Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Rheolau’r Ffordd Fawr Swyddogol - the Offical Welsh Highway Code - 2023 edition: DVSA Safe Driving for Life Series
Rheolau’r Ffordd Fawr Swyddogol - the Offical Welsh Highway Code - 2023 edition: DVSA Safe Driving for Life Series
Rheolau’r Ffordd Fawr Swyddogol - the Offical Welsh Highway Code - 2023 edition: DVSA Safe Driving for Life Series
Ebook297 pages2 hours

Rheolau’r Ffordd Fawr Swyddogol - the Offical Welsh Highway Code - 2023 edition: DVSA Safe Driving for Life Series

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

When did you last read yours? For over 90 years, The Highway Code has been the official guide to using the roads safely and legally. It has contributed enormously to road safety. However, every day, on average, 4 people are killed and 60 people are seriously injured in road collisions. This edition of The Highway Code introduces new responsibilities towards vulnerable road users. So it’s important for everyone on the road, including drivers, motorcyclists, cyclists, horse riders and pedestrians, to update their knowledge. The latest rules of the road also include changes about self-driving cars and much more. The Highway Code contains the latest rules of the road, including changes to parking and much more. A failure to observe any of the provisions of The Highway Code might be used as evidence in legal proceedings.

LanguageEnglish
PublisherTSO
Release dateJun 1, 2023
ISBN9780115540981
Rheolau’r Ffordd Fawr Swyddogol - the Offical Welsh Highway Code - 2023 edition: DVSA Safe Driving for Life Series
Author

DfT, DVSA

The Department for Transport works with its agencies and partners to support the transport network that helps the UK’s businesses and gets people and goods travelling around the country. It plans and invests in transport infrastructure to keep the UK on the move. The Driver and Vehicle Standards Agency (DVSA) is an executive agency of the Department for Transport. We improve road safety in Great Britain by setting standards for driving and motorcycling, and making sure drivers, vehicle operators and MOT garages understand and follow roadworthiness standards. We also provide a range of licensing, testing, education and enforcement services.

Related to Rheolau’r Ffordd Fawr Swyddogol - the Offical Welsh Highway Code - 2023 edition

Related ebooks

Teaching Methods & Materials For You

View More

Related articles

Related categories

Reviews for Rheolau’r Ffordd Fawr Swyddogol - the Offical Welsh Highway Code - 2023 edition

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Rheolau’r Ffordd Fawr Swyddogol - the Offical Welsh Highway Code - 2023 edition - DfT, DVSA

    Cyflwyniad

    Mae Rheolau’r Ffordd Fawr hwn yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru. Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn ddarllen hanfodol i bawb.

    Nod Rheolau’r Ffordd Fawr yw hyrwyddo diogelwch ar y ffordd, tra’n cefnogi system drafnidiaeth iach, gynaliadawy ac effeithlon.

    Mae llawer o’r Rheolau yn ofynion cyfreithiol, ac os byddwch yn anufuddhau i’r rheolau hyn, rydych chi’n cyflawni trosedd. Gallech gael dirwy, cael pwyntiau cosb ar eich trwydded neu gael eich gwahardd rhag gyrru. Yn yr achosion mwyaf difrifol gallech gael eich anfon i’r carchar. Nodir rheolau o’r fath drwy ddefnyddio’r geiriau ‘RHAID/RHAID I CHI BEIDIO’. Yn ogystal, mae’r rheol yn cynnwys cyfeiriad cryno at y ddeddfwriaeth sy’n creu’r drosedd. Ceir esboniad o’r byrfoddau yn Atodiad 4.

    Er na fydd methu â chydymffurfio â rheolau eraill, o fewn y Rheolau ei hun, yn peri i berson gael ei erlyn, gellir ddefnyddio Rheolau’r Ffordd Fawr fel tystiolaeth mewn unrhyw achos llys o dan y Deddfau Traffig (gweler Atodiad 4) i sefydlu atebolrwydd. Mae hyn yn cynnwys rheolau sy’n defnyddio geiriau cynghori megis ‘dylech/ni ddylech’ neu ‘gwnewch/peidiwch’.

    Gallai gwybod a gweithredu’r rheolau a geir yn Rheolau’r Ffordd Fawr leihau nifer damweiniau ar y ffyrdd yn sylweddol. Mae lleihau nifer y marwolaethau a’r anafiadau sy’n digwydd ar ein ffyrdd bob dydd yn gyfrifoldeb i bob un ohonom. Gall Rheolau’r Ffordd Fawr ein helpu i gyflawni’r cyfrifoldeb hwnnw. Mae rhagor o wybodaeth am dechnegau gyrru/beicio i’w chael yn The Official DVSA Guide to Driving – the essential skills a The Official DVSA Guide to Riding – the essential skills.

    Cerbydau hunanyrru

    Wrth ‘gerbydau hunanyrru’, rydym yn golygu’r rheini sydd wedi’u rhestru fel cerbydau awtomataidd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth o dan y Ddeddf Cerbydau Awtomataidd a Thrydan 2018.

    I wirio os yw’ch cerbyd yn hunanyrru, ewch i www.gov.uk/guidance/self-driving-vehicles-listed-for-use-in-great-britain

    Mae’r cerbydau hyn yn gallu gyrru eu hunain yn ddiogel pan fydd y swyddogaeth hunanyrru wedi’i droi ymlaen yn gywir a bod y gyrrwr yn dilyn cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd. Tra bydd y cerbyd yn gyrru ei hun, nid oes angen i chi ei fonitro.

    Mae cerbydau hunanyrru yn wahanol i gerbydau sydd wedi’u ffitio â nodweddion gyrru â chymorth (fel rheolaeth cyflymder a chadw i lôn). Mae nodweddion gyrru â chymorth yn gallu gwneud rhywfaint o’r gyrru, ond mae angen i’r gyrrwr fod yn gyfrifol am yrru ar bob adeg. Os ydych chi’n gyrru cerbyd sy’n defnyddio’i nodweddion gyrru â chymorth, mae Rheol 150 yn gymwys.

    Mae gallu cerbyd hunanyrru i yrru ei hun yn gyfyngedig i sefyllfaoedd penodol neu rannau o daith. Mae pethau fel y math o ffordd, amser o’r dydd, tywydd, lleoliad a chyflymder yn gallu effeithio ar hyn. Dylech ddilyn cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd ynglŷn â phryd a sut i ddefnyddio’r swyddogaeth hunanyrru’n ddiogel.

    Tra bod cerbyd hunanyrru yn gyrru ei hun mewn sefyllfa ddilys, nid ydych yn gyfrifol am sut mae’n gyrru. Gallwch droi eich sylw oddi ar y ffordd a gallwch hefyd weld cynnwys trwy aparatws gwybodaeth ac adloniant sydd wedi’i adeiladu i mewn i’r cerbyd, os ar gael.

    Ond mae’n RHAID i chi ddilyn yr holl ddeddfau perthnasol o hyd.

    Mae’n RHAID i chi fod yn ffit i yrru (er enghraifft, mae’n rhaid i chi fod o fewn y terfynau yfed a gyrru cyfreithiol a pheidio â bod o dan ddylanwad cyffuriau). Gweler Rheolau 90 i 96.

    Mae’n RHAID i’r cerbyd fod yn gyfreithiol ar gyfer y ffordd (er enghraifft, mae’n rhaid fod ganddo dystysgrif MOT, os yn gymwys, ac mae’n rhaid iddo fod wedi’i drethu a’i yswirio). Mae’n rhaid i’r cerbyd fod yn addas i’r ffordd fawr (gweler Rheolau 89 a 97; ac Atodiadau 3 a 6). Byddwch hefyd yn gyfrifol o hyd am eich teithwyr ac unrhyw un arall rydych chi’n eu cludo (gweler Rheolau 98 i 102).

    Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â gwneud unrhyw beth anghyfreithlon – fel defnyddio ffôn symudol llaw, neu ddyfais debyg llaw. Mae eithriadau i hyn, sydd wedi’u hamlinellu yn Rheol 149.

    Os oes angen i gerbyd hunanyrru roi rheolaeth yn ôl i’r gyrrwr, bydd yn rhoi digon o rybudd i chi wneud hyn yn ddiogel. Mae’n RHAID i chi bob amser fod yn gallu ac yn barod i gymryd rheolaeth, a’i wneud pan fydd y cerbyd yn eich cymell. Er enghraifft, dylech chi aros yn sedd y gyrrwr ac aros yn effro. Pan rydych wedi cymryd rheolaeth yn ôl neu wedi wedi diffodd y swyddogaeth hunanyrru, rydych chi’n gyfrifol am bob agwedd o yrru.

    Deddfau RTA adrannau 2, 3, 4, 5, 5A, 14, 15, AEVA adran 1 a CUR rheolau 100, 104, 109 (fel yr addaswyd gan y Gorchymyn Cerbydau Ffyrdd (Adeiladu a Defnyddio) (Cerbydau Awtomataidd) 2022) a 110 fel y diwygiwyd gan CUR(A)(No.2 Rheolau 2022)

    Hierarchaeth defnyddwyr ffyrdd

    Mae ‘hierarchaeth defnyddwyr ffyrdd’ yn gysyniad sy’n gosod defnyddwyr ffyrdd yn y perygl mwyaf o wrthdaro ar frig yr hierarchaeth. Nid yw’r hierarchaeth yn dileu’r angen i bawb ymddwyn yn gyfrifol. Y defnyddwyr ffyrdd mwyaf tebygol o gael eu hanafu os oes gwrthdaro’n digwydd yw cerddwyr, seiclwyr, marchogion a beicwyr modur, gyda plant, oedolion hŷn a phobl anabl sydd mewn perygl mwy. Mae’r rheolau H canlynol yn egluro’r cysyniad hwn.

    Rheol H1

    Mae’n bwysig fod HOLL ddefnyddwyr y ffyrdd yn ymwybodol o Reolau’r Ffordd Fawr, yn ystyriol tuag at ddefnyddwyr ffyrdd eraill ac yn deall eu cyfrifoldeb am ddiogelwch eraill.

    Mae pawb yn dioddef pan fydd gwrthdrawiadau ffordd yn digwydd, os ydynt wedi’u hanafu’n gorfforol neu beidio. Ond y rheini sy’n gyfrifol am gerbydau sy’n gallu achosi’r niwed mwyaf mewn achos gwrthdrawiad sydd gyda’r cyfrifoldeb mwyaf i gymryd gofal a lleihau’r perygl maen nhw’n ei gyflwyno i eraill. Mae’r egwyddor hwn yn gymwys yn gryfaf i yrwyr cerbydau nwyddau mawr a theithwyr, faniau/bysiau mini, ceir/tacsis a beiciau modur.

    Mae gan seiclwyr, marchogion, a gyrwyr cerbydau sydd wedi’u tynnu gan geffylau gyfrifoldeb yn yr un modd i leihau perygl i gerddwyr.

    Nid oes dim o hyn yn tynnu oddi wrth gyfrifoldeb POB defnyddiwr ffordd, gan gynnwys cerddwyr, seiclwyr a marchogion, i ystyried eu diogelwch eu hunain a diogelwch defnyddwyr eraill y ffyrdd.

    Cofiwch bob amser y gall fod gan y bobl rydych yn eu cyfarfod nam ar y golwg, ar y clyw neu symudedd ac nad yw hyn yn amlwg.

    Rheol H2

    Rheol ar gyfer gyrwyr, beicwyr modur, cerbydau sydd wedi’u tynnu gan geffylau, marchogion a seiclwyr

    Wrth gyffordd dylech chi ildio i gerddwyr sy’n croesi neu’n aros i groesi ffordd rydych chi’n troi i mewn iddi neu’n troi allan ohoni.

    Mae’n RHAID i chi ildio i gerddwyr ar groesfan sebra, ac i gerddwyr a seiclwyr ar groesfan gyfochrog (gweler Rheol 195).

    Mae gan gerddwyr flaenoriaeth pan fyddant ar groesfan sebra, ar groesfan gyfochrog neu wrth groesfannau wedi’u rheoli gan olau pan fydd ganddynt signal gwyrdd.

    Dylech ildio bob amser i gerddwyr sy’n aros i groesi croesfan sebra, ac i gerddwyr a seiclwyr sy’n aros i groesi croesfan gyfochrog.

    Dylai marchogion hefyd ildio i gerddwyr ar groesfan sebra, ac i gerddwyr a seiclwyr ar groesfan gyfochrog.

    Dylai seiclwyr ildio i gerddwyr ar draciau seiclo defnydd ar y cyd ac i farchogion ar lwybrau ceffyl.

    Dim ond cerddwyr sy’n cael defnyddio’r palmant. Mae cerddwyr yn cynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd.

    Mae cerddwyr yn gallu defnyddio unrhyw ran o’r ffordd a defnyddio traciau seiclo yn ogystal â’r palmant, heblaw bod arwyddion sy’n gwahardd cerddwyr.

    Deddfau TSRGD atodlen 14 rhan 1 a rhan 5 a HA 1835 adran 72, R(S)A 1984, adran 129 a Deddf Cefn Gwlad 1968 adran 1 rhan 30

    Rheol H2 Arhoswch i’r cerddwr groesi’r gyffordd cyn troi.

    Mae hyn yn gymwys os ydych chi’n troi i’r dde neu’r chwith i mewn i’r gyffordd.

    Rheol H3

    Rheol ar gyfer gyrwyr a beicwyr modur

    Ni ddylech dorri ar draws seiclwyr, marchogion na cherbydau wedi’u tynnu gan geffylau wrth fynd ymlaen pan fyddwch yn troi i mewn neu allan o gyffordd neu’n newid cyfeiriad neu lôn, yn union fel na fyddech yn troi ar draws llwybr cerbyd modur arall. Mae hyn yn gymwys os ydynt yn defnyddio lôn seiclo, trac seiclo, neu’n reidio ymlaen ar y ffordd a dylech ildio iddynt.

    Peidiwch â throi wrth gyffordd os byddai gwneud hynny’n achosi i’r seiclwr, marchog neu gerbyd wedi’i dynnu gan geffyl sy’n mynd yn syth ymlaen i stopio neu wyro.

    Dylech stopio ac aros am fwlch diogel yn llif y seiclwyr os oes angen. Mae hyn yn cynnwys pan fydd seiclwyr yn

    dynesu, pasio neu’n cychwyn o gyffordd

    symud heibio i neu’n aros wrth ochr traffig llonydd neu sy’n symud yn araf

    teithio o gwmpas cylchfan.

    Rheol H3 Arhoswch i’r cerddwr groesi’r gyffordd cyn troi. Mae hyn yn gymwys hefyd os oes lôn seiclo neu drac seiclo ac os ydych chi’n troi i’r dde neu’r chwith i mewn i’r gyffordd.

    Rheolau ar gyfer cerddwyr

    Canllawiau cyffredinol

    1

    Palmentydd a llwybrau cerdded (gan gynnwys unrhyw lwybr ar hyd ymyl ffordd) os maent yn cael eu darparu. Lle ei fod yn bosibl, dylech osgoi bod wrth ymyl y cwrbyn â’ch cefn i’r traffig. Os oes rhaid i chi gamu i’r ffordd, edrychwch i’r ddwy ffordd yn gyntaf. Arhoswch yn ymwybodol o’ch amgylchedd bob amser ac osgowch wrthdyniadau diangen. Dangoswch ofal ac ystyriaeth ddyledus at eraill bob amser.

    2

    Os nad oes palmant, cadwch i’r ochr dde o’r ffordd fel y gallwch weld traffig sy’n dod tuag atoch. Dylech fod yn fwy gofalus a

    byddwch yn barod i gerdded un ar ôl y llall, yn enwedig ar ffyrdd cul neu mewn golau gwael

    cadwch yn agos at ochr y ffordd.

    Efallai y bydd yn fwy diogel croesi’r ffordd ymhell cyn troad siarp i’r dde fel bod gan draffig sy’n dod tuag atoch well siawns o’ch gweld. Croeswch yn ôl ar ôl y troad.

    3

    Helpwch ddefnyddwyr eraill y ffordd i’ch gweld. Gwisgwch neu gariwch rywbeth o liw golau, llachar neu fflwroleuol mewn amodau golau dydd gwael. Pan fydd hi’n dywyll, defnyddiwch ffabrigau adlewyrchol (e.e. rhwymynnau breichiau, sashis, gwasgodau, siacedi, esgidiau), y gellir eu gweld gan yrwyr sy’n defnyddio priflampau hyd at deirgwaith mor bell i ffwrdd â ffabrigau nad ydynt yn adlewyrchol.

    Rheol 3

    Helpwch eich hun i gael eich gweld

    4

    Ni ddylai plant ifanc fod allan ar eu pen eu hunain ar y palmant na’r ffordd (gweler Rheol 7). Wrth fynd â phlant allan, cadwch rhyngddyn nhw a’r traffig a daliwch eu dwylo’n gadarn. Strapiwch blant ifanc iawn mewn i bramiau neu ddefnyddiwch awenau. Wrth wthio plentyn ifanc mewn pram, peidiwch â gwthio’r pram i’r ffordd wrth edrych i weld os yw’n glir i’w chroesi, yn enwedig rhwng cerbydau sydd wedi’u parcio.

    5

    Dylai teithiau cerdded neu barediau wedi’u trefnu sy’n cynnwys grwpiau mawr o bobl yn cerdded ar hyd ffordd, ddefnyddio palmant os ar gael; os nad oes un ar gael, dylent gadw i’r chwith. Dylid lleoli pobl i edrych allan ar flaen a chefn y grŵp, a dylent wisgo dillad fflworoleuol mewn golau dydd a dillad adlewyrchol yn y tywyllwch. Yn y nos, dylai’r person sy’n edrych allan yn y blaen ddangos golau gwyn a dylai’r un yn y cefn ddangos golau coch. Dylai pobl ar y tu allan i grwpiau mawr hefyd gario goleuadau a gwisgo dillad adlewyrchol.

    6

    Traffyrdd Mae’n rhaid i gerddwyr BEIDIO â bod ar draffyrdd neu slipffyrdd ac eithrio mewn argyfwng (gweler Rheol 271 a Rheol 275).

    Deddfau RTRA adran 17, MT(E&W)R rheol 15(1)(b) a MT(S)R rheol 13

    Croesi’r ffordd

    7

    Rheolau’r Groes Werdd. Mae’r cyngor a roddir isod am groesi’r ffordd ar gyfer pob cerddwr. Dylid addysgu’r Rheolau i blant ac ni ddylid caniatáu i blant fod ar eu pen eu hunain nes eu bod yn gallu eu deall a’u defnyddio’n iawn. Mae’r oedran lle gallant wneud hyn yn annibynnol yn wahanol i bob plentyn. Ni all llawer o blant asesu pa mor gyflym y mae cerbydau’n mynd na pha mor bell i ffwrdd y maent. Mae plant yn dysgu drwy esiampl, felly dylai rhieni a gofalwyr ddefnyddio’r Rheolau yn llawn bob amser pan fyddant allan gyda’u plant. Nhw sy’n gyfrifol am benderfynu ar ba oedran y gall plant ddefnyddio’r Rheolau yn ddiogel yn annibynnol.

    A Yn gyntaf, dewch o hyd i le diogel i groesi’r ffordd a lle mae ardal i gyrraedd y palmant ar yr ochr arall. Lle mae croesfan gerllaw, defnyddiwch hi. Mae’n fwy diogel i groesi ffordd gan ddefnyddio tanlwybr, pont droed, ynys, croesfan sebra, pelican, twcan neu bâl, neu lle mae croesfan wedi’i rheoli gan swyddog heddlu, hebryngwr croesfan ysgol neu warden traffig. Fel arall, dewiswch fan lle gallwch weld yn glir ym mhob cyfeiriad. Ceisiwch osgoi croesi’r ffordd rhwng ceir wedi’u parcio (gweler Rheol 14, ar droad dall, neu yn agos i ael bryn. Symudwch i rywle lle gall gyrwyr a marchogion eich gweld yn glir. Peidiwch â chroesi’r ffordd yn groeslinol.

    Rheol 7

    Edrychwch o gwmpas a gwrandewch am draffig cyn croesi’r ffordd

    B Stopiwch cyn i chi gyrraedd y cwrbyn, lle gallwch weld os oes unrhyw beth yn dod. Peidiwch â mynd yn rhy agos at y traffig. Os nad oes palmant, cadwch yn ôl wrth ymyl y ffordd ond sicrhewch eich bod yn dal i allu gweld traffig sy’n agosáu.

    C Edrychwch o gwmpas am draffig a gwrandewch. Gallai traffig ddod o unrhyw gyfeiriad.

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1