Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Y Llyfr
Y Llyfr
Y Llyfr
Ebook163 pages1 hour

Y Llyfr

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Satirical and humorous autobiography of popular tv character, the talented Gareth the Orangutan. Also comprises poems, images and song librettos.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateFeb 9, 2024
ISBN9781800995635
Y Llyfr

Related to Y Llyfr

Related ebooks

Reviews for Y Llyfr

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Y Llyfr - Gareth yr Orangutan

    Gareth_yr_Orangutan.jpg

    I Mam. Diolch am y chips.

    Argraffiad cyntaf: 2023

    © Hawlfraint Gareth yr Orangutan a’r Lolfa Cyf., 2023

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n

    anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Ysgrifennwyd gan Gareth yr Orangutan

    Clawr a Darluniadau gan Gareth yr Orangutan

    Deunydd ychwanegol gan Iwan Pitts a Rhys Gwynfor

    eISBN: 978-1-80099-563-5

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 1 80099 449 2

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol

    Cyngor Llyfrau Cymru

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru

    ar bapur o goedwigoedd cynaliadwy gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    Cynnwys

    RHAGAIR

    PENNOD 1

    YR AWDUR

    PENNOD 2

    GWASANAETH

    PENNOD 3

    Y TELEDU

    PENNOD 4

    YR INTERNET

    PENNOD 5

    YR EISTEDDFOD

    PENNOD 6

    YR YSGOL

    PENNOD 7

    GÊMS

    PENNOD 8

    CERDDORIAETH

    PENNOD 9

    CHIPS

    PENNOD 10

    NAIN DEINIOLEN

    PENNOD 11

    SIOE SIAT

    PENNOD 12

    MAM

    PENNOD 13

    GYRRU

    PENNOD 14

    CARIAD

    PENNOD 15

    NADOLIG

    PENNOD 16

    CÂN I GYMRU

    PENNOD 17

    TORCALON

    PENNOD 18

    YN FYW

    ATODIAD

    COMEDI

    RHAGAIR

    Dwi, Gareth yr Orangutan, ’di sgwennu llyfr. Enw’r llyfr ydi Gareth yr Orangutan Y Llyfr, ac mae o ’di ca’l ei argraffu gan wasg Y Lolfa. Mae Y Lolfa ’di bod yn help enfawr ac yn dda iawn efo fi, chwarae teg. Pan ’nesh i ddeud wrthyn nhw bo’ fi am sgwennu llyfr, o’dd eu cwestiynau nhw i gyd yn gall ac yn deg.

    Cwestiwn 1: Sut fath o lyfr?

    Gareth: Llyfr papur, efo clawr. Neu audiobook.

    Cwestiwn 2: Llyfr am be’ fydd o?

    Gareth: Erotic thriller slash cookbook.

    Cwestiwn 3: Beth am hunangofiant?

    Gareth: Am bwy? Richie Bullet?

    Cwestiwn 4: Pwy ydi Richie Bullet?

    Gareth: Cogydd slash secret agent – mae’n dipyn o dderyn, ond hefyd yn stopio terfysgwyr.

    Cwestiwn 5: Beth am lyfr am dy fywyd di?

    Gareth: Iawn, ond mae’n eitha hir a diflas.

    Cwestiwn 6: Fedri ’di gadw fo o dan 30 mil o eiriau?

    Gareth: Fedraf. Fydd o’n barod erbyn Dolig.

    Felly, dyma lyfr arbennig efo dipyn o hanes ’mywyd i. ’Ngobaith i ydi bo’ pawb sy’n darllan hwn, neu sy’n gwrando ar rywun arall yn ei ddarllan o, yn mwynhau, ac ella yn dysgu rwbath ar hyd y ffordd!

    PENNOD 1

    YR AWDUR

    Dwi’n byw mewn cwpwrdd ar ben fy hun,

    Ac mae gen i ffrind sy’n tylluan.

    Dwi angen dal y trên i wizard school,

    A dwi angen mynd yn fuan.

    Miwsical Hari Potyr Gareth gan Gareth yr Orangutan.

    Dwi’m yn awdur go iawn, achos hwn ydi’r llyfr cyntaf i fi sgwennu rioed. Pan ’nath criw BBC Cymru ofyn i fi neud holiadur Ateb y Galw, un o’r cwestiynau o’dd:

    Beth ydi dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

    ’Nesh i atab: Fyswn i’n dewis ffilm plis, achos ma’n nhw’n llai o waith.

    Er bod y llyfr ’ma amdana fi, dwi’m yn dda iawn yn siarad am fi fy hun. Dwi’m yn meddwl bo’ neb yn. Fedra i sôn am bethau sy ’di digwydd i fi, fel pan ’nesh i fynd i Rhyl ac ennill Minion ar claw machine yn yr arcades (£185.50 gora dwi rioed ’di wario). Neu, fel pan ’nesh i fynd am gyfweliad swydd yn Prifysgol Bangor fel darlithydd bioleg morol ar ôl deud clwydda ar fy CV (mae pawb yn neud o).

    Mae’r gwirioneddau gwirion yma’n rhoi cipolwg arna fi fel person, fel darn bach o’r portread cyflawn (ddim yn annhebyg i ddechrau gêm o Catchphrase, lle ti ’mond yn gweld hanner braich Mr Chip mewn teilsen). Ond sut ti’n dod i nabod rhywun go iawn? Dwi’m yn siŵr os ydi o’n bosib.

    Dwi’n nabod Yncl Raymond yn iawn. Er enghraifft, os fyswn i’n gweld o yn yr Eagles yn dre, neu yn y siop, fyswn i’n nabod o. Ond fysa’r heddlu yn ei nabod o mewn ffordd hollol wahanol (e.e. fel yr epa bygythiol ’na efo cefn drwg ’nath ddwyn keg o’r Eagles).

    Pwy ydi Gareth yr Orangutan? Wel, mae’n gwestiwn syml. Fi ydi Gareth yr Orangutan. Ond pwy ydi Gareth yr Orangutan, go wir? Wel, fi ydi o, go wir. Ond pwy ydw i? Gareth yr Orangutan. Fedran ni neud hyn drwy’r dydd (ac mi fysa’n ffordd rili da o ga’l y word count i fyny ar y llyfr ’ma, ond na’i stopio yn fama).

    Dwi’n awdur, cerddor, cyflwynydd, comedïwr, a carwr sglodion. Mae Wicipedia yn deud:

    Y disgrifiad ohono ar gyfri trydar @hanshs4c yw: ‘Brathiad newydd bob dydd o bethau da. Celf, comedi, cerddoriaeth, gemau, ffilmiau, teithio a phethau gwirion.’

    Dyna’r broblem efo Wicipedia. Mae unrhyw nytar yn medru rhoi rwbath arno fo, heb i neb wirio’r ffeithiau. Unbelievable. ’Neith rhywun sy’n gwbod sut ma editio tudalennau Wikipedia newid hwnna plis?

    Ond dwi wir yn meddwl fedrith unrhyw berson fod yn be bynnag ma’n nhw isio bod, o fewn rheswm. Er enghraifft, os ti unrhyw beth fel nain fi, ella paid â hyd yn oed meddwl bod yn gogydd proffesiynol.

    Mae’r gair ‘proffesiynol’ yn un od. Fasat ti’n gobeithio o glywed bod rhywun yn broffesiynol, bo’ nhw’n reit dda am neud be ma’n nhw’n neud. Ond, o ’mhrofiad i, mae clywed rhywun yn gaddo bo’ nhw’n broffesiynol yn neud fi boeni a colli hyder ...

    ‘Helo, Mr Orangutan. Plis, cymra sedd,’ medda Mr E Dennis, deintydd fi. Dyna o’dd ei enw go wir o. Dim Doctor E Dennis. Mistar E Dennis. Swnio fel rhywun sy’n gneud teeth-related crimes ac yn gadael cliws i Batman. Dwi’n jympio yn y gadair, rhoi traed fi yn y stirrups wrth i’r deintydd roi ei fenig ymlaen.

    ‘Ti ’di bod yn fflosho?’ mae o’n gofyn, a’i fys o yn fy ngheg i felly fedra i ddim siarad. Dwi’n falch bod o’n gwisgo menig. Blas latex lot gwell na blas be bynnag o’dd o’n dwtchad cyn i fi gerdded i mewn i’w swyddfa fo. Dwi’n trio atab, neud jôc am y ddawns boblogaidd, ond does na’m pwynt. Mae o’n gwbod bo’ fi ddim yn gwbod be ydi fflosho.

    ‘Wel, Mr Orangutan ...’ mae o’n gwenu gwên greulon ac yn dangos rhesiad o ddannedd melyn sy’n gneud i fi gwestiynu ei broffesiwn. ‘Ti angen filling mae gen i ofn.’

    Fi sydd gin ofn. Mae o’n estyn y dril, cyn plygu lawr i sibrwd yn fy nghlust, ‘Paid â phoeni Gareth. Dwi yn ddeintydd proffesiynol.’

    Mae’n taflu ei ben yn ôl wrth chwerthin yn uchel am ormod o amsar. Gymaint o amsar fel bo’ fi’n gallu sleifio o’r gadair, ’nôl fy nghot o’r stafell aros a ca’l loli-pop coch gan y person tu ôl i’r ddesg am fod yn ‘Orangutan bach dewr’, cyn iddo fo sylwi bo’ fi ’di mynd. Dw i ddim yn ffan o fynd i weld y deintydd i ddeud y gwir. Ar ôl y profiad yna, ’nesh i ddim gweld Mr E Dennis eto. Dwi’n meddwl bod o un ai ’di ffoi i Ariannin, neu ’di ca’l ei ddedfrydu yn Nuremberg ...

    Ella dyna pam ’sgen i’m dannedd ar ôl.

    Yn yr ysgol, ’nath Mr Jôs (athro gwaith coed, ond hefyd y cynghorydd gyrfa) ofyn, ‘Be ti isio bod pan ti’n tyfu fyny, Gareth?’

    ‘Cerddor,’ o’dd atab cynta fi.

    ‘Na, hobi ydi hynny, Gareth.’ (Medda’r boi o’dd yn neud stands dal llythyrau fel bywoliaeth.)

    ‘Mae rhai cerddorion yn gneud miliynau.’

    ‘Ti ’di meddwl am frics?’

    ‘E?’

    O’dd gan Mr Jôs obsesiwn efo brics. Dyna o’dd o’n ddeud wrth hogiau blwyddyn fi i gyd, a ’run peth am drin-gwallt i’r genod. Unwaith, yn ganol dosbarth DT, ’nath Mr Jôs gerdded i mewn i’r cwpwrdd storio a cau’r drws ar ei ôl, ac aros yno am y wers gyfan. Dwi’n meddwl bod o’n difaru ei ddewisiadau bywyd i ddeud y gwir.

    ‘Mae ’na bres da mewn adeiladu. Mae pobl wastad yn chwilio am bricklayers,’ ddudodd o un tro, cyn meddwl am eiliad ac adio, ‘Neu plymars.’

    Mae’r ysgol yn lle da i ddechrau’r llyfr ’ma wedi meddwl, achos yn yr ysgol o’dd fy mhrofiad cyntaf i ar lwyfan ...

    PENNOD 2

    GWASANAETH

    Enw fi ’di Gareth, dwi’n orangutan.

    Dwi’n lyfio chips ac mae dy fam yn ffan.

    Dwi’n sinsir, a dwi’n byw yn dre.

    Dwi jyst yn boi normal – tri siwgr yn fy te.

    Caru S4C gan Gareth yr Orangutan.

    Do’n i rili ddim isio bod yn enwog. Do’dd o ddim yn rwbath ’nath rioed groesi meddwl fi, yn enwedig pan o’n i’n yr ysgol. O’dd y sylw o’n i’n dderbyn pan o’n i’n ifanc wastad yn negyddol. ‘Sbia ar y mwnci ’na!’, ‘Deud Rrrr y mwnci gwirion!’, ‘Be wti, ci?’ – O’dd yr athrawon yn gallu bod mor greulon.

    Dwi’n cofio yn yr ysgol, o’dd y prifathro, Mr Jones, yn gneud gwasanaeth bob dydd, a bob dydd Gwener o’dd criw bach o ddisgyblion gwahanol yn gorfod deud neu gneud rwbath yn rhan o’r gwasanaeth, ar y llwyfan yn y neuadd, o flaen pawb. Hwnna o’dd perfformiad cyntaf fi rioed o flaen cynulleidfa, ac o’n i’n eitha nerfus pan ddo’th hi’n amsar

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1