Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Hergest
Hergest
Hergest
Ebook269 pages4 hours

Hergest

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A novel set in the imaginary university town, Hergest. Dr Rodrigo Lewis of Patagonia is on a one year sabbatical there and is also exploring his ancestry. He discovers unexpected information and, after a promising beginning, his time in Hergest goes from bad to worse. A novel full of clashes and quarrels, with important consequences for the whole community. Geraint Evans's sixth novel.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateSep 7, 2022
ISBN9781800993105
Hergest
Author

Geraint Evans

Geraint Evans is an award-winning marketing expert, board advisor, speaker and academic researcher. He has held a variety of global marketing leadership roles and has worked on brands such as Odeon, Virgin Media, Tesco and Boots. He has a PhD in Marketing and Entrepreneurship and is a Fellow of the Chartered Institute of Marketing and is a Visiting Fellow at St. Mary's University.

Read more from Geraint Evans

Related authors

Related to Hergest

Related ebooks

Reviews for Hergest

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Hergest - Geraint Evans

    cover.jpg

    I Llew a Martha

    DIOLCH

    Mae arnaf ddyled i’r canlynol:

    Elvey MacDonald a Morys Gruffudd;

    Dr Tomos Gwyn Williams;

    y Prifardd Huw Meirion am y cywydd ardderchog ym mhennod 19;

    i’m golygydd craff a doeth Meinir Wyn Edwards;

    ac yn olaf i’m hannwyl wraig am ei hamynedd di-ball.

    Argraffiad cyntaf: 2022

    © Hawlfraint Geraint Evans a’r Lolfa Cyf., 2022

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978-1-80099-310-5

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol

    Cyngor Llyfrau Cymru

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru ar bapur o goedwigoedd cynaliadwy gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 01970 832 782

    RHAGARWEINIAD

    Ni ellid gwadu nad Hergest yw un o drefi mwyaf iachusol y Deyrnas Unedig. Cysgodir y lle rhag gwyntoedd y dwyrain gan fryniau sy’n codi i hyd at gant a hanner o fetrau ond i gyfeiriadau eraill saif y dref fel brenhines dros y dyffrynnoedd a’r gwastadeddau ffrwythlon. I’r gorllewin gogwydda’r tirwedd yn esmwyth i afon Eiddi sy’n llifo yn ei thro i’r Hafren gyda mynydd-dir canolbarth Cymru yn gefnlen i’r olygfa.

    Rhinweddau meddygol y ffynhonnau ddenodd y teithwyr cyntaf i Hergest. Darganfuwyd nodweddion iachusol y dyfroedd yn yr ail ganrif ar bymtheg. Gwelwyd y posibiliadau a dechreuwyd ar y dasg o baratoi lletyau a chyfleusterau eraill ond roedd y daith mewn coets ar y ffyrdd caregog yn heriol ac ni welwyd gwir ddatblygiad tan agoriad y rheilffordd yn 1868. Daeth yn lle ffasiynol, yn lle i ymweld ac i gael eich gweld, lle i gwrdd â chymar, lle i gerdded yn hamddenol ar hyd y gerddi blodau ac wrth gwrs yn lle i yfed o’r dyfroedd er lles afiechydon megis camdreuliad a gwynegon. Mae yma dair ffynnon sy’n cynnig dŵr halen, dŵr sylffwr a dŵr haearn am bris rhesymol, boed hynny’n ddyddiol neu’n wythnosol. Annheg fyddai disgrifio unrhyw un o’r dyfroedd yn flasus, yn wir sail eu hapêl yw po fwyaf y chwerwder mwyaf y lles.

    O gerdded ar hyd y tir comin ar gyrion dwyreiniol y dref dewch at Lyn y Frenhines, llyn bychan tua chwarter milltir o hyd. Gellir llogi cychod rhwyfo ac mae yno gaffi yn cynnig prydau ysgafn a the prynhawn. Gan mai artiffisial yw’r cyfan nid oes yma bysgod ond o dalu ffi mae modd pysgota ar lannau’r Eiddi gyda chyfle da i ddal samwn a brithyll o fewn y tymor.

    Ceir nifer o westai, a’r gorau o lawer yw’r Glenturret sy’n sefyll fel rhyw ffug blasty ar un o brif strydoedd y dref. Wrth fynd drwy’r porth eang dewch ar unwaith at y dderbynfa sy’n cynnig gwasanaeth rhwng saith y bore a naw yr hwyr gyda phorthor nos y tu hwnt i’r oriau hyn. Ar y dde mae bar lle gellir codi dewis helaeth o wirodydd, cwrw a diod meddal – pob un yn ei dro yn fwy na derbyniol ac yn sicr yn well na blasau’r dyfroedd. Nid yw’r bwyty ar yr ochr chwith yn nodedig am ei haute cuisine, a Seisnig yw’r prif ddylanwad ar y coginio. Serch hynny mae’r fwydlen yn onest – yr hyn a ddisgrifir yw’r hyn a geir, dim mwy, dim llai. Ar adeg ein hymweliad roedd y cig eidion o Swydd Henffordd yn hynod flasus. Araf oedd y gwasanaeth, gyda gormodedd o ffws a ffwdan dros stiffrwydd y lliain a lleoliad y llestri ar draul sicrhau gweini’r bwyd yn boeth ar y plât. Gair o gyngor – dylid ar bob cyfri dderbyn y cynnig i gael eich tywys i’r stafell. Mae tu mewn y Glenturret yn ddrysfa o goridorau a throeon annisgwyl. Yn naturiol fe amrywia safon a maint y stafell yn ôl yr hyn a delir. Am y pris isaf cewch eich hun yn yr atig, y ffenest fechan yn rhoi golygfa o ddim mwy na’r wal gyferbyn. O wario mwy cewch fwynhau ysblander y suites ar y llawr cyntaf, gyda phob un o’r rhain wedi’i adnewyddu’n ddiweddar i gynnwys baddonfa.

    O’r gwestai eraill, yr unig un y gellir ei gymeradwyo yw’r Llannerch sydd, er gwaethaf ei ddiffyg cyfleusterau, yn gyfleus i’r orsaf.

    Symol yw’r disgrifiad gorau o bensaernïaeth y dref. Cyfeiriwyd eisoes at ymffrost y Glenturret i bortreadu ei hun fel efelychiad o schloss tyrog. Mae gweddill y gwestai ac adeiladau cyhoeddus yn anniddorol – slabiau tri-llawr mewn brics coch, pob un yn adlewyrchiad unffurf o’r llall. Siomedig hefyd yw Eglwys Mihangel uwchben y llyn, sydd yn enghraifft o gynllunio eglwysig ar ei waethaf. Y porth bychan yw’r unig agwedd waredol.

    Ceir gwaredigaeth bellach ar gampws Prifysgol Hergest. Sefydlwyd y brifysgol yn 1878 a’r bwriad gwreiddiol oedd creu arbenigedd mewn ieithoedd a hanes Celtaidd a Diwinyddiaeth. Gwelwyd mewn byr o dro fod hynny’n rhy gul o ran denu myfyrwyr a staff a datblygodd y sefydliad i fod yn ganolfan i astudio’r celfyddydau gydag Ysgol Fusnes a Chyfadran Chwaraeon yn ychwanegiadau hwyrach. Cynlluniwyd yr adeiladau gwreiddiol ar batrwm cyrtiau pedronglog colegau Rhydychen. Ar un ochr y cwad ceir adeilad y Castell sy’n cynnwys Swyddfa’r Prifathro, Siambr y Cyngor a’r ganolfan weinyddol; yr ochr arall y Neuadd Fawr, y prif ddarlithfeydd a Llyfrgell y Casgliad Cain. Mae Eglwys yr Holl Saint gyda’i tho bwaog a’i seddau a phulpud addurnedig yn esiampl o bensaernïaeth uchel oes Fictoria ar ei gorau. O ystyried hyn oll trueni i ychwanegiadau’r ugeinfed ganrif (llyfrgell newydd, campfa a neuaddau preswyl) syrthio i fod yn adlais trist o weledigaeth a gobeithion y sylfaenwyr. Arfbais Prifysgol Hergest yw Derwen gyda dwy ddraig euraid o bob tu, yn erbyn cefndir glas a phorffor ac islaw yr arwyddair A LŶN A LWYDDA. Cedwir tarian wreiddiol yr arfbais yn Siambr y Cyngor.

    Llawlyfr y Teithiwr Trylwyr, Gwasg Gwenddwr, 2015

    1

    Saif y Doctor Rodric Lewys, Is-Ganghellor Prifysgol Hergest, wrth un o ffenestri Siambr y Cyngor yn sbecian ar yr olygfa ddymunol. Mae’n agos at derfyn semester yr haf ac mae criw o fyfyrwyr yn gorwedd ar lawnt ganol y cwad yn hamddena yng ngwres yr haul. Mae rhai yn camu’n rhy agos at y pwll addurniadol ac wps, fel y gellid disgwyl, mae un o’r criw yn syrthio i’r dŵr gan ddioddef gwawdio a chwerthin y lleill. Wrth iddi ddringo yn ôl i’r lawnt ni all Rodric lai na sylwi fod ei blows ysgafn yn dryloyw, yn sgil y drochfa – ffaith sy’n codi ei chwant ac yn cyfoethogi’r olygfa.

    Clywodd sŵn o ddrws y Siambr ac mae’n troi i weld Rhiannon, ei gynorthwyydd personol, yn cerdded tuag ato gan gario nifer o ffeiliau. Daw’n nes a sefyll wrth ei ochr. Maen nhw’n ca’l sbri. Bydd pawb yn y pwll cyn bo hir a wedyn bydd ram-tam gan y porthorion. Diwedd blwyddyn neu beidio, dylet ti roi stop ar nonsens fel’na.

    Fi! Pwy hawl sy ’da fi i ddweud wrthyn nhw beth i’w wneud? A beth bynnag maen nhw’n ifanc, Rhiannon, ym mlodau eu dyddiau, blodau eu dyddiau. Meddylia am droi’r cloc ’nôl, a blasu ieuenctid unwaith yn rhagor.

    Wrth ynganu ei ddymuniad mae Rodric yn plannu ei law yn solet ar ben-ôl ei gynorthwyydd ac mae hithau’r un mor benderfynol yn gwthio’i law i ffwrdd ac yn pasio’r ffeiliau.

    Bihafia, Rod, a chadw dy feddwl ar waith! Byddan nhw ’ma unrhyw funud. Mae pawb wedi cael copi o’r agenda a chofnodion cyfarfod llynedd. Bydda i wrth dy ochr di i gymryd nodiadau o’r trafodaethau a’r penderfyniadau, a rhybudd bach – dim hanci-panci!

    Mae Rodric yn eistedd ym mhen uchaf y bwrdd, yn agor y ffeil ac yn darllen yn ddigalon y pennawd sydd ar y dudalen gyntaf, BLWYDDYN BRESWYL PLAYFAIR. Hwn oedd cyfarfod olaf y flwyddyn academaidd ac o ystyried y testun gwyddai o brofiad chwerw y gellid disgwyl dadlau ac anghytuno poeth. Beth oedd yn bod ar ei gyd-ysgolheigion? Pam nad oedden nhw, fel yntau, yn awchu am heglu o’r campws a rhoi heibio’r cecru am ddeufis? Dianc i’r bwthyn yn y Loire i roi sylw i waith ymchwil fydd e, a sylw cyfatebol i’r gwin. Ochneidiodd a chodi ei olygon at bortreadau ei ragflaenwyr yn syllu arno yn gyhuddgar, pob un yn ei ddychymyg yn holi, Shwt gyrhaeddest ti i’r swydd, gwd boi? Roedd ganddo ateb parod. Dysg, bid siŵr, ond yn bwysicach na hynny bod yn y lle iawn ar yr amser iawn, adnabod y bobl iawn a digon o ganmol a swcro pan oedd rhaid. Taflodd yr ergyd ’nôl at honchos y gorffennol a sibrwd dan ei wynt, Llyfu tin, bois, llyfu tin, yn union ’run fath â chi.

    Fel y gellid disgwyl, Richard Rich, Pennaeth yr Ysgol Fusnes, oedd y cyntaf i gyrraedd. Roedd Rich yn anelu at y safle uchaf yn ei holl weithgareddau a hynny’n rhyfedd o ystyried ei arbenigedd mewn dirgel faes a elwid yn Just in time Management. Dyn uchelgeisiol a obeithiodd ar un adeg i esgyn i swydd Is-Ganghellor Hergest. Sylweddolodd yn glou nad oedd y Sanhedrin Cymreig yn ei weld fel dim byd mwy na sbif a nawr roedd yn llygadu prifysgolion y tu hwnt i Glawdd Offa megis Caer neu Wolverhampton. Creadur mudol, tebyg i nifer o’i gyfoeswyr, a welai Hergest fel camfa i borfeydd brasach. Y bore hwn gwisgai Rich drowsus glas golau, crys claerwyn, tei streipiog llachar a siaced felen batrymog a oedd yn fwy gweddus i glwb golff na phwyllgor academaidd, ym marn Rodric.

    Dyma ni unwaith eto, Brifathro. Oes disgwyl i’r cyfarfod fod yn hir?

    Mor fyr â phosib, Richard. Mae gen i bethau sy’n gofyn am sylw buan. Trefniadau’r seremonïau graddio ac ati.

    Wrth gwrs. Edrych mlân at seremoni prynhawn Mawrth, yn arbennig dyrchafiad eich ffrind Syr Watcyn Wynn i Ddoethuriaeth er Anrhydedd.

    Ni allai Rodric lai na sylwi ar y pwyslais ar y gair ‘ffrind’, yn wir byddai rhywun hanner byddar wedi dal yr oslef awgrymog.

    Mae Syr Watcyn yn ddyn hynod o ddylanwadol, yn Brif Weithredwr y Cyngor Cyllido Addysg Uwch a chortynnau’r pwrs cyhoeddus o fewn ei ddwylo. Os rwy’n cofio’n iawn, rydych chi’n bwriadau sefydlu Canolfan Menter Genedlaethol ar gampws Hergest. Yr unig le i bob Cymro sydd â blaengarwch yn llosgi yn eu calonnau – dyna’r byrdwn. Pob lwc i chi, ond rhaid sylweddoli mai Syr Watcyn yw pen draw yr ie neu’r na. Cyfeillion, Richard, cyfeillion sy’n iro olwynion y peiriant penderfyniadau, yn gwmws fel mae angen cyfeillion i iro olwynion diwydiant a masnach.

    Ym marn Rich ni wyddai Lewys nemor ddim am ddiwydiant, a llai fyth am fyd busnes a masnach ond ymataliodd rhag lleisio barn.

    Unrhyw gynlluniau dros yr haf, Brifathro?

    Ffrainc, fel arfer. Edrych drwy ddogfennau a llawysgrifau yn y Bibliothèque Nationale. A chi?

    Taith ddarlithio yn America. Roedd y prifysgolion yn pwyso, felly rhaid ufuddhau a chyfle i ledu enw da Hergest.

    Cweit. Roedd Rodric yn gwybod yn iawn mai petheuach yr adain dde oedd yn ariannu’r daith ac mai mân golegau anadnabyddus oedd y lleoliadau, yn hytrach na chewri yr Ivy League.

    Torrwyd ar y distawrwydd gan guriad trwm ar y drws, a chamodd Halcyon Day yr Athro Saesneg i mewn. Dynes fer oedd hi, ond roedd pob darn o’i phum troedfedd tair modfedd yn ymgorfforiad o swnami o brotest ac awch am ddadl. Edrychodd Rodric arni a meddwl, nid am y tro cyntaf, mor anaddas oedd ei henw. Ac yntau’n ieithydd gwyddai mai ystyr yr ymadrodd Saesneg halcyon days oedd cyfnod tawel ar ôl storm gyda’r aderyn chwedlonol halcyon yn meddu ar y gallu i ostegu’r môr a’r tonnau. Ond bythol ddyhead hon oedd corddi’r dyfroedd, ynghyd â pharodrwydd i godi ffeit mewn stafell wag. Maes ei hymchwil oedd Ffeministiaeth Ôl-Fodern ym marddoniaeth goncrit gwledydd Llychlyn – maes mor gul fel iddi mewn byr o dro sefydlu ei hun fel yr arbenigwr. Enillodd grantiau swmpus o goffrau’r Academi Brydeinig, grantiau a fu’n fodd i gyflogi eraill o’r un anian. A’r canlyniad? Cyrsiau gradd yr Adran yn cyflwyno talpau o waith beirdd ac awduron esoterig ar draul y Clasuron.

    Cymerodd Halcyon sedd ym mhen pellaf y bwrdd, gan lygadu’r ddau arall yn ddrwgdybus drwy ei sbectol enfawr. Roedd ei gwallt wedi’i dorri mewn steil gwta a’i liwio’n las, ei ffrog yr un lliw â’i gwallt ac roedd sgarff ysgafn oren ynghlwm wrth ei gwddf. Gwisgai fodrwyon trymion, dolen euraid mewn un ffroen a styden fechan yn y llall.

    Am eiliad parhaodd y tawelwch cyn i’r Athro gyhoeddi’n awdurdodol, Mae’r myfyrwyr yn llamsachu yn y pwll, Rodric. Merched hanner noeth. Golygfa gywilyddus!

    Temtiwyd Rodric i ddatgan fod yr olygfa’n bleser pur ond gwyddai mai ffwlbri fyddai mentro. O’n i’n meddwl y byddech chi, o bawb, o blaid rhyddid i ferched i weithredu a mwynhau, Halcyon. Cyfleodd cyfartal, stwff fel’na.

    Dyna’r union bwynt. Mae’r merched bron yn noeth a’r dynion heb ddiosg dilledyn. Dim byd llai nag ecsploetio.

    Yn annoeth ymunodd Rich yn y drafodaeth. "Felly, Hal, fyddech chi o blaid y lamsachu petai’r merched a’r dynion yn noeth?"

    Daeth yr ateb fel ergyd o wn. Soffistri, Doctor Rich. Yn naturiol, mae hynny’n hollol ddisgwyliedig gan rywun o’r pair masnachol sydd mor hoff o blygu ffeithiau. A plis peidiwch â ’ngalw i’n Hal, mae byrhau enwau yn symbol o ddirmyg. Halcyon, Halcyon Day neu’r Athro Day. Wrth gwrs, gallaf ddeall fod yr olaf yn anodd i unigolyn na lwyddodd hyd yn hyn i ennill Cadair.

    Arbedwyd y ffrwgwd gyda dyfodiad Tanwen Sprint, Cyfarwyddwr yr Ysgol Astudiaethau Hamdden, a’r Athro Cwyfan Annwyl o’r Adran Geltaidd. Ni ellid dychmygu dau mwy annhebyg. Yn ei hiwnifform arferol o drowsus spandecs porffor, crys-T llwyd (â’r neges Mindset is Everything arno) a sgidiau rhedeg drudfawr roedd Tanwen yn hysbyseb perffaith dros iechyd a bodlonrwydd corfforol. Bu’n gapten ar dîm rygbi merched Cymru, cymhwysodd ei hun fel llawfeddyg orthopedeg a throi yn rhannol i fyd academia. Roedd galw mawr am ei gallu i drin esgyrn a chymalau a’i harfer o bron â boddi’r dioddefwyr mewn rhewgell gorfforol. Edrychai Annwyl fel yr oedd wastad wedi edrych, yn llychlyd a dysgedig. Ni ddylech fodd bynnag gael eich twyllo gan yr wyneb addfwyn na’r wên dawel. Brwydrodd ei ffordd i’r Gadair Geltaidd gyda dycnwch yn erbyn sbeit a gwenwyn ciwed o ysgolheigion a wnâi i’r Maffia ymddangos fel amaturiaid. O drechu’r bandits, ei uchelgais nawr oedd ymestyn ei yrfa cyhyd ag y gallai, gan wylio ei gyn-felltithwyr yn llithro o un i un i ymddeoliad disylw neu i farwolaeth.

    Cwyfan, Tanwen, croeso, meddai Rodric. Dewch at y bwrdd, mae digon o le. Rydyn ni ar fin cychwyn.

    Eisteddodd Sprint i’r chwith o Rodric, a Cwyfan Annwyl nesaf ati. Yn syth wedyn daeth Rhiannon i mewn ac eistedd ar y dde i’r Is-Ganghellor. Agorodd yntau’r ffeil o’i flaen a thaflu cipolwg dros y rhestr enwau.

    Dyma ni. Bron yn gyflawn... Oes rhywun wedi gweld Erasmus? Erasmus Pryce oedd Caplan Anrhydeddus Hergest a chredwr di-syfl mewn arferion ucheleglwysig megis arogldarthu a thincial clychau.

    Tawelwch. Mewn hir a hwyr atebodd yr Athro Annwyl, Mae’n gweddïo yn yr eglwys.

    Gweddïo! Dros bwy neu beth?

    Nid y naill na’r llall. Yn erbyn pechod, Brifathro.

    Chwarddodd yr anffyddiwr rhonc, Richard Rich, Bydd e ’na am sbel. Mae’r campws ’ma’n byrlymu mewn pechod.

    Roedd Halcyon ar fin brathu ateb pan agorodd y drws i ddatgelu Erasmus a’i wynt yn ei ddwrn. Ymddiheuriadau dwys. Wnes i gymysgu’r amser ac ymgolli’n ormodol yn y weddi.

    Ailgydiodd Rodric yn y ffeil. "Ie, wel, pawb at y peth y bo. Nawr at y mater dan sylw, Blwyddyn Breswyl Playfair. Fe fyddwch chi’n ymwybodol bod cwmni Playfair yn un o brif noddwyr Prifysgol Hergest a bod perchennog y cwmni Brandon Brown ymhlith yr enwocaf o alumni’r Brifysgol. Rydyn ni i gyd mewn gwahanol ffyrdd wedi elwa o haelioni’r cwmni – grantiau i gynnal Symposa ar Gyfartaledd i’r Adran Saesneg, ysgoloriaethau i’r Ysgol Fusnes, offer i’r gampfa a chyfraniad hael at gronfa llawysgrifau’r Adran Geltaidd. Fel y gwyddoch mae cynllun y Flwyddyn Breswyl yn noddi unigolyn o statws rhyngwladol i dreulio blwyddyn ar y campws yn gwneud rhywfaint o ddysgu ond yn bennaf i gael hamdden i ymchwilio a mireinio crefft. Yn y gorffennol..."

    Pesychodd Pryce a chodi ei law.

    Ie, Erasmus.

    Dwi am ddatgan yn ddiflewyn-ar-dafod ’mod i’n hollol wrthwynebus i gwmni Playfair ac y dylen ni roi heibio cynllun y Flwyddyn Breswyl.

    Syfrdanwyd y lleill. Prifysgol yn gwrthod nawdd?! Rodric ofynnodd y cwestiwn oedd ar feddwl pawb. Pam?

    Bachodd Rich ar y cyfle. "Oherwydd nad yw e na’i eglwys bells and smells wedi llwyddo i ennill ceiniog o gronfeydd Playfair. Gwell gan y Gwir Barchedig ddibynnu ar weddïo ac ymbil am nawdd nefol."

    Sylwodd Rodric ar y gwrid yn ymestyn o goler gron y Caplan i weddill ei wyneb a gwyddai bod rhaid ymyrryd i osgoi’r perygl o golli gafael ar y cyfarfod cyn iddo gychwyn.

    Dyna ddigon, Richard. Allwn ni wneud heb y sylwadau tsiêp. Erasmus, rydych chi wedi cefnogi’r cynllun yn y gorffennol, felly be sy wedi newid?

    Pesychodd Pryce eto cyn tynnu ei sbectol a’i sychu gyda macyn oedd ymhell o fod yn lân. Gosododd y sbectol yn ôl ar ei drwyn pigfain a phwyso ymlaen fel rhywun ar fin rhannu cyfrinach. Dwi wedi darganfod sut mae Playfair yn gwneud eu pres. Gamblo – casinos a chadwyn o siopau betio.

    Sori, Erasmus, ond mae’r Eglwys yng Nghymru newydd dderbyn arian gan y Loteri Cenedlaethol. Be sy’n wahanol?

    Yn lle ateb symudodd Pryce i gyfeiriad arall. "Yn waeth na hynny, mae un o is-gwmnïau Playfair yn cyhoeddi cylchgronau o’r enw Love It a Girls On Top ac ail is-gwmni yn cynhyrchu teclynnau caru. Merched yn cael eu hannog i wastraffu pres ar sothach i esgyn i wewyr cnawdol. Fel ymladdwr dros hawliau benywaidd, beth wedwch chi am hynny, Halcyon?"

    Dau beth, Erasmus, atebodd Halcyon. Yn gyntaf, mae’n ymddangos eich bod chi’n dra hyddysg yn y cylchgronau a’r teclynnau. Wedi gwneud ymchwil trylwyr, bid siŵr. Yn ail, dwi o blaid gweld merched yn arwain ym mhob gweithgarwch, gan gynnwys carwriaeth. Plis, Brifathro, gawn ni symud ymlaen?

    Ar bob cyfri. Fel o’n i’n sôn, yn y gorffennol...

    Cododd Erasmus ei law unwaith yn rhagor. Ie, y gorffennol, Brifathro. All neb wadu nad oedd deiliad y Flwyddyn Breswyl eleni yn drychineb ac yn berson a lusgodd enw da Hergest i’r mwd. Dyna reswm arall dros wrthod, does bosib?

    A’r tro yma roedd Erasmus Pryce yn llygad ei le. Bu cyfnod y dramodydd o Albania yn hunllef. Darganfuwyd ei fod yn byw ar fodca, ei ddramâu’n waedlyd ac yn portreadu arweinwyr cyfoes Rwsia fel prif gymeriadau. Tybiwyd ei fod yn ysbïwr ac am y tro cyntaf yn ei hanes ymddangosodd Prifysgol Hergest ym mhenawdau’r tabloids. Yn y diwedd bu raid troi at y gwasanaethau cudd, a gyda’u cymorth llwyddwyd i gludo’r dyn yn ddirgel yn ôl i’w famwlad. Fe’i cymeradwywyd gan Bennaeth Theatr a Ffilm a heglodd o’r campws yr un mor gyflym. O’r herwydd gallai pawb yn y stafell nodio’n ddoeth. Dwylo glân, cael eu camarwain – ffaeledd digon naturiol.

    Diolch, Erasmus. Serch hynny rhaid tynnu sylw at gymal yn nogfen y Flwyddyn Breswyl. Os am unrhyw reswm y bydd Hergest yn gwrthod – unrhyw reswm, sylwer – bydd Playfair yn agor trafodaethau gyda Phrifysgol Aberystwyth. Allwch chi ddychmygu’r gwawdio a’r dathlu? Mwy o nodio doeth gan bawb ar wahân i’r Caplan. Felly, heb wastraffu rhagor o amser awn ni at brif eitem yr agenda, sef enwebiadau am y flwyddyn golegol nesaf.

    Fel y gellid disgwyl, Richard Rich oedd y cyntaf i neidio i’r bwlch. Tacteg wael, meddyliodd Rodric a phrawf na wyddai Rich am un o hanfodion bargeinio ym myd busnes. Yn ddi-feth y cyntaf i’r fei oedd y cyntaf i fethu. Gwenodd Pennaeth yr Ysgol Fusnes yn dalog a dosbarthu taflen liwgar o gwmpas y bwrdd.

    Deryn Pendragon, perchennog cwmni wisgi o’r Bala. Sefydlwyd y ddistyllfa wisgi gyntaf yng Nghymru yn Frongoch ger y Bala yn 1887, y Welsh Whisky Distillery Company. Yn anffodus menter aflwyddiannus, a daeth y cwmni i ben yn 1910. Nawr, cant a deg o flynyddoedd yn hwyrach, mae Deryn wedi dechrau cwmni newydd i greu wisgi o’r enw Old Revolution ac mae’r cynnyrch eisoes ar werth. Nid y poteli cyntaf oll, gan y cedwir rheini a’u gwerthu i gasglwyr am grocbris. Fel y gwelwch chi o’r daflen mae’r cwmni’n broffidiol ac yn mynd o nerth i nerth.

    Os felly, gofynnod Halcyon, pam treulio blwyddyn yn Hergest, a beth allwn ni ei gynnig iddyn nhw?

    "Cyfle i lunio cynllun busnes o’r newydd, a fydd yn sail i ehangu pellach. Yn benodol ystyried ail ddistyllfa i greu jin. Mae jin o safon bellach yn

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1