Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Brwydr i Baradwys?: Y Dylanwadau ar Dwf Ysgolion Cymraeg De-ddwyrain Cymru
Brwydr i Baradwys?: Y Dylanwadau ar Dwf Ysgolion Cymraeg De-ddwyrain Cymru
Brwydr i Baradwys?: Y Dylanwadau ar Dwf Ysgolion Cymraeg De-ddwyrain Cymru
Ebook511 pages6 hours

Brwydr i Baradwys?: Y Dylanwadau ar Dwf Ysgolion Cymraeg De-ddwyrain Cymru

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Dadansodda’r gyfrol arloesol hon, am y tro cyntaf erioed, ddylanwadau niferus ar dwf yr Ysgolion Cymraeg, gan godi cwestiynau i finiogi meddwl wrth i Gymru wynebu tonnau newydd o sialensau, ac ysbrydoli eraill i ymaflyd yn yr ymgyrchu dros Ysgolion Cymraeg a’n treftadaeth genedlaethol mewn byd plwralistig a chyfnewidiol.
LanguageCymraeg
Release dateJul 1, 2010
ISBN9781783164141
Brwydr i Baradwys?: Y Dylanwadau ar Dwf Ysgolion Cymraeg De-ddwyrain Cymru
Author

Huw Thomas

Huw Thomas is a former headteacher of Welsh-medium comprehensive schools and an Adjunct Member of the LPPR Unit at Cardiff University. Colin Williams is Research Professor and Director of the Language, Policy and Planning Research Unit at the School of Welsh, Cardiff University.

Related to Brwydr i Baradwys?

Related ebooks

Reviews for Brwydr i Baradwys?

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Brwydr i Baradwys? - Huw Thomas

    BRWYDR I BARADWYS?

    BRWYDR

    I BARADWYS?

    Y Dylanwadau ar Dwf Ysgolion Cymraeg

    De-ddwyrain Cymru

    Huw S. Thomas

    Hawlfraint © Huw S. Thomas, 2010

    Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigantîn, Caerdydd, CF10 4UP.

    www.gwasgprifysgolcymru.org

    Mae cofnod catalogi’r llyfr hwn ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.

    ISBN 978-0-7083-2297-0

    e-ISBN 978-1-78316-413-4

    Datganwyd gan Huw S. Thomas ei hawl foesol i’w gydnabod yn awdur y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77, 78 a 79 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.

    Cyflwynedig i’r miloedd o unigolion a sicrhaodd ddyfodol sicrach na chynt i’r iaith Gymraeg drwy eu hymrwymiad i’r ysgolion Cymraeg: rhieni, disgyblion, athrawon, penaethiaid, llywodraethwyr, gweinyddwyr, cynghorwyr, gwleidyddion, arolygwyr, swyddogion addysg, gweision sifil, academyddion, tylwyth a charedigion yr iaith.

    Cynnwys

    Rhagair

    Cydnabyddiaeth

    Byrfoddau

    Pennod 1 Ysgolion Cymraeg De-ddwyrain Cymru: Trosolwg aYsgolion Cymraeg De-ddwyrain Cymru: Trosolwg a Chyflwyniad

    Pennod 2 Methodoleg yr Ymchwil Empirig

    Pennod 3 Iaith, Cymdeithas a Chymhellion

    Pennod 4 Iaith a Hunaniaeth

    Pennod 5 Pŵer

    Pennod 6 Safonau Academaidd

    Pennod 7 Y Llinyn Arian yn Ymddatod

    Pennod 8 Y Dyfodol

    Atodiadau

    Llyfryddiaeth

    Rhagair

    Ar gychwyn fy ngyrfa fel athro Lladin yn Ysgol Rhydfelen yn 1966, penderfynais mai’r norm oedd gwneud pob dim yn Gymraeg, ac nad oedd felly ddim byd od ynghylch astudio Lladin drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n amlwg fy mod wedi hoffi sialens erioed, gan nad oedd deunyddiau addas ar gael bryd hynny ar gyfer y disgyblion. Fel gweddill fy nghyd-athrawon, creu eich deunyddiau eich hun oedd yr ateb. Erbyn 1979, â chefnogaeth ymarferol cyd-Glasurwyr ledled Cymru a nawdd Adran Glasurol Urdd y Graddedigion, gwelwyd cyhoeddi y Geiriadur Lladin–Cymraeg gan Wasg Prifysgol Cymru.

    Sefydlu Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn Aberbargod a Bargod yn 1981 oedd y sialens nesaf, yr ysgol gyfun Gymraeg gyntaf yn neddwyrain Cymru heb y lefain yn y blawd o ganran arwyddocaol o blant o gartrefi Cymraeg eu hiaith. Credais mai’r ffordd ymlaen oedd addysgu pob pwnc, ar bob lefel, drwy gyfrwng y Gymraeg. Cefais gefnogaeth y rhieni, y llywodraethwyr, a’r cyngor sir, Morgannwg Ganol.

    Wedi ymddeol fel pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd, yn 2003, gosodais her arall i fy hun, sef ymchwilio i’r dylanwadau ar dwf ysgolion Cymraeg de-ddwyrain Cymru, ac ennill gradd Doethur mewn Athroniaeth Prifysgol Caerdydd am y gwaith yn 2007. (Bellach ’rwy’n aelod cysylltiedig o Uned Iaith, Polisi a Chynllunio, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd).Yr ymchwil hwnnw yw sail y gyfrol hon, y cyntaf o’i bath, fel yr esboniaf yn y bennod gyntaf. Diweddarais rai ffeithiau (megis sefydlu chwe ysgol Gymraeg yn 2007–8). Cadw at gyfnod yr astudiaeth, sef hyd at 2006, fydd y gyfrol drwyddi draw.

    Gobeithiaf y bydd y gyfrol yn apelio at ystod eang o bobl: cefnogwyr yr ‘achos’, rhieni, athrawon, academyddion, myfyrwyr, gwleidyddion a chynllunwyr. Cyfunais agweddau ieithyddol, cymdeithasol, seicolegol, gwleidyddol, addysgol a hanesyddol yn y gyfrol, gan ddadlau bod y dylanwadau ar dwf yr ysgolion yn amlhaenog a chymhleth. Anelais at osod twf yr ysgolion Cymraeg mewn cyd-destunau ymenyddol a damcaniaethol, a thanlinellu drwy hynny fod y sector yn perthyn i ddatblygiadau byd-eang o ran addysg ac iaith. Gobeithiaf nad yw’r dadansoddiad yn un mewnblyg, ond yn un a fydd yn ehangu gorwelion. Torri’r ffiniau felly rhwng disgyblaethau a charfanau o bobl yw un o’m bwriadau.

    Yn anad dim, gobeithiaf y bydd y gyfrol yn arwain at finiogi meddwl wrth i Gymru wynebu tonnau newydd o sialensau, ac ysbrydoli rhagor ohonom i ymaflyd yn yr ymgyrchu dros ein treftadaeth, ein plant, a’n dyfodol cenedlaethol mewn byd plwralistig a chyfnewidiol. Erbyn cyhoeddi’r gyfrol, bydd gennym strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg genedlaethol, a fydd, gobeithiaf, yn gynhaliaeth i ymgyrchu’r rhieni. Bydd y strategaeth yn gam hanesyddol ymlaen yn ein hanes cenedlaethol, ond yn y pen draw dyheadau’r rhieni fydd yn penderfynu cyfeiriad yr ysgolion Cymraeg.

    Huw Thomas

    Rhiwbeina, Caerdydd

    Cydnabyddiaeth

    Heb yr unigolion dirifedi a fu’n rhan o’r brwydro dros achos ysgolion Cymraeg de-ddwyrain Cymru, byddai bwlch enfawr yn hanes y genedl, a dal i edwino fyddai’r iaith. I’r miloedd o ddisgyblion, rhieni, athrawon, prifathrawon, staff gweinyddol, staff cynorthwyol, llywodraethwyr, swyddogion cyrff cyhoeddus (yn arbennig awdurdodau addysg lleol), cynghorwyr, gweision sifil, gwleidyddion, gweinidogion yr efengyl, athrawon Ysgol Sul, yr Urdd, gwirfoddolwyr a staff cyflogedig Mudiad Ysgolion Meithrin, caredigion yr iaith, y dorf anhysbys i raddau sylweddol, iddynt hwythau y mae fy nyled pennaf.

    Nid yw fy ngwerthfawrogiad o gefnogaeth nifer sylweddol o bobl adeg fy ymchwil fymryn yn llai o’r herwydd, a phleser yw cydnabod fy niolch didwyll i’r canlynol: prif swyddogion addysg (neu deitlau cyffelyb) cynghorau sirol y de-ddwyrain am roi caniatâd swyddogol imi ymchwilio yn eu hysgolion; y rhieni, yr athrawon a’r penaethiaid ysgol am lenwi holiaduron, a’r penaethiaid a’r dirprwyon a’r staff gweinyddol am eu croeso cynnes i’w hysgolion a’u trefniadau gofalus yn didoli’r holiaduron; Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, am gyfeillgarwch a chynhesrwydd yr aelwyd Gymreig yno; pennaeth yr ysgol, yr Athro Sioned Davies, am gefnogaeth gyson ac ymarferol, gan sicrhau cyllid ar gyfer llungopïo, postio a theithio, nid yn unig o amgylch ysgolion y de-ddwyrain, ond hefyd i gynhadledd yn Deba, Gwlad y Basg; Dr Diarmaid Mac Giolla Chríost, am fod yn diwtor cytbwys ac ysgogol a oedd bob amser yn barod i wrando ac i gyfnewid syniadau; yr Athrawon Emeritws Glyn Jones ac Iolo Wyn Williams am gynnig gwelliannau; ac, yn fwy na neb, goruchwyliwr fy ymchwil, yr Athro Colin Williams, am barchu cyn-athro o ddyddiau Rhydfelen, am agor fy meddwl i ryfeddodau academia, ac am gadw cydbwysedd rhwng awgrymu nifer o themâu macro ar y naill law ac, ar y llall, ganiatáu rhyddid imi ddatblygu’r ymchwil yn y meysydd a apelient fwyaf ataf. Gwnâi hyn mewn ffordd foneddigaidd, ddeheuig ac ysbrydoledig, nid heb dynnu coes o bryd i’w gilydd.

    Gwerthfawrogaf barodrwydd y gwasanaeth sifil i ddarparu tystiolaeth. Diolchaf i Fwrdd yr Iaith Gymraeg am gydweithrediad a chyngor, ac am gyd-drefnu â’r Cynulliad i mi fynd i Latfia yn rhan o ddirprwyaeth addysg; Susan Lewis, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, am fy nghyfeirio at ffynonellau data; swyddogion awdurdodau addysg lleol am ddarparu data ac adroddiadau yn brydlon; Gareth Pierce a staff Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru am ddarparu data niferoedd ymgeiswyr yn arholiadau’r bwrdd; a staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru a llyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd am wasanaeth serchus bob amser.

    Diolchaf i lu o ffrindiau a chydnabod am eu diddordeb cyson yn hynt a helynt yr ymchwil: y cyfweledigion am eu parodrwydd a’u diffuantrwydd yn ateb toreth o gwestiynau ac am ategu’r casgliadau a wnaed ar sail dadansoddi data sylweddol; Emyr Currie-Jones, Gwilym Humphreys a John Albert Evans am roi benthyg ffeiliau o ddeunyddiau priodol i’r ymchwil; Cliff Davies, Machynlleth, ac Arantza Mongelos a Dr Julia Barnes o Brifysgol Mondragon, Gwlad y Basg, am fy ngoleuo am gynlluniau iaith ac addysg y wlad honno; Geraint Talfan Davies, am ganiatâd i ddarllen trawsysgrif o un o raglenni ei dad ym mhapurau Aneirin Talfan Davies yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Dr Brid Quinn, Prifysgol Limerick, am ganiatâd i ddyfynnu o’i phapur ar densiynau rhwng llywodraethiant a democratiaeth.

    Bu cefnogaeth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn gymorth i gyhoeddi’r gyfrol, a braf cydnabod hynny. Mae fy nyled yn fawr hefyd i staff gweinyddol, golygyddol a thechnegol Gwasg Prifysgol Cymru am eu cyngor a’u trylwyredd.

    Diolchaf yn olaf i aelodau’r teulu am eu hanogaeth a’u diddordeb, eu cyngor a’u cymorth – i Guto a Lisa am ddarllen proflenni, Daniel a Dan am ddatrys problemau cyfrifiadurol, a Ruth am barhau llinach y teulu yng Nghaerdydd drwy roi genedigaeth i Harri Rhys; ac, yn fwy na neb, i Sian, fy ngwraig, am ddarllen proflenni, ond yn arbennig am ei hamynedd a’i gofal a’i chariad bob cam o’r daith.

    Byrfoddau

    Pennod 1

    Ysgolion Cymraeg De-ddwyrain Cymru: Trosolwg a Chyflwyniad

    RHAGYMADRODD

    Mae gan bob awdur ei gyfansoddiad genetig a’i fagwraeth, ei natur a’i bersonoliaeth, ei deimladau a’i ddaliadau, ei gredo a’i obeithion, ei ddiwylliant a’i hunaniaeth, ei famiaith a’i lais, ei brofiadau a’i addysg, ei wrthrychedd a’i oddrychedd, ei ddisgyblaeth a’i ragfarnau. Anorfod felly nad oes tueddiadau yn amlygu’u hunain mewn astudiaeth sy’n ymwneud yn bennaf â phenderfyniadau pobl, boed gan deuluoedd unigol neu lunwyr polisi, ar lefelau micro, meso neu facro. Priodol felly yw nodi rhai o fy mhenderfyniadau pan oeddwn yn fir ifanc, gan eu bod yn adlewyrchu ac yn cydnabod tueddiadau a gogwydd a fedrai effeithio ar wrthrychedd yr astudiaeth gyfredol.

    Dechreuodd f’ymrwymiad i’r iaith Gymraeg yr haf cyn mynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, i astudio’r Clasuron, pan gydnabum mai iaith siprys ar y naw a siaradwn, a bod beirniadaeth fy rhieni ar y fath iaith garbwl yn feirniadaeth deg. Penderfynais loywi fy iaith. Sylweddolais hefyd na fedrwn rannu ystafell ym Mhantycelyn â myfyriwr arall oni bai mai yn Gymraeg y byddai’r ddau ohonom yn cyfathrebu. Gwneuthum gais priodol i awdurdodau’r coleg, a chael f’ystafell fy hun. Ni sylweddolais fy mod, tan hynny, yn enghraifft berffaith o’r Cymry rhugl neu led rugl eu Cymraeg llafar a orfodwyd, chwedl Robert Owen Jones (1997, 350), i droi at eu hail iaith er mwyn ysgrifennu:

    Mae’r ffaith fod cenedlaethau o Gymry rhugl eu Cymraeg llafar wedi gorfod troi i’r Saesneg wrth newid cyfrwng yn gondemniad llym ar yr awdurdodau a fu’n hyrwyddo’r fath sefyllfa anghyfartal, ac yn fater cywilydd i siaradwyr yr iaith a dderbyniodd yn ddibrotest y fath sarnu ar eu hawliau cynradd.

    Wedi derbyn addysg prifysgol yn gyfan gwbl drwy’r Saesneg am bum mlynedd, ond â seminarau yn Gymraeg y flwyddyn ganlynol ar gyfer Diploma Addysg, penderfynais geisio am swydd athro Lladin yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, nid am ei bod yn ysgol Gymraeg, ond oherwydd ei lleoliad daearyddol, yn agos i Gaerdydd.

    Nid hunangofiant mo’r gyfrol gyfredol, ond cynhwysir yr hanesion personol am iddynt ddatgan tuedd a gogwydd, ac ymgorffori un o’r elfennau allweddol yn hanes twf addysg Gymraeg, sef ymrwymiad a dylanwad unigolion. Gan na chredwn fod gennyf feistrolaeth ar yr iaith, ni chynigiais am y swydd, ond newidiais fy meddwl bedair awr ar hugain cyn y dyddiad cau, am dri rheswm: sylweddoli arwyddocâd bod yr Athro Jac L. Williams a phennaeth Rhydfelen, Gwilym Humphreys, wedi trafod fy mhotensial fel darpar athro ifanc; gwerthfawrogi ymrwymiad ysgrifennydd y gyfadran addysg, Llew Hughes, a arhosodd yn ei swyddfa yn hwyr er mwyn f’annog i bostio cais sydyn; a chymryd cyngor doeth yr Athro W. H. Davies, Athro’r Clasuron, y bore canlynol, ‘Good gracious, a linguist who can’t perfect his mother tongue! What’s the matter with you?’

    Yn Rhydfelen rhwng 1966 a 1981, yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni wedyn tan 1995, ac yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf tan ymddeol yn 2003, magais brofiad dwfn o’r gyfundrefn addysg ac o’r ysgol Gymraeg. Er f’ymdrechion i ysgrifennu mor wrthrychol â phosib, neges yr apologia personol hwn yw bod tueddiadau a dylanwadau anorfod yn y gwaith.

    Wrth drafod hawliau ieithyddol a lleiafrifol, dywed May (2001, xiii), ‘All positions that are taken . . . – academic or otherwise – involve a moral dimension, reflecting the particular values and ideologies of their exponents.’ Cytunaf, yn arbennig gan na fedrai deugain mlynedd proffesiynol yn gweithredu dros y Gymraeg drwy addysg beidio â gadael ei ôl ar f’ysgrifennu. Mae dimensiwn moesol yn fwy na syniadau: mae’n golygu gweithredu. Gwelir y drol gysyniadol/academaidd wedi’i throi wyneb i waered fel petai: y safbwynt damcaniaethol yn dilyn y gweithredu. Ond rhaid hongian ymchwil empirig ar fframwaith damcaniaethol, fel y dywed May ar yr un dudalen:

    [A]ll research is value-laden and, as such, a researcher must begin from a theoretical position of some description, whether this is articulated or not in the ensuing study. Accordingly it is better to state one’s position at the start than to cloak it in the guise of apparent neutrality.

    Un o ddisgwyliadau cyfrol fel hon yw profi nifer o theses cyd-berthynol, a’r rheini yn amlygu prif ddamcaniaeth neu ddamcaniaethau. Nid yw hi’n dderbyniol nac yn bosibl i ymchwilio i bob agwedd ar y dylanwadau, ond ymdrinnir ag ystod o feysydd perthnasol er mwyn dangos pa mor gymhleth ac amlhaenog yw gwead datblygiad yr ysgolion Cymraeg. Y prif feysydd hyn yw cymdeithaseg iaith, cynllunio ieithyddol, strwythuroliaeth, disgresiwn, pfier, llywodraethiant, safonau addysgol ac, i raddau llai, hawliau lleiafrifoedd. Un ffordd o ddatod y gwead yw ystyried y strwythurau y bydd yr actorion yn gweithredu ynddynt. Mae tair haen o strwythurau, sef y macro, y meso a’r micro. Dadleuir yn y gyfrol mai haenau cyfnewidiol yw’r rhain, ac y dibynna’r diffiniad ar y cyd-destun.¹ Dirifedi yw’r actorion, ffaith sydd yn cymhlethu’r dadansoddi.

    Bwriad y gyfrol yw canolbwyntio felly ar y prif ddylanwadau ar dwf yr ysgolion Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru, gan ddadlau mai’r rhieni yw’r prif actorion. O dderbyn y cysyniad o brif actorion, mae’n dilyn fod yna actorion eraill. Cydadwaith rhwng yr holl actorion yw sylwedd y gwaith, gan ddefnyddio canlyniadau ymchwil empirig i ddangos tueddiadau ac i ddatblygu theses, neu i brofi neu wrthbrofi theses a damcaniaethau eraill. Dadleuir bod yr actorion yn fwy pwerus na’r strwythurau. Heb amheuaeth, y rhieni yw’r prif actorion, a’u hymateb nhw yn bennaf, ac yn gwbl fwriadol, a greodd linyn arian drwy’r gwaith, datblygu ffocws, ac osgoi farrago o agweddau wedi’u taflu i’r pair academaidd. Arwyddocâd ‘yn bennaf’ yw bod agweddau amgenach nag ymateb y rhieni yn dylanwadu ar dwf yr ysgolion Cymraeg.

    DIFFINIO YSGOLION CYMRAEG

    ²

    Yn syml, ysgolion meithrin, cynradd neu uwchradd â’r Gymraeg yn iaith swyddogol ac addysgu ynddynt yw ysgolion Cymraeg de-ddwyrain Cymru. Derbynnir disgyblion o wahanol gefndiroedd ieithyddol, ond â’r mwyafrif llethol o gartrefi di-Gymraeg. Ysgolion trochi ydynt. Yn yr ysgolion cynradd (60 ohonynt ym Medi 2008, gan gynnwys tair ysgol dwy ffrwd a dwy uned), cyflwynir Saesneg ar y cwricwlwm pan yw’r disgyblion yn saith mlwydd oed. Ysgolion cyfun 11–18 yw’r sector uwchradd. Addysgir pob pwnc, ac eithrio Saesneg, drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob un o’r deg ysgol (2008), ond â mân eithriadau prin. Mae’r holl ddisgyblion yn rhugl ddwyieithog.

    YSGOLION MEITHRIN

    Heb gyfraniad yr ysgolion meithrin ac, ers 1971 Mudiad Ysgolion Meithrin, tlawd iawn, mae’n debyg, fyddai twf addysg Gymraeg, gan mai yn yr ysgolion meithrin y cafodd mwyafrif disgyblion ysgolion Cymraeg de-ddwyrain Cymru eu magwraeth ieithyddol. ‘Allweddol’ yw gair Roberts yn disgrifio cyfraniad MYM i dwf yr ysgolion Cymraeg (2003, 129).

    Enfawr, felly, yw dyled yr ysgolion Cymraeg i’r feithrinfa allweddol hon yn hanes adfywiad yr iaith Gymraeg, ond nid ymdrinnir â’r dylanwad hwn yn y gyfrol hon, am dri phrif reswm:

    1 Croniclwyd hanes MYM (1971–96) yng nghyfrol ysbrydoledig Catrin Stevens (1996), ac anodd crynhoi’r neges yn well nag yn y broliant: yr ‘arweinwyr cenedlaethol a’r llu gwirfoddolwyr a swyddogion ar lawr gwlad, y mae cymaint o blant Cymru yn ddyledus i’w gweledigaeth a’u dyfalbarhad’ a chyfraniad ‘canolog Mudiad Ysgolion Meithrin at y frwydr barhaus i gynnig addysg feithrin ystyrlon i blant Cymru ac i osod seiliau cadarn ar gyfer dyfodol yr iaith Gymraeg i’r mileniwm nesaf.’

    2 Comisiynwyd SCYA gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg i werthuso rhai agweddau ar waith MYM (Gorffennaf 2006–Chwefror 2007). Cynhwysir adolygiad o’r llenyddiaeth berthnasol, ymchwil ansoddol a dadansoddiad o’r data yn yr adroddiad (SCYA, 2007).

    3 Anelir at gadw cydbwysedd yn y gyfrol rhwng ehangder a dyfnder, ac yn wyneb y ddau reswm blaenorol, penderfynwyd hepgor gwaith pellach ar gyfraniad allweddol yr ysgolion meithrin.

    Er hynny, priodol yw cyfeirio at dwf y cylchoedd meithrin, o’r 65 a fodolai yn 1971 (Stevens, 1996, broliant) i’r 645 (a hefyd 407 o gylchoedd Ti a Fi) erbyn 1995 (Stevens, 1996, 173). Bellach darperir addysg feithrin yn helaethach gan ysgolion cynradd y wladwriaeth, ond, fel y dywed Stevens (1996, 179): ‘Rhaid i’r momentwm a’r weledigaeth wreiddiol, ddi-ildio barhau, oherwydd nid yw’r gwaith wedi hanner ei orffen eto.’

    Disgrifir nesaf dwf yr ysgolion Cymraeg yn ardal ddaearyddol yr astudiaeth, sef awdurdodau unedol Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Sir Fynwy, Casnewydd a Chaerdydd.

    TWF YR YSGOLION CYMRAEG

    Ysgolion cynradd Tyderwen, Maesteg, Ynys-lwyd, Aberdâr, ac Ysgol Gymraeg Caerdydd oedd yr ysgolion Cymraeg cyntaf i’w sefydlu gan gynghorau lleol yn y de-ddwyrain, a hynny yn 1949. Erbyn 2006 ’roedd 49 o ysgolion Cymraeg cynradd, 5 uned gynradd a 9 ysgol uwchradd Gymraeg rhwng y deg awdurdod unedol. Ym Medi 2007 sefydlodd Cyngor Caerdydd bedair ysgol gynradd. Y flwyddyn ganlynol agorodd Caerffili a Chasnewydd un yr un, a sefydlwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ger Maesteg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Peny-bont ar Ogwr. ’Roedd y cynhaeaf yn un toreithiog, a’r gobeithion ar gyfer y dyfodol yn llawn addewid.

    Rhestrir yr holl ysgolion yn Nhabl YC1 yn yr atodiad ar ddiwedd y gyfrol. Ceir manylion y twf yn y gyfrol Gorau Arf (I. W. Williams (gol.), 2002). Dengys Tabl 1.1 isod y twf fesul dalgylch pob ysgol uwchradd, ac fe’u trefnir yn ôl dyddiad sefydlu’r ysgol gynradd. Mae patrwm y twf yn gymhleth, gan mai Rhydfelen oedd yr unig ysgol uwchradd Gymraeg ar gyfer y de-ddwyrain rhwng 1962 a 1974, pan agorwyd Llanhari. Gellid dadlau, er enghraifft, fod 45 disgybl Maesteg yn 1949 wedi tyfu i 1,091 erbyn 2006, neu fod 34 disgybl Caerdydd a’r Fro (19 Caerdydd yn 1949 a 15 Sant Ffransis yn 1952) wedi tyfu i 2,644.

    Cyfeiria’r Dr Sian Rhiannon Williams (2002, 120) at sefydlu ysgolion Cymraeg tua chanrif cyn Ysgol Lluest yn Aberystwyth (1939) neu Ysgol Dewi Sant Llanelli (1947), ‘[O]ne could argue that a school established in Llanwenarth, Monmouthshire, by the Abergavenny Cymreigyddion Society in 1837 was really the first.’³

    Byddai olrhain y twf fesul ysgol yn waith gwerthfawr, gan fod maint a chyflymdra’r twf dros gyfnodau gwahanol mewn ardaloedd gwahanol yn bur debygol o wahaniaethu, weithiau yn arwyddocaol iawn. Ar sail tystiolaeth fras, yr oedd yn debygol yr amlygai astudiaeth o’r fath ddylanwad elfennau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol, demograffig ac ymgyrchol ar y twf dros gyfnod a gofod. Oherwydd paramedrau’r astudiaeth, ystadegau cerrig-milltir a gyflwynir yn Nhabl 1.2 er mwyn dangos tueddiadau. Er mwyn gweld tueddiadau, cadwyd ardaloedd y tair sir cyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1995. Defnyddiwyd ystadegau’r Swyddfa Gymreig, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Gorau Arf, a thystiolaeth ysgolion neu awdurdodau addysg unigol er mwyn coladu’r data. Nodir i rai ysgolion megis Ysgol Bryntaf yng Nghaerdydd gau, ac esgor ar bedair ysgol newydd; trosglwyddwyd ysgolion i siroedd newydd wrth ad-drefnu llywodraeth leol, megis Gwaelod-y-Garth o Forgannwg Ganol i Gaerdydd, neu Ysgol Trelyn o Went i Gaerffili.

    Ers sefydlu’r tair ysgol gyntaf yn 1949, bu’r twf yn gyson ar draws y de-ddwyrain: erbyn diwedd y chwarter canrif 1950–75 ’roedd 28 o sefydliadau, a thros y chwarter canrif nesaf tyfodd y nifer i 60, a chyfanswm y disgyblion, yn 2007, i 21,989 (gweler Tabl YC2). Y ganrif hon sefydlwyd un ysgol bob blwyddyn, ar gyfartaledd, ac erbyn 2008 ’roedd 70 o sefydliadau cyfrwng Cymraeg, ysgolion bron pob un ohonynt.

    Bu twf yr ysgolion Cymraeg yn anwastad, o ran lleoliad ac amser, gyda Morgannwg Ganol yn arwain y ffordd tan 1985, a De Morgannwg a Gwent yn dilyn yn araf. Ond yn y chwarter canrif ers 1980 dyblodd nifer ysgolion Cymraeg Gwent, er bod y rhifau yn fychan. Dengys ardal ddaearyddol ‘De Morgannwg’ gynnydd o 7 ysgol rhwng 1990 a 2006, sef o leiaf un ysgol newydd bob tair blynedd. Yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg felly y bu’r twf mwyaf dros y deng mlynedd diwethaf. O ran nifer yr ysgolion, ymddengys i ardal yr hen Forgannwg Ganol gyrraedd gwastatir, gan mai un ysgol gynradd a agorwyd yno rhwng 1995 a 2006, sef Ysgol Bro Sannan yn Aberbargod, Caerffili.

    Ystyrir nesaf nifer y disgyblion. Yn Nhabl 1.3 mae’n debygol bod rhifau Gwent (1975) yn cynnwys disgyblion Prosiect Addysg Ddwyieithog y Cyngor Ysgolion, a thyfu, nid crebachu, yw felly gwir batrwm Gwent. Dros y cyfnod 1975–2005, cynnydd, ym mhob ardal a thros bob cyfnod, yw’r duedd gyffredinol, ond â gwahaniaethau amlwg. Er enghraifft, bu twf dramatig ym Morgannwg Ganol rhwng 1975 a 1990 o 104 y cant. Er y cynnydd mwy diweddar yn Ne Morgannwg o 46 y cant rhwng 1990 a 2005, nid yw’n cymharu â’r dyblu poblogaeth gynradd Gymraeg a ddigwyddodd yn y cymoedd.

    Mae rhwng 95 y cant a 100 y cant o’r disgyblion cynradd Cymraeg yn parhau eu haddysg yn yr ysgolion uwchradd Cymraeg, ac ni welir gwaedlif ieithyddol fel yn ne-orllewin Cymru. (Weithiau bydd tangyfrifo niferoedd sy’n trosglwyddo o’r cynradd pan fo clerc AALl heb ystyried y trosglwyddo traws-sirol.) Dangosir data niferoedd disgyblion uwchradd yn y sector Cymraeg rhwng 2000 a 2006 yn Nhabl T4. Yn y cyfnod hwn, De Morgannwg a welodd y twf mwyaf, 47.4 y cant o’i gymharu â 21.8 y cant ar gyfer y de-ddwyrain cyfan. Ym Morgannwg Ganol, disgynnodd niferoedd dwy ysgol uwchradd yn ystod y cyfnod, y naill o 944 i 910 a’r llall o 1,117 i 1,081 – adlewyrchiad o’r newid demograffig lleol – ond tyfu y bu hanes y tair ysgol arall: y gyntaf o 799 i 945, yr ail o 646 i 903 a’r drydedd o 916 i 1,140.

    Wrth ystyried y rhesymau am raddfeydd twf gwahanol dros amser a gofod, mae angen cofio i bobl Morgannwg Ganol frwydro’n llwyddiannus am hanner can mlynedd dros yr hawl i’w plant dderbyn addysg Gymraeg. Yn 2006, Rhondda Cynon Taf oedd â’r ganran uchaf o blant cynradd a addysgwyd yn y de-ddwyrain drwy gyfrwng y Gymraeg, sef 18.3 y cant; Caerffili oedd â’r ganran uchaf nesaf, sef 11.7 y cant. ’Roedd y ddwy ganran hyn yn is na’r ganran genedlaethol, sef 20.1 y cant (Tabl T6). Ai wedi blino y mae’r ymgyrchwyr, neu a yw’r awdurdodau addysg lleol yn llai cefnogol na chynt? Cofier i’r hen Forgannwg agor ysgolion â niferoedd bychain o blant ar eu llyfrau; ac ar hyn o bryd (Mawrth 2010) brwydro yw hanes pobl Cwm Cynon a’r ardal am ysgol Gymraeg newydd.

    Rhwydd chwilio am fwch dihangol mewn ymgyrch, ond ymddengys na fu’r iaith Gymraeg yn un o flaenoriaethau lled ddiweddar Cyngor Rhondda Cynon Taf. Cynigir fel tystiolaeth y diffyg gweledigaeth o ran yr iaith Gymraeg yn y cynllun addysg sengl (Rhondda Cynon Taf, 2006), a’r brwydro gan rieni ar gyfer addysg Gymraeg yn ardal Abercynon, arwydd o ddiffyg blaengynllunio. Yn yr adran ‘Delfryd a Gwerthoedd (Vision and Values)’ (2006, 6), dywed y cyngor ei bod yn bwysig ymateb i ‘a number of important overarching strategic leads.’ Themâu ‘The Learning Country’ sy’n bwysig, meddid, oherwydd, ‘Mae ei gwmpawd yn adlewyrchu ehanged ydy portffolio’r gweinidog sy’n cofleidio, mwy neu lai, popeth [sic] sy’n ymwneud â meysydd addysg a hyfforddiant.’ Ar goll y mae unrhyw gyfeiriad at ‘Iaith Pawb’.

    Eironi hyn yw absenoldeb ‘Iaith Pawb’ o gynllun cyngor lleol oedd o’r un lliw gwleidyddol â Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y pryd. Blwyddyn cyn iddo gyhoeddi Achub Ein Hiaith (2006a), amlinellodd aelod blaenllaw o’r gymuned, Ken Hopkins, ei weledigaeth i fforwm polisi yn y Rhondda, pan oedd 40 aelod o’r Blaid Lafur yn bresennol. ’Doedd neb yn gwrthwynebu syniadau cyn-gyfarwyddwr addysg Morgannwg Ganol. Meddai mewn cyfweliad (27 Mehefin 2006): ‘I’m on the right track . . . with the party activists in the Rhondda.’ Yn yr un cyfweliad dywedodd nad oedd ‘Iaith Pawb’ yn ddigon uchelgeisiol o ran targedau cynyddu nifer siaradwyr y Gymraeg. Eironi pellach yw bod y cyngor yn cyfeirio at bortffolio hollgynhwysol (bron) y Gweinidog Addysg, ond gan anwybyddu bod yr iaith yn rhan o bortffolio pob Gweinidog Llywodraeth y Cynulliad, yn ôl ‘Iaith Pawb’ (2003, 12), ‘Rhaid i bob un o Weinidogion y Cynulliad [sic] a’u swyddogion rannu’r cyfrifoldeb am ddyfodol y Gymraeg a chymryd perchnogaeth dros ganfod a mynd i’r afael â materion yn ymwneud â’r Gymraeg yn eu meysydd polisi.’ Hon yw’r unig frawddeg gydol ‘Iaith Pawb’ sydd mewn llythrennau trwm; teg felly casglu bod iddi arwyddocâd arbennig iawn.

    Erbyn 2008 bu gwelliant: ’roedd cynllun addysg Gymraeg (drafft) y cyngor (Rhondda Cynon Taf, 2008) yn cynnwys nifer o argymhellion cadarnhaol er mwyn ymateb i ofynion rhieni: defnyddio dulliau darogan niferoedd disgyblion, sefydlu grŵp cynllunio addysg Gymraeg sydd yn cynnwys rhieni, a mynd i’r afael â sialensau twf (yn y sector Cymraeg) a chrebachu (yn y sector Saesneg).

    Arwyddocâd arbennig ond gwahanol oedd i’r ymgyrch (aflwyddiannus) i gadw enw Rhydfelen, yn hytrach na mabwysiadau’r enw Garth Olwg. Mae i’r enw Rhydfelen arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol gan mai hi oedd yr ysgol uwchradd cyfrwng-Cymraeg gyntaf yn ne Cymru. Llwyddodd i greu rhagoriaeth addysgol a diwylliannol i’w hefelychu, ond datblygodd ysgolion yr ardal i fod yn eiddigeddus ohoni, gan ei gweld fel magwrfa cenedlaetholwyr. Medrwn ddadlau fod y cyngor presennol yn deall symboliaeth y gair Rhydfelen, a’i fod am ei ddileu o gof cenedl. Ar y llaw arall, medrwn faentumio mai ymgecru gwleidyddol diweledigaeth lleol fu’n gyfrifol am y newid enw.

    Boed hynny fel y bo, Morgannwg deimlodd y poen o weld yr iaith ar ei gwely angau, ac ymlyniad cryf rhai o’i thrigolion i’r iaith yn y 1950au a’r 1960au ddechreuodd y proses hir a llwyddiannus o wrthdroi’r shifft ieithyddol. Credai’r ymgyrchwyr, fel minnau, fod yr iaith yn rhan annatod o’n hunaniaeth Gymreig. Cefnogaeth cyngor Morgannwg i sefydlu ysgolion Cymraeg fu un o’r camau ymarferol pwysicaf i achub yr iaith, nid yn ne-ddwyrain y wlad yn unig, ond yng Nghymru benbaladr. Mae hanes Rhydfelen yn ganolog i lwyddiant ieithyddol, diwylliannol a gwleidyddol Cymru.

    Cyngor arall yn ardal yr hen Forgannwg Ganol yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Datgan y cyngor hwnnw yn ei gynllun addysg Gymraeg (Pen-y-bont ar Ogwr, 2006a, 6) fod y ddarpariaeth [Gymraeg] ‘yn gyson â dyheadau cenedlaethol a amlinellwyd yn Iaith Pawb‘. Wrth gwrs, mae’r gyfatebiaeth rhwng gweledigaeth polisi a deilliannau’r polisi yn gymhleth. Er enghraifft, mae cyfran y disgyblion cyfrwng Cymraeg wedi aros yn lled gyson ers 1990 (2006a, 11). Dim ond un o’r pedair ysgol Gymraeg sydd â mwy o ddisgyblion ar ei llyfrau yn 2005 o’i gymharu â 1996. Y cwymp cyffredinol yw o 1,138 i 1,044 (2006a, 81–2). Eto i gyd, agorwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ger Maesteg yn 2008. Trafodir goblygiadau hyn ym mhennod 5.

    Ni ellir deall datblygiad yr Ysgolion Cymraeg heb gyfeirio at esblygiad gwleidyddol Cymru. Er enghraifft, bu nifer o benderfyniadau gwleidyddol a chyfansoddiadol arwyddocaol, megis Papur Gwyn Llywodraeth y DU (1997), ‘Llais dros Gymru’, a amlinellodd ei chynigion ar gyfer datganoli yng Nghymru; refferendwm 1997; Deddf Llywodraeth Cymru 1998, a arweiniodd at sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru; Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 a throsglwyddo pwerau a chyfrifoldebau datganoledig Ysgrifennydd Gwladol Cymru i’r Cynulliad. Ers hynny, mae amryw Ddeddfau Seneddol wedi rhoi pwerau newydd i’r Cynulliad.

    Newidiodd tirwedd wleidyddol Cymru ymhellach wrth sefydlu comisiwn Richard, a gyhoeddodd ei adroddiad yn 2004. Ni fabwysiadwyd ei holl argymhellion. Ar 26 Gorffennaf 2006, derbyniodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 sêl bendith y Frenhines, gan greu cyfle, yn ôl Peter Hain, i ‘lunio polisïau wedi eu teilwra i anghenion pobl Cymru . . . ac am y tro cyntaf erioed . . . osod pwerau cynradd i Gymru ar y llyfr statud, yn barod i’w gweithredu pan fydd Cymru’n cefnogi newid felly mewn refferendwm’ (gwefan y BBC, 2006a).

    Yn ôl Adran 78 Deddf Llywodraeth Cymru 2006, Yr Iaith Gymraeg, rhaid i Weinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru fabwysiadu strategaeth sydd yn amlinellu sut y bwriedir hyrwyddo a hybu’r iaith (‘promote and faciliate the Welsh language’). Yn ogystal, bydd yn ofynnol cyhoeddi arfarniad blynyddol ar lwyddiant y strategaeth. Rhydd y newid cyfansoddiadol hwn fwy o rym a statws i Gymru, yn arbennig o ran ei hiaith a’i hunan-barch cenedlaethol. Ar y llaw arall, mae’n bosibl bod diffyg rhai pwerau cyfansoddiadol ar gyfer Cymru wedi gwanhau neu hyd yn oed ddileu agweddau ar gynigion drafft y strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg genedlaethol. Hynny yw, mae angen cefnogaeth cyfraith gwlad er mwyn gwireddu gweledigaeth. Ond nid y gyfraith fydd yn ein hachub, ond y modd y medrwn weithredu, yn gyfansoddiadol, ar sail ein gweledigaeth.

    Er yr angen i rymuso drwy gyfraith ein gallu i ddatblygu addysg Gymraeg yn genedlaethol, bu twf cyson a rhyfeddol yr ysgolion Cymraeg yn y de-ddwyrain o 3 yn 1949 i 63 yn 2006. Adlewyrcha hynny’r cynnydd cenedlaethol mewn addysg cyfrwng Cymraeg (o 17.8 y cant yn 1999 i 20.1 y cant yn 2006) (gweler Tabl T6). Anwastad dros amser a lleoliad bu’r cynnydd yn y de-ddwyrain, ac amrywiol bu cefnogaeth yr awdurdodau addysg. Beth felly a ysgrifennwyd am y twf hwn?

    GWEITHIAU ACADEMAIDD

    Gan nad yw prif ogwydd y gwaith cyfredol yn hanesyddol, penderfynwyd ddechrau’r arolwg hwn yng nghanol y 1980au: mae’r dyddiad yn cwmpasu cyfrol Baker, Aspects of Bilingualism in Wales (1985), ac ymchwil Lewis (1999) i dwf addysg ddwyieithog hyd at 1988.

    Disgrifiodd May (2001, 266) dwf addysg Gymraeg, yn arbennig yn y 1990au a dechrau’r mileniwm newydd, fel ‘nothing short of spectacular’. Cyfeiria at gefnogaeth gynyddol gan rieni Cymraeg a di-Gymraeg i addysg Gymraeg (ni ddefnyddia’r term ‘addysg ddwyieithog’), ac fe briodola’r gefnogaeth i lwyddiant addysgol y ‘mudiad.’ Wrth ‘movement’ golyga May yr ymgyrchu i achub yr iaith Gymraeg. Honna fod llawer o’r rhieni yn perthyn i’r dosbarth canol, ond ni chynigia dystiolaeth i gadarnhau’i honiad. Cyfeiria May at gyfrolau Colin Baker (1985), Lyon ac Ellis (1991), Packer a Campbell (1993), Colin Williams (1994) a Gareth Elwyn Jones (1997), cyfrolau a amlygant fwlch o ran ymchwil empirig i’r ysgolion Cymraeg.

    Agweddau ar ddwyieithrwydd yng Nghymru yw testun Baker, a noda yn gryno ddylanwadau ar dwf addysg ddwyieithog (1985, 63–4). Cyfeiria at sylwadau Rawkins (1979, 100), a danlinella bwysigrwydd polisi canolog. Ysgrifenna’r ddau am y cyfnod cyn y cwricwlwm cenedlaethol, ond deil sylwadau Rawkins yn berthnasol parthed darpariaeth: ‘By effectively leaving the initiative in the hands of the

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1