Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Cyrchu Annibyniaeth Cymru
Cyrchu Annibyniaeth Cymru
Cyrchu Annibyniaeth Cymru
Ebook264 pages3 hours

Cyrchu Annibyniaeth Cymru

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

With its own Senedd and legislative powers, Wales is already on a journey towards independence. This report by the Independence Commission charts the next steps.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateJan 29, 2021
ISBN9781800990036
Cyrchu Annibyniaeth Cymru

Related to Cyrchu Annibyniaeth Cymru

Related ebooks

Reviews for Cyrchu Annibyniaeth Cymru

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Cyrchu Annibyniaeth Cymru - Comisiwn dros Annibyniaeth

    cover.jpg

    CYRCHU ANNIBYNIAETH CYMRU

    Adroddiad Comisiwn Annibyniaeth Cymru

    Medi 2020

    Argraffiad cyntaf: 2020

    © Hawlfraint Y Comisiwn Annibyniaeth a’r Lolfa Cyf., 2020

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Cynllun y clawr: Y Lolfa

    Llun y clawr: FfotoNant

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978-1-80099-004-3

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru ar bapur o goedwigoedd cynaladwy gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 01970 832 782

    Rhagymadrodd

    D

    echreuodd y Comisiwn Annibyniaeth

    ar ei waith yn union ar ôl etholiad cyffredinol y DU yn Rhagfyr 2019. Rhoddwyd iddo’r dasg o gynhyrchu argymhellion am ffyrdd y gallai Llywodraeth Plaid Cymru baratoi erbyn cynnal refferendwm ar annibyniaeth. Mae’r meysydd y gofynnwyd i ni eu harchwilio i’w gweld yn ein Cylch Gorchwyl yn Atodiad 2

    Fel a ddangosir ym Mhennod 2, dros y tair blynedd diwethaf bu symudiad yn y farn Gymreig o blaid annibyniaeth, sydd erbyn hyn yn pôlio o gwmpas 30 y cant (heb y ‘ddim yn gwybod’) Mae’r ffigwr yn nes at 40 y cant pe bai Cymru yn gallu aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r ystadegau yna’n cuddio symudiadau mwy sylweddol fyth o fewn gwahanol segmentau o’r boblogaeth. Felly, er enghraifft, mae 58 y cant o gefnogaeth ymhlith rhai 16-34 oed pe bai Cymru’n gallu aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

    Rhan o’r cefndir i hyn yw argyfwng y Wladwriaeth Brydeinig mewn perthynas â Gogledd Iwerddon a’r Alban, a danlinellwyd gan refferendwm Brexit 2016 ac etholiad cyffredinol 2019. Gwelir hefyd adfywhau mudiad annibyniaeth ehangach Cymru, a Yes Cymru yn un o nifer o fentrau sy’n magu stêm.

    Prif amcan Plaid Cymru sydd yn blaid wleidyddol yw ffurfio llywodraeth. Yn wir, dyna fydd ei phrif gyfraniad hi at ennill ein hannibyniaeth. Fodd bynnag mae dilema yn wynebu’r Blaid, sef sut i ennill etholiad pan nad yw mwyafrif y boblogaeth hyd yma’n cefnogi ei phrif nod o ennill annibyniaeth.

    Yn 2007, ateb yr SNP i’r ddilema yna oedd parcio cwestiwn annibyniaeth drwy ddweud y byddai hynny’n dibynnu ar refferendwm ac felly ddim ymysg y prif gynlluniau ar gyfer ffurfio llywodraeth. Wrth gwrs, aeth yr SNP ymlaen i gael mwyafrif yn etholiad dilynol 2011, a dilynwyd hynny gan refferendwm annibyniaeth yr Alban yn 2014.

    Felly, pwrpas y Comisiwn Annibyniaeth yw helpu gyda’r gwaith hirdymor o baratoi’r tir at annibyniaeth, tra bod Plaid Cymru wrthi’n paratoi at Raglen Llywodraeth i’w gweithredu rhag blaen yn 2021.

    Rhan o waith y Comisiwn hefyd yw mynd i’r afael â chwestiynau a phryderon y rhai y gellid eu galw’n Chwilfrydig am Annibyniaeth (‘indy-curious’) – pobl sydd wedi derbyn llawer o’r dadleuon emosiynol dros annibyniaeth ond sy’n go amheus ynghylch yr achos ymarferol.

    Pan anerchodd Adam Price gyfarfod cynta’r Comisiwn, yng Nghaerdydd yn Rhagfyr 2019, fe ddadleuodd bod Cymru mewn sefyllfa debyg i’r sefyllfa yn yr Alban ddegawd yn ôl, ond ei bod yn prysur ddal i fyny:

    Rwy’n gweld gwagle rhwng y lle rydyn ni yn wleidyddol a datblygiad opiniynau ar annibyniaeth. Mae i Gomisiwn Annibyniaeth rôl bwysig o ran ymateb i’r gwagle, drwy daclo’r cwestiynau sy’n llifo ohono.

    Y cwestiwn mwyaf o’r cwbl yw economeg. Dydy pa un a allai Cymru fforddio annibyniaeth ddim yn codi yn yr un ffordd â chynt, er enghraifft drwy ofyn a ydyn ni’n rhy dlawd i’n llywodraethu’n hunain? Yn hytrach mae’n cael ei eirio yn nhermau’r ‘bwlch cyllidol’. A fyddai modd i ni ddal i dalu am wasanaethau cyhoeddus, megis addysg a’r GIG ac i ddarparu pensiynau, i’r un lefel ag sy’n gyfarwydd i ni? Mae hyn wrth gwrs yn uniongyrchol berthynol i’n perfformiad economaidd fel cenedl. Felly gofynnwyd i’r Comisiwn gyflwyno argymhellion am yr hyn y gallai Llywodraeth Cymru Plaid Cymru ei roi ar waith dros yr 2020au i leihau’r bwlch cyllidol, ac felly baratoi’r tir at annibyniaeth.

    Ond mae cwestiynau niferus eraill hefyd, a deliodd y Comisiwn â’r rhai rydyn ni’n meddwl a ddylai gael blaenoriaeth gan Lywodraeth newydd Plaid Cymru. Yn arbennig, rydyn ni wedi rhoi cryn sylw i’r gydberthynas y dylai Cymru annibynnol ei saernïo â’n cymdogion agosaf, o fewn Ynysoedd Prydain ond hefyd yn yr Undeb Ewropeaidd.

    Rydyn ni’n bendant o’r farn mai priod dynged hirdymor Cymru annibynnol yw bod yn aelod cyflawn o’r Undeb Ewropeaidd. Yn sgil pleidlais Brexit yn 2016 a’r adladd wedyn, dydy hynny ddim ar y gorwel agos. Fodd bynnag mae gyda ni argymhellion ar sut y dylai Cymru saernïo cydberthynas agos â’r Undeb Ewropeaidd, wrth i ni agosáu at annibyniaeth ac wedyn.

    Beth bynnag a fo statws cyfansoddiadol Cymru yn y dyfodol, mi fyddwn ni wastad yn rhannu’r ynysoedd hyn â’n cyfeillion Seisnig ac Albanaidd. Mae’n gwneud synnwyr i ni geisio’r gydberthynas agosaf posibl, ond ar sail gydradd, nid yn y safle israddol a fu drwy ran fawr o’n hanes. Fel Comisiwn rydyn ni wedi treulio cryn amser yn archwilio sut y gellid dod i ben â hynny mewn termau cyfansoddiadol, ond nid ar draul cadw’n sofraniaeth hanfodol na chynnal clymau Ewropeaidd agos.

    Yn ein hadroddiad rydyn ni’n adarchwilio’r rheidrwydd, taer erbyn hyn, i Gymru gael ei hawdurdodaeth gyfreithiol arbennig ei hun. Rydyn ni hefyd o’r farn bod angen creu Gwasanaeth Cyhoeddus i Gymru a fyddai’n cynnwys swyddogion sy’n gweithio i lywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Dydy’r agwedd yma ddim yn rhan o’n Cylch Gorchwyl, ond yng nghwrs ein gwaith fe ddarganfuon ni y byddai rhaid wrth hynny os yw llywodraeth gan Blaid Cymru i lwyddo yn yr 2020au.

    Rydyn ni wedi amlinellu fframwaith ar gyfer datblygu ein Cyfansoddiad Cymreig ein hunain a gwneud awgrymiadau am ei siâp a’i gynnwys. Ein hargymhelliad yw bod hyn yn cael ei ddatblygu’n llawnach drwy broses ymgynghori helaeth cyn cynnal refferendwm annibyniaeth. Ein barn ni yw y byddai cyfansoddiad a gytunwyd yn y ffordd yma yn rhoi cysur i bobl Cymru ynghylch y gwerthoedd a fyddai’n tywys Cymru annibynnol.

    Rydyn ni’n argymell y dylai Llywodraeth Plaid Cymru basio deddfwriaeth alluogol – Bil Hunan-Benderfynu (Cymru) – yn ei thymor cyntaf. Byddai hwnnw’n sefydlu drwy statud Gomisiwn Cenedlaethol Sefydlog â’r dasg o roi ffynhonnell wrthrychol o wybodaeth ar bob agwedd o annibyniaeth, fel pan fyddai refferendwm yn digwydd y byddai modd i bobl Cymru wneud dewis ar sail gwybodaeth. Er enghraifft, dylai’r Comisiwn ymgymryd â chyfres o Reithgorau Dinasyddion ledled Cymru i ysgogi dadl wybodus. Hefyd dylai’r Comisiwn roi cyngor ar gynnal refferendwm, a’r cwestiwn neu gwestiynau a ofynnid.

    Ym mhennod ola’r adroddiad rydyn ni’n amlinellu fframwaith o werthoedd y credwn y dylai Cymru annibynnol eu mabwysiadu. Eu bwriad yw uno pobl Cymru ac adeiladu eu hyder yn ein rhagolygon fel cenedl deg, amgylchedd-ymwybodol a ffyniannus, yn ymroddedig i gyfiawnder cymdeithasol, heddwch a diogelwch yn y byd.

    Cyflawnodd y Comisiwn swmp ei waith yng nghanol pandemig Covid-19. Rhwystrodd hynny ni rhag mynd ati i ymgynghori ynghylch ein syniadau gymaint ag a gynlluniwyd. Fodd bynnag llwyddwyd i gael nifer o gyfarfodydd â phobl ag arbenigedd mewn amrywiaeth o agweddau cyfansoddiadol, gwleidyddol, economaidd a chyllidol perthynol i annibyniaeth, ac fe’u cafwyd yn ddefnyddiol dros ben. Ymhlith y rhai yr ymgynghorwyd â nhw roedd Guto Ifan, yr Athro Gerald Holtham, yr Athro Jim Gallagher, Syr Adrian Webb, David Melding (Aelod o’r Senedd), Robin McAlpine, Hywel Ceri Jones, Charles Marquand, Mike Russell (Aelod o Senedd yr Alban), yr Athro Kevin Morgan, a Dafydd Trystan. Fe gwrddon ni hefyd dair gwaith â Grŵp Diwygio Cyfansoddiadol Tŷ’r Arglwyddi, dan arweiniad Marcwis Salisbury.

    Yn ôl llawer, dangosodd argyfwng Covid y manteision a all ganlyn o’r ffaith bod Cymru’n meddu ar beth rheolaeth ar ei materion ei hun. Daeth llawer o bobl i wybod am y tro cyntaf am fanteision cadarnhaol bod gan Gymru ei sefydliadau democrataidd ei hun, y Senedd a Llywodraeth Cymru. Barn y Comisiwn yw mai annibyniaeth, a rôi cymaint yn fwy o reolaeth ar ein materion ein hunain, yw’r statws y dylai Cymru anelu ato.

    Crynodeb Gweithredol

    1. Mae Cymru, â’i Senedd a’i phwerau ei hun, eisoes ar daith tuag at annibyniaeth. Bydd cwblhau’r daith yn golygu cytuno ar gyfansoddiad sofran. Dylid cyflawni hyn drwy gyfres o gamau eglur, cyfreithiol, wedi’u dwyn i ben gan wasanaethyddion cyhoeddus, yn cynnwys y farnwriaeth, nid yn unig yng Nghymru ond mewn awdurdodaethau eraill. Mae cynaliadwyedd a dedwyddwch cenedlaethau’r dyfodol yn werthoedd Cymreig creiddiol a ddylai fod yn ganolog i gyfansoddiad Cymru annibynnol.

    2. Rhaid i Gymru gael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân. Nid yw annibyniaeth yn rhagamod i hyn ond bydd angen dileu’r cadw cyffredinol (general reservation) i San Steffan sy’n berthynol i awdurdodaeth gyfreithiol. Dylai Llywodraeth Plaid Cymru weithredu argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.

    3. Mae pobl Cymru yn ganolog i broses annibyniaeth ac mae angen iddyn ddeall yn glir yr opsiynau sydd ar gael i’w dyfodol cyfansoddiadol. Cyn cael annibyniaeth dylid sefydlu Comisiwn Cenedlaethol Statudol a Rheithgorau Dinasyddion cysylltiedig er mwyn sicrhau i’r graddau mwyaf posibl bod y bobl yn ymwybodol o, yn cyfrannu at, ac yn ymwneud â’r broses.

    4. Dylai’r Comisiwn Cenedlaethol brofi barn pobl Cymru mewn refferendwm ymchwiliol cychwynnol sy’n cyflwyno’r opsiynau cyfansoddiadol. Dylid defnyddio’r deilliant i berswadio Llywodraeth San Steffan y DU i gytuno i refferendwm deuaidd ar y status quo yn erbyn yr hoff ddewis a fynegwyd yn y refferendwm cyntaf.

    5. Bydd y Comisiwn Cenedlaethol yn drafftio Cyfansoddiad i Gymru tra’n ymgynghori â’r gynrychiolaeth ehangaf posibl o bobl Cymru, gan gadw mewn cof amrywioldeb a chynhwysiant, drwy Reithgorau Dinasyddion.

    6. Ein barn bendant ni yw y dylai tynged hirdymor Cymru annibynnol fod fel aelod cyflawn o’r Undeb Ewropeaidd. O gofio pleidlais Brexit 2006, a’r adladd wedyn, nid yw hynny ar y gorwel agos. Serch hynny mae’r adroddiad yn argymell ffyrdd y gallai Cymru saernïo cydberthynas agosach â’r Undeb Ewropeaidd, wrth agosáu at annibyniaeth, ac wedi hynny.

    7. Fe wyneba Cymru heriau ymarferol rhag dod yn aelod o’r UE os arhosa Lloegr allan, ond bydd modd goresgyn y rhain. Dylai’r Comisiwn Cenedlaethol archwilio dichonoldeb bod Cymru, ar wahân i Loegr, yn dod yn aelod o’r Ardal Fasnach Rydd Ewropeaidd (Efta), sy’n golygu aelodaeth o Farchnad Sengl yr UE. Fel aelod o Efta byddai Cymru annibynnol mewn sefyllfa, yn ei hawl ei hun, i negodi cytundeb masnach-rydd â Lloegr.

    8. Aelodaeth neu beidio, dylai Llywodraeth Plaid Cymru sefydlu cydberthynas arbennig â’r UE. Y flaenoriaeth gyntaf fyddai cymryd rhan yn rhaglenni Erasmus a Horizon, gan esbonio’n glir i bobl Cymru pam bod hyn yn hanfodol bwysig.

    9. Bu Cymru a’r Alban mewn perthynas agos â Lloegr ers canrifoedd. Mae’r Comisiwn wedi archwilio cydberthynas newydd, sylfaenol o wahanol, rhwng y tair cenedl, yn hytrach nag ymwahanu’n llwyr. Dylai’n Comisiwn Cenedlaethol arfaethedig gynnal trafodaethau â Llywodraeth yr Alban er mwyn mynd i’r afael â’r heriau i gyrraedd consensws ar gydberthynas a strwythurau i’r dyfodol, gan gynnwys posibilrwydd cydberthynas gydffederal, fel sy’n cael ei archwilio yn ein hadroddiad ym modelau Benelux a Chynghrair yr Ynysoedd.

    10. Mae economi Cymru yn dioddef gan wendidau strwythurol cronig a osodwyd arni ers amser hir ac maen nhw’n heriol. Yn yr adroddiad hwn fe esboniwn mai’r rheswm pam y methodd Cymru â symud ymlaen yn economaidd yw, nid ei bod yn rhy fach neu’n rhy dlawd, ond ei bod wedi’i chaethiwo o fewn economi a siapiwyd i raddau llethol gan fuddiannau Dinas Llundain. Profodd y model methiannus hwn na all ddwyn ffyniant i Gymru, ac nad yw’n debyg o wneud hynny i’r dyfodol. Byddai Cymru annibynnol yn rhydd i newid hyn. Nid rhanbarth ddarostyngedig i fuddiannau Llundain a De-ddwyrain Lloegr fyddai hi mwyach a fyddai hi ddim ychwaith yn gorfod dilyn polisïau a benderfynir gan Lywodraeth y DU.

    11. Mae gwersi i’w dysgu gan Iwerddon, gynt yn un o rannau tlotaf a mwyaf ymylaidd y DU. Erbyn hyn mae’n genedl falch annibynnol, un o rannau cyfoethocaf yr Ynysoedd hyn, a chanddi sedd yn y Cenhedloedd Unedig.

    12. Dylid sefydlu asiantaethau newydd i hyrwyddo twf busnesau bach, datblygu busnesau canolig eu maint, mewnfuddsoddi, cynyrchiant ac allforio. Dylai ffocws mewnfuddsoddi fod ar fusnesau a all gynnig swyddi ansawdd uchel, mewn technoleg, iechyd a chynhyrchion soffistigedig i’r defnyddiwr. Dylid dyfnhau cysylltiadau ag alumni prifysgolion Cymru dramor. Yn sgil argyfwng Covid-19 mae angen rhagor o bwyslais ar gynhyrchu a chaffael lleol.

    13. Dylai Llywodraeth newydd adolygu sector addysg uwch Cymru o’r bôn i’r brig er mwyn peri iddo roi blaenoriaeth i ddiwallu anghenion economi a chymdeithas yng Nghymru. Dylai roi ar waith fesurau i annog rhagor o efrydwyr Cymru i aros yng Nghymru i dderbyn eu cymwysterau ac i ddilyn eu gyrfaoedd, a bod y sawl sydd yn gadael Cymru yn cael eu hannog i ddychwelyd.

    14. Dylai penderfyniadau ynghylch gosod y gyllideb a gweithio trawsadrannol o fewn Cabinet Cymru gael eu cymryd mewn ffordd fwy casgliadol a chydlynus. Dylid rhoi yn ei le gynllun delifro strategol ar gyfer Rhaglen y Llywodraeth, gydag amserlen blynyddol wedi’i chytuno a thargedau dros gyfnod y tymor pum mlynedd. Dylai’r Adran Gyllid ymgymryd â mwy o rôl Trysorlys a chan weithio’n agos â Swyddfa’r Prif Weinidog, sicrhau mwy o gydlynu delifro polisi yn ôl targedau ar draws Llywodraeth Cymru yn gyfan.

    15. Dylid adarchwilio gwasanaeth sifil Cymru gan arwain at wahanu gwneud polisi economaidd oddi wrth ei roi ar waith. Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu cynigion ac amserlen er creu Gwasanaeth Cyhoeddus i Gymru, gyda diwylliant, graddau a grisiau cyflog ar y cyd ar draws yr holl sefydliadau sector cyhoeddus, yn cynnwys gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru. I’r perwyl yma bydd angen i’r ddarpariaeth bresennol sy’n cadw pwerau perthynol i’r gwasanaeth sifil yn San Steffan gael ei diddymu.

    Prif Argymhellion

    Awdurdodaeth Gymreig

    1. Dylid sefydlu awdurdodaeth ar wahân yng Nghymru.

    2. Dylai Llywodraeth Cymru gychwyn proses ddiwygio, yn arwain at awdurdodaeth ar wahân i Gymru. Gellid dwyn hyn i ben tra pery’r cynllun datganoli cyfredol drwy weithredu argymhellion y Comisiwn dros Gyfiawnder yng Nghymru. Fodd bynnag bydd angen dileu’r ddarpariaeth sy’n cadw pwerau perthynol i awdurdodaeth gyfreithiol yn San Steffan

    3. Dylid gwneud trefniadau i’r Senedd fonitro ac adolygu’r broses ddiwygio.

    4. Dylid creu portffolio gweinidogol sengl, Gweinidog dros Gyfiawnder, ar wahân i un y Cwnsler Cyffredinol, yn cyfannu yr holl o’r swyddogaethau gwasgaredig a thameidiol ym maes cyfiawnder y mae Llywodraeth Cymru â chyfrifoldeb drostyn.

    5. Dylai’r Gweinidog dros Gyfiawnder lunio cynllun ar gyfer gweithredu, gan gynnig arweinyddiaeth ar draws pob sector cyfreithiol yng Nghymru i wireddu argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru fel ag i greu awdurdodaeth gyfreithiol benodol Gymreig.

    Llywodraethu Effeithiol a’r Gwasanaeth Sifil

    1. Prif Weinidog Cymru a ddylai wneud penodiad Ysgrifennydd Parhaol Cymru ar sail cyngor gan Gomisiwn Gwasanaeth Sifil Cymreig annibynnol

    2. O fewn y Cabinet dylai fod y broses gwneud penderfyniadau ynghylch gosod y gyllideb a gweithio traws-adrannol yn fwy casgliadol a chydlynol. Fe olygai hyn roi yn ei le gynllun delifro strategol i Raglen y Llywodraeth, gydag amserlen blynyddol cytunedig a thargedau dros dymor pum mlynedd

    3. Dylai’r Adran Gyllid ymgymryd â mwy o rôl Trysorlys a chan weithio’n agos â Swyddfa’r Prif Weinidog, sicrhau cydlynu gwell wrth ddelifro polisi yn ôl targedau ar draws y cyfan o Lywodraeth Cymru.

    4. Dylid sefydlu Uned Bolisi canolog o fewn Swyddfa’r Prif Weinidog i weithio ar gwestiynau strategol a sicrhau delifro ar draws adrannau.

    5. Dylid ailddiffinio rôl y gwasanaeth sifil uchaf fel arwain newid sydd o fudd i Gymru – yn hytrach na chael ei weld yn nhermau rheoli’r peiriant a gwarchod y status quo

    6. Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu cynigion ac amserlen ar gyfer creu Gwasanaeth Cyhoeddus i Gymru, gyda diwylliant, graddfeydd a grisiau cyflogau ar draws pob sefydliad sector cyhoeddus, yn cynnwys gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru. I wneud hyn byddai gofyn dileu’r ddarpariaeth sy’n cadw pwerau perthynol i’r gwasanaeth sifil yn San Steffan

    7. Dylai Academi Cymru Llywodraeth Cymru ddod yn Ysgol Rheolaeth Gyhoeddus a Llywodraethiant Cenedlaethol, ynghlwm wrth sector addysg uwch Cymru. Dylai gael cyllideb o fwy, Bwrdd Cyfarwyddwyr yn cynnwys yr Ysgrifennydd Parhaol a chadeirydd annibynnol. Dylai ddatblygu rhaglen ymchwil rhyngwladol, a gwneud trefniadau partnerol gydag ysgolion rheolaeth eraill megis Ysgol

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1