Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Tom
Tom
Tom
Ebook90 pages1 hour

Tom

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A novel about Tom, a 15 year old youth who lives in a block of flats with his mother and who befriends an 81 year old neighbour. This contemporary novel in the genre of The Curious Incident of the Dog in the Night-time is by a new, young writer. Themes include bullying, clashes, migrants, violence and illness.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateSep 1, 2019
ISBN9781784617851
Tom

Related to Tom

Related ebooks

Related categories

Reviews for Tom

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Tom - Cynan Llwyd

    clawr.jpg

    I’m rhieni

    Hoffwn ddiolch i Meinir a staff y Lolfa am y cyfle i wireddu breuddwyd; i Manon am y geiriau caredig a’i hanogaeth ar y cwrs yn Nhŷ Newydd; i Rhys am ei gampwaith o glawr, i Mam am ei chyngor a’i hawgrymiadau ac i Rachel am wneud yn siŵr fy mod i’n ysgrifennu. Hebddi hi fyddai’r nofel hon ddim yn bod.

    Argraffiad cyntaf: 2019

    © Hawlfraint Cynan Llwyd a’r Lolfa Cyf., 2019

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Llun a chynllun y clawr: Rhys Aneurin

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 1 78461 745 5

    E-ISBN: 978 1 78461 785 1

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru

    ar bapur o goedwigoedd cynaliadwy gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 01970 832 782

    1

    Gall Dai dostio bara yn berffaith. Mewn cystadleuaeth Tostiwr y Byd, Dai fyddai’r pencampwr, a lluniau ohono’n ymddangos ar dudalen flaen pob papur newydd. Torra’r tost yn drionglau fel pyramidiau’r Aifft. Dwi’n si ŵ r ei fod e wedi astudio ym Mhrifysgol Dost y Byd flynyddoedd maith yn ôl. Dyma’i dechneg:

    – Bara gwyn trwchus.

    – Tostio am 2 funud 36 eiliad, gan adael i’r gril roi lliw haul ysblennydd y Caribî i’r bara.

    – Taenu menyn go iawn yn drwchus hyd at ymyl y crwstyn gyda phob milimetr wedi’i gorchuddio, fel artist yn peintio canfas.

    – Ei weini gyda gwydryn o laeth hanner sgim.

    Does dim byd gwaeth na thost anaemig sydd mor wyn a llipa â Mini Milk yn toddi yn yr haul. Y lliw yw’r prawf litmws. Dyna sut y gwyddoch chi fod y bara wedi troi’n dost. Rhaid perffeithio’r grefft o dostio heb losgi achos does dim mwynhad mewn bwyta darn o gardfwrdd blas glo. Pe bai Dai yn archarwr, Toastman fyddai ei enw, a’i bŵer cudd fyddai saethu menyn stici a llithrig o’i fysedd gan achosi i’w elynion syrthio’n bendramwngl i’r llawr wrth iddo redeg ar eu holau. Bydden nhw’n gwingo mewn poen, a’r menyn yn eu gorchuddio a’u gludo i’r llawr. Fyddai dim gobaith iddyn nhw ddianc!

    Sut ddiwrnod gest ti yn ’rysgol heddi, Tom? gofynna Dai.

    Dwi wrthi’n stwffio tafell o dost i’m ceg, felly does dim rhaid ateb yn syth. Oedaf i fwynhau’r teimlad o’r menyn yn diferu i lawr fy ngên. Does dim isie poeni am fwyta’n deidi fan hyn, diolch byth. Dim ond Dai a fi sydd yma. Ry’n ni’n ddiogel fan hyn.

    Iawn, diolch, atebaf yn gelwyddog.

    Sw yw’r ysgol, yn llawn anifeiliaid gwyllt sy’n carlamu ar hyd y coridorau, yn cicio coesau a bagiau, yn gwthio ac yn gweiddi ac yn cadw stŵr a chreu anhrefn. Dwi’n casáu pob sw. Alla i ddim godde’r syniad o anifail yn styc mewn cawell. A’r sŵn! Yr udo, y sgrechian a’r cyfarth! Pe bawn i’n archarwr, un o’m pwerau cudd i fyddai’r gallu i daro pawb yn fud am ychydig. Fyddwn i ddim isie i bawb fod yn fud am byth, wrth gwrs. Weithiau mae angen cysur geiriau caredig arnom yn yr hen fyd ’ma. Dwi’n casáu’r stŵr ar hyd y coridorau cul ac ni allaf oddef anhrefn. Gas gen i weiddi a gas gen i dorfeydd. Mae’n gas gen i gael fy ngwthio a gas gen i’r anifeiliaid rheibus hynny sy’n hela’r ysglyfaeth gwan. Fi yw’r ysglyfaeth. Kev, Dez a Baz yw’r pac o helwyr. Nhw yw’r bleiddiaid sy’n patrolio coridorau’r ysgol, yn sniffian am waed.

    Tafla Dai olwg amheus ataf ac mae ei lygaid caredig yn awgrymu nad yw e wedi llyncu fy nghelwydd. Ond mae e wedi penderfynu peidio holi ymhellach. Mae Dai yn gwybod sut i fy nhrin i. Mae Dai yn deall. Mae’n gwybod pryd i holi ac yn gwybod pryd i ddal ei dafod, yn gwybod bod angen trefn arna i er mwyn i mi deimlo’n saff ac mewn rheolaeth. Dyna pam bod Fflat 29, cartref Dai, yn nefoedd ar y ddaear i fi. Ydy, mae’r fflat yn ddiflas ar yr olwg gyntaf. Waliau magnolia. Cegin syml. Lle i bopeth a phopeth yn ei le. Dyma fy Nirfana. Dim papurach blêr, dim ond cymesuredd dau gi tsieina balch, lluniau mewn fframiau hirsgwar gyda dwy fodfedd union rhwng pob un, a thrysorau plastig o hen wyliau tramor yn sefyll fel milwyr disgybledig ar y silff ben tân.

    Ond y tu ôl i’r drws pren, yr ochr draw i’r ystafell fyw, mae yna garnifal o gomics. Dyna’r moddion perffaith i glirio’r pen o lanast yr ysgol. Batman. Spiderman. X-Men. Watchmen. Swamp Thing. Wonder Woman. The Flash. Bydoedd lliwgar o arwyr. Y da wastad yn trechu’r drwg. Fflachiadau’r tarianau yn torri trwy’r düwch. Y dihirod yn ffyddiog eu bod am ennill y dydd nes bod Batman â’i glogyn, neu Spiderman â’i we neu Wonder Woman â’i chryfder yn eu trechu. Bu Dai wrthi’n casglu ac yn trysori’r rhain ers blynyddoedd, ers iddo fod yr un oedran â fi, medde fe. Bob nos, yn ofalus, ofalus, caf bori trwy’r trysorau hyn a bodio’r tudalennau prin. Llyncaf bob llun, teimlaf bob pwniad a gwingaf pan gaiff y gelyn ei haeddiant.

    Sut oedd Bingo heddi, Dai?

    "Dim lwc! Cas Brian full house eto – y diawl lwcus!" Chwardda Dai, â’i geg yn agor ac yn cau fel pysgodyn, gan ddangos gwên ddiddannedd ddireidus.

    Chi’n gweld, mae Dai yn 81 mlwydd oed.

    Dyna pam fod cyfeillgarwch Dai a fi yn un arbennig iawn. Nid bob dydd y daw bachgen ysgol pymtheg mlwydd oed a dyn yn ei wythdegau yn ffrindiau. Does dim llawer yn gyffredin rhyngddon ni, a dweud y gwir.

    Dwi’n mynychu Ysgol Uwchradd Caercoed rhwng 8.30 y.b. a 3.00 y.p. Mae Dai yn rhannu ei amser rhwng McDonalds a Castle Bingo, lle mae’n mwynhau gwydryn o Shandy a phecyn o Pork Scratchings. Dyw’r ffasiwn bwyta’n iach yn golygu dim iddo fe.

    Rhwng 3.05 a 3.35 byddaf yn cerdded adre o’r ysgol, yn brysio heibio stad dai Tycoed, yna trwy’r parc lle mae’r biniau’n gorlifo, y gwair heb ei dorri, y pyst pêl-droed rhydlyd a’r graffiti yn dweud yn glir wrth bawb ble i fynd.

    Rhwng 3.35 a 3.45 byddaf yn dringo’r grisiau ac yn cerdded ar hyd coridorau concrit Caercoed, bob cam yn ceisio osgoi gwm cnoi, baw ci neu boerad gwlyb, a’r gwifrau trydan yn hongian o’r

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1