owen, ond yn yr ail argraffiad yn 1938 ceir gwybodaeth newydd: ‘Erbyn hyn mae golau newydd wedi ei roi i mi gan y Parchedig T. Beynon. Clywodd o enau Owen Edwards ei hun mai William Morris o Dyddewi a’i bedyddiodd, a’i fod wedi mynd i weld bedd William Morris yn Nhyddewi o ran parch i’r gwr a’i bedyddiodd.’ Crydd gwlad oedd William Morris, a phregethwr teithiol poblogaidd. Bu’n pregethu i Fethodistiaid Llanuwchllyn lawer tro, ac mae’n bosibl mai ar un o’i ymweliadau yno y bedyddiwyd Owen. Claddwyd ef ym mynwent Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Pam, tybed, mai pregethwr teithiol a fedyddiodd Owen, yn hytrach na Rhobet Wiliam, Wern Ddu, gweinidog capel y Methodistiaid yn Llanuwchllyn?

    Yn ei olygiad o atgofion am y Parchedig Rhobet Wiliam, Wern Ddu, mae Owen yn datgan, yn gwbl argyhoeddedig, mai ef a’i bedyddiodd: ‘Yr oeddwn wedi ei weled lawer tro cyn hynny er yr adeg y bedyddiodd fi’, a phan aeth yn blentyn i ymweld â’r hen ŵr cafodd gan ei chwaer, Marged, frechdan fêl: ‘Heblaw fod mel yn felus, gwyddwn mai’r ffafriaeth fwyaf oedd rhoi brechdan fêl, ffafriaeth i’r plant oedd ef wedi fedyddio.’⁸ Pwy felly a fedyddiodd Owen? Ai Ebeneser Morris, Rhobet Wiliam ynteu William Morris? Mae’n rhy hwyr mwyach i ddod o hyd i atebion i’r holl gwestiynau, ac nid oes tystiolaeth gadarn ar gael ar bapur a fedrai egluro’r holl ddryswch ynghylch genedigaeth a bedydd Owen Edwards.

    * * * *

    Un o feibion melin Penygeulan oedd Owen Edwards, tad ‘Syr Owen Edwards’, ac yr oedd yr aelwyd yn un o gadarnleoedd Methodistiaid Calfinaidd yr ardal. Ei dad ef oedd un o henaduriaid cyntaf ei enwad yn Llanuwchllyn, ac ym Mhenygeulan y lletyai pregethwyr blaenllaw’r Methodistiaid dros y Sul pan ddeuent i bregethu yn y pentref. Ond peidied â meddwl am eiliad mai aelwyd gwbl sobr a llwydaidd oedd hon. Bu cwrw arbennig bragdy preifat Penygeulan yn fodd i dorri syched llawer pregethwr a ddeuai ar ei geffyl dros Fwlch y Groes i Lanuwchllyn, a byddai’r canu ar y nos Sadwrn – emynau, wrth gwrs – yn codi’r to. Ni thorrodd neb ar yr aelwyd grefyddol hon un o’r Deg Gorchymyn, yn fwriadol! Ar aelwyd ymlaciedig Penygeulan y codwyd tad gwrthrych y gyfrol hon, a sicrhaodd ef aelwyd yr un mor ddymunol i’w blant yntau.

    Un o ferched Thomas Jones, porthmon a ffermwr tyddyn Ty’n Rhos, oedd Elizabeth Edwards, mam Owen. Dywed W. J. Gruffydd fod Elizabeth yn hanu o deulu parchus John Jones, y Glowfer, Llanuwchllyn, a gwir hynny. Ond yr oedd ei thad, Thomas Jones, yn ôl yr hanes, yn dipyn o ferchetwr a chanddo blant nad oedd yn rhy barod i’w cydnabod. Un ohonynt oedd Catherine, gwraig Edward Morris, Pantsaer, ac ni wnaeth ei thad ei chydnabod yn ferch iddo tan iddi, ar ei phriodas, roi ei enw fel ei thad ar y dystysgrif briodas. Priododd Thomas Jones ddwywaith, a merch yr ail briodas oedd Elizabeth neu ‘Beti’. Ceir portreadau manwl o’r fam a’r tad gan D. R. Daniel, ffrind oes i Owen:

    Dyn gweddol fychan oedd y tad, – gelwid ef ‘Owen bach Penygeulan’ … Ysgafn o gorff ydoedd a wyneb o’r un donnen a’i feibion, llygaid bychain meinion, y wyneb yn fwy Gwyddelig na Chymreig. Gwisgai het feddal goryn isel a chantal go lydan iddi. Byddai ei bibell fer gynhaliai rhwng ei fŷs a’i fawd yn ei enau yn lled gyson. Wyneb llawen digrif, chwerthingar, prydwedd y comedian oedd iddo; yn ddangoseg berffaith onest i’w natur dda garedig a difeddwl ddrwg … Edrychai ar fywyd, gallaswn gasglu, er ei drafferthion, yn ymdaith ddifyr, drwy fyd oedd yn llawn o bethau diddorol, y rhai fwynhai ef i’r eitha. Yr oedd yn ei amaethdy mynyddig, i bob golwg, yn cael mwy o lawnder gwirioneddol bywyd nag a gaffai boneddwr cyfoethog neu ei dirfeddiannwr mawr ef ei hun yn eu plasau gorwych.¹⁰

    Yr oedd atal dweud dybryd ar y tad, ond gan ei fod yn gymeriad mor ddymunol ni chafodd ei blagio am hyn erioed. Yr oedd ganddo lais tenor swynol, a chydnabyddid ef fel rhigymwr medrus a storïwr penigamp. Bu un rhigwm o gymorth arbennig i siop bob-peth yn Heol Tegid, y Bala, ac i siopau eraill ar draws Meirionnydd. Pur gaeth i’w bibell oedd y tad, a’i hoff getyn oedd tybaco siag y Deryn Du, a ddosbarthwyd gan Gwmni Amlwch. Un tro, wrth anfon ei ddau fab bach, Twm ac Edward, i brynu owns o dybaco o siop y pentref, sgriblodd rigwm ar ddarn o bapur i atgoffa’r plant o union enw ei hoff dybaco:

    Mae Owen Edwards Coedypry

    Yn hoff o Baco’r Deryn Du.

    A Beti sydd yn hoff o’i fwg

    Mae’n danfon draw ei hysbryd drwg.

    Gwelodd y siopwr lleol gyfle ardderchog i hysbysebu’r tybaco, ac anfonodd y rhigwm at berchennog siop Heol Tegid, y Bala. Yn ei dro, anfonodd hwnnw ef i swyddfa papur Y Seren, gan newid y frawddeg olaf i ‘Mae’n cadw draw ysbrydion drwg.’ Gwelodd rheolwyr Cwmni Amlwch eu cyfle, a gosodwyd rhigwm Owen Edwards ar bapur lapio tybaco’r Deryn Du.

    Heb ofyn caniatâd y tad, anfonodd ei feibion, Owen ac Edward, nifer o’r rhigymau i’r Seren dros y blynyddoedd, a chyhoeddwyd rhai ohonynt. Islaw y rhigwm ‘Cael Gwlaw’, gosododd y plant ‘Owain Edward a’i Cant yn y flwyddyn 2600’, ac islaw ‘Cael Gwres’ gwelir ‘Shon Erwent a’i cant yn y flwyddyn 1887.’¹¹ Yn y rhigwm hwn ceir y tad yn cyfeirio at ei gartref, sef tyddyn Caerhys, Llanuwchllyn:

    Y crychydd yn ehedeg

    I fyny’n ddiymdroi

    Y stwythder ym mhob cymal

    Diogi wedi ffoi;

    Trigolion Mawddwy i’w clywed

    Yn siarad o Gae Rhys

    Mae hynny’n dweud yn eglur

    Fod gwres yn dod ar frys.

    Fel y gwelir, nid dyn i dorri croes ar dystysgrif geni oedd y tad. Ffynnai’r traddodiad llenyddol yn Llanuwchllyn, wrth gwrs, ac aml y soniai’r tad am feirdd yr ardal megis Rowland a Gwerfyl Fychan. Yr oedd cymdeithasau llenyddol yr enwadau yn gyfryngau i gadw’r traddodiad hwnnw’n fyw, ond gwrthod ymuno â chymdeithas ei gapel a wnaeth ‘Owen bach Coed y pry’. Anfarwolwyd pob tro trwstan yn y pentref gan y rhigymwyr, ac os byddai rhywun yn torri cert neu golli’r trên byddai’r rhigymau’n siŵr o ddilyn, ac yr oedd rhigymau Owen Edwards ymhlith y rhai mwyaf bachog.

    Gan fod ganddo lais tenor swynol, yr oedd galw mawr am ei gwmni ymhob ‘ffrâm’, sef noson o ddifyrrwch ar aelwydydd Llanuwchllyn a’r ardal. Ei hoff orchwyl oedd canu carolau o ganol Tachwedd tan Chwefror, a hoffai hefyd efelychu gwahanol ddulliau’r hen bregethwyr o ganu: ‘Fel hyn roedd Ebeneser Morris yn ei ganu o, ac fel arall y canai Jones Blaenannerch o.’ Medrai hefyd ganu soprano ac efelychu’r holl leisiau eraill. Dyma ddifyrrwr heb ei ail. Storïau am yr hen bregethwyr a adroddai pan oedd ei wraig yn bresennol, ond wedi iddi noswylio adroddai storïau llai parchus am y porthmyn a arferai letya ym Mhenygeulan. Ei gyngor i’w blant oedd ‘Os ych chi am fynd yn bregethwyr rhaid i chi smocio, i gael meddyliau o’r mŵg.’ Oddi wrth y tad tyner a difyr hwn yr etifeddodd Owen fwynder ei gymeriad a’i allu i dynnu coes heb frifo teimladau. Wrth dalu teyrnged i’w dad yn ei ysgrif ‘Ffyrdd Hyfrydwch’, dywed Owen: ‘Gwn am ei serch angerddol at ei gartref, gwn am ei fywyd ymdrechgar a phur.’

    Er ei fod yn Gristion i’r carn, nid oedd y tad yn llwyrymwrthodwr o bell ffordd. Mab Penygeulan ydoedd, wedi’r cyfan. Pan oedd Owen wrthi’n casglu deunydd ar gyfer ei gyfrol o atgofion am Rhobet Wiliam, Wern Ddu ymhlith papurau’r Hen Barch, daeth ar draws cofnod diddorol am achos arbennig a godwyd yn Seiat y capel am ‘ymyfed’. Caiff D. R. Daniel adrodd y stori:

    Dyma Owen yn mynd ati i dynnu coes ei dad. ‘Y mae pethau yr Hen Barch yn ddiddorol’ ebai Owen. ‘O ydynt’, meddai’r tad. ‘Y maent yn sicr o fod. Un heb ei fath oedd yr Hen Barch weli di, a chof ganddo’. ‘Fe ddois i’, meddai Owen ‘ar draws un peth digrifol iawn yn ei lyfr heddyw, y mae mor ddoniol yr wyf am ei roi yn y cofiant. Hanes dau lanc o Lanuwchllyn wrth ddod o’r Bala yn troi i’r persondy yn Llangower at y morynion, ac yn cael cwrw nes oeddynt yn bur lawen. Mae’n debyg y daeth yr hen frodyr i wybod am y peth a dowd a’r hanes i’r Seiat. Dywed yr Hen Barch fod un yn lled edifeiriol ond y llall yn bur iach ei yspryd yn wyneb y cyhuddiad’. Gwelodd wyneb ei dad yn newid a’i yspryd yn brochi. ‘Cymer di ofal’ meddai yn wyllt. ‘Dydi pethe fel yna ddim yn werth ei hail godi’. Mawr oedd asbri Owen yn adrodd y sport gafodd gyda’i dad. Nid oes eisiau dweud na roddodd yr hanes yn y cofiant, ac na fydded i neb gyhoeddi hyn o barch i’r hen Gristion cywir O.E.¹²

    Ond dyma gyhoeddi’r stori ddiniwed hon yma!

    Cymeriad tra gwahanol i’w phriod oedd Elizabeth Edwards, neu ‘Bet’ fel y’i gelwid. Yn ôl ei mab Edward yr oedd ‘yn ddynes fechan, sionc, bert, lithrig, sylwgar a chraff. Medrai ddarllen cymeriad drwyddo draw. Yr oeddem yn ei chyfrif yn ddynes neilltuol o alluog.’¹³ Dynes fedrus yn hytrach nag un alluog oedd Bet Coed y pry. Medrai bobi bara gyda’r gorau a chorddi’r ymenyn mwyaf blasus. Gwyddai hanes pawb yn yr ardal ac arferai adrodd eu hanesion yn y modd mwyaf bywiog gan orliwio yn aml. Ond nid oedd owns o ddiwylliant yn perthyn iddi. Wele ddisgrifiad crefftus D. R. Daniel ohoni:

    Dynes fain o daldra canolig, gyflym a bywiog ydoedd Beti Edwards … Wyneb llawn mynegiant, talcen mawr llydan, a’r trwyn a chemdid bwaog ysgafn ynddo, gyda llygaid tywyllion craffus. Bywiogrwydd nwyfus ac ynni sionc oeddynt ei nodweddion allanol amlycaf hi. Meddai ddawn ymadrodd, huawdledd naturiol, gyda’r mwyaf tarawiadol gyfarfyddais yn fy nydd. Yr oedd ei doniau yn y cyfeiriad bron yn ddihefelydd. Cyfoeth o eiriau at ei gwasanaeth, y rhai a ddefnyddiai gydag ystwythder y crefftwr medrus. Dychymyg bywiog a ychwanegai at ddiddordeb pob stori adroddai gan ei gwneud ddwywaith gwell nag yr oedd ar y cychwyn … Cyffelybiaeth a ffigyrau ymadrodd oddi wrth bethau cyffredin bywyd gwlad fyddent yn britho ac yn addurno ei hymadroddion pert a bywiog. Bron na choeliaf fod llawn cymaint os nad mwy o ystwythder naturiol meddwl ac arabedd gwisgi gan y fam nag etifeddodd un o’r plant. … ‘Fy mhen i a thafod Beti, welwch chi’ ebai Owen Edwards [y tad] wrthyf unwaith ar barc Glanllyn. Ac yn sicr fe gafodd Owen lawer iawn o’r dychymyg fu o gymaint mwynhad i genedl y Cymru am ddeng mlynedd ar hugain gan ei fam, yn gystal a’r mynegiant effeithiol a’i gwnaeth yn brif ysgrifennydd Cymru ei oes.¹⁴

    Nid oedd Bet ddeunaw mlynedd yn iau na’i gŵr, fel yr honnir gan W. J. Gruffydd. Wyth mlynedd oedd rhyngddynt, ond yn ôl ei mab Edward edrychent tua’r un oed gan iddi weithio’n galed ar y tir a chan na feddai ar allu ei dad i ddiosg ei gofidiau. Ym marn Owen, yr oedd ei fam yn berffaith, ac mor angharedig yw ei eiriau am ei dad a anfonodd mewn llythyr at ei gariad, Ellen Davies, y Prys Mawr, Llanuwchllyn o Genefa yn 1888: ‘Mae mam yn ddigon od mewn llawer o bethau, ond chwi synwch wrth i mi ddweyd y buasai’n amhosibl i mi gael mam well. Y mae hi werth hanner cant o nhad, ac yn werth teulu Penygeulan i gyd, hil epil, hefo’u gilydd lawer gwaith drosodd.’¹⁵ Tipyn yn nawddogol yw’r ‘Dad annwyl’ sy’n dilyn geiriau olaf y frawddeg hon. Ei orchymyn i Ellen oedd ‘Gwyliwch ddweyd beth ydw i’n gyfaddef neu mi gaf wynebau cuchiog yn Llanuwchllyn.’

    Tra gwahanol yw agwedd ei frawd Edward tuag at ei rieni. Gwyliadwrus fu ef erioed o dafod finiog ei fam, ac wedi iddo briodi gwrthododd ei wraig, wedi ei hymweliadau cyntaf, dywyllu drws Coed y pry. Canu clodydd ei dad a wna Edward: ‘Un iawn ydi nhâd, – mae yn werth bod yn hogyn iddo fo, ’does ond pedwar wedi eu breintio i fod. Mae arno barch i’w hogie.’¹⁶ Ac wrth gyfeirio yn yr un llythyr at renti ffermydd bychain a etifeddwyd gan ei rieni mae’n estyn cyngor i’w frawd John: ‘Pera i nhad i cadw nhw rhag ofn i mam gael gafael arnyn nhw.’ Barn Edward am ei fam oedd: ‘un iawn ydi hithe, gan ei bod yn wraig i nhad.’

    Yn y bennod ‘Fy Nhad’ yn Clych Atgof, rhydd Owen yntau deyrnged arbennig i’w dad, ei athro cyntaf, a’r un a wnaeth iddo werthfawrogi prydferthwch natur ar lethrau bryniau Meirionnydd:

    Ymhyfrydai yn nhlysni creadigaeth Duw. Rhodiai’r caeau gyda’r gwanwyn, a dygai flodeuyn cyntaf ei ryw i ni … Gwelai ffurfiau prydferth a lliwiau gogoneddus yn y cymylau, a llawer noson haf ein plentyndod dreuliasom gydag ef i weled y rhyfeddodau hynny. Byddai wrth ei fodd o flaen tân ar hirnos gaeaf, gwelai’r gwreichion yn ymffurfio’n bob llun a dangosai’r ryfeddodau i ni yn y rhai hynny. A holl lu y nefoedd ar noson rewllyd …

    Treuliai lawer o’r haf i’m dysgu yn ei ffordd ei hun. Cymerai fi i’r mynydd ar brynhawnau heulog cyn i mi fedru dechre cerdded, a dysgai fi i wneud cyfeillion o’r llygad y dydd ac o’r fantell Fair wenai o’n cwmpas. Pan ddechreuais gerdded, ai a mi i ardaloedd eraill, gan ddweyd beth oedd yn tyfu yno a phwy oedd yn byw yno, a pha rai enwog, yn enwedig pregethwyr, a fagesid yno. Cadwodd ireidd-dra ei blentyndod drwy ei fywyd, yr oedd pob peth yn llawn rhyfeddod iddo.¹⁷

    Yn nyddiau cynnar Owen, ffurfiwyd cwlwm annatod rhwng y tad a’r mab, ac etifeddodd nifer o rinweddau mab Penygeulan, megis ei ysbryd diwenwyn a’i hiwmor chwareus. Yr hyn na fedrodd ei dad ei drosglwyddo iddo oedd y grefft o ganu mewn tiwn. Yn ôl ei frawd Edward yr oedd Owen yn dioddef o dôn-fyddardod, a dywed stori amdano pan oedd mewn pwyllgor yn Henffordd tua diwedd ei oes. Wedi’r cyfarfod aeth Owen at y telynor oedd yn cloi’r prynhawn o bwyllgora drwy chwarae detholiad o donau i ddifyrru’r aelodau, a dywedodd wrtho: ‘I think I know that last tune.’ ‘Well of course,’ oedd yr ateb. ‘It’s God Save the King.’¹⁸

    Gwnaeth Owen a Bet Edwards bopeth yn eu gallu i greu aelwyd ddiddan a diddos i’w pedwar mab, yn gyntaf yng Nghoed y pry, ac yna yng Nghaerhys. Yn ôl y tad, ystyr ‘pry’ oedd ‘llwynog’, ac yn yr hen amser, meddai, arferai’r creaduriaid heidio o greigiau’r Aran a llechu yn y coed ar gaeau Llanuwchllyn ar eu taith i Lyn Tegid. Saif y bwthyn ar y llaw dde i’r ffordd sydd yn arwain drwy gwm Llanuwchllyn i Lanymawddwy, ac mewn ysgrif gan Eurgain Hen, sef Owen ei hun, yn Y Seren cawn ddisgrifiad o’r cartref:

    Y mae gennym reswm neilltuol dros ddechreu gyda Choed y pry, heblaw ei fod yn un o’r lleoedd cyntaf y mae gennym gofnodion am dano. Nid ydyw ond murddyn heddiw, ond mae rhai ieuanc iawn yn cofio’r hen dy tô brwyn cynhes ar ei draed. Nid rhyfedd ei fod yn un o’r tai cyntaf a godwyd yn y wlad, oherwydd mae ar le hyfryd. Yr oedd yn batrwm o dy, mewn pantlle cysgodol, ond eto o ba le y gellid cael golygfa eang ac amrywiol o fynyddoedd a choed a dyffryn, gyda’r gadles a’r beudy bellder oddiwrth y ty a gardd rhyngddynt; gyda phorfa ddeiliog, rhos a gweirglodd, rhandir mynydd, unigedd Pwll Cynhebryd a ffridd o ba un y gwelid yr holl wlad i gyd; cylch o goed derw ac ynn a masarn, fel cewri cedyrn yn ei wylio o amgylch; a phistyll o’r dwfr glana, pura yn yr holl wlad o fewn ergyd carreg i’w ddrws.¹⁹

    Digon teg, mor belled. Ond o hyn ymlaen cawn ‘Eurgain Hen’, yn ôl ei arfer, yn rhaffu ffeithiau go ryfedd. Mae’n datgan bod Coed y pry yn bodoli yng nghyfnod Harri’r Seithfed, ac i hyn gael ei gofnodi ar ddarn o groen a gedwid flynyddoedd yn ôl yng Nghastell Caernarfon. Yng nghwmwd Penaran yr oedd y cartref, a rhaid oedd i denant Coed y pry dalu gwrogaeth i Arglwydd Penaran. Mae Owen yn cloi’r stori drwy ofyn: ‘Pa un ai ddyletswydd ef i’w arglwydd ynte talu rhent i Syr Watcyn yw’r hawddaf?’ Gwyddai sut y byddai tenantiaid tlawd Syr Watcyn yn ateb y cwestiwn hwn, a thrwy ei oes ni wnaeth anghofio gorthrwm tirfeddianwyr Penllyn ar dyddynwyr bychain fel ei dad.

    Disgrifir Coed y pry gan ei frawd Edward fel adeilad ‘bychan to gwellt, ar to yn filltiroedd o drwch. Yr oedd talcen ucha’r ty wedi ei suddo i’r bryn … y lle hapusa, crandia welais i erioed; dodrefn derw yn parhau am byth; dwy hen sgrin yn ymyl y tan, grât hir, tan mawn neu goed – dim glo, drws yn y canol, ffenestr fawr, pawb yn gweithio yn y gegin – gwneud canhwyllau, gwaith cartref ac yn y blaen, ffenestr ar y llaw chwith a’r drws yn edrych at y Bala a’r pistyll, bwtri i gadw ymenyn a llaeth. Tu allan yr oedd coed masarn, ynn a derw, a’r afon Twrch islaw. Yr oeddem filltir o’r pentref. Llawr pridd oedd i’r cartref a dwy neu dair o fuchod oedd yn y beudy. Nid oedd lle yno i gadw ceffyl.’²⁰ Cartref pobl dlawd oedd Coed y pry.

    Pan aeth cyflwr y to o ddrwg i waeth, a phan oedd lleithder y wal gefn, a suddwyd i’r bryn, yn un llif o ddŵr ar adeg glaw trwm, bu’n rhaid i’r teulu symud i Gaerhys. Roedd Owen yn un-ar-ddeg oed ar y pryd, a buont yno tan 1888, pan oedd ef bellach yn gymrawd o Goleg Lincoln. Caerhys felly oedd cartref Owen am dros ddeunaw mlynedd. Adeilad cyntefig iawn oedd y bwthyn, yn fwy o feudy anifeiliaid na chartref i deulu o chwech. Bu D. R. Daniel yno’n aml: ‘Y gegin fel ceginau hen dai Cymru a’r rhai a welid yn ddiweddar yng ngorllewin Iwerddon, a gwaith y lle yn olchi a chorddi (gyda buddai gnoc) yn cael ei gyflawni ynddi neu ynte ger y drws pan y byddai’n adeg i hynny. Yr enllyn a’r bara yn agos i law. Llofft uwchlaw y siamber dros un hanner i’r tŷ, ac ysgol i’w symud a’i rhoi i ddringo iddi.’²¹ Llofft heb bared rhwng ystafell wely’r rhieni ac ystafell wely’r bechgyn oedd hon, a thyweirch oedd yn rhannu’r llofft a’r gegin islaw oddi wrth feudy’r tair buwch. Er hyn, dyma’r aelwyd hapusaf a mwyaf cyfeillgar ac ymlaciedig a welodd D. R. Daniel erioed. Fel ‘ti’ a ‘tithau’ yr oedd y plant a’u rhieni yn adnabod ei gilydd, ac yr oedd hyn yn bur anghyffredin yr adeg honno. ‘Rhyw fath o werin lywodraeth esmwyth oedd hon lle y trigai cydraddoldeb meddwl agored rhwng plant a rhieni,’ medd D. R. Daniel, a’i farn ef oedd fod ‘cenedl y Cymry yn fwy dyledus [i Owen] am yr hyn a gafodd ynddo ef nag i’r pedair prifysgol y bu o dan eu dylanwad.’²²

    Wrth symud i Gaerhys, dymuniad Bet oedd i’r garreg lefn enfawr o flaen Coed y pry gael ei symud yno hefyd, ond gwrthodwyd ei chais gan asiant Syr Watcyn. Oddeutu hon y dysgodd ei phlant gerdded, ac ar hon yr arferent ‘chwarae bod yn bregethwyr’. Ar y Sul yn yr haf, câi pob un o’r plant bach gyfle i weddïo neu i bregethu arni, tra bod y lleill yn gweiddi ‘Amen’. Ond yr oedd pwrpas llai dymunol i’r garreg hefyd. Pwyso yn erbyn hon a wnaeth y plant tra bod eu mam yn eu chwipio am gamymddwyn. Mae’n debyg na chyffyrddodd y tad ynddynt i’w curo erioed.

    Yn ffodus, mae dau lun o hen dyddyn Caerhys ar gael, lluniau sy’n rhoi syniad go lew i ni o gartref cyntefig Owen.²³ Ond wedi i’r llun yn Bro a Bywyd gan y ffotograffydd Aled Jenkins gael ei dynnu yn 1988 ar gyfer y gyfrol Bro a Bywyd: Syr O. M. Edwards, cafodd yr adeilad ei ddymchwel. Un o ‘gartrefi Cymru’ oedd hwn, ond ni chodwyd un llais o blaid ei arbed. Trawsnewidiwyd Coed y pry hefyd, a gosodwyd y Neuadd Wen, cartref olaf Owen, ar y farchnad nifer o weithiau. Ond bu tawelwch llwyr o gyfeiriad, er enghraifft, Cadw a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, trigolion Llanuwchllyn a Chymry dylanwadol. Mor wahanol fu tynged cartrefi cyntefig llenorion a chymwynaswyr Lloegr a ddaeth i’r brig yn yr un cyfnod â Syr Owen Edwards.

    Pan oedd yn blentyn, bachgen ofnus, eiddil a llednais oedd Owen, ac edrychai ei frodyr Thomas ac Edward arno ‘fel merch ymron ac nid fel ni’, gan na welwyd ef erioed yn carlamu ar gefn ceffyl neu’n dal pysgod a saethu brain. Os deuai rhywun i Goed y pry am de, gwyddai ei fam sut i atal Owen rhag bwyta’r danteithion. Gosodai dusw o wlân ar y bwrdd, gan fod ofn gwlân cwbl afresymol ar ei mab. Gosodai wlân hefyd ar y llwybr i’r pistyll i gadw Owen draw oddi yno, a llwyddai i’w rwystro rhag chwarae’n rhy aml gyda phlant afreolus fferm gyfagos drwy osod gwlân ar gamfa Coed y pry ac wrth fynedfa fferm ei chymdogion. Ofnai Owen blu eira hefyd, a rhedai nerth ei draed pan welai Gabriel Jones, Llanuwchllyn, gan fod sôn y medrai hwnnw suro llaeth a witsio. Byddai ofn cerdded dan goed arno, ac ofnai hyd yn oed rai o’i gyfeillion gorau megis T. E. Ellis, a ddaeth maes o law yn Aelod Seneddol dros Sir Feirionnydd. Mewn llythyr o Genefa at D. R. Daniel yn 1880 cyfeiriodd at yr ofn a fu’n faich arno pan oedd yn blentyn ac yn fachgen ifanc yn ei arddegau:

    Nid wyf yn meddwl fod bôd yn y ddaear mor ofnus a mi, os nad oes rhyw ewig fuandroed yn rhywle. Ofnwn bawb a phob peth. Ac yr oedd hyn yn afresymol. Byddai arnaf ofn Phillips yn yr ysgol, Mrs Jones yn y tŷ; a rhyw hanner ofn Ellis ambell i dro pan fyddem ein tri – y tri studiwrs fel ein gelwid ni gan ein cydysgolheigion gyda dirmyg ysgol – wedi dechrau trin pynciau llenyddol ar fin y llyn ym mynwent Llanycil.²⁴

    Ac eto, y bachgen ofnus hwn gyda’r ‘wyneb llwyd chwilfrydig’ a fedrai godi arswyd ar ei ffrindiau yn Ysgol Ramadeg y Bala, Coleg y Methodistiaid y Bala a Choleg Aberystwyth drwy adrodd y storïau mwyaf brawychus am ysbrydion, gwrachod, tylwyth teg dialgar, canhwyllau corff a’r toili. Clywodd nifer o’r storïau hyn ar yr aelwyd gan ei rieni. Ardal ofergoelus oedd Penllyn, fel y rhan fwyaf o ardaloedd gwledig y cyfnod, a mynnai’r tad ei fod wedi gweld ysbrydion ar Bont Lliw, Llanuwchllyn, yng Nghoed y Garth ac ar lethrau’r Aran, ond eu bod wedi diflannu wedi iddo wneud arwydd y groes. Hynod ofergoelus hefyd oedd ei fam, a thaerodd ei bod hi a’i chwaer Margaret wedi gweld aderyn corff y noson y cafodd ei thad, Thomas Jones, strôc. Edward sy’n adrodd y stori ganlynol:

    Un noson pan oedd Beti a’i chwaer Margaret yn cychwyn o’r pentre am adre ac yn croesi nant fechan dyma aderyn anferth yn lledu ei adenydd yng ngwyneb Beti nes i’w bochau waedu. Ceisiwyd croesi’r nant drachefn a’r tro yma ymosod ar Margaret wnaeth yr aderyn. Pan wnaeth y ddwy yn llawn helbul gyrraedd y cartref, yr oedd eu tad Thomas Jones wedi cael stroke.²⁵

    Dyma’r math o storïau a fwydodd ddychymyg Owen ar yr aelwyd, ac wedi iddo gyrraedd Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, mawr oedd y galw arno, wedi cinio’r nos, i ddifyrru grwpiau o’i gyd-fyfyrwyr drwy adrodd, yn ei ffordd dawel, ddramatig ei hun, storïau am yr ysbrydion honedig a aflonyddai ar goridorau’r coleg. Ei orchwyl lawer noson, wedi i’w ‘sesiynau ysbrydion’ orffen, fyddai arwain y bechgyn ofnus i’w hystafelloedd. Pan ddywedodd myfyriwr ifanc wrtho un noson na fedrai fynd i’w wely heb osod ei ddesg ar draws y drws, ateb Owen oedd: ‘No point, old chap, spirits have no fear of doors or desks. They appear from thin air.’ Ond tosturiodd wrth y bachgen, gan iddo ychwanegu: ‘Have no fear, they have not the slightest interest in you. You can be assured of a good night’s sleep.’²⁶

    Ymddengys nad oedd yn fachgen gorofnus chwaith pan aeth i’r ysgol Sul am y tro cyntaf pan oedd tua phump oed, mewn siwt newydd heb wasgod iddi. Ar y ffordd adref ‘betiais a bachgen pengoch fod gennyf fwy o fotymau nag ef ar ei siwt, ei grys a’i gap’, ac aeth yn gweryl rhyngddynt. Wedi cyrraedd adref cafodd ei chwipio gan ei fam am fetio ar y Sul.²⁷ Gan fod Owen yn storïwr penigamp, rhaid amau rhai o fanylion y stori hon. Ond gellir ymddiried yn yr honiad mai yn yr ysgol Sul y bu iddo ddysgu darllen ac ysgrifennu. Ei athro oedd Owen Wiliam, Rhydfudr: ‘Bum i, fel holl blant Llanuwchllyn, yn sefyll rhwng ei liniau, a’r llyfr A, B, C o’m blaen, nes dysgais holl gynnwys y llyfr hwnnw. Yr oedd ganddo ddulliau afrifed o wneyd ei blant gofio’r llythrennau, megis eu torri ar eu gewinedd, neu ddweyd ei bod yn ddarlun rhywbeth, – H yn gamfa, O yn olwyn, Y yn goeden.’²⁸

    Drwy gydol ei oes, mawrygodd Owen yr addysg a gafodd ef a’i gyfoedion yn yr ysgol Sul, a phan fu farw un o’i arwyr, sef Thomas Gee, y newyddiadurwr a’r gwleidydd a’r pregethwr, yn 1898, cafodd glod arbennig yn nheyrnged Owen iddo am ei ymroddiad i hybu’r ysgol Sul a’i delfrydau. Edmygai Gee fel golygydd a chyhoeddwr ac am ei gyfraniad i’r deffroad politicaidd yng Nghymru’r cyfnod a’i sêl dros addysg, ond yn bennaf clodforir ef gan Owen am ei gefnogaeth i’r ysgol Sul, a oedd, ym marn y ddau ohonynt, yn ‘Brifysgol Gwerin Cymru’.

    Rhwng naw a deg oed oedd Owen pan aeth am y tro cyntaf i Ysgol y Llan, Llanuwchllyn. Pam, tybed, nas anfonwyd ef ymhell cyn hyn i ddechrau ei addysg ffurfiol? Cyfeirir ato gan ei frawd Edward fel bachgen eiddil, llwyd ei wedd, a dywed ei fod yn fregus ei iechyd pan oedd yn blentyn. Yn ystod ei ddeng mlynedd gyntaf, ganed tri bachgen arall i’w rieni. A oeddynt efallai yn rhy brysur yn gweld at y newydd-ddyfodiaid i drafferthu rhyw lawer am addysg eu cyntaf-anedig? Syndod i bobl y pentref oedd methiant y rhieni i’w anfon i’r ysgol ynghynt, a gwelir Owen ei hun yn tystio yn Clych Atgof i’r ffaith iddynt holi: ‘Sut na anfonech y bachgen yna i’r ysgol?’ Yn sicr, nid oedd yn rhy eiddil i ddringo coed, i chwarae pêl-droed, i fugeilio’r defaid ac i dreulio prynhawniau Sadwrn gyda’i ffrindiau yn chwarae yn hen chwarel y pentref.

    Yn 1910, ac yntau’n Brif Arolygydd Addysg Ysgolion Cymru, derbyniodd lythyr annisgwyl oddi wrth un o’r ffrindiau hynny, sef Griffith L. Jones, a oedd yn Arolygydd Addysg yn Idaho:

    A wyt ti’n cofio i ni chwarae wrth Coed y pry wrth yr hen chwarel – yn lluchio cerrig, pan y darfu i ti daflu carreg fechan lefn, yr hon am trawodd o dan fy llygad – mae’r graith yma etto, a phob tro yr af i edrych yn y drych – byddaf yn meddwl am danat, ac yn gofyn i mi fy hun – ‘a gaf byth ei weld yn y cnawd?’²⁹

    Cyn iddo fynd i Ysgol y Llan, bachgen yr awyr agored oedd Owen. Crwydrai’r mynyddoedd, glannau’r afonydd, y nentydd a’r mân aberoedd, a phenderfynodd yn gynnar iawn yr hoffai fod yn bensaer: ‘Codais ugeiniau o bontydd dros fan aberoedd, pontydd bychain o gerrig mân y medrai gwartheg fynd drostynt yn hawdd.’³⁰ Tystia Edward i’w sgiliau cynllunio ac adeiladu: ‘Yr oedd yn gynlluniwr yn gynnar yn ei hanes. Credid mai peiriannydd a fyddai. Yr oedd pistyll yn ymyl y drws [Coed y pry]. Gwnaeth bont o gerrig man dros y llwybr, pont y medrai geffyl a throl fynd drosti.’³¹ Er i Owen golli’r awydd i ddilyn gyrfa fel pensaer, llwyddodd, drwy gyfrwng ei gyhoeddiadau a’i gylchgronau a’i waith fel Prif Arolygydd, i adeiladu ‘ugeiniau o bontydd’ y medrai gwerin a phlant Cymru fanteisio arnynt.

    Pan aeth i’r ysgol elfennol dewisodd ei dad ei anfon i Ysgol yr Eglwys yn hytrach nag i Ysgol Brydeinig ei frawd Edward Edwards, Penygeulan. Ysgol y Llan oedd y naill ac Ysgol y Capel oedd y llall. Saesneg oedd iaith gyntaf Mrs Lewis, prifathrawes Ysgol y Llan, a Chymraeg oedd mamiaith Edward Edwards. Melinydd oedd Edwards ond pan aeth y Parchedig Michael D. Jones â’i ysgol o Lanuwchllyn i’r Bala, penderfynodd fynd i ddysgu Saesneg yn y lle cyntaf a dilyn cwrs hyfforddi athrawon wedi hynny er mwyn sefydlu ysgol Anghydffurfiol yn y pentref. Aeth am dymor i’r Bala at Lewis Edwards a David Charles, ac oddi yno aeth yn 1884 i goleg hyfforddi athrawon, sef Coleg Borough Road, Llundain, am rai misoedd. Nid oedd ganddo afael sicr ar y Saesneg, ond yr oedd ei ysgol, a fabwysiadwyd gan y Gymdeithas Brydeinig, yn un boblogaidd yn Llanuwchllyn. Nid oedd rhyw lawer o ddisgyblaeth ynddi, ond yr oedd Edwards yn athro da ac yn hoff o blant, a Chymraeg oedd prif gyfrwng y gwersi.

    Yn ysgol Anghydffurfiol ac anffurfiol y Parchedig Michael Jones yn y Weirglodd-wen y cafodd tad Owen ychydig o addysg, a cham ag Owen oedd ei anfon, yn blentyn uniaith Gymraeg, i ysgol Saesneg yr eglwys, a’i orfodi i ddychwelyd yno wedi iddo brofi i’w rieni gymaint o niwed a wnaeth yr ysgol honno iddo. Noddwraig Ysgol y Llan oedd gwraig Syr Watcyn, a thenantiaid Syr Watcyn oedd Owen a Beti Edwards. Gwyddai’r ddau y medrai’r meistr tir eu hamddifadu o’u bywoliaeth neu godi eu rhent petaent yn ei groesi, ac felly rhyw fath o bolisi yswiriant ar eu rhan oedd anfon eu bachgen i ysgol a gymeradwywyd gan fonedd Plas Glanllyn. Y tristwch oedd fod y bachgen bob bore yn gorfod cerdded heibio ysgol wâr ei ewythr i gyrraedd Ysgol y Llan.

    Rhan bwysig o gof cenedl bellach yw’r hanes a rydd yn ei ysgrif ‘Ysgol y Llan’ yn Clych Atgof, lle sonnir am artaith ei ddyddiau yno a chreulondeb Mrs Lewis, ei athrawes gyntaf. Ni fedrai Mrs Lewis wenu ‘ond wrth siarad Saesneg’, ac ymhyfrydai mewn gweithredu’r ‘hen gyfundrefn felltigedig honno’ o gosbi plentyn am siarad ei famiaith a chymell plant eraill i fradychu eu cyd-ddisgyblion drwy fod yn gegagored a dweud eu bod wedi clywed hwn a hon yn siarad Cymraeg. Y gosb, wrth gwrs, oedd hongian darn o bren wrth wddf y troseddwr ac arno’r llythrennau ‘W.N.’. Hwn oedd y ‘Welsh Not’, ac Owen oedd y cyntaf i’w gondemnio’n llwyr.³² Ni wnaeth ef erioed fradychu neb am siarad Cymraeg.

    Y mae yna ychydig o orliwio yn ‘Ysgol y Llan’, ond gwneir hynny i bwrpas. Go brin y bu’r Welsh Not,

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1