Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Johnny, Alpen a Fi
Johnny, Alpen a Fi
Johnny, Alpen a Fi
Ebook262 pages3 hours

Johnny, Alpen a Fi

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Owen's life is fine: as a television producer with an independent company in the capital, he has been milking the system for years, earning lots of money for only a little work. But things change when his wife leaves him... and he is sacked.
LanguageCymraeg
Release dateNov 1, 2020
ISBN9781845243838
Johnny, Alpen a Fi

Related to Johnny, Alpen a Fi

Related ebooks

Reviews for Johnny, Alpen a Fi

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Johnny, Alpen a Fi - Dafydd Llewelyn

    Johnny, Alpen a Fi

    Dafydd Llewelyn

    images_gwalch_tiff__copy_10.jpg

    Argraffiad cyntaf: 2020

     h   testun: Dafydd Llewelyn 2020

    Cedwir pob hawl.

    Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig, tâp magnetig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr, Gwasg Carreg Gwalch, 12 Iard yr Orsaf, Llanrwst, Dyffryn Conwy, Cymru LL26 0EH.

    ISBN elyfr: 9781845243838

    ISBN clawr meddal: 978-1-84527-782-6

    Cyhoeddwyd gyda chymorth Cyngor Llyfrau Cymru

    Cynllun clawr: Eleri Owen

    Darlun Clawr: Siôn Tomos Owen

    Cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, 12 Iard yr Orsaf, Llanrwst, Dyffryn Conwy, Cymru LL26 0EH.

    Ffôn: 01492 642031

    lle ar y we: www.carreg-gwalch.cymru

    I

    Marged, Sara a Lois

    Diolchiadau

    Diolch i bawb yng Ngwasg Carreg Gwalch, yn arbennig Nia am ei hamynedd a’i dawn i gyfri i gant yn lle rhegi arna i.

    Diolch i Siôn Tomos Owen am greu’r clawr trawiadol, ac i Geraint Løvgreen am y dyfyniad.

    Diolch i Sian a Sara am ddarllen y gwaith ac am eu sylwadau hael.

    Diolch i Branwen ac Elin am eu hanogaeth.

    Diolch i chi am brynu’r llyfr – os mai anrheg ydi’r llyfr yna mae’n brawf bod ganddoch ffrindiau / teulu â chwaeth. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau.

    We go out in the world and take our chances

    Fate is just the weight of circumstances

    That’s the way lady luck dances

    Roll the bones

    Why are we here?

    Because we’re here

    Roll the bones

    Why does it happen?

    Because it happens

    Roll the bones *

    Neil E. Peart (1952–2020)

    * ROLL THE BONES Geiriau a cherddoriaeth gan Neil Peart, Alex Lifeson a Geddy Lee © 1991 Core Music Publishing – Cedwir pob hawl – Anthem Entertainment

    Dyma stori a ddigwyddodd mewn pentre bach rywle yng Nghymru, a hynny yn yr unfed ganrif ar hugain. Does neb yn gwybod ymhle’n union, yr unig beth sy’n sicr yw bod y digwyddiadau canlynol yn wir a bod y cymeriadau yn rhai o gig a gwaed.

    Pennod 1

    Ffarwél a Ta-ta

    Ebychodd Owen cyn taflu’r papur gwyn sgleiniog i’r bin sbwriel ym mhen draw’r ystafell. Yn ddiamau, roedd y cyfan yn edrych yn broffesiynol, a’r diwyg yn hynod atyniadol. Dagrau’r sefyllfa oedd bod y syniad am gyfres deledu a gafwyd ar y tudalennau crand yn un stribyn hir o rwtsh a sothach, neu a defnyddio’r term technegol o fewn y diwydiant teledu, ‘cachu llwyr’. Dyma’r chweched braslun iddo’i ddarllen y bore hwnnw – pob un ohonynt yn ffitio disgrifiad y diwydiant yn berffaith – ond gan fod Cyfarfod Datblygu Syniadau Newydd Cwmni Teledu Drych yn dechrau o fewn deng munud, doedd gan Owen ddim amser i ddethol a didoli’r gweddill. Rhegodd yn dawel iddo’i hun wrth gerdded yn araf tuag at yr ystafell gynadledda foethus – pam goblyn na wnaeth o’r gwaith paratoi y noson cynt? Wrth gau’r drws pren tywyll trwm gweddïodd y byddai ffawd yn ei achub.

    ‘Bore da bawb! Gobitho’ch bo’ chi i gyd yn ol-reit, gobitho bo’ ’da ni lot o syniade cyffrous i’w trafod heddi. Owen, licet ti ddechre’r cyfarfod drwy sôn am y syniade yn dy bortffolio datblygu?’ Lowri oedd hon, Pennaeth Adran Ddatblygu Cwmni Drych.

    O blydi hel! Grêt!

    Llyncodd Owen ei boer yn galed gan edrych o’i gwmpas. Gwelodd fod ei gyd-weithwyr oll yn eu dillad enwau swanc a’u gwalltiau’n sgleinio’n drwm dan ddylanwad olew o dwll tin rhyw anifail egsotig (y must-have diweddaraf), a suddodd yn anghyfforddus i’w gadair gan sylwi ar dwll oedd wedi ymddangos yn ei siwmper ddu M&S. Ym mhen draw’r ystafell eisteddai Lowri’n gefnsyth yn ei chadair foethus. Gwisgai siwt biws ac roedd ei gwallt mawr wedi’i glymu i steil allai gael ei gymharu â phaun pigog. Roedd y ddau blanhigyn plastig, un bob ochr iddi, yn gwneud iddi edrych fel Cleopatra rhad. Arhosodd Owen am ychydig eiliadau yn y gobaith egwan y byddai’r gloch dân yn canu’n swnllyd, ond na. Yn anffodus, ni chlywyd yr un bing na bong, a syllodd saith pâr o lygaid yn ddisgwylgar arno.

    ‘Wel... dwi wedi bod yn cydweithio efo sawl awdur ar sawl syniad difyr iawn... yn ystod yr wsnosa diwetha ’ma...’

    ‘Gwd. Der mla’n ’te. Gwêd ’tho ni am rai ohonyn nhw.’

    ‘Mae o leia hanner dwsin o’r syniadau ’ma’n wirioneddol wych, ond...’

    ‘Ond?’

    ‘Wel, y peth ydi, mae ’na ambell awdur yn... yn eitha nyrfys am eu syniada... ac ar hyn o bryd, isio’u cadw nhw’n gyfrinachol.’

    ‘Cyfrinachol? Owen! Cyfarfod datblygu syniade ody hwn i fod. Os nag y’n nhw fo’lon trysto ni, ’sdim gobeth o’s e?’

    ‘Mi wn i. A dyna pam dwi ’di deud wrthyn nhw...’

    ‘Gareth, beth ’yt ti wedi bod yn gwitho arno fe?’

    Chafodd Owen ddim cyfle i orffen ei frawddeg, a dechreuodd Gareth draethu’n huawdl am y syniadau oedd yn pefrio o bair ei awduron talentog. Hanner awr yn ddiweddarach roedd Gareth yn dal yn hwyl ei fonolog ac Owen yn ceisio dychmygu sut i dagu Cleopatra efo dail plastig.

      Bu’r cyfarfod hwnnw’n chwarae ar feddwl Owen am ddyddiau wedyn, yn enwedig pan gyhoeddodd Cwmni Drych fod y cyfryngau yng Nghymru’n wynebu cyfnod go llwm a thywyll – fel cynifer o ddiwydiannau eraill yn y Gymru fodern. O ganlyniad, byddai’n rhaid iddynt wynebu realiti a gwneud toriadau. Ymhen hir a hwyr, daeth e-bost i’r holl staff yn eu hysbysu am gyfarfod swyddogol a phwysig yn y cantîn y diwrnod canlynol i drafod y toriadau bondigrybwyll hyn.

    Ar y bore tyngedfennol, roedd Owen yn taflu ambell fflêc o fwyd ar wyneb dŵr tanc Alpen y pysgodyn aur a llenwi powlen fwyd Johnny y ci cyn mynd i’w waith.

    ‘Gwnewch y mwya o’r bwyd ’ma lats bach, achos mae ’na rwbath yn deud wrtha i na fydd yr un o’r tri ohonan ni’n boddi mewn siampên a chafiar erbyn heno. Rŵan, bihafiwch eich hunain, a wela i chi’n nes ymlaen.’

    Ac yn wir, yn union fel sawl proffwyd o’i flaen, profwyd Owen yn hollol gywir: fe gafodd y sac. Ond er mwyn rhoi gwedd barchus ar y cyfan ac osgoi unrhyw botensial am ddrwgdeimlad neu sgandal, penderfynwyd rhoi ychydig o urddas a pharchusrwydd i’r sefyllfa. Ni ddefnyddiwyd y gair ‘sac’ unwaith, a bu penaethiaid Cwmni Drych yn hynod daer i bwysleisio nad mater hawdd oedd gwneud penderfyniad o’r fath, a’i bod hi’n loes calon ganddynt weld rhywun mor hynod alluog a thalentog ag Owen yn gadael y cwmni. Gwysiwyd ef i swyddfa Lowri’r pnawn hwnnw.

    ‘Wy moyn i ti wbod bo’ fi ’di treial neud popeth i dy gadw di.’

    ‘Diolch.’

    ‘A wy’n mynd i weld dy ishe yn ofnadw.’

    ‘Diolch.’

    ‘’Sdim syniad ’da ti pwy mor anodd ma’ hyn i fi.’

    ‘Dwi’n siŵr.’

    ‘A ti’n mynd i fod yn hollol fine achos ma’ ’da ti dalent, Owen. Talent mowr ’fyd. Wy wedi gweud ’nna ers day one a wy’n gwbod bo’ fi’n reit.’

    ‘Diolch.’

    ‘Dyma’r catalyst sy ishe arnot ti i neud dy farc. Nid yn unig ’ma yng Nghymru ond yn international ’fyd. Wy’n gweud ’tho ti, ’ma dy gyfle mowr a ti’n mynd i fod yn big news.’

    Aeth Lowri mor bell â dweud ei bod hi’n ei hystyried yn ddyletswydd arni i’w ryddhau o’i hualau dyddiol yn y gwaith, er mwyn ei alluogi i wneud camau breision yn y byd teledu a thu hwnt. Yn ddi-os, pledwyd Owen â llu o ddisgrifiadau canmoliaethus, cymaint felly nes iddo deimlo am funud ei fod wedi marw, ac mai’r hyn roedd yn ei glywed oedd teyrnged iddo yn ei angladd ei hun. Fodd bynnag, wrth gerdded ar hyd y coridor yn ôl at ei ddesg, buan iawn y daeth i sylweddoli ei fod yn parhau i fod yn fyw ac yn iach – yn ddi-waith, efallai, ond yn fyw ac yn iach serch hynny.

    Wrth ddechrau clirio’i ddesg a rhoi’i bethau mewn bocs meddyliodd am y naw mlynedd a dreuliodd gyda’r cwmni. Ystyrir y cyfryngau gan lawer yn ddiwydiant llawn pobl myfïol a hunanbwysig, ond camargraff ydi hynny. Doedd y swyddfa hon yn ddim gwahanol i unrhyw swyddfa arall mewn unrhyw faes arall: roedd rhai pobl yno’n annwyl, cydwybodol, talentog a gweithgar ac roedd ’na bobl eraill nad oedd cweit mor annwyl, cydwybodol, talentog a gweithgar. Yn ei galon gwyddai mai i’r ail gategori roedd o’i hun yn perthyn, a’i bod yn dipyn o wyrth ei fod wedi para yno cyhyd.

      Yn unol â’r drefn lawn embaras arferol, bu’n rhaid i Owen esgus nad oedd wedi clywed ei gyd-weithwyr yn trefnu ei barti ffarwél – parti nad oedd neb mewn gwirionedd eisiau ei drefnu na’i fynychu, ond er mwyn cadw wyneb a chynnal rhagrith y cwmni, rhaid oedd chwarae’r gêm. Pan gerddodd mewn i ystafell gefn yr adeilad, llwyddodd i roi perfformiad a haeddai Oscar wrth weld yr holl griw yn gweiddi ‘hip-hip-hwrê’. Roedd balŵns a’r addurniadau oedd yn cael eu llusgo allan ar gyfer y Nadolig a phob achlysur hwyliog arall yn hongian yn flêr hyd y lle. Bendith oedd sŵn byddarol y disgo, gan ei bod bron yn amhosib iddo glywed ei gyd-weithwyr yn sôn am ddigwyddiadau doniol neu droeon trwstan nad oedd yn eu cofio – yn wir, roedd yn amau’n gryf fod eu tri-chwarter yn gwbl ddychmygol.

    ‘Hei, ti’n cofio ni’n ffilmio yng nghanol y goedwig ’na yn y canolbarth... roedd hi’n stido bwrw a chditha’n llithro ar dy din?’

    ‘Nac’dw.’

    ‘Oeddat ti’n fwd o dy gorun i dy draed, ac yn rhegi fel trŵpar.’

    ‘O’n i?’

    ‘A ti’n cofio ni’n ffilmio yn y tŷ ’na yn Sgotland oedd yn llawn chwain a chwd ci?’

    ‘Nac’dw.’

    ‘Ew, dyna oedd dyddia da.’ Saib anghyfforddus. ‘Pwy sy’n canu’r gân ’ma?’

    ‘Dwn i’m.’

    ‘Tydi hi’n uffernol? Dyn ’ta dynas sy’n canu?’

    ‘Dwn i’m.’

    ‘Dwi’n mynd i’r lle chwech. Ti’n gwbod be, fydda i’n gweld dy isio di lot fawr.’

    ‘Diolch.’

    ‘Do’n i ’rioed yn licio chdi ryw lawer, ond o leia roeddat ti’n gwneud i mi edrych yn dda ac yn effeithiol yn fy job i.’

    ‘Reit. Diolch.’

    Doedd Owen erioed wedi bod yn dda iawn mewn sefyllfaoedd cymdeithasol o’r fath. Yn wir, roedd rhywbeth eitha eironig am y ffaith ei fod wedi dilyn gyrfa yn y cyfryngau ac yntau’n gwbl analluog i gynnal sgwrs synhwyrol efo unrhyw un am ragor na chydig funudau. Am flynyddoedd credai mai swil oedd o, ond wrth syllu ar ei gyn-gyd-weithwyr meddw yn mwrdro caneuon Bryn Fôn sylweddolodd nad oedd hynny’n wir. Yn hytrach roedd yn fod hynod anghymdeithasol, ac yn hollol ddiamynedd efo pobl.

      Yn ystod y parti cafwyd ambell araith boenus o nawddoglyd ynghyd ag ambell gusan – rhai’n fwy nwydus na’i gilydd – ac wedi dwy awr a hanner o artaith pur cerddodd Owen i gyfeiriad y drws gyda photel o Cava hanner gwag yn un llaw a thair balŵn gyda’r geiriau ‘Ffyc’ ‘Off’ a ‘Twat’ wedi’u sgwennu arnynt mewn ffelt pen yn y llall. Roedd hefyd yn cario’i anrheg ffarwelio hynod wreiddiol: y cês lledr-plastig croen camel mwya afiach y gallai rhywun fod wedi ei ddewis. Trodd yn ôl i edrych ar y swyddfa am y tro olaf, a llifodd yr atgofion yn ôl. Gwenodd. Diolch i Dduw fod hynna drosodd, meddyliodd.

    Pennod 2

    Adra efo Johnny ac Alpen

    Am y tridiau cyntaf roedd pethau’n hyfryd o hamddenol. Cysgai Owen tan hanner awr wedi deg bob bore cyn agor drws cefn y tŷ er mwyn i Johnny gael ymestyn ei goesau a gwagio’i system. Wedyn, bwydai Alpen y pysgodyn aur ac wedyn... wel, doedd dim llawer mwy i’w wneud. Penderfynodd weld sut oedd y gwynt yn chwythu.

    ‘Gary, sut wyt ti ers oes pys? Meddwl ’sa’n syniad i ni ga’l peint a dal fyny...’

    ‘Dwi yn Llundain yn gweithio efo dau o execs Netflix.’

    ‘Dew, da. Be ’di’r syniad?’

    ‘Cyfres ddrama am gyrff mewn mortuary.’

    ‘Ew. Gwahanol.’

    ‘Ydi, fydd o’n hollol amazing. Yli, dwi ar fin mynd ar yr underground. Ffonia i chdi pan fydda i yng Nghaerdydd nesa.’

    ‘Ia. Cofia neud. Edrych ’mlaen.’

    ‘Haia Alys, ryw feddwl ’i bod hi’n bryd i ni roi’r byd yn ei le, a...’

    ‘Wy yn Sbyty Singleton, ar fin ffilmio dynes sy’n dishgw’l quads yn mynd i labour.’

    ‘Reit, wel, ’falla nad rŵan ydi’r amsar gora i ni ga’l peint ’ta. Pob lwc...’

    ‘Wy ddim angen lwc – fydd o’n brilliant.’

    ‘The number that you have dialled has not been recognised...’

    ‘The number that you have dialled...’

    Wedi iddo roi’r ffôn yn ôl yn ei grud penderfynodd droi’r radio ymlaen i dorri ar y tawelwch. Roedd Mrs Davies o Walchmai’n tantro ynglŷn â’r ffaith fod perchnogion caffi mewn canolfan arddio leol wedi cynyddu’u prisiau a bod cacennau cri bellach yn bunt a naw deg ceiniog yr un yno. Diffoddodd y set a chyfri i ddeg. Cydiodd yn y bys hir a rhoi’r teledu ymlaen, gan wylio anturiaethau cwpwl o Surrey oedd â’u bryd ar brynu ‘a quaint little place’ yn Sir Benfro. Ochneidiodd yn dawel gan fwmian iddo’i hun fod y cyfryngau wedi mynd yn sobor o ddiflas a bod y diwydiant ar ei liniau. Oedd, yn ddi-os, roedd yn hynod ffodus ei fod wedi ffoi rhag y cyfan.

    Er bod y tywydd yn ddigon llwydaidd ac oer, penderfynodd Owen y byddai mynd â Johnny am dro hir yn llesol i’r ddau ohonyn nhw, ond ysywaeth, doedd y ci teirblwydd oed ddim o’r un farn. Dywed y ddihareb Saesneg mai ci yw cyfaill pennaf dyn, ond ni welodd awdur y dadansoddiad treiddgar hwnnw Johnny ar ddiwrnod glawog – yn wir, roedd yn gwbl anfodlon ei fyd, a byddai Owen wedi’i chael hi’n haws rhoi’r tennyn ar Alpen y pysgodyn aur nag ar yr Yorkshire terrier styfnig.

    ‘Johnny! Ty’d ’laen... paid â bod fel hyn. Wyddost ti faint o gŵn sy’n marw’n gynnar oherwydd eu bod nhw’n ista yn eu basgedi yn gwylio Pnawn Da? Yli, tydi syllu fel’na ar Angharad Mair am oria yn gneud dim lles i neb. ’Mond hanner awr fyddwn ni, a gei di lenwi dy fol wedyn a gwylio’r teledu am weddill y dydd. O, Johnny, plis!’

    Ni fyddai Owen wedi dewis ci o’r fath o’i wirfodd, ond dyna oedd hoff frid Sophie, ei gyn-wraig. Ddwy flynedd yn ôl a hithau’n Nadolig, roedd Owen yn ôl ei arfer wedi gadael popeth tan y funud ola. Ymdebygai i Usain Bolt tew wrth wibio o’r naill siop i’r llall yn chwilio am anrheg iddi. A’r cloc yn agosáu at bump o’r gloch, a phawb synhwyrol a chall yn dechrau meddwl am bartïo a gadael mins pei i Siôn Corn, gwelodd Owen arwydd yn un o siopau’r ddinas yn hysbysebu cŵn bach ar werth. Wrth gwrs, gwyddai’r perchennog pa mor hwyr yn y dydd oedd hi ar Owen yn galw, a defnyddiodd hyn i’w fantais, gan godi crocbris am yr anifail. Anghofiodd Owen am y ffortiwn a dalodd wrth weld Sophie’n neidio i fyny ac i lawr fore trannoeth.

    ‘OMB, mae o’n gorjys!’

    ‘Ti’n licio fo?’

    ‘Licio fo? Mae o’n lyfli. Sbia’i wyneb clws o. A’r breichia del ’na.’

    ‘Ym, pawennau ma’ pobl yn dueddol o’u galw nhw...’

    ‘Dwi’n gwybod hynny siŵr. Mae o mor ciwt.’

    ‘Debyg i fi?’

    ‘’Swn i’m yn mynd mor bell â hynna.’

    ‘O, diolch. Do’n i’m yn siŵr iawn be i’w ga’l i ti...’

    ‘Fysat ti ddim ’di gallu ca’l anrheg gwell i mi. Pryd gest ti o?’

    ‘Wel, dwi wedi bod yn chwilio am un i ti ers tua canol mis Medi, os nad cynt...’

    ‘Mae o’n berffaith.’

    Mynnodd Sophie mai hwn oedd yr anrheg Nadolig gorau iddi ei gael erioed, a chyda balchder bedyddiodd y ci yn Sioni am y rheswm syml mai anrheg gan ‘Siôn Corn’ oedd o. Doedd dychymyg ddim yn un o gryfderau mawr Sophie, ac o leia roedd o’n well na’r enw a gynigiodd hi’n wreiddiol: Corni. Teimlai Sophie ychydig yn anniddig fod ei hanrheg hi o sanau a chrys gwyn ychydig yn anghymharus â Sioni, ac er nad oedd Owen yn berson dichellgar, yn dawel fach gobeithiai y byddai diffyg safon yr anrhegion yn golygu y câi fwy o fwythau a rhyw am yr wythnosau dilynol.

    Yn anffodus iddo fo, ofer fu’r gobeithion hynny. I’r gwrthwyneb: bu dyfodiad Sioni’n gyfrifol am oeri’r nwyd rhyngddynt ymhellach, gan iddo orfod rhannu’i wely efo Sophie a’i chi newydd drwy weddill cyfnod yr Ŵyl. Nid ystyriai Owen ei hun yn berson rhy fentrus o safbwynt ei fywyd rhywiol, ond yn sicr nid dyma oedd y darlun yn ei ddychymyg o dri mewn gwely, ac o ganlyniad treuliodd sawl noson ar y soffa’n breuddwydio am gysgu gyda’i wraig heb gael cynffon flewog i fyny’i drwyn. A dyna pryd y cafodd yr Yorkshire terrier ei ailfedyddio gan Owen yn Johnny, gan fod y ci yn well ac yn llawer mwy effeithiol nag unrhyw gondom. Doedd yr enw ddim wrth fodd Sophie, gan ei bod yn ei ystyried yn gomon, a pharhaodd hi i’w alw’n Sioni. Golygai hyn fod y terrier druan yn cael ei ddrysu’n llwyr wrth iddo gael ei alw’n Sioni gan ei feistres ac yn Johnny gan ei feistr, a hynny’n aml o fewn yr un frawddeg. Wrth ei gofrestru gyda’r milfeddyg lleol penderfynwyd mai Sioni Johnny fyddai ei enw llawn, ond roedd Owen yn benderfynol o ddal i’w alw’n Johnny.

    Ar ddamwain y cyfarfu Sophie ac Owen am y tro cyntaf – ar ôl diwrnod hir o olygu piciodd i’r garej i nôl torth a thun bîns ar gyfer ei swper cyn sylweddoli ei fod wedi gadael ei waled yn y swyddfa. Er iddo ymddiheuro’n llaes i’r ferch y tu ôl i’r cownter yn y gobaith y dangosai ychydig o ras a charedigrwydd tuag ato, gwrthododd ildio modfedd ac roedd Owen ar fin gadael y garej yn waglaw a llwglyd pan gymerodd Sophie drugaredd arno a thalu am ei fwyd wrth iddi dalu am ei phetrol. O’r eiliad honno roedd Owen wedi gwirioni’n bot ar Ddirprwy Ymgynghorydd Economaidd benfelen y Cynulliad, a oedd yn hanu’n wreiddiol o Wrecsam, ac ar ôl diolch yn llaes iddi am ei haelioni mynnodd dalu’r gymwynas yn ôl drwy fynd â hi am bryd o fwyd ymhen yr wythnos.

    Wyth mis yn ddiweddarach roedd eu perthynas yn mynd o nerth i nerth, er eu bod nhw’n hollol wahanol ym mhob agwedd o fywyd. Cyn iddynt gyfarfod, Pot Noodle a phecyn o greision oedd diffiniad Owen o fwyta’n iach, a chymerodd sbel go hir i Sophie fedru newid ei chwaeth.

    ‘Quinoa.’

    ‘Be?’

    ‘Quinoa.’

    ‘Mae’n edrych fel dandryff.’

    ‘Mae o’n dda i ti, ac yn llawn maeth.’

    ‘Ti’n meindio taswn i’n cael oven chips efo fo?’

    ‘Owen!’

    ‘Jôc!’

    ‘Pam na gymri di ’bach o couscous a kidney beans efo fo?’

    ‘Ym... ia, pam lai? Reit. Tsiampion!’

    Er gwaetha’r gwahaniaeth yn eu chwaeth bwyd bu’r cyfnod cynnar yn hapus iawn, ac roedd y ffaith fod Sophie yn gweithio mewn maes hollol wahanol yn fendith i Owen; ond weithiau teimlai ei bod hi’n ystyried bod ei waith ychydig yn israddol. Flwyddyn union i’r diwrnod y bu iddynt gyfarfod am y tro cyntaf meddyliodd Owen am esgus tila i’r ddau ddychwelyd i’r garej, ac yno y penliniodd i ofyn i Sophie ei briodi. Er nad hwnnw oedd y lleoliad mwya rhamantus, cytunodd Sophie’n eiddgar a chafodd y ddau gyflenwad petrol am ddim am chwe mis gan BP gan ei fod yn PR gwych i’r cwmni.

    Priodas fechan yn Sain Ffagan oedd dymuniad Sophie, ac roedd hynny’n siwtio Owen i’r dim, er bod ei fam ychydig yn siomedig nad estynnwyd gwahoddiad i Anti Lydia ac Yncl Gwyn, Mallwyd. Bedair blynedd yn ddiweddarach roedd Owen yn eistedd wrth y bwrdd yn yr ystafell fyw yn syllu ar ei liniadur a Sophie’n eistedd ar y soffa’n gwylio’i dogn wythnosol o Coronation Street. Wrth i’r gerddoriaeth ddynodi diwedd pennod arall yn hanes trigolion Weatherfield trodd Sophie at ei gŵr.

    ‘Tydi hyn ddim yn gweithio.’

    ‘Tria roi batris newydd yn y rimôt ’ta.’

    ‘Na, dwi’n golygu ni – ti a fi.’

    ‘Be?’

    ‘Dwi’n meddwl ’sa’n well i ni wahanu.’

    ‘Ond...’

    ‘Na, dwi o ddifri. ’Sa’n gwneud mwy o sens i... i bawb.’

    ‘Callia!’

    ‘A’ i â Sioni efo fi.’

    ‘Tydi Johnny’n mynd i nunlla.’

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1