Discover this podcast and so much more

Podcasts are free to enjoy without a subscription. We also offer ebooks, audiobooks, and so much more for just $11.99/month.

2. Rhyddid i Addoli

2. Rhyddid i Addoli

FromThe Reith Lectures


2. Rhyddid i Addoli

FromThe Reith Lectures

ratings:
Length:
29 minutes
Released:
Dec 7, 2022
Format:
Podcast episode

Description

Rowan Williams cyn Archesgob Cymru a Chaergaint yn traddodi ei ddarlith Reith i'r BBC yn y Gymraeg gan drafod ffydd a rhyddid. Yn ôl yr Arglwydd Acton, yr awdur ar ryddid o'r 19 ganrif a ddyfynnir yn y ddarlith, rhyddid crefyddol yw sail pob rhyddid gwleidyddol. Mae Rowan Williams yn cymhwyso hyn yng nghyd destun De Affrica, y gwrthdaro yn y ddadl gyfoes am erthylu ac amryw bynciau eraill. Dadleuir fod rhyddid i addoli yn gorfod cynnwys y rhyddid i fynegi argyhoeddiadau yn ogystal a'r rhyddid i gyd-gyfarfod.

Recordiwyd y fersiwn Saesneg o'r ddarlith a sesiwn cwestiwn ac ateb o flaen cynulleidfa ym Mhrifysgol Abertawe gydag Anita Anand yn cyflwyno. Cyflwynir y ddarlith yn y Gymraeg gan John Roberts.

Araith yr Arlywydd Franklin D. Roosevelt yn 1941 ar y pedwar rhyddid yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer darlithoedd Reith 2022 gan holi pa mor hanfodol yw'r pedwar rhyddid heddiw. Traddodir pedair darlithydd yn Saesneg. Darlith Rowan Williams yn unig sydd wedi ei recordio yn y Gymraeg. Trafodir:
Rhyddid i lefaru gan Chimamanda Ngozi Adichie,
Rhyddid i addoli gan Rowan Williams,
Rhyddid rhag angen gan Darren McGarvey,
Rhyddid rhag ofn gan Fiona Hill.

Cynhyrchydd y gyfres: Jim Frank
Cynhyrchydd y fersiwn Gymraeg: John Roberts (Cwmni Tonnau Cyf.)
Peirianwyr sain: Rod Farquhar, Neil Churchill a Gareth Turrell
Cydlynydd cynhyrchu: Brenda Brown
Golygydd: Hugh Levinson
Released:
Dec 7, 2022
Format:
Podcast episode

Titles in the series (100)

Significant international thinkers deliver the BBC's flagship annual lecture series