Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd
Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd
Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd
Ebook317 pages5 hours

Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A selection of farm and house names from the Arfon, Llŷn and Eifonydd area. The volume also refers to some field names or geographical features and includes many stories and ancient traditions which are entwined with some of these places and names.
LanguageCymraeg
Release dateMar 14, 2021
ISBN9781913996222
Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd

Read more from Glenda Carr

Related to Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd

Related ebooks

Reviews for Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd - Glenda Carr

    llun clawr

    Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd

    Glenda Carr

    Gwasg y Bwthyn

    ⓗ Glenda Carr 2011

    Gwasg y Bwthyn

    ISBN 978-1-913996-22-2

    Cedwir pob hawl.

    Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig, tâp magnetig mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr.

    Cyhoeddwyd gyda chymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru.

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd gan:

    Gwasg y Bwthyn, Caernarfon

    gwasgybwthyn@btconnect.com

    01286 672018

    Troswyd i e-lyfr gan Almon

    Mapiau

    Map ArfonMap LlŷnMap EifionyddMap Plwyfi Arfon, llŷn ac Eifionydd

    I Tony

    i ddiolch am ei gefnogaeth a’i gariad drwy’r blynyddoedd

    Diolchiadau

    Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r Athro Hywel Wyn Owen am ei gyfarwyddyd a’i gyngor gwerthfawr pan oeddwn yn gweithio ar fy nhraethawd Ph.D. Bu mor garedig hefyd â darllen drwy deipysgrif y gyfrol hon a chefais sawl awgrym buddiol ganddo.

    Cyn i Archif Melville Richards fynd ar-lein bu’r Ganolfan Ymchwil Enwau Lleoedd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, yn gloddfa werthfawr iawn imi, ac yno y gwnaethpwyd llawer o’r gwaith rhagbaratoawl. Diolch yn arbennig i Mr Einion Thomas a staff yr Adran Archifau ym Mhrifysgol Bangor am eu cymorth cyfeillgar, ac am dynnu fy sylw at gyfoeth yr adnoddau sydd yng nghasgliadau llawysgrifau’r adran honno. Diolch hefyd i staff Gwasanaeth Archifau Gwynedd yng Nghaernarfon ac i staff Adran y Llawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth am bob cymorth yn ystod y gwaith ymchwil.

    Lluniwyd y mapiau gan staff Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ac rwyf yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cymorth a’u gwaith cymen.

    Diolch o galon i Geraint Lloyd Owen a staff Gwasg y Bwthyn am ddod â’r gyfrol hon i olau dydd mewn ffordd mor ddeheuig a hynaws.

    Mae fy nyled fwyaf i’m gŵr, Tony, am ei ddiddordeb, am ei sylwadau gwerthfawr, ac am fod yn gydymaith mor ddifyr ac amyneddgar wrth inni grwydro hyd lonydd Arfon, Llŷn ac Eifionydd.

    Rhagair

    Yn y gyfrol hon ceir detholiad o enwau lleoedd o Arfon, Llŷn ac Eifionydd yn bennaf. Enwau tai a ffermydd yw’r mwyafrif llethol ond mae yma ambell gae neu nodwedd ddaearyddol yn eu plith. Nid wyf am ymddiheuro am gynnwys mwy o enghreifftiau o enwau o blwyfi Llanbeblig, Llandwrog, Llanfaglan, Llanrug a Llanwnda nag unman arall. Y rheswm dros hyn yw mai astudiaeth o enwau anheddau a chaeau’r plwyfi arbennig hyn oedd sail fy nhraethawd Ph.D., felly yr oedd gennyf fwynglawdd parod i gloddio ynddo. Nid wyf am ymddiheuro chwaith am ailadrodd rhai pwyntiau dan fwy nag un enw, gan nad llyfr i’w ddarllen o glawr i glawr yw’r math hwn o lyfr ond un i bori ynddo yn ôl y ffansi. Er fy mod wedi canolbwyntio yn bennaf ar Arfon, Llŷn ac Eifionydd gobeithio na wêl unrhyw un sydd yn ymddiddori mewn enwau lleoedd fai arnaf am grwydro ymhellach ambell dro i ardaloedd eraill, yn arbennig i Ynys Môn a hyd yn oed i Loegr, ar ôl rhyw damaid blasus.

    At bwy yr anelwyd y gyfrol hon? Gobeithio yn wir y bydd o ddiddordeb i unrhyw un sydd yn ymhél ag enwau lleoedd a thraddodiadau llafar gwlad yn gyffredinol. Fodd bynnag, fe welir er nad oes yma droednodiadau nac olnodiadau fy mod yn cyfeirio at gasgliadau o lawysgrifau ac at lyfrau wrth fynd ymlaen. Gwneuthum hyn ar gyfer y sawl sydd yn awyddus i wybod am y ffynonellau, ond hyderaf na fydd y cyfeiriadau hyn yn tarfu ar rediad y llyfr i’r darllenydd cyffredin.

    Cyfeiriaf at un ffynhonnell nas gwelir fel rheol wrth drafod enwau lleoedd, sef Cyfeiriadur y Côd Post, gan y tybiaf fod y ffurfiau ynddo yn adlewyrchu canfyddiad y cyhoedd o ffurf bresennol enwau’r anheddau. Mae Bwrdd yr Iaith eisoes wedi llunio canllawiau ar gyfer safoni sillafu enwau lleoedd, ond nid yw hyn yn cynnwys enwau tai. Mae’r rheswm yn amlwg: mae enw tŷ mor bersonol ag enw unigolyn. Gan bwy mae’r hawl i bennu beth yw’r ffurf safonol? Mae’n debyg na fyddai’r mwyafrif ohonom yn trafferthu cynnwys cysylltnodau yn enwau ein tai. Felly, yma yr wyf wedi dilyn yr egwyddor o gorau po symlaf, ac eithrio mewn achosion lle mae’r sillafiad a arddelir yn gyffredin yn hysbys. Mae rhai o’r enwau a drafodir wedi hen ddiflannu ond dyma gyfle i’w hachub o ebargofiant.

    Wrth sôn am ffynonellau mae’n rhaid talu teyrnged i waith aruthrol y diweddar Athro Melville Richards. Ni waeth beth y trown ato mae ef fel rheol wedi bod yno o’n blaenau, ac mae dyled pawb a fu’n gweithio ym maes enwau lleoedd yn ail hanner yr ugeinfed ganrif ac ers hynny yn ddifesur iddo. Mae’r casgliad gwreiddiol anferthol o enwau lleoedd sydd yn llunio ei archif wedi ei gadw mewn dros dri chan mil o slipiau llawysgrif yn Adran Archifau Prifysgol Bangor. Bu’n rhaid i mi weithio drwy’r slipiau hyn pan oeddwn yn paratoi fy nhraethawd. Bellach maent wedi eu rhoi ar lein ar bangor.ac.uk/amr. Mae cael yr archif ar lein yn gymwynas enfawr i’r sawl sydd yn ymddiddori yn y maes gan ei fod yn adnodd hygyrch i hwyluso darganfod enghreifftiau eraill o’r un elfen. Gyda’r enwau caeau o Loegr, mae fy nyled yn fawr i John Field a’i gyfrolau gwerthfawr a difyr A History of English Field Names ac English Field Names: A Dictionary.

    Wrth lunio rhagair i’r gyfrol hon credais na allaswn wella ar yr hyn a ddywedodd Syr Ifor Williams yn ei ragair ef i’w gyfrol fach werthfawr Enwau Lleoedd. ‘Rhybudd’ oedd teitl ei ragarweiniad ef; rhybudd i beidio â chymryd dim byd yn ganiataol wrth drafod enwau lleoedd. Yn wir, aeth Syr Ifor mor bell â dyfynnu geiriau Syr John Morris-Jones: ’Fydd ’na neb ond ffyliaid yn treio esbonio enwau lleoedd! Mae’n hawdd gweld pam y dywedodd hyn, gan fod hwn yn faes sydd yn llawn o faglau i’r cyfarwydd a’r anghyfarwydd fel ei gilydd. Dangosodd Syr Ifor sut y bu iddo ef ei hun, er gwaethaf ei ysgolheictod, grwydro i’r gors fwy nag unwaith. Mae’n faes anodd hefyd oherwydd fod ynddo gynifer o ‘arbenigwyr’. Dyma’r bobl fydd yn taeru’n daer â chi eich bod yn cyfeiliorni ynglŷn ag ystyr ambell enw am eich bod yn gwrthddweud yr hyn a ddysgwyd iddynt gan ryw ‘Anti Meri’ neu ‘Mr Jones y Gweinidog’. Nid wyf yn honni fy mod innau yn iawn yn fy nhehongliad bob tro o bell ffordd. Yr unig beth yr hoffwn ei bwysleisio yw nad oes fawr o le i ddyfalu wrth esbonio enwau lleoedd ar y cyfan. Rhaid olrhain datblygiad enw o’i ffurfiau cynharaf cyn belled ag yw’n bosibl.

    Maen tramgwydd arall yw ein natur gynhenid ni fel Cymry. Fel y dywedodd R.S.Thomas: ‘We were a people bred on legends, / Warming our hands at the red past’. Cofiwch nad aur yw popeth melyn, ac nad gwaed chwaith yw popeth coch. Mae ynom duedd i weld gwaed a brwydrau ym mhob Allt Goch a phob Cadnant. Byddaf yn dangos hefyd fod tuedd, yn enwedig yn Arfon, i weld Elen Luyddog a chymeriadau o’r Mabinogi yn llechu ym mhob twll a chornel. Ar ôl dweud hyn i gyd, ni fynnwn i chi feddwl am funud fy mod yn honni fy mod innau’n gwybod y cwbl o bell ffordd am yr enwau sydd yn y gyfrol hon. Bu’n rhaid imi gyfaddef fy anwybodaeth fwy nag unwaith. I ddyfynnu Syr Ifor unwaith eto: ‘Hyfryd iawn yw gwybod ystyron hen enwau hynod o gwmpas eich cartref. Hyfryd hefyd yw meddwl eich bod yn gwybod’. A hoffwn bwysleisio, er bod yna lawer o gamddehongli amlwg ar lafar gwlad, fod yna hefyd lawer o hen draddodiadau a hen atgofion dilys na ddylid eu hanwybyddu ar unrhyw gyfrif, yn arbennig wrth drafod enwau caeau. Dylid parchu a diogelu’r rhain cyn iddynt fynd i ebargofiant.

    Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd

    ’Rala ac Ala Las

    Yn Y Lôn Wen mae Kate Roberts yn sôn am ei hoffter o fynd i ymweld â’i modryb Lusa a oedd yn byw gyda’i theulu mewn fferm o’r enw ’Rala yn Y Waunfawr ryw bedair milltir o Gaernarfon. ’Rala yw’r ffurf a ddefnyddiai Kate Roberts, ond Ala Bowl oedd enw gwreiddiol y fferm hon.

    Ffurf lafar yw ala ar alai, a fenthyciwyd o’r enw Saesneg Canol alley. Y fannod, wrth gwrs, yw’r ’r sydd wedi tyfu ar ddechrau’r enw: mae Yr Ala wedi mynd yn ’Rala. Ystyr ala yw llwybr cul, a cheir yr un elfen yn Ala Las (Caernarfon), yn Alafynydd (Llanfair-yng-Nghornwy), yn Yr Ala (Pwllheli) a Phenyrala (Tre-garth). Fodd bynnag, o gyfuno ala â’r elfen bowl mae i’r enw cyfan ystyr neilltuol, sef darn o dir ar gyfer chwarae bowliau. Mae’n debyg mai rhyw rimyn cul oedd yr ala, a byddai’r gêm o ran ei natur yn debycach i fowlio decpin heddiw na’r bowlio a chwaraeir ar lawnt wastad sgwâr. Ceir cyfeiriadau cynnar yng Nghymru at chwarae ceilys, sef ninepins neu kails, gêm debyg i sgitls. Benthyciad o’r Saesneg Canol keyles yw ceilys. Rhydd GPC y ffurf bowl alai yn ogystal a cheir y ffurf Alafowlia yn Ninbych. Arferir y term bowling alley hyd heddiw yn Saesneg.

    Alabowl yw enw’r fferm yn Y Waunfawr o gofnod RhPD 1841 ymlaen, er bod yr l derfynol yn cael ei cholli ambell dro gan roi Alabow, a dechrau’r broses o gymylu’r ystyr. Tra oedd yr atgof yn fyw am y chwarae bowliau a wneid yno gynt cedwid yr enw llawn gan fod iddo ryw arwyddocâd i’r bobl leol, ond gyda’r blynyddoedd anghofiwyd am y bowlio, a hyd yn oed erbyn pan oedd Kate Roberts yn ferch ifanc yr oedd yr enw wedi ei gwtogi i ’Rala. Ceir cyfeiriad doniol ato fel Yellow bowl yn asesiad y Dreth Dir yn 1831 pan gofnodwyd ef gan rywun a oedd yn ddiau yn ddi-Gymraeg.

    Cyfeiriwyd eisoes at Ala Las yng Nghaernarfon. Mae Ala Las bellach yn enw ar glwstwr bychan o dai modern ar gyrion y dref wrth fynd i gyfeiriad Y Felinheli. Cyn adeiladu’r tai cyfeiriai’r enw at y llwybr cul sydd yn dal i fynd o’r ffordd fawr dros bont yr hen reilffordd i lawr at y môr a’r rhimyn o draeth tuag at Waterloo Port. Gwelir o gofnodion y Cyfrifiad yn 1841 ac 1851 fod Ala-las yn enw ar dŷ hefyd ar un adeg. Yn Lloegr defnyddid term cyfatebol, sef green lane, am lôn fach gul a gwelltglas yn tyfu arni.

    Appii Forum

    Nid ydym wedi mentro draw i Rufain, ond yn hytrach i’r Groeslon ym mhlwyf Llandwrog. Os edrychwch ar fap Ordnans manwl o ardal y Groeslon a dilyn y ffordd heibio i hen ysgol Penfforddfelen i gyfeiriad Carmel fe welwch yng nghanol yr enwau cartrefol Cymraeg fod yna dŷ â’r enw rhyfedd Appii Forum.

    Mae’n rhaid bod yn bur hyddysg yn y Beibl i sylweddoli mai cyfeiriad o Lyfr yr Actau sydd yma. Ym mhennod XXVIII, 15, mae Paul yn sôn amdano’i hun yn nesáu at Rufain a’r brodyr yn dod i’w gyfarfod ‘hyd Appii–fforum a’r Tair Tafarn’. Yr oedd y fan hon ryw 40–50 milltir o Rufain. Collwyd yr enw Lladin yn y Beibl Cymraeg Newydd gan ei fod wedi ei gyfieithu yn hwnnw fel ‘Marchnad Apius a’r Tair Tafarn’. Mae hyn yn hollol gywir, wrth gwrs, gan mai ‘marchnad’ yw ystyr yr elfen Ladin forum. Yn enw Appii Forum cyfunir yr elfen forum ag Appii, sef ffurf enidol yr enw personol Appius.

    Nid yw’n syndod fod yr enw wedi peri penbleth i’w gofnodwyr o’r dechrau. Ceir ffurfiau megis Epiffori yn llyfrau treth plwyf Llandwrog am 1839 ac 1840, ac Abiffori yn RhPD (1842). Appi Fferam sydd yng Nghyfrifiad 1851, ymgais i resymoli’r elfen forum, gan dybio mai fferam, ffurf amgen ar fferm, sydd yma. Yn wir, mapiau Ordnans 1891 ac 1920 yw rhai o’r ychydig gofnodion lle ceir y sillafiad hollol gywir. Yno gofalwyd rhoi’r ddwy i yn y ffurf enidol Appii gan gofio mai Appius yw ffurf gysefin yr enw personol.

    Ni cheir enw Beiblaidd yng Nghymru yn aml heb gael capel o’r un enw rywle yn y cyffiniau. Nid yw’r enw hwn yn unigryw, fodd bynnag: ceir nifer o enghreifftiau o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg o anheddau ‘dros amser’ o’r enw Groeg Pros Kairon (Cor. II. 4, 18). Tybed pam y dewis­wyd yr enw Appii Forum? Ai’r syniad oedd ei fod yn fan lle byddai cyfeillion yn cyfarfod fel y daeth ei gyd-Gristionogion i gwrdd â Phaul?

    Yn Hanes y Groeslon, a gyhoeddwyd gan grŵp o bobl leol tua 2000, dywedir fod hanesyn ar lafar yn yr ardal am sut y cafodd y tŷ ei enw anarferol. Dywedir bod y tŷ wedi cael ei adeiladu ond heb gael enw pan ymgynullodd y teulu ynghyd â theuluoedd dwy fferm arall i ddathlu priodas. Holwyd perchennog y tŷ newydd, William Williams (1824–84), gan glochydd Llandwrog beth fyddai enw’r tŷ. Daeth yr hanes yn Llyfr yr Actau am Paul yn cyfarfod ei gyfeillion yn Appii Forum i feddwl William Williams, o bosib am fod llu o berthnasau a ffrindiau wedi hel at ei gilydd yno i ddathlu’r briodas, a chyn iddo gael cyfle i ailfeddwl yr oedd y clochydd wedi torri potel o gwrw yn erbyn talcen y tŷ a’i fedyddio yn Appii Forum. Dyna’r stori, beth bynnag.

    Bach Riffri

    Ar y mapiau Ordnans nodir annedd yn Llanddeiniolen o’r enw rhyfedd Bach yr Hilfry. Yr ynganiad lleol yw Braich Effri. Byddai’n anodd iawn dirnad ystyr yr enw o’r naill ffurf na’r llall. Ystyriwn yr elfen gyntaf i gychwyn. Mae cymysgu rhwng bach a braich yn gallu digwydd mewn enwau lleoedd gan ei bod yn bosib i’r ddwy elfen wneud synnwyr. Hynny yw, gellir cael bach yn yr ystyr o ‘gilfach’ neu ‘lecyn’ a gellir cael braich yn yr ystyr o ‘esgair mynydd’ neu ‘bentir’. Trodd Bach y drygwr yn Braich y Trigwr ym mhen uchaf plwyf Llandwrog a Bach y Saint yn Braich y Saint ger Cricieth.

    Yn achos enw’r annedd yn Llanddeiniolen, fel mewn llawer enw arall, rhaid troi at ffurfiau cynharach i chwilio am y ffurf gywir. Un o’r ffynonellau cyntaf i’w hystyried yw RhPD. Yn 1839 nodwyd Bach yr Hilfri dan blwyf Llanddeiniolen. O leiaf dyma ddarganfod lle cafodd y mapiau Ordnans diweddaraf eu ffurf wallus Hilfry. Ond Bach-yr-yffry oedd ar fap Ordnans 1920. Nid ydym ddim nes i’r lan, fodd bynnag. Rhaid mynd ymhellach eto yn ôl. Un o’r cyfeiriadau cynharaf a welwyd yw Bach yr iffri o 1665 ac yna Bach r Iffri o 1671 (MostynB). Ymddengys mai bach yn yr ystyr o gilfach yw’r elfen gyntaf, ond beth am yr ail?

    Ceir nifer o gyfeiriadau at yr annedd wedyn o 1770 ymlaen yn asesiadau’r Dreth Dir. Nodwyd bach y Riffri yn 1771 a 1775 a sawl enghraifft o Bach yr iffri gydag amrywiaeth o sillafiadau a chyfuniadau megis Bach yriffri (1779); Bach ir iffri (1801) a Bach ur iffri (1803 ac 1806). Mae gwir ystyr yr enw i’w gweld yn ffurfiau 1771 ac 1775. Yn y ffurf Riffri cawn ffurf dreigledig yr enw personol Griffri. Hen enw nas clywir bellach yw hwn. Nid yw’r fannod y o’i flaen yn broblem: yn aml iawn ceir y fannod o flaen enw personol mewn enw lle. Er mor anghyfarwydd yw’r enw heddiw ceir nifer o enghreifftiau o’r enw Griffri mewn enwau lleoedd. Cofnodwyd Gauell Griffri yng Nghororion yn 1352, a Gweirglodd Griffri yn Llanfairfechan. Mae annedd o’r enw Treriffri ym mhlwyf Llechcynfarwy, Môn, hyd heddiw. Felly, llecyn yn perthyn i ŵr o’r enw Griffri yw ystyr Bachriffri. Y ffurf yng Nghyfeiriadur y Côd Post yw Braich Riffri. O leiaf mae’r ail elfen yn gywir.

    Baladeulyn

    Cyfeirio at ardal yn Nyffryn Nantlle ym mhlwyf Llandwrog a wna’r enw Baladeulyn fel arfer, ond mae’r enw hwn yn peri problem. Ceir nifer o gyfeiriadau at Baladeulyn yn AMR, ac er eu bod i gyd wedi eu priodoli yno i’r Baladeulyn ym mhlwyf Llandwrog, mae lle i gredu bod rhai ohonynt, yn enwedig y rhai cynnar, yn cyfeirio at le arall o’r un enw. I gymhlethu pethau, yr oedd hwnnw hefyd yn sir Gaernarfon. Down at hwnnw maes o law.

    Yr ystyr a gysylltir gan amlaf â’r enw bala yw’r fan lle mae afon yn rhedeg allan o lyn, ond o astudio tystiolaeth yr enwau lleoedd sydd yn cynnwys yr elfen bala yn AMR, daeth yr Athro Hywel Wyn Owen i’r canlyniad fod yr elfen hon yn cael ei defnyddio hefyd i gyfeirio at lwybr neu ddarn o dir sych sydd yn croesi tir gwlyb neu gorsiog. Gall Baladeulyn, felly, gyfeirio at fan lle gellir croesi rhwng dau lyn. Yn achos y Baladeulyn ym mhlwyf Llandwrog, y ddau lyn oedd Llyn Nantlle Uchaf a Llyn Nantlle Isaf. Erbyn heddiw mae pont yn croesi afon Llyfni yn ardal y bala hwn.

    Ceir cyfeiriad at y ddau lyn yn chwedl Math yn y Mabinogi. Yma, yn ôl yr hanes, y daeth Gwydion o hyd i Leu Llaw Gyffes ar ffurf eryr mewn derwen. Mae Gwydion yn cyfarch Lleu ag englyn sydd yn dechrau â’r geiriau ‘Dar a dyf y rwng deu lenn’, hynny yw, ‘mae derwen yn tyfu rhwng dau lyn’. Yng ngherdd R.Williams Parry ‘Dyffryn Nantlle Ddoe a Heddiw’ ceir adlais o’r geiriau hyn pan sonia’r bardd am Wydion yn creu ‘Dyn o aderyn yma rhwng dau lyn’. Ond daeth tro ar fyd, ac ychwanega: ‘’Does ond un llyn ym Maladeulyn mwy’. Erbyn hyn, mae’r Llyn Isaf wedi ei ddraenio a’i lenwi â rwbel o chwarel Dorothea a rhai o’r chwareli eraill gerllaw, ond gelwir yr ardal yn Baladeulyn o hyd.

    Nid yw enw’r Baladeulyn arall yn sir Gaernarfon mor gyfarwydd bellach, ond mae’r bala a’r ddau lyn yno hyd heddiw. Llyn Padarn a Llyn Peris yn Llanberis yw’r llynnoedd hynny, ac uwchben y bala rhyngddynt saif castell Dolbadarn. Cred haneswyr mai hwn oedd y Baladeulyn y cyfeirir ato yn y cofnodion yn AMR sydd yn ymwneud â thaith Edward I drwy Gymru yn 1284, ac mewn rhai cofnodion cynnar eraill. Wedi’r cwbl, oherwydd y castell, yr oedd y Baladeulyn hwnnw yn safle llawer mwy arwyddocaol yn y drydedd ganrif ar ddeg na’r un yn Nyffryn Nantlle.

    Ond i gymhlethu pethau ymhellach fyth, y mae yna le arall eto o’r enw Baladeulyn yn sir Gaernarfon er bod hwn yn fwy anghyfarwydd na hyd yn oed yr un ger Llanberis. Dyma enw’r darn o dir sydd yn gwahanu Llynnau Mymbyr i’r gorllewin o Gapel Curig.

    Barach

    Lleolir anheddau Barach Bach a Barach Fawr i’r gogledd-orllewin o Langïan. Ceir pendilio cyson drwy’r blynyddoedd rhwng sillafu’r enw ag un r neu â dwy. Un r sydd yn y mapiau Ordnans ond ceir dwy yng Nghyfeiriadur y Côd Post. Daw’r cyfeiriad cynharaf a welwyd at yr enw o’r flwyddyn 1720 (Nanhoron) yn y ffurf Barrach. Y ffurf hon gyda dwy r sydd yn yr un ffynhonnell yn 1729, ac fe’i cofnodwyd eto yn 1732 ac 1756 (Dolfrïog). Barach sydd yn RhPD yn 1839.

    Yn ei draethawd Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon (1928) honna’r Athro J. Lloyd-Jones mai enw Gwyddeleg yw hwn. Mae’n wir ei fod ef, ac yntau’n Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Dulyn, yn tueddu i weld dylanwad y Wyddeleg yn amlach o bosib na’i gyd-Gymry, ond mae’n rhaid cyfaddef fod yna ryw naws Wyddelig i’r enw Barach. Dywed yr Athro y gallai fod yn enw personol Barach neu Berach, neu’n ansoddair o’r barrach Gwyddeleg gyda’r ystyr ‘perthog, llawn llwyni’ neu berach, sef ‘pigog a thrwynog’.

    Wrth drafod yr elfen barrach yn y ffurfiau Parkey Barrach a Parke yr barrach yn Sir Benfro, mae Dr B.G.Charles yn cyfaddef fod yr ystyr yn ansicr (PNPem). Cynigia ef bar(r) ynghyd â’r olddodiad –ach, a allai ddod o’r Wyddeleg, gydag ystyr o fan lle ceir ponciau neu fryncynnau. Efallai fod yr ail ystyr yma yn nes at ‘pigog a thrwynog’ J. Lloyd-Jones, ac mai man gweddol bonciog yw ystyr yr enw Barach.

    Bedd Gwenan, Tyddyn Elen a Rhos Maelan

    Lleolir y tri annedd uchod yng nghyffiniau pentref Llandwrog. Pam y cyplyswyd yr enwau hyn? Yn ei ddrama Ac Eto Nid Myfi mae’r dramodydd John Gwilym Jones yn rhoi’r hanes lleol am y merched yr honnir iddynt gael eu coffáu yn enwau Bedd Gwenan, Tyddyn Elen a Rhos Maelan, fel y clywodd ef gan ei nain, yng ngenau ei arwr, Huw: ‘Ac felly dod i wybod am Elen a Maelen a Gwennan, y tair chwaer oedd ar y tir mawr pan foddwyd Caer Arianrhod, ac yn gadael y cof amdanynt eu hunain yn Nhyddyn Elen, a Rhos Maelen a Bedd Gwennan’.

    Y traddodiad yw fod y chwiorydd wedi mynd o Gaer Arianrhod i nôl dŵr ar y tir mawr. Pan ddigwyddodd iddynt edrych yn ôl tuag at y gaer gwelsant ddilyw mawr yn ei hysgubo dan y don. Gan eu bod wedi colli eu cartref bu’n rhaid i’r chwiorydd setlo yn Llandwrog. Aeth Gwennan i Bedd Gwenan, Maelan i Rhos Maelan ac Elen i Tyddyn Elen. Mae John Rhŷs yn adrodd yr un hanes am y chwiorydd yn dianc o ddinistr Caer Arianrhod, gan honni iddo ef ei glywed gan William Thomas Solomon, garddwr yng Nglynllifon. Yr oedd hwnnw’n cyfeirio at y chwiorydd fel ‘Gwennan bi Dôn, Elan bi Dôn a Maelan bi Dôn’, gan awgrymu mai merched y dduwies Geltaidd Dôn oeddynt. Yn y Mabinogi honnir mai hi oedd mam Gwydion, Gilfaethwy ac Arianrhod hefyd.

    Yn Straeon Gwerin Ardal Eryri mae John Owen Huws yn adrodd fersiwn ychydig yn wahanol o’r hanes a glywsai gan Eric Jones, Siop Lyfrau’r Bont Bridd, Caernarfon, gynt. Yn y fersiwn hon yr oedd y tair chwaer eisoes yn byw yn y tri thŷ pan ddaeth y dilyw. Honnai’r hanes hwn fod y tair yn bengoch, ac y byddai’r môr yn dod dros y tir unwaith eto pe bai tair merch bengoch yn digwydd byw yn y tair fferm ar yr un pryd.

    Pwy bynnag oedd y chwiorydd mewn gwirionedd, yn sicr yr oedd y traddodiad amdanynt yn fyw yn lleol o leiaf hyd at yr ugeinfed ganrif. Ni wyddom a oes atgof yn enwau’r merched hyn am bobl go iawn a fu’n byw yn ardal Llandwrog ar un adeg, ynteu a yw hon yn chwedl onomastig a grewyd i esbonio’r elfennau yn enwau’r anheddau. Mae’n anodd dweud hefyd ai’r chwedl a ddaeth yn gyntaf ac esgor ar enwau’r tai ynteu ai’r tai a’u henwau a ddaeth yn gyntaf ac esgor ar y chwedl i’w hegluro.

    Daw’r cyfeiriad cynharaf a welwyd at enw Bedd Gwenan o 1604 (Nannau), sef Bedd Gwennan / Bedd Gwennan Issaphe. Mae ffurf yr enw yn aros yn hynod o gyson trwy’r blynyddoedd ac eithrio’r Gwennan farm a gofnodwyd yn 1883 (NewG). Beth am Faelan ac Elen? Yn achos Rhos Maelan nid yw mor amlwg mai enw merch sydd yma ag yw Gwennan ac Elen yn y ddau enw arall. Mae’r ansicrwydd ynglŷn â’r elfen Maelan i’w weld yn glir yn y cyfeiriadau at yr annedd hwnnw. Achosodd benbleth i gofnodwyr asesiadau’r Dreth Dir a chafwyd cryn amrywiaeth yn y modd y sillafwyd yr enw: rhos maulen (1773); rhos moiolea (1774); Rosmalan (1779) a roshmalan (1780). Yn nechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg dechreuwyd cynnwys y fannod o flaen yr ail elfen: ceir Rhosymeilan o 1824 (PA), Rhos-y-meilan ar fap Ordnans 1838 a Rhosymaelan yn RhPD (1842). Nid yw presenoldeb y fannod yn peri problem: ceir digon o enghreifftiau o’r fannod o flaen enw personol mewn enwau lleoedd.

    Gwelir y ffurf Malan yng nghofnodion 1779 ac 1780 uchod. Mae’r enw Malan / Malen yn digwydd fel amrywiad ar Magdalen, ond mae’r –ae– yn hytrach nag –a– yn sillaf gyntaf yr enw Maelan yn digwydd yn rhy gyson i awgrymu mai Malan sydd yma. Ceir mael fel elfen mewn enw personol yn Gymraeg, mewn enw gwrywaidd fel rheol, e.e. Maelgwn, Maelog, Maelwas, yn yr ystyr o bennaeth neu dywysog, ac mae’n bosib mai enw benywaidd ar yr un patrwm sydd yn Maelan. Mae’n elfen a welir mewn mannau eraill yng Nghymru: ceir Garth Maelan ym Mrithdir ac yn Nhrefeglwys, ac mae Cefn Maelan hefyd yn digwydd ym Mrithdir. Yn sicr mae Mael a Maelan yn enwau personol gwrywaidd yn Llydaw a cheir Maelan a Maelen yno hefyd fel enwau personol benywaidd, eto gyda’r ystyr o dywysog neu dywysoges.

    Tuddyn Ellen mewn ewyllys o 1661–2 yw’r cyfeiriad cynharaf a welwyd hyd yma at yr annedd a gysylltir â’r drydedd chwaer. Mae ffurf yr enw yn aros yn bur gyson drwy’r blynyddoedd ac eithrio cryn nifer o enghreifftiau o’r ffurf Tyddyn Elan. Gallai hyn fod yn ddim mwy nag adlewyrchiad o’r ynganiad lleol. Mae’n ddiddorol sylwi mai un enghraifft yn unig a welwyd o geisio gwthio Helen i mewn i’r enw, yn wahanol i’r duedd a welir mewn sawl enw arall yn yr ardal o gwmpas Caernarfon. Tyddyn Helen sydd yn RhPD 1842. Efallai fod yr ymwybyddiaeth leol am hanes y tair chwaer mor fyw fel nad oedd lle i’r traddodiadau am Elen Luyddog dreiddio i mewn i’r enw hwn.

    Belan

    Ar ben eithaf y penrhyn o dwyni tywod a ffurfir gan fae’r Foryd saif caer fechan a adeiladwyd gan Thomas Wynn o Lynllifon yn fuan cyn iddo ddod yn Arglwydd Newborough yn 1776. Gwarchodwyd y gaer hon ac un arall, Fort Williamsburgh sydd ar dir plas Glynllifon, gan warchodlu yr oedd ef yn ei gynnal o’i boced ei hun. Yr oedd gan Fort Belan, fel y gelwir y gaer, ei doc a’i gweithdai ei hun a dywedir fod Arglwydd Newborough wedi gwario £30,000 arni. Fe’i bwriedid yn wreiddiol i amddiffyn aber gorllewinol y Fenai oherwydd bygythiad Rhyfel Annibyniaeth America, a rhai blynyddoedd yn ddiweddarach atgyfnerthwyd y garsiwn yn wyneb bygythiad Napoleon.

    Nid ffurf lafar pelen, sef ‘pêl fechan’ a geir yma, ond pelan > Y Belan, a’r ystyr yw ‘twyn, torlan afon, morglawdd’, sydd yn gweddu i’r dim i’r safle hwn. Collwyd y fannod o flaen yr enw benywaidd unigol ond cadwyd y treiglad meddal a achoswyd ganddi. Ceir yr enw Belan hefyd ger Llangwyfan, Môn.

    Betws Gwe(r)nrhiw

    Wrth ddisgrifio ei daith o

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1